Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â pha mor bwysig yw hi i hyffroddwyr werthuso rhaglenni ymarfer corff a gweithgaredd corfforol, asesu pa mor effeithiol maent wedi bod i'r sawl sy'n cymryd rhan a sut i ddysgu gwersi ar gyfer arfer yn y dyfodol.
Prif ddeilliannau'r safon yma yw:
1. cysylltu â'r sawl sy'n cymryd rhan er mwyn gwerthuso rhaglenni ymarfer corff a gweithgaredd corfforol
2. nodi gwersi ar gyfer gwella arfer proffesiynol
Mae'r safon yma ar gyfer hyfforddwyr personol a phobl broffesiynol eraill ym meysydd ymarfer corff a ffitrwydd, sy'n cynllunio, cynnal ac adolygu rhaglenni i gwrdd â nodau tymor byr, tymor canolig a thymor hir.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gwerthuso gwybodaeth ynglŷn â chynnydd tuag at amcanion a nodau a ddymunir
2. gwerthuso gwybodaeth ynglŷn ag addasiadau i’r rhaglen
3. gwerthuso gwybodaeth ynglŷn â chydymffurfiad y sawl sy’n cymryd rhan gyda’r rhaglen
4. casglu adborth strwythuredig gan y sawl sy’n cymryd rhan
5. dadansoddi gwybodaeth ac adborth sydd ar gael
6. dod i gasgliadau rhagarweiniol am effeithiolrwydd y rhaglen
7. trafod casgliadau rhagarweiniol gyda’r sawl sy’n cymryd rhan, gan gymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth
8. nodi llwyddiant cymharol pob *rhan o’r rhaglen *
9. nodi sut gellir gwella rhannau o’r rhaglen
10. rhannu eich casgliadau ag eraill, gan gymryd eu hadborth i ystyriaeth
11. gwneud ymchwil a datblygiad pellach i wella rhannau o’r rhaglen
12. gwenud argymhellion ar gyfer gwella ymarfer yn y dyfodol
13. adolygu eich ymarfer proffesiynol eich hun a nodi gwersi a ddysgwyd er mwyn eu hymgorffori i’ch cynllun datblygiad personol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and
understand:
1. dulliau o werthuso rhaglenni gweithgaredd corfforol blaengar
2. y wybodaeth sydd ei hangen i werthuso rhaglenni gweithgaredd corfforol
3. sut i werthuso cynnydd y sawl sy’n cymryd rhan a’u hymlyniad at nodau
4. sut i fesur effeithiolrwydd yr addasiadau i’r rhaglen
5. dulliau o gael adborth strwythuredig gan y sawl sy’n cymryd rhan
6. sut i ddadansoddi gwybodaeth a dod i gasgliadau ynglŷn ag effeithiolrwydd y rhaglen
7. pam byddai casgliadau rhagarweiniol yn cael eu trafod gyda’r sawl sy’n cymryd rhan
8. pam bod gwelliant parhaus yn bwysig i bobl broffesiynol ym meysydd ymarfer corff a ffitrwydd
9. ffyrdd o benderfynu llwyddiant cymharol pob rhan o’r rhaglen
10. pryd a sut i flaenoriaethu pa rannau o’r rhaglen i weithio arnynt
11. pam dylech chi rannu eich casgliadau ag eraill
12. ble i gael gafael ar wybodaeth i wella rhannau o’r rhaglen
13. sut i wneud argymhellion ar gyfer ymarfer yn y dyfodol
14. sut i ddatblygu cynllun datblygu personol
Cwmpas Perfformiad
Amcanion
*
1. tymor by
2. tymor canolig
3. tymor hir
Rhan o’r rhaglen
*
1. casglu gwybodaeth
2. cynllunio
3. detholiad o weithgareddau a’u strwythur
4. rheolaeth o’r rhaglen
5. monitro’r rhaglen
6. addasu a chynnydd y rhaglen
7. y sawl sy’n cymryd rhan
8. cymhelliant a chydymffurfiad y sawl sy’n cymryd rhan
9. boddhad i’r sawl sy’n cymryd rhan
Gwybodaeth Cwmpas
Dulliau
*
*
1. cyfweliad
2. holiadur
3. arsylwad
4. asesiad corfforol/ffitrwydd
5. defnydd o dechnoleg gwybodaeth
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfarwyddwr, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Hyfforddwr
Geiriau Allweddol
Gwerthuso; datblygiad; adolygiad; gweithgaredd corfforol; ymarfer corff;