Cynorthwyo cyfranogwyr i gadw at ymarfer a gweithgarwch corfforol yn y tymor hir
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo cyfranogwyr i ddatblygu a chynnal eu strategaethau ar gyfer cadw at ymarfer a gweithgarwch corfforol yn y tymor hir.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
- cynorthwyo cyfranogwyr i ddatblygu a chynnal strategaethau cadw at ymarfer yn y tymor hir
Rhaid i chi gynnwys yr ymarfer craidd a gwybodaeth ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y nodir yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i'r rôl swydd.
Mae'r safon hon ar gyfer hyfforddwyr sy'n gweithio gyda chyfranogwyr i helpu i ddatblygu a chynnal eu strategaethau ar gyfer cadw at ymarfer a gweithgarwch corfforol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynorthwyo cyfranogwyr i ddatblygu a chynnal strategaethau cadw at ymarfer yn y tymor hir**
1. adnabod nodau cyfranogwyr ar gyfer cymryd rhan mewn ymarfer a gweithgarwch corfforol rheolaidd, tymor hir
2. adnabod parodrwydd cyfranogwyr i newid ymddygiad
- dadansoddi ffordd o fyw cyfranogwyr
4. adnabod cyfleoedd ar gyfer ymarfer a gweithgarwch corfforol
5. adnabod rhwystrau posibl ar gymryd rhan
6. adnabod dewisiadau cyfranogwyr ar gyfer ymarfer a gweithgarwch corfforol
7. adnabod cymelliadau a gwobrau ar gyfer y cyfranogwyr sy'n cymryd rhan mewn ymarfer a gweithgarwch corfforol rheolaidd, tymor hir
8. cynorthwyo cyfranogwyr i ddatblygu strategaeth tymor hir i gadw at ymarfer a gweithgarwch corfforol
9. annog cyfranogwyr i adeiladu ar gyfleoedd, dewisiadau a chymelliadau
10. cynorthwyo cyfranogwyr i isafu ar, a goresgyn, rhwystrau at gymryd rhan
11. monitro a yw cyfranogwyr yn cadw at ymarfer a gweithgarwch corfforol
12. cynnig cefnogaeth i gyfranogwyr gyflawni newid tymor hir mewn ymddygiad yn unol â'u nodau
13. defnyddio strategaethau ysgogiadol i gynorthwyo cyfranogwyr gyda'u nodau
14. cynorthwyo cyfranogwyr i addasu a mireinio'r ffordd y maen nhw'n cadw at eu strategaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynorthwyo cyfranogwyr i ddatblygu a chynnal strategaethau cadw at ymarfer yn y tymor hir**
**
**
1. egwyddorion seicoleg ymddygiadol
* modelau newid ymddygiad*
sut i adnabod nodau cyfranogwyr
sut i asesu parodrwydd cyfranogwyr i newid eu hymddygiad cysylltiedig ag ymarfer
* dulliau* o ddadansoddi ffordd o fyw'r cyfranogwyr
sut i adnabod cyfleoedd posibl ar gyfer ymarfer a gweithgarwch corfforol
y mathau o rwystrau at gymryd rhan y deuir ar eu traws yn gyffredin wrth ymgymryd ag ymarfer a gweithgarwch corfforol rheolaidd, tymor hir
dewisiadau ymarfer a gweithgarwch corfforol a allai fod gan wahanol gyfranogwyr
mathau o gymelliadau a gwobrau a allai fod yn cael eu defnyddio
sut i gefnogi cyfranogwyr i ddatblygu eu strategaethau ysgogiadol eu hunain er mwyn cadw at yr ymarfer
dulliau o weithio gyda chyfranogwyr i adeiladu ar gyfleoedd, dewisiadau a chymelliadau
sut i fonitro'r ffordd y mae cyfranogwyr yn cadw at ymarfer a gweithgarwch corfforol rheolaidd, tymor hir
y sgiliau cyfathrebu sy'n ofynnol i gynorthwyo cyfranogwyr gyda strategaethau ysgogiadol i oresgyn rhwystrau at gymryd rhan
technegau i gynorthwyo cyfranogwyr i addasu a mireinio'r ffordd y maen nhw'n cadw at ymarfer a gweithgarwch corfforol rheolaidd a thymor hir
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Cyfranogwyr**
**
**
- unigolion
- grwpiau
- gydag anghenion ffitrwydd penodol
- gydag anghenion iechyd cyffredinol
**
**
Nodau**
**
**
- iechyd a ffitrwydd cyffredinol
- ffisiolegol
- seicolegol
- ffordd o fyw
- cymdeithasol
- gallu ymarferol
**
**
Parodrwydd i newid ymddygiad**
**
**
- cyn dechrau
- dechrau
- paratoi
- gweithredu
- cynnal
- terfynu
**
**
Rhwystrau at gymryd rhan** (i ymdrin ag isafswm o 5)
- amser
- ymrwymiadau gwaith
- teulu
- cost
- cymhelliant
- hyder
- diffyg cyfleusterau
**
**
**
**
Cymelliadau**
**
**
- cynhenid
- anghynhenid
**
**
Strategaethau ysgogiadol** (i ymdrin â 2 o leiaf)
- cynhenid
- anghynhenid
- gosod nodau
- cymelliadau / gwobrau
- newid ymddygiad
Gwybodaeth Cwmpas
Egwyddorion seicoleg ymddygiadol**
**
**
- ymdriniaethau gwahanol tuag at newid ymddygiad
- gwahanol fodelau newid ymddygiad ar sail tystiolaeth
- sut i bennu pa fodel newid ymddygiad y dylid ei gymhwyso i helpu cyfranogwyr i gyflawni'u nodau
- sut i gymhwyso modelau newid ymddygiad perthnasol i helpu cyfranogwyr i gyflawni'u nodau
**
**
Modelau newid ymddygiad**
**
**
- model traws-ddamcaniaethol (cyfnodau newid)
- model cred iechyd
- theori camau rhesymegol
- theori ymddygiad arfaethedig
- theori dysgu gymdeithasol
**
**
Dulliau**
**
**
- cyfweliad
- holiadur
- sgrinio ar lafar
- arsylwi
**
**
Strategaethau ysgogiadol**
**
**
- cynhenid
- anghynhenid
- gosod nodau
- cymelliadau / gwobrau
- newid ymddygiad
**
**
Sgiliau cyfathrebu**
- cwestiynau pen agored
- gwrando gweithredol
- crynhoi
- iaith y corff
**
**
Rhwystrau at gymryd rhan**
**
**
- amser
- ymrwymiadau gwaith
- teulu
- cost
- cymhelliant
- hyder
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
- bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
- bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
- anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
- nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
- anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
- myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
- sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
- dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
- cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
- datblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr
- diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
- cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
- dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion penodol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
- annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan
- nodi a chytuno ar strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
- defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
- addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
- gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn modd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
Gweithgareddau
Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a allai ganolbwyntio ar eich datblygiad ar gryfder, dygnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol y cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un neu'n fwy o weithgareddau.
Nodau
Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.
Cyfranogwyr
Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.
Lles
Cefnogi lles y cyfranogwr gan gynnwys ymwybyddiaeth ffordd o fyw, maeth a chyffuriau sylfaenol.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cysylltu â SKAEF5, SKAEF7, SKAEF9, SKAEF11, SKAEF13, SKAEF17 a SKAEF21.