Cynllunio, darparu a gwerthuso rhaglen cryfder a chyflyru
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â dadansoddi, llunio, perfformio a gwerthuso rhaglen cryfder a chyflyru sy'n addas ac wedi ei deilwrio ar gyfer athletwyr o bob gallu, oedran a chamau o'u datblygiad aeddfedol.
Fel arfer mae hyfforddwyr cryfder a chyflyru yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol ond yn aml fel rhan o dîm cefnogi aml-ddisgyblaethol.
Prif ddeilliannau'r safon yma yw:
1. gwneud dadansoddiad anghenion o'r gweithgaredd perfformiad a'r athletydd.
2. llunio a chytuno ar raglen cryfder a chyflyru
3. darparu, adolygu ac addasu rhaglen cryfder a chyflyru
Mae'r safon yma ar gyfer hyfforddwyr ffitrwydd a phersonol fydd yn gweithio ar ddatblygiad yr athletydd, gan ganolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen er mwyn gwella perfformiad , megis cryfder, cyflymder, gwytnwch, symudedd a gallu i symud.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwneud dadansoddiad anghenion o'r gweithgaredd perfformiad a'r athletydd
1. nodi a chytuno ar swyddogaethau a chyfrifoldebau gyda'r athletydd a'r tîm cefnogi
2. gwneud dadansoddiad anghenion addas er mwyn gwerthuso gofynion y gweithgaredd perfformiad
nodi ffynonellau credadwy o wybodaeth er mwyn cefnogi eich dadansoddiad
dadansoddi gofynion y gweithgaredd perfformiad
nodi gofynion y perfformiad gyda'r athletydd a'r tîm cefnogi
dadansoddi galluoedd perfformio cyfredol rhyngweithiol yr athletydd mewn perthynas â gweithgaredd perfformio
nodi a chytuno ar y proffil gyda'r athletydd a'r tîm
gwerthuso gofynion perfformiad a galluoedd yr athletydd
9. datblygu a chytuno ar dargedau perfformiad gyda'r athletydd a'r tîm cefnogi i'w cyflawni ar unwaith, ynghŷd â rhai tymor byr a thymor hir, wedi eu hysbysu gan ofynion perfformiad a galluoedd yr athletydd
datblygu a chytuno ar dargedau rheoli risg o anaf
cytuno ar strategaeth i werthuso ac adolygu newid mewn galluoedd perfformiad gan hwyluso addasiad i'r rhaglen
Llunio a chytuno ar raglen cryfder a chyflyru
llunio cynllun tymor hir er mwyn cyflawni nodau perfformiad a gytunir gan gymryd i ystyriaeth gyfnodoli allweddol, ystyriaethau cynllunio ac addasu i hyfforddiant
llunio cynllun tymor byr i ganolig er mwyn cyflawni nodau, wedi eu gosod yng nghyd destun cynllun mwy hirdymor
14. cynllunio sesiynau hyfforddiant gan gymryd i ystyriaeth gyfnodoli allweddol ac ystyriaethau cynllunio
15. cytuno ar raglen gyda'r athletydd i ganiatau ymgysylltiad annibynnol
- cytuno ar y rhaglen gyda'r tîm cefnogi er mwyn hwyluso dealltwriaeth ac ymgysylltiad
Darparu, adolygu ac addasu rhaglen cryfder a chyflyru
paratoi i ddarparu cyfleuster a chyfarpar ar gyfer sesiwn hyfforddiant wedi ei chynllunio
asesu, cytuno ar ac adolygu parodrwydd a chymhelliant yr athletydd i gymryd rhan yn y sesiwn sydd wedi ei chynllunio
goruchwylio cwblhau sesiwn ddiogel ac effeithiol fydd yn cael y gorau o berfformiad yr athletwyr o fewn y sesiwn
20. arsylwi'r athletydd a dadansoddi'r wybodaeth sydd ar gael am berfformiad
rhoi adborth er mwyn hwyluso gwell perfformiad a dysgu
diwygio gweithgaredd hyfforddiant ar sail nodau ac amcanion cyffredinol o fewn y sesiwn a statws yr athletydd
cofnodi diwygiadau a gwerthuso goblygiadau ar gyfer cynllun y sesiwn a'r rhaglen
dewis partneriaid hyfforddi a chreu grwpiau hyfforddi er mwyn hwyluso'r canlyniadau gorau i'r sesiwn
rhoi trefniadau monitro a gytunir ar waith
gwerthuso newidiadau yn statws yr athletydd ac effeithiolrwydd y rhaglen, a chyflwyno canlyniadau i'r athletydd a'r tîm cefnogi
27. cytuno ar ddiwygiadau i dargedau perfformiad yng ngoleuni newidiadau mewn statws
gwneud diwygiadau i gynnwys y rhaglen mewn ymateb i newidiadau yn statws yr athletydd, anaf neu ailwerthusiad o effeithiolrwydd cyfredol y rhaglen
gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
ceisio cyngor arbenigol lle bo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwneud dadansoddiad anghenion o'r gweithgaredd perfformiad a'r athletydd
1. egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, cardiofasgwlar, myoffasgial, endocrinaidd, ynni a threuliol
sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn darparu rhaglenni dilyniannol ar gyfer amrywiaeth o athletwyr
amrediad a ffiniau proffesiynol hyfforddiant eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd fel ag y maent yn berthnasol i'ch swydd
offer dadansoddi anghenion a thechnegau ar gyfer dadansoddi gofynion gweithgaredd perfformiad a deall sut maent yn rhyngweithio
sut i gael gafael ar y wybodaeth gredadwy ddiweddraf er mwyn hysbysu ymarfer cryfder a chyflyru
sgiliau cyfathrebu sydd eu hangen i gytuno i ofynion y gweithgaredd perfformio gyda'r athletydd a'r tîm cefnogi
sut i gasglu a dadansoddi galluoedd perfformiad cyfredol yr athletydd mewn perthynas â gofynion y gweithgaredd perfformio
arwyddocad y ffactorau gwahaniaethu sylfaenol rhwng athletwyr
sut i benderfynu ar y dulliau profi a monitro gorau
methodoleg protocol profi y gellir ei ddefnyddio i gasglu gwybodaeth am yr athletydd
y gwahanol swyddogaethau a chyfrifoldebau sydd eu hangen a sut i gytuno arnynt gyda'r athletydd a'r tîm cefnogi
lle i gael gafael ar y gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol sydd angen eu hystyried ar gyfer yr athletydd a sut i'w dehongli
pam ei bod yn bwysig seilio targedau perfformiad ar eich dadansoddiad o anghenion yr athletydd
sut i ddatblygu, cytuno ar a chofnodi targedau tymor byr, tymor canolig a thymor hir ar gyfer perfformiad a risg o anaf i'r athletydd, gan gymryd i ystyriaeth rwystrau a sicrhau eu bod yn cysylltu â dulliau hyfforddiant a dadansoddiad o anghenion yr athletydd
sut i ddatblygu strategaeth a gwerthuso ac adolygu newidiadau i'r galluoedd perfformiad a gytunir
Llunio a chytuno ar raglen cryfder a chyflyru
- ystyriaethau cyfnodoli a chynllunio allweddol a'r croniadau o addasiadau i hyfforddiant
17. technegau a ddefnyddir i lunio rhaglen cryfder a chyflyru strwythuredig a dilyniannol
18. nodweddion cynllun tymor hir i gyflawni'r nodau a gytunwyd
19. nodweddion cynllun tymor byr i ganolig, wedi eu gosod yng nghyd destun y cynllun tymor hir
technegau ar gyfer llunio a chynllunio sesiynau hyfforddi sy'n cymryd ffactorau logistaidd i ystyriaeth
technegau ar gyfer cyflwyno rhaglen mewn fformat ddefnyddiadwy ar gyfer yr athletydd a'r tîm cefnogi
sut i ddiwygio'r rhaglen mewn modd effeithiol ar sail effeithiolrwydd ymddangosiadol y rhaglen a newid mewn amgylchiadau
y mathau o ddosbarthiad chwaraeon
y cynllunio logistaidd sydd ei angen ar gyfer darparu rhaglen a'r gofynion ar gyfer symudiad medrus
Darparu, adolygu ac addasu rhaglen cryfder a chyflyru
25. nodau, cynnwys a rhesymeg y cynllun hyfforddiant y seilir y cynllun hyfforddiant arno, yn cynnwys y sylfaen wybodaeth a ddefnyddir i lunio'r rhaglen
- sut i baratoi'r cyfleuster a dewis cyfarpar ar gyfer y sesiwn hyfforddi sydd wedi ei chynllunio
27. y sgiliau a ddefnyddir i asesu parodrwydd a chymhelliant yr athletydd ar gyfer y sesiwn hyfforddi sydd wedi ei chynllunio
28. sut i reoli darpariaeth y sesiwn hyfforddi i gadw'r risg o anaf mor isel â phosibl
tystiolaeth a chanllawiau sy'n gysylltiedig â newidion rheolaeth sesiwn
sut i arsylwi, rhoi adborth a gwerthuso a gwella perfformiad yr athletydd
ffyrdd o ddiwygio'r gweithgaredd hyfforddi ar sail nodau'r gweithgaredd hyfforddi a pherfformiad a statws yr athletydd
32 sut i gofnodi perfformiad yr athletydd yng nghanlyniadau sesiwn hyfforddi
goblygiadau canlyniadau'r sesiwn hyfforddi a sut i wneud y newidiadau sy'n ofynnol i'r holl raglen
technegau ar gyfer rhoi arddangosiadau, esboniadau neu gyfarwyddiadau effeithiol
technegau ar gyfer rheoli a chadw ymrwymiad athletwyr, gan gymryd i ystyriaeth ddeinameg y grŵp a'r partner hyfforddi, y cyfleuster a'r dewisiadau o gyfarpar a chymhelliannau athletydd unigol
36. sut i roi'r strategaethau monitro a gytunir ar waith
sut i werthuso canlyniadau'r sesiwn, statws yr athletydd ac effeithiolrwydd cyffreninol y rhaglen a phryd i ymgysylltu â'r athletydd a'r tîm cefnogi yn y gwerthusiad yma
effaith y diwygiadau i'r targedi perfformiad ac effaith y diwygiadau hyn
sut i werthuso ac adolygu'r rhaglen a chyfathrebu gyda'r athletydd a'r tîm cefnogi
datblygiad strategaeth er mwyn hysbysu'r addasiad i raglen
y sgiliau a'r wybodaeth sydd gan eraill yn y tîm cefnogi a sut i ymgysylltu â nhw
y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gofynion yngl*ŷ*n â meini prawf perfformio
- ffisiolegol
- biomecanyddol
- rheolaeth dros symudiadau
- patrymau symudiad/cyflymderau sy'n benodol i chwaraeon
- cymdeithasol-seicolegol
- anaf ac epidemioleg afiechyd
- paramedrau perfformiad/cystadleuaeth
- rheolau, rheoliadau a deddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol
*
*Galluoedd perfformiad
- ffisiolegol
- biomecanyddol
- gallu i symud
- cymdeithasol-seicolegol
- hanes o anafiadau ac afiechyd
- hanes perfformiad/cystadleuaeth a hyfforddiant
*
*Ystyriaeth allweddol yngl*ŷ*n â chyfnodoli a chynllunio
- strwythur cystadleuthau
- y goblygiadau pan fo gwahanol ddulliau hyfforddiant yn gyfochrog â'i gilydd
- goblygiadau faint o ymarfer a wneir yn gyson a dwysedd yr hyfforddiant
- statws hanesyddol a chyfredol yr athletydd
- tystiolaeth a gwybodaeth ymchwil o ymateb yr athletydd i hyfforddiant
- symbyliad i addasu a ddarperir gan y gweithgaredd a ddewisir a'r dogn
- wedi ei ddarparu o fewn rhagnodiad uned hyfforddiant
- risgiau a achosir gan flinder yn sgil gweithgaredd hyfforddi
- amser a gymerir gan weithgaredd hyfforddi
- rhyngweithiad o effeithiau gweithgareddau a ddewisir yn y tymor byr i ganolig
Gwybodaeth Cwmpas
Ffactorau gwahaniaethu sylfaenol
- oedran (cronolegol vs. biolegol)
- hanes hyfforddiant (hyfforddiant cyffredinol a hyfforddiant penodol)
- rhyw
- statws anabledd
Dulliau profi a monitro
- trafodaethau, cyfweliadau a holiaduron
- profion corfforol/ffitrwydd
- coladu data am hyfforddiant
- arsylwad
- hunan-adfyfyriad
Protocol profi
- cryfder
- pŵer
- cyflymder
- cyflymiad
- newid cyfeiriad
- chwimder cymhleth
- gallu aerobig
- gallu anaerobig
- symudedd
- hyblygrwydd
- cydbwysedd
*
*Symudiad medrus
- rhedeg (cyflwr sefydlog, cyflyniad, sbrintio)
- sgiliau newid cyfeiriad
- chwimder cymhleth
- ymarferion gymnasteg sylfaenol
- neidio, glanio a gweithgareddau plyometrig
- symudedd
- hyfforddiant gwrthiant
- codi pwysau