Llunio a rheoli rhaglen ymarfer corff a gweithgaredd corfforol ar gyfer cleientiaid sydd â chyflyrau meddygol
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â llunio a rheoli rhaglenni ymarfer corff a gweithgaredd corfforol i gwrdd ag anghenion cleientiaid sydd ag amrywiaeth o gyflyrau meddygol. Mae hyn yn debygol o ddilyn o ymgynghoriad cychwynnol, casglu gwybodaeth.
Bydd disgwyl i bobl broffesiynol ym maes ymarfer corff a ffitrwydd lunio rhaglen ymarfer corff a gweithgaredd corfforol effeithiol sy'n cwrdd ag anghenion, amcanion a nodau a gytunwyd ar gyfer cleientiaid. Byddant hefyd yn adolygu ac addasu'r rhaglen ymarfer corff ar amseroedd y cytunwyd arnynt.
Fel arfer byddant yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol ond efallai o dan gyfarwyddyd ffisiotherapydd, Swyddog Meddygol neu Feddyg Teulu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. llunio rhaglen ymarfer corff a gweithgaredd corfforol sy'n addas ar gyfer anghenion, cyflyrau, nodau a lefel ffitrwydd y cleientiaid
sicrhau bod rhannau addas o ffitrwydd ac egwyddorion hyfforddiant yn cael eu cymhwyso
dewis amgylcheddau addas sy'n cydfynd â hoffterau cleientiaid a'u gallu i wneud yr ymarferion mewn modd diogel
cytuno ar ofynion a chynnwys y rhaglen ymarfer corff a gweithgaredd corfforol gyda'r cleient
cynllunio amserlen ddilyniannol o sesiynau gyda'r cleientiaid
cytuno ar ddulliau gwerthuso addas a dyddiadau adolygu gyda'r cleientiaid ac eraill
nodi'r adnoddau a'r technolegau sydd eu hangen i gefnogi effeithiolrwydd y rhaglen ymarfer corff a gweithgaredd corfforol
cynnig dewisiadau amgen ellir eu hymgorffori i fywyd bob dydd os na all cleientiaid gymryd rhan mewn ymarfer corff neu weithgareddau corfforol wedi eu rhaglennu
cofnodi eich cynlluniau mewn fformat hygyrch fydd o gymorth i chi, y cleientiaid ac eraill i roi'r rhaglen ar waith
cefnogi cleientiaid mewn ffordd fydd yn hyrwyddo newid parhaus mewn ymddygiad gweithgaredd corfforol
adolygu cynnydd cleientiaid ar adegau a gytunir drwy gydol y rhaglen gweithgaredd corfforol
annog cleientiaid i rannu eu safbwyntiau ynglŷn â chynnydd a bodlonrwydd cyffredinol
defnyddio dulliau o werthuso a gytunwyd
gwerthuso perfformiad cleientiaid drwy roi adborth yn ystod yr adolygiad
cytuno ar ddeilliannau'r adolygiad gyda chleientiaid a nodi'r nodau hynny sydd angen eu hailddiffinio
cadw cofnod o adolygiad y rhaglen
nodi newidion o'r rhaglen sydd angen eu haddasu
cytuno ar addasiadau i'r rhaglen gyda chleientiaid ac eraill er mwyn iddynt wneud y gorau o'u cyflawniad
19. nodi a chytuno ar unrhyw newidiadau i adnoddau'r rhaglen
20. cofnodi addasiadau'r rhaglen gan ddefnyddio fformatau addas a hygyrch
21. monitro effeithiolrwydd yr addasiadau i'r rhaglen
- darparu adroddiadau parhaus i eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt
egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, cardiofasgwlar, myoffasgial, endocrinaidd, ynni a threuliol.
sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn darparu rhaglenni gweithgaredd corfforol ar gyfer cleientiaid sydd â chyflyrau meddygol penodol
y rhannau o iechyd a ffitrwydd sy'n gysylltiedig â sgil a sut i gymhwyso'r rhain i mewn i raglenni o ymarfer corff a gweithgaredd corfforol ar gyfer cleientiaid sydd â chyflyrau meddygol penodol
amrediad a ffiniau proffesiynol eich ymarfer
6. y berthynas rhwng ymarfer corff, gweithgaredd corfforol a chyflyrau meddygol penodol
y rhannau o ffitrwydd ac egwyddorion hyfforddiant a sut mae rhaid iddynt gael eu cymhwyso er mwyn helpu cleientiaid i gyflawni eu nodau
sut i ddewis amgylcheddau addas a sut gellir eu haddasu i gwrdd ag anghenion y cleientiaid, ynghŷd â lefel eu gallu a'u nodau cyffredinol
pam bod angen i chi gytuno ar gynnwys y rhaglen gyda chleientiaid cyn dechrau'r rhaglen
sut i lunio amserlen ddilyniannol o sesiynau gyda chleientiaid
arwyddocad sefydlu dyddiadau adolygu rheolaidd a dulliau o werthuso gyda'r cleientiaid ac eraill
yr addasiadau neu'r dewisiadau amgen ellir eu gwneud os na all y cleientiaid gymryd rhan yn y sesiwn neu'r gweithgaaredd yn ôl y cynllun
cofnodi gweithdrefnau fydd o gymorth i chi, cleientiaid ac eraill i roi'r rhaglen ar waith
dulliau o gefnogi cleientiaid yn effeithiol mewn ffordd fydd yn hybu newid parhaus mewn ymddygiad gweithgaredd corfforol
sut i fonitro ac adolygu cynnydd cleientiaid
pam ei bod yn bwysig annog cleientiaid i rannu eu barn am eu cynnydd a'u boddhad cyffredinol gyda'r rhaglen ymarfer corff a gweithgaredd corfforol a'r gwasanaeth
dulliau gwerthuso sydd ar gael fydd yn cefnogi adolygiad y cleientiaid
18. y sgiliau sydd eu hangen i roi adborth cadarnhaol ac amserol i gleientiaid
19. pam ei bod yn bwysig cytuno ar ddeilliannau wedi eu hadolygu gyda chleientiaid
20. pam a sut dylid addasu rhaglenni ymarfer corff a gweithgaredd corfforol a newidion
21. arwyddocâd cytuno ar addasiadau i'r rhaglen gyda chleientiaid ac eraill
22. pryd i wneud newidiadau angenrheidiol i adnoddau'r rhaglen
23. pryd a sut i gofnodi addasiadau'r rhaglen gan ddefnyddio fformatau addas a hygyrch
- arwyddocad monitro effeithiolrwydd addasiadau i'r rhaglen
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Egwyddorion hyfforddiant
- penodoldeb
- gorlwytho
- adferiad
- addasiad
- gwrthdroadwyedd
Dulliau
- sgrinio o flaen yr ymarferiad/offer dosbarthiad risg
- adroddiadau
- cyfweliadau
- holiadur
- arsylwadau
- asesiadau corfforol
- asesiadau risg
- mesuriadau canlyniad
- ymchwil cyfredol
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKAEAF17, SKAEAF19, SKAEAF20