Darparu ymarfer corff a rhaglenni gweithgaredd corfforol ar gyfer cleientiaid sydd â chyflyrau meddygol
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â darparu rhaglenni ymarfer corff a gweithgaredd corfforol i gwrdd ag anghenion cleientiaid sydd ag amrywiaeth o gyflyrau meddygol. Mae hyn yn debygol o ddilyn o ymgynghoriad cychwynnol, casglu gwybodaeth a llunio rhaglen.
Bydd disgwyl i rywun proffesiynol ym maes ymarfer corff a ffitrwydd ddarparu rhaglenni ymarfer corff a gweithgaredd corfforol effeithiol sy'n cwrdd ag anghenion cleientiaid sydd ag amrywiaeth o gyflyrau meddygol.
Fel arfer byddant yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol ond efallai o dan gyfarwyddyd ffisiotherapydd, Swyddog Meddygol neu Feddyg Teulu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. paratoi'r amgylchedd a chi eich hun, yn barod ar gyfer darparu'r ymarfer a'r rhaglen gweithgaredd corfforol
nodi a dewis cyfarpar ac adnoddau diogel a chywir ar gyfer yr ymarfer a'r sesiwn gweithgaredd corfforol
cwrdd â'r cleientiaid ar yr amseroedd a gytunwyd
rheoli'r risg i gleientiaid drwy gydol yr ymarferiad a'r rhagalen gweithgaredd corfforol
casglu unrhyw wybodaeth newydd gan y cleientiaid ynglŷn â'u hymateb i sesiynau hyfforddi personol blaenorol a/neu eu lles yn gyffredinol
egluro i'r cleientiaid sut mae'r sesiwn sydd wedi ei chynllunio yn cysylltu â'u nodau
egluro gofynion corfforol a thechnegol yr ymarfer a gynlluniwyd a/neu weithgareddau corfforol
8. rheoli risg i gleientiaid drwy gydol y rhaglen
9. gwneud yn siwr bod yna gydbwysedd o hyfforddiant, gweithgaredd a thrafodaeth o fewn y sesiwn a gynlluniwyd
cefnogi ymwneud y cleient i hybu newid parhaus mewn lefelau gweithgaredd corfforol
defnyddio technegau newid ymddygiad i addasu darpariaeth o'r ymarferiad a'r sesiwn gweithgaredd corfforol
cyfarwyddo'r cleient i wneud ymarferion gyda thechnegau cywir
cyfathrebu â chleientiaid mewn modd a dull sy'n briodol i'w hoff ddewis a'u hanghenion
cynnig strategaethau cymhellol addas i'r cleientiaid yn ystod y sesiwn
arsylwi a dadansoddi perfformiad y cleientiaid a nodi strategaethau dilys er mwyn gwella technegau'r cleientiaid
cynnig atgyfnerthiad cadarnhaol o berfformiad ymarfer corff cywir er mwyn adeiladu hunan-hyder
monitro'r amgylchedd ymarfer corff er mwyn sicrhau bod y cleientiaid yn ddiogel a chyfforddus
negodi, cytuno a chofnodi gyda chleientiaid unrhyw newidiadau i'r ymarferion a/neu weithgareddau corfforol
gadael digon o amser ar gyfer rhan olaf y sesiwn
rhoi adborth i gleientiaid am eu perfformiad
egluro i gleientiaid sut mae eu cynnydd yn cysylltu â'u nodau tymor byr, tymor canolig a thymor hir
22. rhoi cyfle i gleientiaid ofyn cwestiynau am y sesiwn
23. trafod gweithgareddau posibl eraill a newidiadau ymddygiad gyda chleientiaid all fod o gymorth iddynt gyflawni eu hamcanion
cyfeirio cleientiaid ymlaen at bobl broffesiynol eraill ym meysydd ffitrwydd a gofal iechyd pam fo'u hanghenion y tu allan i lefel eich gallu
gadael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n addas ar gyfer ei defnyddio eto yn y dyfodol, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt
egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, cardiofasgwlar, myoffasgial, endocrinaidd, ynni a threuliol.
sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn darparu rhaglenni gweithgaredd corfforol ar gyfer cleientiaid sydd â chyflyrau meddygol penodol
y rhannau o iechyd a ffitrwydd sy'n gysylltiedig â sgil a sut i gymhwyso'r rhain i mewn i raglenni o ymarfer corff a gweithgaredd corfforol ar gyfer cleientiaid sydd â chyflyrau meddygol penodol
amrediad a ffiniau proffesiynol eich ymarfer
y berthynas rhwng ymarfer corff, gweithgaredd corfforol a chyflyrau meddygol penodol
ffyrdd o nodi a pharatoi amgylcheddau diogel a chi eich hun ar gyfer y sesiwn ymarfer corff a gweithgaredd corfforol
ffyrdd o drefnu'r amgylchedd er mwyn galluogi perfformiad ymarfer corff diogel
pam dylech chi gwrdd â'r sawl sy'n cymryd rhan yn brydlon a gwneud iddynt deimlo bod croeso iddynt
ffyrdd o reoli risg i gleientiaid drwy gydol y rhaglen ymarfer corff a gweithgaredd corfforol
pam a sut dylech chi gasglu unrhyw wybodaeth newydd sy'n gysylltiedig ag ymateb cleientiaid i sesiynau blaenorol a/neu eu lles yn gyffredinol
gofynion corfforol a thechnegol y gweithgareddau a gynlluniwyd
sut i asesu, monitro a rheoli risg i gleientiaid drwy gydol y rhaglen
sut i sicrhau bod yna gydbwysedd o hyfforddiant, gweithgaredd a thrafodaeth o fewn y sesiwn
dulliau o hybu newid parhaus mewn lefelau o weithgaredd corfforol
technegau newid ymddygiad
dulliau addysgu ar gyfer rhoi cyfarwyddiadau ac esboniadau
18. y safleoedd cywir ar gyfer yr ymarferion
- sut i addasu eich dulliau cyfathrebu i gwrdd ag anghenion cleientiaid
20. sut i ddefnyddio strategaethau cymhellol addas yn ystod y sesiwn
21. sut i ddadansoddi a gwella perfformiad a phatrwm symud cleientiaid
- ffyrdd o gynnig atgyfnerthiad cadarnhaol drwy gydol y sesiwn
23. yr angen i negodi, cytuno a chofnodi gyda chleientiaid unrhyw newidiadau i'r gweithgareddau sydd wedi eu cynllunio
pam dylech chi adael digon o amser ar gyfer rhan olaf y sesiwn
sut a phryd i roi adborth cadarnhaol i gleientiaid am eu perfformiad
pam bod angen i gleientiaid weld sut mae eu cynnydd yn gysylltiedig â'u nodau cyffredinol
pam dylai cleientiaid gael y cyfle i ofyn cwestiynau am eu perfformiad a'u cynnydd cyffredinol
gweithgareddau amgen addas all fod o gymorth i gleientiaid i gyflawni eu nodau
pam a sut i adael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n addas ar gyfer ei defnyddio eto yn y dyfodol, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau newid ymddygiad
- hunan effeithiolrwydd
- dull gweithredu rhesymegol
- model camau o newid
- dull proses gweithredu iechyd
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKAEAF17, SKAEAF18, SKAEAF20