Gwerthuso eich anghenion datblygu personol a phroffesiynol eich hun
URN: SKAEAF21
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored,Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â gwerthuso eich anghenion datblygiad personol a phroffesiynol. Bydd gofyn i chi ddangos eich bod yn gallu trafod a chytuno ar amcanion gwaith personol a phroffesiynol gyda'r sawl yr ydych yn adrodd iddynt. Byddwch hefyd yn ymgymryd â gweithgareddau datblygiad yn unol â'ch amcanion personol a chyfundrefnol.
Mae'r safon yma ar gyfer yr holl staff sy'n gweithio mewn iechyd a ffitrwydd, chwaraeon ac amgylcheddau gweithgaredd awyr agored.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gwerthuso gofynion cyfredol eich swydd a’r gofynion yn y dyfodol rhwng ysbeidiau rheolaidd gan gymryd amcanion eich sefydliad i ystyriaeth
2. nodi gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch swydd a’ch datblygiad proffesiynol
3. nodi unrhyw fylchau rhwng gofynion eich swydd a’ch gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau cyfredol
4. rhannu eich casgliadau ag eraill, gan gymryd eu hadborth i ystyriaeth
5. datblygu cynllun datblygiad personol all eich helpu i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau yn eich gwybodaeth, sgiliau, ymddygiadau a chefnogi eich gyrfa a’ch nodau personol eich hun.
6. ymgymryd â’r gweithgareddau a nodir yn eich cynllun datblygiad
7. gwerthuso gydag eraill i ba raddau mae eich gweithgareddau datblygiad wedi cwrdd â’ch anghenion datblygiad cyfundrefnol a’ch rhai chi eich hunain
8. adolygu a diweddaru eich cynllun datblygiad ar sail eich perfformiad ac anghenion datblygiad pellach
9. cynnal eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt
2. egwyddorion ymgymryd â datblygiad proffesiynol
3. pwysigrwydd cymryd amcanion eich sefydliad i ystyriaeth pan yn gwerthuso eich perfformiad
4. sut i ddadansoddi eich swydd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a nodi unrhyw fylchau rhwng y gofynion hyn a’ch gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau
5. pryd i drafod eich gwaith gydag eraill a chymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth
6. sut i nodi amcanion CAMPUS (cyraeddadwy, amser wedi ei bennu, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol a synhwyrol)
7. sut i lunio cynllun datblygiad effeithiol a’i roi ar waith
8. y mathau o weithgareddau datblygiad sydd ar gael i chi
9. sut i ddadansoddi i ba raddau mae eich gweithgareddau datblygiad wedi cyfrannu tuag at eich amcanion yn gyffredinol
10. sut i adolygu a diweddaru eich cynllun datblygiad yng ngoleuni eich perfformiad
11. pwysigrwydd ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus a chadw at hynny
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Datblygiad Proffesiynol Parhaus
*
*
*
1. gweithdai
2. darllen
3. cynadleddau
4. darlithoedd
5. arlein
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKAEAF20
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
SkillsActive
URN gwreiddiol
SKAEAF21
Galwedigaethau Perthnasol
Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Cyfarwyddwr; , Hyfforddwr
Cod SOC
6211
Geiriau Allweddol
gwerthuso; datblygiad; adolygiad; datblygiad proffesiynol