Cyfarwyddo sesiynau ymarfer corff a ffitrwydd
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â chyfarwyddo sesiynau ymarfer corff a ffitrwydd gyda phobl sy'n ymddangos yn iach; yn unigolion ac yn grwpiau bychain.
Prif ddeilliannau'r safon yma yw:
paratoi’r sawl sy’n cymryd rhan a’r amgylchedd ar gyfer y sesiwn ymarfer corff a ffitrwydd
Cyfarwyddo sesiynau ymarfer corff a ffitrwydd i'r sawl sy'n cymryd rhan
3. diweddu ac adfyfyrio am sesiwn ymarfer corff a ffitrwydd
Mae'r safon yma ar gyfer hyfforddwyr sy'n cynllunio sesiynau ymarfer corff o bob math. Enghreifftiau nodweddiadol o'r rhain fydd:
*ymarfer corff mewn campfa
*ymarfer corff mewn grŵp bychan
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. paratoi'r amgylchedd a chi eich hun ar gyfer y sesiwn gweithgaredd corfforol
2. nodi a dewis cyfarpar diogel a chywir ar gyfer y sesiwn ymarfer corff
cwrdd â'r sawl sy'n cymryd rhan ar yr amseroedd a gytunwyd
cyflawni'r broses sgrinio briodol a chasglu unrhyw wybodaeth newydd sy'n ymwneud â pharodrwydd y sawl sy'n cymryd rhan i gymryd rhan yn y sesiwn ymarfer corff
trafod y rhaglen yr ydych wedi cytuno arni gyda'r sawl sy'n cymryd rhan a disgrifio'r gofynion corfforol a thechnegol iddynt
rhoi esboniadau ac arddangosiadau clir am y rhannau o'r ymarfer i'r sawl sy'n cymryd rhan
rhoi cyfarwyddyd, addysgiad a strategaethau cymhellol **effeithiol i'r sawl sy'n cymryd rhan er mwyn cyflawni'r sesiwn gweithgaredd corfforol yn ddiogel ac yn effeithiol
gwirio dealltwriaeth y sawl sy'n cymryd rhan o'r cyfarwyddiadau a rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau
monitro dwysedd a thechneg yr ymarfer sydd wedi ei ddewis gan ddefnyddio dulliau priodol ar gyfer yr elfen ymarfer corff
10. adolygu perfformiad y sawl sy'n cymryd rhan a chynnig dilyniannau, atchweliadau a dewisiadau amgen addas mewn ymateb i'w hanghenion
cadw at yr amseriadau sydd wedi eu cynllunio ar gyfer yr ymarfer
rhoi cyfle i'r sawl sy'n cymryd rhan i adfyfyrio am y sesiwn a rhoi adborth
rhoi crynodeb o'ch adborth am y sesiwn i'r sawl sy'n cymryd rhan
sicrhau bod y sawl sy'n cymryd rhan yn cael manylion am sesiynau gweithgaredd corfforol yn y dyfodol
gadael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n dderbyniol ar gyfer cael ei defnyddio eto gennych chi a chan eraill
cyfeirio unrhyw faterion sy'n ymwneud â iechyd, diogelwch neu les yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt
amrediad a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd, fel ag y maent yn berthnasol i'ch swydd
egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, niwrogyhyrol, cardiofasgwlar, resbiradol, ynni a threuliol
sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn cynllunio sesiynau diogel ac effeithiol i amrywiaeth o bobl sy'n cymryd rhan
y rhannau o ffitrwydd sy'n ymwneud ag iechyd a sut i gymhwyso'r rheiny i raglen o ymarfer corff i gwrdd ag anghenion y sawl sy'n cymryd rhan gyda chi
manteision iechyd gweithgaredd corfforol a risgiau diffyg gweithgaredd
y cyngor cyffredinol am fwyta'n iach ellir ei roi i blant yn seiliedig ar ffynonellau credadwy
8. ffyrdd o nodi a pharatoi cyfarpar ac amgylcheddau diogel a chywir ar gyfer y sesiwn gweithgaredd corfforol
ffyrdd o drefnu'r amgylchedd er mwyn galluogi perfformiad ymarfer corff diogel
y gweithdrefnau cywir ar gyfer edrych ar gyfarpar a delio gydag unrhyw eitemau sy'n anniogel
pam dylech chi gwrdd â'r sawl sy'n cymryd rhan yn brydlon a gwneud iddynt deimlo bod croeso iddynt
dulliau o sgrinio a chasglu unrhyw wybodaeth newydd yn ymwneud â pharodrwydd y sawl sy'n cymryd rhan ar gyfer y sesiwn ymarfer corff
13. pryd i gadarnhau neu adolygu'r rhaglen a gytunwyd yn seiliedig ar unrhyw wybodaeth newydd sydd wedi ei derbyn gan y sawl sy'n cymryd rhan
ffyrdd o egluro gofynion corfforol a thechnegol y sesiwn i'r sawl sy'n cymryd rhan
ffyrdd o ddarparu esboniadau ac arddangosiadau sy'n ymwneud ag anghenion y sawl sy'n cymryd rhan a lefel eu profiad
pam dylech chi wirio dealltwriaeth y sawl sy'n cymryd rhan o gyfarwyddiadau a rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau
dulliau o fonitro dwysedd a thechneg yr ymarferion sydd wedi eu dewis
18. sut i sicrhau bod y sawl sy'n cymryd rhan yn gwneud ymarferion mewn modd diogel ac effeithiol
19. gwahanol fathau o ddulliau hyfforddi ac addysgu a sut gellir eu defnyddio i ddiwallu anghenion y sawl sy'n cymryd rhan
ffyrdd o adolygu perfformiad y sawl sy'n cymryd rhan a phryd i gynnig dilyniannau ac atchweliadau addas mewn ymateb i'w hanghanion
ffyrdd o asesu a oes gan rywun sy'n cymryd rhan anghenion y tu allan i faes eich gallu chi a sut i gyfeirio at bobl broffesiyniol eraill
diben gadael digon o amser i ddiweddu'r sesiwn, ar sail lefel profiad y sawl sy'n cymryd rhan
y dulliau o gasglu adborth gan y sawl sy'n cymryd rhan ac eraill
ffyrdd o roi crynodeb o'ch adborth am y sesiwn i'r sawl sy'n cymryd rhan
pam dylai'r sawl sy'n cymryd rhan gael gwybodaeth am sesiynau yn y dyfodol
ffyrdd o adael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n dderbyniol ar gyfer cael ei defnyddio eto gennych chi a chan eraill
gweithdrefnau penodol ar gyfer adrodd am faterion sydd y tu hwnt i'ch gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Cyfarpar:
- cardiofasgiwlaidd
- gwrthiant sefydlog
- pwysau rhydd
- cludadwy
- cyfarpar ymarfer swyddogaethol
Dulliau
- cyfweliad
- holiadur
- sgrinio geiriol
- arsylwad
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKAEAF2, SKAEAF4, SKAEAF20