Cynllunio gweithgaredd corfforol ac sy’n gysylltiedig â iechyd ar gyfer plant

URN: SKAEAF6
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â chynllunio sesiynau ymarfer corff a gweithgaredd corfforol strwythuredig sy'n gysylltiedig â iechyd ar gyfer plant rhwng 5 ac yn cynnwys 15 oed.

Prif ddeilliannau'r safon yma yw:
1. coladu a dadansoddi gwybodaeth
2. cynllunio ymarfer corff a gweithgaredd corfforol effeithiol a diogel ar gyfer plant

Mae'r safon yma ar gyfer hyfforddwyr, sy'n cynllunio sesiynau ymarfer corff a gweithgaredd corfforol sy'n gysylltiedig ag iechyd ar gyfer plant.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Casglu a dadansoddi gwybodaeth

1. cwrdd â'r sawl sy'n cymryd rhan ar adeg ac mewn man priodol

2. defnyddio dulliau, technegau a sgiliau cyfathrebu priodol er mwyn adeiladu perthynas â'r plant

  1. egluro eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau chi a rhai'r plant

4. rhoi proses o gydsyniad gwybodus ar waith ar gyfer casglu gwybodaeth a rhagnodi ymarfer corff

  1. casglu'r wybodaeth yr ydych ei hangen er mwyn cynllunio sesiynau gweithgaredd corfforol

  2. dadansoddi'r wybodaeth a nodi'r goblygiadau ar gyfer gweithgaredd corfforol

  3. cyfeirio at bobl broffesiynol eraill unrhyw blentyn na ellwch ddiwallu ei anghenion a'i botensial

  4. cadw cyfrinachedd, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol 

Cynllunio ymarfer corff a gweithgaredd corfforol diogel ac effeithiol ar gyfer plant

  1. nodi amcanion sy'n diwallu anghenion a photensial pob plentyn

  2. cynllunio sesiynau diogel ac effeithiol fydd yn galluogi pob plentyn i gymryd rhan a chyflawni'r amcanion sydd wedi eu cynllunio

  3. cynllunio strwythur o ymarfer corff sy'n sicrhau amseriadau a fformatau, diogel, effeithiol a realistig sy'n annog pob plentyn i gymryd rhan

  4. nodi rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad a fydd yn cadw'r risgiau i plant mor isel â phosibl

13. cofnodi eich cynlluniau yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol

14. ceisio cyngor gan bobl broffesiynol eraill ynglŷn â meysydd sydd y tu allan i faes eich gallu chi


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt

2. amrediad a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd, fel ag y maent yn berthnasol i'ch swydd

  1. egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, niwrogyhyrol, cardiofasgwlar, resbiradol, ynni a threuliol

4. sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn cynllunio sesiynau diogel ac effeithiol i amrywiaeth o blant

  1. y rhannau o ffitrwydd sy'n ymwneud ag iechyd a sut i gymhwyso'r rheiny i raglen o ymarfer corff i gwrdd ag anghenion y plant

  2. manteision iechyd gweithgaredd corfforol a risgiau diffyg gweithgaredd

  3. y cyngor cyffredinol am fwyta'n iach gellir ei roi i blant yn seiliedig ar ffynonellau credadwy

  4. pwysigrwydd cwrdd â'r plant ar yr adeg ac yn y man cywir er mwyn darparu lleoliad proffesiynol

9. sut i nodi dulliau, technegau a sgiliau cyfathrebu priodol er mwyn casglu gwybodaeth gan blant ac eraill

  1. pwysigrwydd sefydlu swyddogaethau a chyfrifoldebau ar y cychwyn er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau

11. pryd i geisio cael cydsyniad gwybodus gan riant neu ofalydd ar gyfer sesiynau gweithgaredd corfforol

  1. y mathau o wybodaeth dylech chi ei chasglu er mwyn cefnogi cynllunio sesiynau gweithgaredd corfforol

  2. technegau dadansoddi gwybodaeth

  3. pryd a ble i gyfeirio unrhyw blentyn na ellwch chi ddiwallu ei anghenion a photensial at bobl broffesiynol eraill

  4. technegau pennu amcanion

16. y ffactorau sy'n berthnasol pan ddaw i gynllunio sesiynau

17. pwysigrwydd llythrennedd corfforol a sut i gymhwyso hyn

  1. technegau hyfforddi

  2. technegau sesiwn rheoli ymddygiad

  3. sut i gofnodi eich cynlluniau yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol

  4. pryd a sut i gael cyngor gan bobl broffesiynol eraill pan yn delio â materion sydd y tu allan i faes eich gallu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Gwybodaeth

  1. nod personol
  2. ffordd o fyw
  3. hanes meddygol
  4. hanes gweithgaredd corfforol
  5. hoff ddewisiadau gweithgaredd corfforol
  6. agwedd a chymhelliant i gymryd rhan
  7. lefel ffitrwydd presennol
  8. lefel o barodrwydd
  9. rhwystrau i ymarfer corff

*
*

Amcanion

  1. gwella sgiliau cymdeithasol
  2. annog datblygiad personol
  3. gwella sgiliau a thechnegau
  4. darparu cyfleoedd ar gyfer hwyl a mwynhad
  5. gwella iechyd
  6. gwella llythrennedd corfforol


Gwybodaeth Cwmpas

Dulliau

  1. cyfweliad
  2. holiadur
  3. sgrinio geiriol
  4. arsylwad

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Llythrennedd Corfforol

Llythrennedd Corfforol yw'r cymhelliant, yr hyder, y gallu corfforol, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth i werthfawrogi a chymryd cyfrifoldeb dros ymwneud â gweithgareddau corfforol am oes


Dolenni I NOS Eraill

​SKAEAF2, SKAEAF7, SKAEAF20


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAEF11

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Hyfforddwr

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

Cynllun; gweithgaredd corfforol; iechyd; ymarfer corff; plant