Cyfarwyddo sesiynau ymarfer corff mewn dŵr
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â hyfforddi ymarfer corff mewn dŵr i oedolion sy'n ymddangos yn iach
Prif ddeilliannau'r safon yama yw:
1. paratoi'r sawl sy'n cymryd rhan a'r amgylchedd ar gyfer ymarfer corff mewn dŵr
2. hyfforddi ymarfer corff mewn dŵr i'r sawl sy'n cymryd rhan
3. terfynu’r sesiwn ymarfer corff mewn dŵr ac adfyfyrio amdani
Mae'r safon yma ar gyfer hyfforddwyr sy'n paratoi, hyfforddi ac adolygu sesiynau ymarfer corff mewn dŵr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. paratoi'r amgylchedd a chi eich hun ar gyfer yr ymarfer corff mewn dŵr
nodi a dewis cyfarpar diogel a chywir ar gyfer yr ymarfer corff mewn dŵr
cwrdd â'r sawl sy'n cymryd rhan ar yr amseroedd a gytunwyd
cyflawni'r broses sgrinio briodol a chasglu unrhyw wybodaeth newydd sy'n ymwneud â pharodrwydd y sawl sy'n cymryd rhan ar gyfer yr ymarfer corff mewn dŵr
cadarnhau neu adolygu'r ymarferion a gytunir ar sail unrhyw wybodaeth newydd a dderbynnir gan y sawl sy'n cymryd rhan
cynghori'r sawl sy'n cymryd rhan ynglŷn â gweithdrefnau argyfwng y cyfleuster
rhoi esboniadau ac arddangosiadau sy'n dechnegol gywir
gwirio dealltwriaeth y sawl sy'n cymryd rhan o gyfarwyddiadau a rhoi'r cyfle iddynt ofyn cwestiynau
rhoi cyfarwyddyd, addysgiad a strategaethau cymhellol **effeithiol i'r sawl sy'n cymryd rhan er mwyn darparu'r sesiwn ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol
monitro diogelwch ac effeithiolrwydd yr ymarferiad mewn dŵr ar gyfer pawb sy'n cymryd rhan gan ddefnyddio technegau a dulliau priodol
annog a chefnogi'r sawl sy'n cymryd rhan i gymryd cyfrifoldeb dros eu ffitrwydd eu hunain
defnyddio technegau taflu'r llais gyda neu heb feicroffon ar gyfer cyfarwyddo'r grŵp
rhoi ciwio effeithiol er mwyn galluogi'r sawl sy'n cymryd rhan i ymarfer fel sy'n briodol ar gyfer y sesiwn
datblygu hyder y sawl sy'n cymryd rhan drwy gynyddu ymarferion yn raddol
adolygu perfformiad y sawl sy'n cymryd rhan drwy gynnig dilyniannau, atchweliadau addas mewn ymateb i'w hanghenion
cyfeirio neu ddanfon y sawl sy'n cymryd rhan at bobl broffesiynol eraill pan mae eu hanghenion y tu hwnt i lefel eich gallu
rhoi cyngor ar ffitrwydd mewn gweithgaredd corfforol mewn dŵr
cadw at yr amseriadau sydd wedi eu cytuno ar gyfer yr ymarfer corff mewn dŵr
rhoi cyfle i'r sawl sy'n cymryd rhan adfyfyrio ar y sesiwn a rhoi adborth
rhoi crynodeb o'ch adborth am y sesiwn i'r sawl sy'n cymryd rhan
sicrhau bod y sawl sy'n cymryd rhan yn cael manylion am sesiynau yn y dyfodol
gadael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n dderbyniol ar gyfer cael ei defnyddio eto gennych chi a chan eraill
cyfeirio unrhyw faterion sy'n ymwneud â iechyd, diogelwch neu les yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt
amrediad a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd, fel ag y maent yn berthnasol i'ch swydd
egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, niwrogyhyrol, cardiofasgwlar, resbiradol, ynni a threuliol
sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn cynllunio sesiynau ymarfer corff diogel ac effeithiol mewn dŵr i amrywiaeth o bobl sy'n cymryd rhan
y rhannau o ffitrwydd sy'n ymwneud ag iechyd a sut i gymhwyso'r rheiny i raglen o ymarfer corff i gwrdd ag anghenion y sawl sy'n cymryd rhan gyda chi
manteision iechyd gweithgaredd corfforol a risgiau diffyg gweithgaredd
y cyngor cyffredinol am fwyta'n iach y gellir ei roi i blant yn seiliedig ar ffynonellau credadwy
ffyrdd o nodi a pharatoi cyfarpar ac amgylcheddau diogel a chywir ar gyfer ymarfer corff mewn dŵr,
9. pam dylech chi gwrdd â'r sawl sy'n cymryd rhan yn brydlon a gwneud iddynt deimlo bod croeso iddynt
10. dulliau o sgrinio a chasglu unrhyw wybodaeth newydd yn ymwneud â pharodrwydd y sawl sy'n cymryd rhan ar gyfer ymarfer corff mewn dŵr **
sut i gadarnhau neu adolygu'r rhaglen a gytunir ar sail unrhyw wynodaeth newydd a dderbyniwyd gan y sawl sy'n cymryd rhan
ffyrdd o egluro gofynion corfforol a thechnegol y sesiwn i'r sawl sy'n cymryd rhan
y rhannau sydd eu hangen i gynllunio sesiynau ymarfer corff mewn dŵr diogel ac effeithiol
ffyrdd o ddarparu esboniadau ac arddangosiadau sy'n dechnegol gywir, mewn perthynas ag anghenion y sawl sy'n cymryd rhan a'u lefel o brofiad
pam dylech chi wirio dealltwriaeth y sawl sy'n cymryd rhan o gyfarwyddiadau a rhoi'r cyfle iddynt ofyn cwestiynau
dulliau o fonitro dwysedd a thechneg yr ymarferion corff mewn dŵr a ddewisir
gwahanol fathau o ddulliau hyfforddi ac addysgu a sut gellir eu defnyddio i ddiwallu anghenion y gwahanol rai sy'n cymryd rhan
amrediad o ymarferion corff amgen ac addasiadau yn cynnwys dilyniannau ac atchweliadau
ffyrdd o annog a chefnogi'r sawl sy'n cymryd rhan i gymryd cyfrifoldeb dros eu ffitrwydd eu hunain
ffyrdd o daflu'r llais yn effeithiol gyda neu heb feicroffon
egwyddorion rheoli ymddygiad grŵp yn ystod sesiynau ymarfer corff mewn dŵr
sut i ddatblygu hyder y sawl sy'n cymryd rhan drwy gynyddu ymarferion yn raddol
ffyrdd o adolygu gallu'r sawl sy'n cymryd rhan i gyflawni ymarferion corff mewn dŵr a phryd i gynnig dilyniannau ac atchweliadau addas mewn ymateb i anghenion y sawl sy'n cymryd rhan
24. pryd i roi cyngor ynglŷn ag ymarfer corff mewn dŵr a sut i’w
ffyrdd o asesu a oes gan rywun sy'n cymryd rhan anghenion y tu allan i faes eich gallu chi a sut i gyfeirio at bobl broffesiyniol eraill
y mathau o beryglon neu risgiau newydd all godi yn ystod sesiwn, sut i nodi a rheoli'r rhain
diben gadael digon o amser i ddiweddu'r sesiwn, ar sail lefel profiad y sawl sy'n cymryd rhan
ffyrdd o roi crynodeb cywir o'ch adborth am y sesiwn i'r sawl sy'n cymryd rhan
y dulliau o gasglu adborth gan y sawl sy'n cymryd rhan ac eraill
pam dylai'r sawl sy'n cymryd rhan gael gwybodaeth am sesiynau yn y dyfodol
ffyrdd o adael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n dderbyniol ar gyfer cael ei defnyddio eto gennych chi a chan eraill
gweithdrefnau penodol ar gyfer adrodd am faterion sydd y tu hwnt i'ch gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Amgylchedd
- lle gwag
- dyluniad
- awyriant
- goleuo
- defnydd o gerddoriaeth
- cyfarpar ar gyfer y sesiwn
- dillad a chyfarpar personol
- dŵr bas
- dŵr dwfn
Gwybodaeth
1. nod personol
2. ffordd o fyw
3. hanes meddygol
4. hanes gweithgaredd corfforol
5. hoffterau gweithgaredd corfforol
6. agwedd a chymhelliant i gymryd rhan
7. lefel ffitrwydd cyfredol
8. pa mor barod ydyw rhywun
9. parodrwydd seicolegol
Tafliad y llais
- defnydd o uchelder
- traw’r llais
Gwybodaeth Cwmpas
Dulliau
holiadur
sgrinio geiriol
arsylwad
Technegau addysgu
- newid safleoedd addysgu
- gofyn cwestiynau
- gwneud addasiadau a dilyniannau
- cyfathrebiadau geiriol a gweledol
- adlewyrchu
- arwyddion llaw
- strategaethau ar gyfer rheoli grŵp
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKAEAF2, SKAEAF8, SKAEAF20