Cynllunio, marchnata a gwerthu gwasanaethau mewn amgylcheddau hamdden gweithgar
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud ag unigolion sy'n gweithio'n llawrydd neu mewn cyd destun lle mae disgwyl iddynt gynhyrchu busnes o fewn diwydiant hamdden gweithgar, ac felly angen mwy na sgiliau technegol yn unig.
Prif ddeilliannau'r safon yma yw:
1. cynllunio eich strategaeth marchnata a gwerthiant
2. hyrwyddo eich gwasanaethau
3. gwerthu eich gwasanaethau yn uniongyrchol i unigolion
4. dilyn ymholiadau marchnata ac unigol
Mae'r safon yma ar gyfer unigolion llawrydd neu staff cyflogedig sy'n gorfod marchnata a gwerthu eu gwasanaethau i ddarpar unigolion yn yr amgylchedd hamdden gweithgar.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
C*ynllunio eich strategaeth marchnata a gwerthiant*
cynllunio eich strategaeth marchnata a gwerthiant
ymchwilio i'r *farchnad *am eich cynnyrch
nodi gwasanaethau fydd yn ddeniadol i unigolion a/neu sefydliadau
costio gwasanaethau ar lefel fydd yn fforddiadwy i unigolion a/neu sefydliadau
profi'r gwasanaethau hyn gydag unigolion a/neu sefydliadau
6. ceisio adborth gan unigolion a/neu sefydliadau
7. pennu targedau gwerthiant CAMPUS (cyraeddadwy, amser wedi ei bennu, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol a synhwyrol)
8. sefydlu amcanion a thargedau gwerthiant
Hyrwyddo eich gwasanaeth
nodi a thargedu unigolion a/neu sefydliadau gan ddefnyddio detholiad o ddulliau
cyflwyno eich gwasanaethau fel eu bod yn ddeniadol i unigolion a/neu sefydliadau
gwneud yn siwr bod unigolion a/neu sefydliadau yn cael eu gwneud yn ymwybodol o'ch gwasanaethau
hyrwyddo gwerth a manteision eich gwasanaethau
monitro effeithiolrwydd eich strategaeth marchnata a gwerthiant
gwerthuso eich strategaeth marchnata a gwerthiant a gwneud gwelliannau
Gwerthu eich gwasanaethau'n uniongyrchol i unigolion
ymgymryd â gwerthu rhagweithiol
cynnig a chytuno ar wasanaeth sy'n diwallu anghenion y ddwy ochr
cytuno ar delerau gyda'r unigolyn a/neu'r sefydliad
gwneud yn siwr bod yr unigolyn a/neu'r sefydliad yn fodlon â'r gwerthiant
cwblhau dogfennau yn unol â gofynion cyfundrefnol
Dilyn ymholiadau marchnata ac unigol 20. dilyn ymholiadau marchnata ac unigol 21. datblygu system reolaeth gwasanaeth unigol 22. cadw'r system reolaeth gwasanaeth unigol wedi ei diweddaru cadw mewn cysylltiad rheolaidd ag unigolion a/neu sefydliadau sy'n bodoli eisoes adnabod cyfleoedd i ddod o hyd i fusnes newydd dilyn yr holl weithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynllunio eich strategaeth marchnata a gwerthiant
1. sut i ymchwilio i'r farchnad am eich gwasanaethau
2. sut i nodi gwasanaethau sy'n bodoli eisoes a rhai newydd fydd yn ddeniadol i unigolion a/neu sefydliadau
sut i gostio gwasanaethau ar lefel fydd yn fforddiadwy i unigolion a/neu sefydliadau
dulliau o brofi gwasanaethau
sut i ddatblygu targedau gwerthiant CAMPUS (cyraeddadwy, amser wedi ei bennu, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol a synhwyrol)
ffyrdd o werthuso effeithiolrwydd eich strategaeth marchnata a gwerthiant.
sut i gyflwyno cynllun o'ch gwasanaeth marchnata a gwerthiant
Hyrwyddo eich gwasanaeth
dulliau o nodi a thargedu unigolion a/neu sefydliadau
ffyrdd o gyflwyno eich gwasanaethau **fel eu bod yn ddeniadol i unigolion a/neu sefydliadau
sut i sicrhau bod unigolion a/neu sefydliadau ym ymwybodol o'ch gwasanaethau
sut i argyhoeddi unigolion a/neu sefydliadau o werth a manteision eich gwasanaethau
systemau ar gyfer tracio marchnata a gwerthiant
ffyrdd o gymharu targedau
ffyrdd o werthuso eich strategaeth marchnata a gwerthiant
Gwerthu eich gwasanaethau'n uniongyrchol i unigolion
gwahanol dechnegau gwerthu
sut i gynnig a chytuno ar wasanaeth sy'n diwallu anghenion y ddwy ochr
pam ei bod yn bwysig cytuno ar delerau ac amodau gydag unigolyn a/neu sefydliad cyn gwerthiant
sut i sicrhau bod yr unigolyn a/neu'r sefydliad yn fodlon â'r gwerthiant
sut i gwblhau dogfennau yn unol â gofynion cyfundrefnol
Dilyn ymholiadau marchnata ac unigol
nodweddion system reolaeth gwasanaeth unigol sydd wedi ei diweddaru
sut i gadw system reolaeth gwasanaeth unigol wedi ei diweddaru
sut i gadw mewn cysylltiad rheolaidd ag unigolion sy'n bodoli eisoes
sut i ddod o hyd i fusnes newydd
y ddeddfwriaeth canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Ymchwil
- tueddiadau sy'n bodoli yn y diwydiant a rhai newydd
- dadansoddi eich cryfderau a'ch gwendidau eich hun
- nodi eich cystadleuwyr
- dadansoddi cryfderau a gwendidau eich cystadleuwyr
- nodi'r mathau o unigolion a/neu sefydliadau all fod â diddordeb yn eich gwasanaethau
- nodi'r manteision mae unigolion a/neu sefydliadau yn edrych amdanynt
*
*Dulliau
- yn bersonol
- drwy bobl eraill
- drwy ddeunyddiau hysbysebu
- drwy gyfryngau cymdeithasol
Cyflwyno eich gwasanaethau
- siarad â phobl yn uniongyrchol
- defnyddio deunyddiau printiedig
- yn electronig
- drwy'r cyfryngau cymdeithasol
Gwybodaeth Cwmpas
Systemau tracio
- llaw neu wedi hysgrifennu mewn llaw
- wedi eu seilio ar Dechnoleg Gwybodaeth
Technegau gwerthu
- adweitheddol
- rhagweithiol
System reolaeth gwasanaeth unigol
- rhai parod i'w defnyddio
- rhai wedi eu llunio'n bwrpasol
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
System reolaeth gwasanaeth unigol
System sy'n sicrhau bod cofnodion cwsmeriaid yn cael eu cadw mewn fformat y gellir ei reoli a chael ato'n rhwydd, sy'n eich galluogi i adeiladu gwell perthynas â chwsmeriaid.
Gwerthu Rhagweithiol
Fe'i gelwir hefyd yn werthu 'gweithredol'. Cymryd y cam cyntaf a gweithredu'n gyntaf, yn hytrach nag ymateb i ddigwyddiadau a sefyllfaoedd allanol yw gwerthu rhagweithiol,. Golyga gymryd rheolaeth o'r holl broses werthu o'r cychwyn cyntaf hyd at ei chwblhau.
Dolenni I NOS Eraill
SKAODP3