1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt
2. egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, cardiofasgwlar, myoffasgial, endocrinaidd, ynni a threuliol.
3. sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn darparu rhaglenni gweithgaredd corfforol ar gyfer cleientiaid sydd â chyflyrau meddygol penodol
4. y rhannau o iechyd a ffitrwydd sy’n gysylltiedig â sgil a sut i gymhwyso’r rhain i mewn i raglenni o ymarfer corff a gweithgaredd corfforol ar gyfer cleientiaid sydd â chyflyrau meddygol penodol
5. amrediad a ffiniau proffesiynol eich ymarfer
6. y berthynas rhwng ymarfer corff, gweithgaredd corfforol a chyflyrau meddygol penodol
7. sut i gasglu gwybodaeth berthnaasol er mwyn cynllunio rhaglenni ymarfer corff a gweithgaredd corfforol diogel, effeithiol ar gyfer cleientiaid sydd â chyflyrau meddygol penodol
8. pwysigrwydd cwrdd â’r cleient ar yr amser cywir ac yn y man cywir er mwyn darparu lleoliad proffesiynol
9. sut i greu perthynas â gwahanol gleientiaid
10. pwysigrwydd sefydlu swyddogaethau a chyfrifoldebau ar y cychwyn er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau
11. pam ei bod yn bwysig cynnig sensitifrwydd ac empathi i’r cleientiaid
12. yr ystyriaethau moesegol sy’n rhan o gynnal ymddygiad ymarfer corff drwy’r amser, yn cynnwys parchu’r ffiniau rhwng gwahanol broffesiynau a chyfrinachedd cleientiaid
13. sut gall eich sgiliau cyfathrebu ddylanwadu ar ansawdd y wybodaeth a dderbynnir, ymrwymiad y cleientiaid a’u cymhelliant
14. sut i gael cydsyniad gwybodus gan y cleientiaid a pham bod hyn yn bwysig
15. prosesau dosbarthu risg a sut i ddefnyddio hyn er mwyn cwblhau sgrinio cyn yr ymarferiad er mwyn dangos prun ai yw’r cleient yn wynebu risg, isel, canolig neu uchel o ddigwyddiad niweidiol yn digwydd yn ystod ymarfer corff neu weithgaredd corfforol
16. sut i nodi dulliau priodol ar gyfer casglu gwybodaeth a data gan gleientiaid
17. sut i gasglu a dadansoddi gwybodaeth gan ddefnyddio dulliau cydnabyddiedig
18. ffynonellau credadwy o wybodaeth wyddonol y gellir eu defnyddio ar gyfer ymchwilio i gyflyrau meddygol a meddyginiaaethau anghyfarwydd
19. sut i ryngweithio gydag eraill sy’n ymwneud â’r broses
20. manteision iechyd gweithgaredd corfforol i gyflyrau meddygol cleientiaid
21. sut i sicrhau bod y nodau a gytunwyd gyda’r cleientiaid yn cwrdd â’u hamghenion, cyflyrau a pha mor barod ydynt i newid
22. sut i gynllunio a chytuno ar nodau CAMPUS (cyraeddadwy, amser wedi ei bennu, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol a synhwyrol) gan lynu at ddosbarthiad risg a lefelau cyfredol o allu
23. sut i gofnodi nodau mewn fformat priodol