Hyrwyddo iechyd, diogelwch a lles mewn adloniant a hamdden actif
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phwysigrwydd iechyd a diogelwch ar gyfer cyfranogwyr, eich cydweithwyr a chi eich hunan.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
- helpu i reoli risgiau ym maes chwaraeon a gweithgareddau
- helpu i ddiogelu a gwarchod cyfranogwyr
- delio ag anafiadau ac arwyddion o afiechyd
- dilyn gweithdrefnau brys
Mae hon yn safon ar gyfer yr holl staff sy'n gweithio ym maes chwaraeon a gweithgareddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Helpu i reoli risgiau ym maes chwaraeon a gweithgareddau**
**
**
**
**1. cael gafael ar wybodaeth am iechyd a diogelwch
2. dilyn gofynion iechyd a diogelwch
3. asesu a rheoli risgiau gan ddefnyddio gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
**
**
Helpu i ddiogelu ac amddiffyn cyfranogwyr**
4. clustnodi'r gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich swydd a'ch maes gwaith
5. dilyn y gweithdrefnau ar gyfer diogelu ac amddiffyn
6. dilyn y gweithdrefnau ar gyfer eich amddiffyn eich hunan rhag cyhuddiadau posibl
**
**
Delio ag anafiadau ac arwyddion o afiechyd**
**
**
7. dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am ddamweiniau a salwch
**
**
Dilyn gweithdrefnau brys**
8. cynnal diogelwch y cyfranogwyr** dan sylw
9. dilyn y gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am achos brys
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Helpu i reoli risgiau ym maes chwaraeon a gweithgareddau**
**
**
1. yr wybodaeth iechyd a diogelwch ddiweddaraf
2. canllawiau a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr ar gyfer defnyddio cyfleusterau ac offer
3. gofynion iechyd, diogelwch a lles ar gyfer maes gweithgareddau corfforol
Helpu i ddiogelu ac amddiffyn cyfranogwyr
4. gofynion iechyd a diogelwch i ddiogelu ac amddiffyn cyfranogwyr
5. dulliau o asesu a rheoli risgiau gan ddefnyddio gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
6. polisïau a gweithdrefnau eich swydd a'ch maes gwaith
7. gweithdrefnau i ddiogelu ac amddiffyn cyfranogwyr a pham y dylech lynu at y rhain bob amser
**
**
Delio ag anafiadau ac arwyddion o salwch**
8. gweithdrefnau ar gyfer eich amddiffyn eich hunan rhag cyhuddiadau posibl
9. gweithdrefnau eich sefydliad i roi gwybod am ddamweiniau
Dilyn gweithdrefnau brys
10. sut i gyflawni eich rôl a dilyn gweithdrefnau brys ar yr un pryd
11. sut i gynnal diogelwch y cyfranogwyr yr effeithir arnynt mewn achos
12. gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol eich sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am achos brys
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Risgiau**
**
**
- cyfleusterau ac amgylchedd anniogel
- offer anniogel
- ymarfer gweithio anniogel
- ymddygiad anniogel
- defnyddio sylweddau peryglus
- torri rheolau diogelwch
- sefyllfaoedd sy'n debygol o achosi pryder emosiynol
**
**
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i drafod 4 o leiaf)
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
- Rheolaeth Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd
- Rheoliadau Adrodd ar am Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol
**
**
Gweithdrefnau**
**
**
- delio â'r perygl yn bersonol
- hysbysu'r cydweithwyr perthnasol o'r perygl
- amddiffyn eraill rhag niwed
**
**
Cyfranogwyr**
**
**
- oedolion bregus
- plant
- cyfranogwyr ag anableddau
Gwybodaeth Cwmpas
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol**
**
**
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
- Rheolaeth Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd
- Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
- bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
- bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
- anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
- nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
- anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
- myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
- sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
- dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
- cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
- datblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr
- diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
- cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
- dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion penodol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
- annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan
- nodi a chytuno ar strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
- defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
- addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
- gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn modd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
Gweithgareddau
*
*
*
*
Elfennau sesiwn weithgaredd corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd yr ydych yn datblygu'r cyfranogwr o ran cryfder, dygnwch, technegau neu ymwybyddiaeth neu strategaethau tactegol ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau ymarfer corff yn cynnwys un neu fwy o weithgareddau.
Cydweithwyr
*
*
*
*
Y bobl yr ydych yn gweithio â hwy – pobl sy'n gweithio ar yr un lefel â chi neu eich rheolwr llinell.
Amcanion
*
*
Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.
Perygl
*
*
*
*
Dyma rywbeth sy'n beryglus neu a allai achosi niwed.
Gofynion iechyd a diogelwch
*
*
*
*
Y rhai sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, codau ymarfer y diwydiant, a rhai eich sefydliad chi.
Cyfarwyddiadau
Y prif bwyntiau dysgu sy'n arwain cyfranogwr at ddull diogel ac effeithiol o wneud ymarfer corff.
Cyfranogwyr
*
*
*
*
Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn weithgaredd corfforol.
Lles
Cefnogi lles y cyfranogwr gan gynnwys ffordd o fyw sylfaenol, maeth ac ymwybyddiaeth o gyffuriau