Hyfforddi ymarfer yn y dŵr

URN: SKAEF10
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â hyfforddi ymarfer yn y dŵr i oedolion sydd yn ôl pob golwg yn iach.


 


 

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

  1. paratoi cyfranogwyr ar gyfer ymarfer yn y dŵr
  2. hyfforddi ymarfer yn y dŵr i gyfranogwyr
  3. arsylwi a goruchwylio ar ymarfer yn y dŵr
  4. dod â sesiwn ymarfer yn y dŵr i ben

Rhaid i chi gynnwys yr ymarfer craidd a gwybodaeth ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y nodir yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i'r rôl swydd.

Mae'r safon hon ar gyfer hyfforddwyr sy'n cynllunio, yn hyfforddi ac yn adolygu sesiynau ymarfer yn y dŵr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi cyfranogwyr ar gyfer ymarfer yn y dŵr**


 


 

1.  sicrhau bod yr amgylchedd a'r cyfarpar wedi'u paratoi ar gyfer y rhaglen y cytunwyd arni

2.  cynnal y broses sgrinio ar lafar a chasglu unrhyw wybodaeth newydd

yn ymwneud â pharodrwydd cyfranogwyr ar gyfer ymarfer yn y dŵr

3.  cadarnhau neu ddiwygio'r rhaglen y cytunwyd arni ar sail gwybodaeth newydd a dderbyniwyd gan gyfranogwyr

4.  trafod y rhaglen yr ydych chi wedi cytuno arni gyda chyfranogwyr a disgrifio'r galwadau corfforol a thechnegol iddynt

5.  cynghori cyfranogwyr o weithdrefn frys y cyfleuster


**


 

Hyfforddi ymarfer yn y dŵr * i gyfranogwyr​*


 


 

6.  defnyddio gweithgareddau cynhesu ac oeri sy'n bodloni g*weithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol*

7.  rhoi esboniadau ac arddangosiadau sy'n dechnegol gywir

8.  gwirio dealltwriaeth y cyfranogwyr o'r cyfarwyddiadau a rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau

9.  monitro dwyster a thechneg yr ymarfer yn y dŵr a ddewiswyd

10.  sicrhau bod y cyfranogwyr yn cynnal yr ymarfer yn y dŵr mewn modd diogel ac effeithiol

11.  rhoi'r wybodaeth a'r anogaeth angenrheidiol i'r cyfranogwyr barhau i gynnal y rhaglen heb eich goruchwyliaeth uniongyrchol

12.  cadw at yr amseriadau arfaethedig ar gyfer yr ymarfer yn y dŵr

13.  sicrhau bod gan y cyfranogwyr wybodaeth am weithgareddau yn y dyfodol


** 


** 

Arsylwi a goruchwylio ar ymarfer yn y dŵr**


 


 

14.  defnyddio technegau arsylwi a fydd yn cynorthwyo wrth fonitro diogelwch ac effeithlonrwydd yr ymarfer yn y dŵr ar gyfer yr holl gyfranogwyr

15.  annog a chefnogi'r cyfranogwyr i gymryd cyfrifoldeb dros eu ffitrwydd eu hunain

16.  adolygu perfformiad cyfranogwyr a darparu dilyniannau ac atchweliadau mewn ymateb i'w anghenion

17.  cynnig cyfleoedd i gyfranogwyr ofyn cwestiynau

18.  cyfeirio cyfranogwyr **at weithiwr proffesiynol arall pan fydd eu hanghenion y tu hwnt i'ch lefel gymhwyster

19.  rhoi cyngor ffitrwydd o fewn gweithgarwch corfforol yn y dŵr  

20.  defnyddio technegau taflu llais i hyfforddi'r grŵp

21.  datblygu hyder y cyfranogwyr trwy adeiladu ymarferion yn raddol

22.  adnabod a rheoli mathau newydd o beryglon a allai godi yn ystod sesiwn

23.  dilyn gweithdrefnau adrodd ar gyfer materion iechyd a diogelwch


** 


** 

Dod â sesiwn ymarfer yn y dŵr i ben**


 


 

24.   rhoi amser i ddod â'r sesiwn i ben yn unol â lefel profiad y cyfranogwyr**

25.  rhoi crynodeb i'r cyfranogwyr o'ch adborth ar y sesiwn

26.  rhoi cyfle i'r cyfranogwyr ystyried y sesiwn a rhoi adborth

27.  cytuno ar gynllun gweithredu yn ymwneud a sesiynau yn y dyfodol gyda'r cyfranogwyr

28.  gadael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n dderbyniol at eich defnydd chi ac eraill yn y dyfodol

29.  rhoi ystod o ymarferion amgen ac addasiadau yn y dŵr gan gynnwys dilyniannau ac atchweliadau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Paratoi cyfranogwyr ar gyfer ymarfer yn y dŵr**


 


 

1.  y'r offer sy'n ofynnol ar gyfer y sesiwn y cytunwyd arni a sut i baratoi'r amgylchedd

2.  dulliau sgrinio a chasglu unrhyw wybodaeth newydd yn ymwneud â pharodrwydd cyfranogwyr ar gyfer ymarfer yn y dŵr

3.  pryd i gadarnhau neu ddiwygio'r rhaglen y cytunwyd arni ar sail unrhyw wybodaeth newydd a dderbynnir gan y cyfranogwyr  

4.  ffyrdd o esbonio galwadau corfforol a thechnegol y sesiwn i'r cyfranogwyr

5.  gweithdrefnau brys y cyfleuster


** 


** 

Hyfforddi ymarfer yn y dŵr  i gyfranogwyr**


 


 

6.  diben a gwerth y gweithgareddau cynhesu ac oeri  

7.  ffyrdd o roi esboniadau ac arddangosiadau sy'n dechnegol gywir ar gyfer ymarfer yn y dŵr, mewn perthynas ag anghenion a lefel profiad y cyfranogwyr

8.  pam y dylech chi wirio dealltwriaeth y cyfranogwyr o gyfarwyddiadau a rhoi'r cyfle iddynt ofyn cwestiynau

9.  dulliau ar gyfer monitro dwyster a thechneg yr ymarferion yn y dŵr a ddewiswyd

10.  ffyrdd o ddefnyddio technegau addysgu i gywiro ac atgyfnerthu techneg

11.  sut i gyflwyno ymarferion yn y dŵr sy'n ddiogel ac yn effeithiol

12.  pryd i roi'r wybodaeth a'r anogaeth angenrheidiol i gyfranogwyr i barhau i ymgymryd â'r rhaglen heb oruchwyliaeth uniongyrchol

13.  ffyrdd o gynllunio sesiwn ymarfer yn y dŵr

14.  pam y dylai cyfranogwyr gael gwybodaeth am weithgareddau yn y dyfodol


** 


** 

Arsylwi a goruchwylio ymarfer yn y dŵr**


 


 

15.  technegau arsylwi a fydd yn cynorthwyo gyda monitro diogelwch ac effeithiolrwydd y rhaglen

16.  ffyrdd o annog a chefnogi cyfranogwyr i gymryd cyfrifoldeb dros eu ffitrwydd eu hunain

17.  ffyrdd o adolygu gallu'r cyfranogwyr i berfformio'r ymarferion yn y dŵr a phryd i ddarparu dilyniannau ac atchweliadau addas mewn ymateb i anghenion cyfranogwyr

18.  arwyddocâd rhoi cyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau

19.  pryd a sut i gyfeirio at weithiwr proffesiynol arall os oes gan y cyfranogwr anghenion y tu hwnt i'ch lefel gymhwysedd

20.  sut i ddatblygu hyder y cyfranogwyr trwy adeiladu'r ymarferion yn raddol

21.  pryd i ddarparu cyngor a sut i'w gynnig o fewn ymarfer yn y dŵr

22.  ffyrdd o daflu llais yn effeithiol

23.  y mathau o beryglon newydd a allai godi yn ystod sesiwn a sut i adnabod a rheoli'r rhain

24.  pam y dylech chi drosglwyddo awgrymiadau ar gyfer gwella iechyd a diogelwch at unigolyn cymwys neu asiantaeth


** 


** 

Dod â sesiwn ymarfer yn y dŵr i ben**


 


 

25.  diben caniatáu digon o amser ar ddiwedd y sesiwn, yn unol â lefel profiad y cyfranogwyr

26.  ffyrdd o roi crynodeb i'r cyfranogwyr o'ch adborth ar y sesiwn

27.  technegau i gysylltu'r cyfranogwyr i adolygu'r sesiwn

28.  pryd a sut i gwblhau cynllun gweithredu yn ymwneud â sesiynau yn y dyfodol

29.  ffyrdd o adael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n dderbyniol at eich defnydd chi ac eraill yn y dyfodol

30.  ystod o ymarferion amgen ac addasiadau yn y dŵr gan gynnwys dilyniannau ac atchweliadau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Amgylchedd**


** 


** 

  1. gofod
  2. gosodiad
  3. awyriad
  4. defnydd o gerddoriaeth
  5. offer ar gyfer y sesiwn
  6. dillad ac offer personol
  7. dŵr bas
  8. dŵr dwfn


** 


** 

Gwybodaeth**


** 


** 

  1. nod personol
  2. ffordd o fyw
  3. hanes meddygol
  4. hanes gweithgarwch corfforol
  5. dewisiadau gweithgarwch corfforol
  6. agwedd a chymhelliant i gymryd rhan
  7. lefel ffitrwydd gyfredol
  8. cyfnod parodrwydd
  9. parodrwydd seicolegol


** 


** 

Cyfranogwyr**


** 


** 

  1. unigolion
  2. grwpiau
  3. gydag anghenion ffitrwydd penodol
  4. gydag anghenion iechyd cyffredinol
  5. dechreuwyr
  6. profiadol


** 


** 

Ymarfer**, i ddatblygu


 

  1. ffitrwydd cardiofasgiwlaidd
  2. ffitrwydd cyhyrol
  3. hyblygrwydd
  4. sgiliau symud


** 


** 

Taflu llais**


** 


** 

  1. defnydd ar lefel y llais
  2. traw'r llais

Gwybodaeth Cwmpas

Dulliau**


** 


** 

  1. cyfweliad
  2. holiadur
  3. sgrinio ar lafar
  4. arsylwi


** 


** 

Gwybodaeth**


** 


** 

  1. nod personol
  2. ffordd o fyw
  3. hanes meddygol
  4. hanes gweithgarwch corfforol
  5. dewisiadau gweithgarwch corfforol
  6. agwedd a chymhelliant i gymryd rhan
  7. lefel ffitrwydd gyfredol
  8. cyfnod parodrwydd
  9. parodrwydd seicolegol


** 


** 

Technegau addysgu**


** 


** 

  1. newid safleoedd addysgu
  2. gofyn cwestiynau
  3. gwneud addasiadau a dilyniannau
  4. cyfathrebu ar lafar a gweledol
  5. adlewyrchu


** 


** 

Taflu llais​**


** 


** 

  1. defnydd ar lefel y llais
  2. traw'r llais


** 


** 

Adolygu'r sesiwn**

  1. meddwl am y sesiwn
  2. gofyn cwestiynau
  3. rhoi adborth
  4. adnabod eu hanghenion pellach


** 


** 

Amgylchedd**


** 


** 

  1. gofod
  2. gosodiad
  3. awyriad
  4. defnydd o gerddoriaeth
  5. offer ar gyfer y sesiwn
  6. dillad ac offer personol
  7. dŵr bas
  8. dŵr dwfn

Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd

Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:

  1. arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
  2. cynnal cyfrinachedd
  3. delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
  4. ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa

Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:

  1. geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
  2. bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
  3. bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
  4. anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
  5. nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
  6. anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
  7. myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
  8. sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
  9. dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
  10. cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
  11. datblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr
  12. diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
  13. cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
  14. dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu

Sgiliau

Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:

  1. baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
  2. sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion penodol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
  3. gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
  4. esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
  5. nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
  6. annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
  7. nodi parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan
  8. nodi a chytuno ar strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
  9. defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
  10. addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
  11. gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
  12. nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
  13. casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
  14. cofnodi'r wybodaeth mewn modd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
  15. defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
  16. cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau​

Geirfa

​Gweithgareddau

Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a allai ganolbwyntio ar eich datblygiad ar gryfder, dygnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol y cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un neu'n fwy o weithgareddau.

*
*
 

*
*
 

Oeri

Gweithgareddau diogel sy'n caniatáu i gyfranogwyr wella'n feddyliol ac yn gorfforol o weithgareddau a gynhelir mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.

Adborth

Y broses o roi a derbyn barnau ar berfformiad. Gallai hyn eich cynnwys chi yn rhoi adborth i gyfranogwyr ar naill eu perfformiad neu gyfraniad at sesiwn gweithgarwch corfforol; neu hyfforddwr mwy profiadol yn rhoi barn ar eich perfformiad wrth gyflwyno sesiwn gweithgarwch corfforol penodol.

Nodau

Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.

Perygl

Mae hyn yn rhywbeth a allai fod yn beryglus neu a allai achosi niwed.

Cyfarwyddiadau

Y pwyntiau addysgu allweddol sy'n tywys cyfranogwr tuag at berfformio ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol.

*
*
 

*
*
 

*
*
 

*
*
 

Cyfranogwyr

Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.

Cynllun

Mae cynllun sesiwn gweithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn benodol; yn rhan o'r cynllun y bydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau, amseriadau a chyfarpar gofynnol. Dylai cynlluniau gael eu cofnodi er mwyn eu rhannu gydag eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.

Adolygu

Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.

Cynhesu

Gweithgareddau diogel sy'n caniatáu i gyfranogwyr baratoi yn feddyliol ac yn gorfforol ar gyfer sesiwn gweithgarwch corfforol.

Lles

Cefnogi lles y cyfranogwr gan gynnwys ymwybyddiaeth ffordd o fyw, maeth a chyffuriau sylfaenol.


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn cysylltu â SKAEF1, SKAEF3 a SKAEF10.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAD456

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd, Galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cysylltiol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

hyfforddi; yn y dŵr; ymarfer