Datblygu a chynnal gwasanaeth cwsmer effeithiol o fewn amgylcheddau hamdden gweithgar

URN: SKAEAF2
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon yma'n ymwneud â darparu lefel da o wasanaeth cwsmer o fewn amgylcheddau hamdden

Mae gan y safon yma 2 brif ddeilliant

1. ymgysylltu â chwsmeriaid

2. rheoli adborth cwsmeriaid

Mae'r safon yma wedi ei anelu at staff sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda chwsmeriaid mewn amryw sefyllfaoedd lle mae nhw'n wynebu cwsmeriaid. Cofiwch bod cwsmeriaid yn cynnwys pawb yr ydych yn darparu gwasanaeth ar eu cyfer y tu fewn a'r y tu allan i'r sefydliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Ymgysylltu â*'r cwsmeriaid*

1. cyfleu delwedd broffesiynol a pharchus pan yn ymgysylltu â'ch cwsmeriaid

  1. bod yn y man cywir ar yr adeg gywir er mwyn rhoi argraff dda a darparu gwasanaeth cwsmer da

3. cynnig amgylchedd gadarnhaol a chefnogol i'r holl gwsmeriaid sy'n hybu eu iechyd a'u lles

4. cynnal sgwrs gyda'ch cwsmer sy'n sefydlu cydberthynas ac sy'n canolbwyntio ar anghenion y cwsmer

5. canolbwyntio ar eich cwsmer a gwrando'n ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn casglu pob gwybodaeth bosibl yr ydych ei hangen o'r sgwrs

  1. canolbwyntio eich sylw ar y cwsmer fel nad yw arwyddion di-eiriau yn datgelu diffyg diddordeb, diflastod neu flinder

  2. addasu eich cyfathrebu i gwrdd ag anghenion unigol eich cwsmer

  3. darparu gwybodaeth glir am gynnydd cyfredol a gorchestion eich cwsmeriaid

  4. egluro eich gwasanaethau a/neu eich cynnyrch a sut bydd hyn yn cefnogi anghenion eich cwsmeriaid ar gyfer y dyfodol gan gymryd i ystyriaeth unrhyw wasanaethau a/neu gynnyrch all fod angen eu cynnwys

10. bod yn rhagweithiol i adnabod a delio gyda phroblemau posibl all wynebu eich cwsmeriaid a dod â phobl eraill i mewn pan fo angen

Rheoli adborth cwsmeriaid

  1. pan fod rhywbeth yn bwnc o bwys o safbwynt y cwsmer

12. cydnabod adborth y cwsmeriaid ac ymddiheuro am unrhyw anhwylustod os yn briodol

  1. tawelu eu meddyliau y byddwch yn delio ag ef eich hun neu yn ei gyfeirio at unigolyn priodol

  2. delio ag unrhyw gwyn mewn modd sydyn a phwyllog, gan ddilyn gweithdrefnau eich sefydliad

  3. adrodd i'r unigolyn priodol am gymorth os na ellwch ddelio â'r cwyn eich hun

16. cadw'r cwsmer yn hysbys

17. cymryd perchnogaeth o’r gwyn a sicrhau bod rhywun wedi delio â hi’n effeithiol a bod y cwsmer yn fodlon â’r canlyniad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Ymgyslltu â chwsmeriaid

  1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt

  2. pwysigrwydd gofal cwsmer da i chi a'ch sefydliad

  3. pwysigrwydd gwerthoedd a chanllawiau cyfundrefnol a sut i ddilyn y rhain.

  4. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwisgo ac ymddangosiad a pham mae'r rhain yn bwysig

  5. sut i wneud argraff gyntaf dda ar y cwsmer a pham mae hyn yn bwysig

  6. pam ei bod yn bwysig bod cwsmeriaid yn teimlo eich bod yn gweithio'n galed i roi gwasanaeth ardderchog iddynt

  7. pam bod prydlondeb da a gwneud yn siwr eich bod ymhle disgwylir i chi fod yn bwysig o ran rhoi gwasanaeth cwsmer ardderchog

  8. ffyrdd i chi adeiladu cefnogaeth gymdeithasol a chynhwysiant o fewn eich amgylchedd

  9. pwysigrwydd hyrwyddo iechyd a lles fel angen sylfaenol i bob cwsmer

  10. pam ei bod yn bwysig cadw eich ffocws ar y cwsmer a'i anghenion

  11. egwyddorion iaith y corff sy'n eich galluogi i ddehongli teimladau'r cwsmer heb gyfathrebu geiriol

  12. pam bydd disgwyliadau ac ymddygiad cwsmeriaid unigol yn gofyn am ymatebion gwahanol er mwyn creu cydberthynas a sicrhau boddhad i'r cwsmer

  13. sut i ddarparu gwybodaeth gywir am gynnydd cyfredol a gorchestion eich cwsmer a sut bydd hyn yn dylanwadu ar anghenion yn y dyfodol

  14. y prif gynnyrch a/neu wasanaethau a gynigir yn eich sefydliad

  15. sut gall gwahanol gynnyrch a/neu wasanaethau fod o fudd i anghenion penodol neu ddiddordeb cwsmeriaid

  16. sut i osod esiampl dda i'ch cwsmeriaid o ran ffordd o fyw iach a gweithgar 

Rheoli adborth cwsmeriaid

  1. sut i ddelio â chwsmeriaid anodd mewn modd proffesiynol ac yn unol â pholisi gwasanaeth cwsmer y sefydliad

  2. pam ei bod yn bwysig gweld unrhyw gwyn o safbwynt y cwsmer, cydnabod y gwyn ac ymddiheuro i'r cwsmer os yw hynny'n briodol

  3. y mathau o adborth gall cwsmeriaid ei gynnig a sut i ddelio â'r rhain eich hun

  4. amrediad a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd, fel ag y maent yn berthnasol i'ch swydd

  5. y mathau o adborth gan gwsmeriaid y dylech chi ei basio ymlaen i unigolyn priodol a phwy ddylai hwn fod

  6. sefyllfaoedd lle mae'n bwysig egluro i'r cwsmer beth sydd wedi achosi'r mater y mae wedi cwyno amdano

  7. pam ei bod yn bwysig gadael i'r cwsmer wybod beth sy'n digwydd a faint o amser gymer i ddatrys ei gwyn

  8. pam ei bod yn bwysig gwneud yn siwr bod y cwsmer yn fodlon â'r hyn yr ydych wedi ei wneud

  9. sut gall adrodd am adborth gan gwsmeriaid fod o gymorth i wella gofal o'r cwsmer yn y dyfodol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Cwsmeriaid:

  1. mewnol i'ch sefydliad
  2. allanol i'ch sefydliad
  3. cwsmeriaid newydd
  4. cwsmeriaid rheolaidd
  5. rhai ag anghenion penodol
  6. rhai ag anghenion arferfol
  7. rhai ag anghenion anarferfol

Di-Eiriau:

  1. safle corfforol
  2. arwyddion
  3. mynegiant ar yr wyneb
  4. ystumiau
  5. cyswllt llygaid

Cyfathrebu:

  1. wyneb yn wyneb
  2. teleffon
  3. e-bost
  4. cyfryngau cymdeithasol
  5. digwyddiadau cymdeithasol
  6. cyflwyniadau fideo neu fyw
  7. cylchlythyrau



Gwybodaeth Cwmpas

Adborth:**

  1. gyda chynnyrch
  2. gyda gwasanaeth
  3. cyfathrebu
  4. ymddygiad eraill
  5. digwyddiadau/damweiniau

Unigolyn priodol:

  1. yn gweithio mewn adran wahanol
  2. cydweithwyr ar lefel uwch
  3. yn gweithio'n allanol


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cwsmeriaid

Unigolion, grwpiau neu gwmni sy'n prynu nwyddau neu wasanaeth. Mae cwsmeriaid hefyd yn rai sy'n fewnol i'ch sefydliad.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAEAF2

Galwedigaethau Perthnasol

Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Hamdden, Hyfforddwr, Rheolwr Cyfleusterau

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

gwasanaeth cwsmer; gweithgar; hamdden; cyfathrebu;