Cynllunio sesiynau ymarfer corff mewn dŵr

URN: SKAEAF8
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

​Mae’r safon yma’n ymwneud â chynllunio ymarfer corff mewn dŵr ar gyfer oedolion sy’n ymddangos yn iach.

Prif ddeilliannau’r safon yma yw:
1. casglu a dadansoddi gwybodaeth
2. cynllunio ymarfer corff diogel ac effeithiol mewn dŵr

Mae’r safon yma ar gyfer hyfforddwyr sy’n cynllunio sesiynau ymarfer mewn dŵr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


Casglu a dadansoddi gwybodaeth
1. cwrdd â’r sawl sy’n cymryd rhan ar adeg ac mewn man priodol 
2. defnyddio dulliau, technegau a sgiliau cyfathrebu priodol er mwyn adeiladu perthynas â’r sawl sy’n cymryd rhan tran casglu gwybodaeth gan y sawl sy’n cymryd rhan yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol 
3. gwneud sgrinio cyn-iechyd gan ddefnyddio dulliau priodol 
4. dadansoddi’r wybodaeth a nodi’r goblygiadau ar gyfer ymarfer corff mewn dŵr
5. cyfeirio at bobl broffesiynol eraill unrhyw rai sy’n cymryd rhan na ellwch ddiwallu eu hanghenion a’u potensial 
6. cadw cyfrinachedd, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol 
Cynllunio ymarfer corff diogel ac effeithiol mewn dŵr
7. nodi amcanion sy’n diwallu anghenion a photensial y sawl sy’n cymryd rhan 
8. cynllunio a chytuno gyda’r sawl sy’n cymryd rhan ar raglen o ymarfer corff mewn dŵr fydd o gymorth iddynt gyflawni eu hamcanion 
9. ceisio cyngor gan bobl broffesiynol eraill ynglŷn â meysydd sydd y tu allan i faes eich gallu chi 
10. cynllunio strwythur o ymarfer corff mewn dŵr sy’n sicrhau amseriadau a fformatau, diogel, effeithiol a realistig 
11. nodi amgylcheddau priodol ar gyfer amcanion sesiynau ymarfer corff mewn dŵr 
12. cynllunio addasiadau, diwygiadau a dilyniannau er mwyn addasu i anghenion y sawl sy’n cymryd rhan
13. nodi peryglon ac asesu’r risg o’r peryglon hyn yn achosi niwed gwirioneddol
14. cynllunio sut byddwch chi’n cadw’r risgiau hyn mor isel â phosibl
15. cofnodi eich cynlluniau yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt 
2. amrediad a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd, fel ag y maent yn berthnasol i’ch swydd 
3. egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, niwrogyhyrol, cardiofasgwlar, resbiradol, ynni a threuliol 
4. sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn cynllunio sesiynau diogel ac effeithiol ymarfer corff mewn dŵr ar gyfer amrywiaeth o bobl sy’n cymryd rhan 
5. y rhannau o ffitrwydd sy’n ymwneud ag iechyd a sut i gymhwyso’r rheiny i raglen o ymarfer corff i gwrdd ag anghenion y rhai sy’n cymryd rhan gyda chi 
6. manteision iechyd gweithgaredd corfforol a risgiau diffyg gweithgaredd 
7. y cyngor cyffredinol am fwyta’n iach y gellir ei roi i blant yn seiliedig ar ffynonellau credadwy 
8. pwysigrwydd cwrdd â’r sawl sy’n cymryd rhan ar yr adeg ac yn y man cywir er mwyn darparu lleoliad proffesiynol 
9. sut i nodi dulliau priodol o gasglu gwybodaeth gan y sawl sy’n cymryd rhan 
10. dulliau o gasglu gwybodaeth sydd ei hangen er mwyn cefnogi cynllunio’r ymarfer corff mewn dŵr 
11. y ffactorau sy’n effeithio ar y gallu i ymarfer 
12. techneg dadansoddi gwybodaeth
13. pryd a ble i gyfeirio unrhyw rai sy’n cymryd rhan na ellwch chi ddiwallu eu hanghenion a photensial at bobl broffesiynol eraill 
14. technegau pennu amcanion
15. y ffactorau sy’n berthnasol pan ddaw i gynllunio sesiynau 
16. ffyrdd o nodi unrhyw beryglon ac asesu ffactorau amgylcheddol all ddylanwadu ar ddiogelwch 
17. sut i gynllunio sesiwn ymarfer corff mewn dŵr yn ddiogel ac effeithiol 
18. sut i ddewis y cyflymder a’r math o gerddoriaeth ar gyfer y sawl sy’n cymryd rhan a’r cyfnod o’r sesiwn 
19. effaith rhediad a chyflymder ymarferion mewn amgylchedd ddyfrol
20. y gofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â’r defnydd o gerddoriaeth 
21. sut i ymgorffori addasiadau a dilyniannau i gwrdd ag anghenion y sawl sy’n cymryd rhan 
22. pryd a sut i fynd am gyngor gan bobl broffesiynol eraill pan yn delio â materion sydd y tu allan i’ch gallu 
23. sut i gofnodi eich cynlluniau yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol



Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Gwybodaeth
*
1. nod personol
2. ffordd o fyw
3. hanes meddygol
4. hanes gweithgaredd corfforol
5. hoff ddewisiadau gweithgaredd corfforol
6. agwedd a chymhelliant i gymryd rhan
7. lefel ffitrwydd presennol
8. lefel o barodrwydd
9. rhwystrau i ymarfer corff

Amgylchedd

*
1. lle gwag
2. dyluniad
3. awyriant
4. goleuo
5. defnydd o gerddoriaeth 
6. cyfarpar ar gyfer y sesiwn 
7. dillad a chyfarpar personol
8. dŵr bas
9. dŵr dwfn 


Gwybodaeth Cwmpas


Dulliau
*
*
1. holiadur
2. sgrinio geiriol
3. arsylwad


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAEAF2, SKAEAF9, SKAEAF20


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAEF9

Galwedigaethau Perthnasol

Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Cyfarwyddwr; , Hyfforddwr

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

Cynllun; ymarfer corff mewn dŵr; ymarfer corff; sawl sy’n cymryd rhan