Cyflwyno rhaglen gweithgaredd adsefydlu ymarfer gyda chleifion y mae angen ymarferion adsefydlu carlam arnynt ar ôl salwch neu anaf
Trosolwg
Mae'r safon hon ynghylch darparu adsefydlu cyhyrysgerbydol carlam ac yn cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i gyflwyno rhaglenni ymarfer corff diogel ac effeithiol i gleifion sydd angen ymarfer adsefydlu carlam ar ôl salwch neu anaf.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
- paratoi cleifion ar gyfer sesiynau adsefydlu ymarfer
- addysgu ac addasu sesiynau adsefydlu ymarfer a gynlluniwyd
Mae'n rhaid i chi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer corff a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.
Gall unigolion cymwysedig gynnal, adolygu ac addasu rhaglenni i fynd i'r afael ag anghenion claf ag anaf cyhyrysgerbydol aciwt neu gronig.
Byddant fel arfer yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol ond o dan gyfarwyddyd ffisiotherapydd, Swyddog Meddygol neu Feddyg Teulu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi cleifion ar gyfer sesiynau adsefydlu ymarfer**
1. paratoi cleifion** ar gyfer y gweithgaredd
2. sicrhau bod proses sgrinio wedi ei chwblhau, yn cyfeirio at wybodaeth a roddwyd, o fewn pob sesiwn adsefydlu ymarfer
3. hysbysu cleifion sut mae'r sesiwn yn cysylltu â'u nodau unigol a neu amcanion**
4. trafod yr ymarferion rydych wedi eu cynllunio ar gyfer y sesiwn gyda chleifion **a gweithwyr iechyd proffesiynol
5. trafod gofynion corfforol a thechnegol yr ymarferion a gynlluniwyd gyda chleifion**
6. asesu a chytuno ar gyflwr parodrwydd ac ysgogiad cleifion i gymryd rhan yn y sesiwn
7. rheoli risg i gleifion trwy gydol y rhaglen
8. cyfathrebu a chysylltu â chleifion ynghylch cynnydd trwy gydol y rhaglen
9. cefnogi ymrwymiad cleifion i hyrwyddo newid parhaus mewn lefelau gweithgaredd corfforol
10. darparu adroddiadau parhaus gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol
Addysgu ac addasu sesiynau adsefydlu ymarfer a gynlluniwyd
11. rhoi cyfarwyddiadau, esboniadau ac arddangosiadau i gleifion**
12. addasu dulliau cyfathrebu i gwrdd ag anghenion cleifion
13. sicrhau y gall cleifion wneud yr ymarferion yn ddiogel ar eu pennau eu hunain
14. arsylwi a dadansoddi perfformiad cleifion
15. rhoi anogaeth trwy gydol y sesiwn
16. penderfynu ac addasu rhaglenni gweithgaredd corfforol cynyddol yn ôl adborth gan gleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol
17. trafod a chytuno gyda chleifion ar unrhyw newidiadau i'r ymarferion a gytunwyd a fydd yn cwrdd â'u nodau* a neu amcanion* a'r hyn sy'n well ganddynt a chofnodi'r rhain
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi cleifion ar gyfer sesiynau adsefydlu ymarfer**
1. pam y dylai cleifion fod wedi eu paratoi'n iawn cyn i'r gweithgaredd gychwyn
2. y broses sgrinio barhaus ar gyfer pob sesiwn ymarfer
3. sut mae'r sesiwn yn cysylltu â nodau cleifion
4. sut i drafod yr ymarferion rydych wedi eu cynllunio ar gyfer y sesiwn gyda chleifion
5. gofynion corfforol a thechnegol yr ymarferion a gynlluniwyd
6. sut i asesu a chytuno ar gyflwr parodrwydd ac ysgogiad cleifion i gymryd rhan yn y sesiwn
7. sut i asesu, monitro a rheoli risg i gleifion trwy gydol y rhaglen
8. sut i ymgynghori â chleifion ynghylch eu cynnydd
9. y mathau o anafiadau cyffredin a allai ddigwydd yn ystod ymarfer
10. dulliau o hyrwyddo newid parhaus mewn lefelau gweithgaredd corfforol
11. pryd i ddarparu adroddiadau parhaus i gyfathrebu canlyniadau, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol
Addysgu ac addasu sesiynau adsefydlu ymarfer a gynlluniwyd
12. ffyrdd o ddarparu cyfarwyddiadau, esboniadau ac arddangos yr ystumiau corff cywir ar gyfer ymarferion i gleifion
13. y dulliau cyfathrebu sydd eu hangen i gwrdd ag anghenion cleifion
- ulliau o sicrhau y gall cleifion wneud yr ymarferion yn ddiogel ar eu pennau eu hunain
15. pryd i arsylwi a dadansoddi perfformiad cleifion
16. dulliau o roi anogaeth trwy gydol y sesiwn
17. sut i benderfynu ac addasu rhaglenni gweithgaredd corfforol cynyddol gan ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth fel canllaw
18. dulliau o drafod, cytuno ar a chofnodi gyda chleifion unrhyw newidiadau yn yr ymarferion a gynlluniwyd a fydd yn cwrdd â'u nodau a'r hyn sy'n well ganddynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Cleifion**
**
**
- unigolion
- grwpiau
**
**
Gwybodaeth**
**
**
- nodau personol
- ffordd o fyw
- hanes meddygol
- hanes gweithgarwch corfforol
- hoffterau ynghylch gweithgarwch corfforol
Nodau a neu Amcanion
*
*
*
*
- gwella ffitrwydd
- gwella ysgogiad
- mynd i'r afael â rhwystrau i gymryd rhan
- gwella sgiliau a thechnegau
- gwella iechyd
- hwyl a mwynhad
**
**
Ymarferion**, i ddatblygu
- ffitrwydd cardiofasgwlaidd
- ffitrwydd cyhyrol
- ystwythder
- sgiliau echddygol
- cryfder cyhyrol a ffitrwydd gwytnwch
Gweithwyr iechyd proffesiynol
*
*
- seicolegydd
- meddyg
- ffisiotherapydd/therapydd arall
- goruchwylydd
- gweithiwr iechyd/ymarfer corff proffesiynol arbenigol
- maethegydd/dietegydd
**
**
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i gwmpasu isafswm o 4)
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
- Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol
Dulliau cyfathrebu
*
*
*
*
- cyfweliad
- holiadur
- arsylwi
- mesuriadau corfforol
Gwybodaeth Cwmpas
Rheoli risg
*
*
*
*
- gwrtharwyddion
- monitorau cyflymder y galon
- lefelau ymdrech canfyddedig
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
*
*
*
*
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
- Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol
Gweithwyr iechyd proffesiynol
*
*
*
*
- seicolegydd
- meddyg
- ffisiotherapydd/therapydd arall
- goruchwylydd
- gweithiwr iechyd/ymarfer corff proffesiynol arbenigol
- maethegydd/dietegydd
**
**
Ffynonellau gwybodaeth**
**
**
- canlyniadau o asesiadau corfforol ac ymarfer
- gwybodaeth feddygol
- canllawiau cenedlaethol
- ffurflenni ymgynghori
- ffurflenni atgyfeirio
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
1. geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
2. bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
3. bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
4. anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
5. nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
6. anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
7. myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
8. sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
9. dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
10. cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
11. datblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr
12. diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
13. cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
14. dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion penodol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
- annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan
- nodi a chytuno ar strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
- defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
- addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
- gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn modd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
Gweithgareddau
Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd rydych yn datblygu cryfder, gwytnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un gweithgaredd neu fwy.
*
*
*
*
Nodau
Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.
**
Cyfarwyddiadau**
Y pwyntiau addysgu allweddol sy'n arwain cyfranogwr tuag at gyflawni ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol.
Cynllun
Mae cynllun sesiwn gweithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn neilltuol; yn cael eu cynnwys yn y cynllun fydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau, amseru a'r cyfarpar sydd eu hangen. Dylid cofnodi cynlluniau fel y gellir eu rhannu gydag eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.
Lles
Cefnogi lles cyfranogwyr gan gynnwys ffordd sylfaenol o fyw, maetheg ac ymwybyddiaeth ynghylch cyffuriau.