Hyfforddi plant mewn ymarfer corff a gweithgaredd corfforol sy’n gysylltiedig â iechyd

URN: SKAEAF7
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon yma'n ymwneud â chyfarwyddo sesiynau ymarfer corff a gweithgaredd corfforol sy'n gysylltiedig â iechyd ar gyfer plant rhwng 5 ac yn cynnwys 15 oed.

Prif ddeilliannau'r safon yma yw:

1.paratoi'r plant a'r amgylchedd ar gyfer ymarfer corff a gweithgaredd corfforol
2. hyfforddi'r plant mewn ymarfer corff a gweithgaredd corfforol
3. adfyfryio ynglŷn â hyfforddi plant mewn ymarfer corff a gweithgaredd corfforol

Mae'r safon yma ar gyfer hyfforddwyr sy'n paratoi, cyfarwyddo ac adolygu sesiynau ymarfer corff a gweithgaredd corfforol sy'n gysylltiedig â iechyd ar gyfer plant.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. paratoi'r amgylchedd a chi eich hun ar gyfer y sesiwn gweithgaredd corfforol

  1. nodi a dewis cyfarpar diogel a chywir ar gyfer y sesiwn gweithgaredd corfforol

  2. creu amgylchedd gadarnhaol ar gyfer yr holl blant i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol

  3. dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol ar gyfer cofrestru presenoldeb

  4. nodi unrhyw blant newydd, edrych i weld beth yw lefel eu profiad a'u gallu i ymgymryd â'r sesiwn

  5. cyflawni'r broses sgrinio briodol a chasglu unrhyw wybodaeth newydd sy'n ymwneud â pharodrwydd y plant i gymryd rhan yn y gweithgaredd corfforol

  6. hysbysu'r rhiant neu'r gofalydd o'r rhesymau pam na ddylai plentyn gymryd rhan yn y sesiwn

  7. rhoi gwybodaeth i blant am y gweithgareddau sydd wedi eu cynllunio a rhoi'r rheolau sylfaenol iddynt

  8. darparu gwybodaeth am weithdrefnau argyfwng a gofynion iechyd a diogelwch y sefydliad

  9. cadarnhau neu adolygu eich cynlluniau ar gyfer y sesiwn, o ganlyniad i wybodaeth a gasglwyd gan y plant, rhiant neu ofalydd er mwyn sicrhau bod y cyfle gweithgaredd corfforol yn berthnasol i anghenion y plant

11.rhoi esboniadau ac arddangosiadau i'r plant er mwyn sicrhau bod y gweithgareddau yn cael eu cyflawni'n ddiogel a chywir

  1. rhoi cyfarwyddyd, addysgiad a strategaethau cymhellol effeithiol i'r plant er mwyn cyflawni'r sesiwn gweithgaredd corfforol yn ddiogel a chywir

  2. rhoi cyfle i'r plant ofyn cwestiynau ac ymateb i'w hymholiadau

  3. cadw at yr amseriadau sydd wedi eu cynllunio ar gyfer y sesiwn

  4. dilyn y gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol yn ystod y sesiwn

  5. ymateb i berfformiad plant a chynnig dilyniannau neu atchweliadau i wella hyder a chymhelliant er mwyn cyflawni amcanion y sesiwn

  6. rhoi cyfarwyddyd i'r plant er mwyn sicrhau bod sgiliau corfforol cynyddol yn cael eu cyflawni drwy gynnydd mewn gweithgareddau corfforol

  7. arsylwi a rheoli ymddygiad y plant drwy gydol y sesiwn

  8. darparu cyfarwyddyd ac adborth mewn modd cadarnhaol sy'n helpu'r plant i gyflawni eu hamcanion

20. rhoi cyfle i'r plant adfyfyrio am y sesiwn a rhoi adborth er mwyn gwella hunan ymwybyddiaeth a dealltwriaeth

  1. rhoi crynodeb o'r adborth am y sesiwn i'r plant

  2. sicrhau bod y plant yn cael manylion am sesiynau gweithgaredd corfforol yn y dyfodol

  3. gadael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n dderbyniol ar gyfer cael ei defnyddio eto gennych chi a chan eraill

  4. cyfeirio unrhyw faterion sy'n ymwneud â iechyd, diogelwch neu les yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt

  1. amrediad a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd, fel ag y maent yn berthnasol i'ch swydd

  2. egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, niwrogyhyrol, cardiofasgwlar, resbiradol, ynni a threuliol

  3. sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn cynllunio sesiynau diogel ac effeithiol i amrywiaeth o blant

  4. y rhannau o ffitrwydd sy'n ymwneud ag iechyd a sut i gymhwyso'r rheiny i raglen o ymarfer corff i gwrdd ag anghenion y plant

  5. manteision iechyd gweithgaredd corfforol a risgiau diffyg gweithgaredd

  6. y cyngor cyffredinol am fwyta'n iach y gellir ei roi i blant yn seiliedig ar ffynonellau credadwy

  7. ffyrdd o nodi a pharatoi cyfarpar ac amgylcheddau diogel a chywir ar gyfer y sesiwn gweithgaredd corfforol

  8. sut i greu amgylchedd gadarnhaol fydd yn galluogi'r plant i gael yr hyder i gymryd rhan

  9. gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol ar gyfer cofrestru presenoldeb

  10. pam byddech chi'n nodi pobl newydd i gymryd rhan

12. dulliau o sgrinio a chasglu unrhyw wybodaeth newydd yn ymwneud â phlant

13. yr achlysuron hynny pan fyddech yn cynghori rhiant neu ofalydd ynghylch y rhesymau pam na ddylai plentyn gymryd rhan yn y sesiwn 

  1. y manylion fyddech yn eu rhoi i'r plant am y gweithgareddau sydd wedi eu cynllunio

  2. sut i bennu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad

  3. sut i gadarnhau neu adolygu eich cynlluniau ar gyfer y sesiwn fel gall y sawl sy'n cymryd rhan gymryd rhan mewn sesiynau gweithgaredd corfforol

  4. pam y gall fod angen i chi adolygu eich cynlluniau ar gyfer y sesiwn

  5. ffyrdd o ddatblygu a chynnal awyrgylch ysgogol ar gyfer plant o'r grŵp oedran yma

  6. sut i roi esboniadau ac arddangosiadau i'r plant er mwyn sicrhau bod y gweithgareddau yn cael eu cyflawni'n ddiogel a chywir

  7. sut i annog plant o'r grŵp oedran yma

21. gwahanol fathau o ddulliau hyfforddi ac addysgu a sut gellir eu defnyddio i ddiwallu anghenion y plant

  1. pryd i roi cyfle i blant ofyn cwestiynau ac ymateb i'w hymholiadau

  2. sut i gynnal sesiynau ymarfer corff a gweithgaredd corfforol sy'n ddiogel, effeithiol ac yn berthnasol i anghenion y plant

24. ffyrdd o sicrhau sylw ac anogaeth cyfartal i bob plentyn

  1. technegau arsylwi fydd o gymorth gyda monitro diogelwch ac effeithiolrwydd yr ymarfer corff a'r gweithgaredd corfforol

  2. amrywiaeth o wahanol ymarferion corff ac addasiadau, yn cynnwys dilyniannau neu atchweliadau i sicrhau bod gan y plant yr hyder a'r cymheliant i gymryd rhan

  3. ffyrdd o gynyddu gweithgareddau corfforol yn raddol er mwyn sicrhau bod llythrennedd corfforol yn cael ei gyflawni

  4. technegau ar gyfer arsylwi a rheoli ymddygiad plant drwy gydol y sesiwn

  5. pryd i gynnig arweiniad ac adborth er mwyn helpu'r plant i gyflawni eu hamcanion

  6. y dulliau o gael adborth gan blant ac eraill

  7. ffyrdd o roi crynodeb o'ch adborth am y sesiwn i'r plant

  8. pam dylech chi roi'r cyfle i blant i adfyfyrio am y sesiwn a rhoi adborth er mwyn gwella hunan ymwybyddiaeth a dealltwriaeth

  9. pam dylai'r plant gael gwybodaeth am sesiynau yn y dyfodol

  10. ffyrdd o adael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n dderbyniol ar gyfer cael ei defnyddio eto gennych chi a chan eraill

  11. gweithdrefnau penodol ar gyfer adrodd am faterion sydd y tu hwnt i'ch gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Strategaethau Cymhellol

  1. cynhenid
  2. anghynhenid
  3. pennu nodau
  4. anogaethau / gwobrwyon
  5. newid ymddygiad

Amcanion

  1. gwella sgiliau cymdeithasol
  2. annog datblygiad personol
  3. gwella sgiliau a thechnega
  4. darparu cyfleoedd ar gyfer hwyl a mwynhad
  5. gwella iechyd
  6. gwella llythrennedd corfforol

Gwybodaeth Cwmpas

Dulliau

  1. cyfweliad
  2. holiadur
  3. sgrinio geiriol
  4. arsylwad

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Llythrennedd Corfforol

Llythrennedd Corfforol yw'r cymhelliant, yr hyder, y gallu corfforol, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth i werthfawrogi a chymryd cyfrifoldeb dros ymwneud â gweithgareddau corfforol am oes


Dolenni I NOS Eraill

​SKAEAF2, SKAEAF8, SKAEAF20


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAEF12

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Hyfforddwr

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

Hyfforddiant; iechyd; ymarfer corff; gweithgaredd corfforol; plant