Cynllunio sesiynau ymarfer corff a ffitrwydd
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â chynnal ymgynghoriadau a chynllunio sesiynau ymarfer corff a ffitrwydd gyda phobl sy'n ymddangos yn iach, yn unigolion ac yn grwpiau bychain.
Prif ddeilliannau'r safon yma yw:
1. Casglu a dadansoddi gwybodaeth
2. Cynllunio sesiynau ymarfer corff a ffitrwydd diogel ac effeithiol gyda'r sawl sy'n cymryd rhan
Mae'r safon yma ar gyfer hyfforddwyr sy'n cynllunio sesiynau ymarfer corff o bob math. Enghreifftiau nodweddiadol o'r rhain fydd:
ymarfer corff mewn campfa
ymarfer corff mewn grŵp bychan
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Casglu a dadansoddi gwybodaeth
1. cwrdd â'r sawl sy'n cymryd rhan ar adeg ac mewn man priodol
defnyddio dulliau, technegau a sgiliau cyfathrebu priodol er mwyn adeiladu perthynas â'r sawl sy'n cymryd rhan
egluro eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau chi a rhai'r sawl sy'n cymryd rhan
rhoi proses o gydsyniad gwybodus ar waith ar gyfer casglu gwybodaeth a rhagnodi ymarfer corff
casglu gwybodaeth berthnasol gan y sawl sy'n cymryd rhan
dadansoddi'r wybodaeth a nodi'r goblygiadau ar gyfer ymarfer corff
rhoi cyngor ac arweiniad priodol i'r sawl sy'n cymryd rhan fel ymateb i'r wybodaeth a gasglwyd
cyfeirio at bobl broffesiynol eraill unrhyw rai sy'n cymryd rhan na ellwch ddiwallu eu hanghenion a'u potensial
nodi a chytuno ar nodau sy'n diwallu anghenion a photensial y sawl sy'n cymryd rhan
nodi technolegau y gellir eu defnyddio i symbylu'r sawl sy'n cymryd rhan
nodi a chytuno ar bwyntiau adolygu gyda'r sawl sy'n cymryd rhan gyda chi
cofnodi gwybodaeth am yr unigolyn sy'n cymryd rhan mewn modd priodol
cadw cyfrinachedd, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol
Cynllunio ymarfer corff a gweithgaredd corfforol diogel gyda'r sawl sy'n cymryd rhan
nodi unrhyw beryglon ac asesu'r risg mae'r peryglon hyn yn eu hachosi
cynllunio sut byddwch yn cadw'r risgiau hyn mor isel â phosibl
ceisio cyngor gan bobl broffesiynol eraill ynglŷn â meysydd sydd y tu allan i faes eich gallu chi
cynllunio strwythur o ymarfer corff sy'n sicrhau amseriadau a fformatau, diogel, effeithiol a realistig
cynllunio addasiadau, newidiadau a dilyniannau i gwrdd ag anghenion y sawl sy'n cymryd rhan
cofnodi eich cynlluniau yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y ddeddfwriaeth canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolaucyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt
amrediad a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd, fel ag y maent yn berthnasol i'ch swydd
egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, niwrogyhyrol, cardiofasgwlar, resbiradol, ynni a threuliol
sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn cynllunio sesiynau diogel ac effeithiol i amrywiaeth o bobl sy'n cymryd rhan
y rhannau o ffitrwydd sy'n ymwneud ag iechyd a sut i gymhwyso'r rheiny i raglen o ymarfer corff i gwrdd ag anghenion y bobl sy'n cymryd rhan gyda chi
manteision iechyd gweithgaredd corfforol a risgiau diffyg gweithgaredd
y cyngor cyffredinol am fwyta'n iach y gellir ei roi i'r sawl sy'n cymryd rhan yn seiliedig ar ffynonellau credadwy
pwysigrwydd cwrdd â'r sawl sy'n cymryd rhan ar yr adeg ac yn y man cywir er mwyn darparu lleoliad proffesiynol
sut i nodi dulliau, technegau a sgiliau cyfathrebu priodol er mwyn casglu gwybodaeth gan y sawl sy'n cymryd rhan
pwysigrwydd sefydlu swyddogaethau a chyfrifoldebau ar y cychwyn er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau
pryd a sut i geisio cael cydsyniad gwybodus sy'n briodol ar gyfer y sesiwn ymarfer corff
y mathau o wybodaeth dylech chi ei chasglu er mwyn cefnogi cynllunio sesiynau gweithgaredd corfforol
y goblygiadau gall y canfyddiadau eu cael ar gynllunio a pharatoi ymarfer corff
technegau pennu amcanion
y ffactorau sy'n berthnasol pan ddaw i gynllunio sesiynau
y cyfarpar sydd ar gael ar gyfer y sesiwn a sut i'w ddefnyddio'n ddiogel
17. yr amrywiaeth o wahanol dechnolegau all symbylu'r sawl sy'n cymryd rhan
pwysigrwydd nodi a chytuno ar bwyntiau adolygu gyda'r sawl sy'n cymryd rhan
ffyrdd o nodi unrhyw beryglon ac asesu'r risg o'r peryglon hyn o achosi niwed
20. pryd a sut i gael cyngor gan bobl broffesiynol eraill ynglŷn â meysydd sydd y tu allan i faes eich gallu chi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth
- nodau personol
- ffordd o fyw
- hanes meddygol
- hanes gweithgaredd corfforol
- hoff ddewisiadau gweithgaredd corfforol
- agwedd a chymhelliant i gymryd rhan
- lefel ffitrwydd presennol
- lefel parodrwydd
- rhwystrau i ymarfer corff
Gwybodaeth Cwmpas
Dulliau**1.cyfweliad2.holiadur3.sgrinio geiriol4. arsylwad
Cyfarpar:
- cardiofasgiwlaidd
- gwrthiant sefydlog
- pwysau rhydd
- cludadwy
- cyfarpar ymarfer swyddogaethol
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKAEAF2, SKAEAF5, SKAEAF20.