Darparu ymarfer corff a gweithgaredd corfforol fel rhan o raglenni hyfforddiant personol

URN: SKAEAF15
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â'r gallu mae hyfforddwyr personol ei angen i ddarparu ymarfer corff a gweithgaredd corfforol fel rhan o raglen hyfforddiant personol ar gyfer cleientiaid. Mae hyn yn debygol o ddilyn o ymgynghoriad cychwynnol, casglu gwybodaeth a llunio rhaglen.

Bydd disgwyl i hyfforddwyr personol ddarparu sesiynau diogel ac effeithiol fel rhan o raglen hyfforddiant personol sy'n diwawllu anghenion ac amcanion y cleient a'r nodau a gytunwyd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. paratoi'r amgylchedd a chi eich hun, yn barod ar gyfer darparu'r sesiwn hyfforddi personol

2. nodi a dewis cyfarpar ac adnoddau diogel a chywir ar gyfer y sesiwn hyfforddi personol

  1. cwrdd â'r sawl sy'n cymryd rhan ar yr amseroedd a gytunwyd

  2. casglu unrhyw wybodaeth newydd gan y cleientiaid ynglŷn â'u hymateb i sesiynau hyfforddi personol blaenorol a/neu eu lles yn gyffredinol

  3. hysbysu'r cleientiaid o sut mae'r sesiwn y cysylltu gyda'u nodau

  4. trafod gofynion corfforol a thechnegol yr ymarferion sydd wedi eu cynllunio gyda'r cleient

  5. negodi, cytuno a chofnodi gyda chleientiaid unrhyw newidiadau i'r ymarferion sydd wedi eu cynllunio er mwyn cwrdd â'u nodau a'u hoff ddewisiadau

  6. hyfforddi a dangos i'r cleient sut i wneud ymarferion corff gyda'r technegau cywir

9 cyfathrebu â'r cleientiaid mewn dull a ffordd sy'n addas ar gyfer yr hyn maent yn ei hoffi fwyaf

  1. cynnig strategaethau cymhellol addas i'r cleientiaid yn ystod y sesiwn

  2. arsylwi a dadansoddi perfformiad y cleientiaid a nodi strategaethau dilys er mwyn gwella technegau'r cleientiaid

  3. darparu atgyfnerthiad cadarnhaol o berfformiad ymarfer corff cywir er mwyn adeiladu hunan-hyder a hunan effeithiolrwydd

  4. monitro'r amgylchedd ymarfer corff er mwyn sicrhau bod y  cleientiaid yn ddiogel a chyfforddus

  5. ymarferion dilyniant neu atchweliad yn ôl perfformiad y cleientiaid

15. gadael digon o amser ar gyfer rhan olaf y sesiwn

  1. rhoi adborth i gleientiaid am eu perfformiad

  2. egluro i gleientiaid sut mae eu cynnydd yn cysylltu â'u nodau tymor byr, tymor canolig a thymor hir

  3. rhoi cyfle i gleientiaid ofyn cwestiynau am y sesiwn

  4. trafod gweithgareddau posibl eraill a newidiadau ymddygiad gyda chleientiaid all fod o gymorth iddynt gyflawni eu hamcanion

  5. gadael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n addas ar gyfer ei defnyddio eto yn y dyfodol, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt

  2. egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, cardiofasgwlar, myoffasgial, endocrinaidd, ynni a threuliol

  3. sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn darparu rhaglenni dilynnol ar gyfer amrywiaeth o gleientiaid personol.

  4. y rhannau o iechyd a ffitrwydd sy'n gysylltiedig â sgil a sut i gymhwyso'r rhain i mewn i raglen dilyniant o ymarfer corff i gydweddu ag anghenion eich cleientiaid

  5. amrediad a ffiniau proffesiynol hyfforddiant personol amryw gleientiaid i gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, merched cyn rhoi genedigaeth ac wedi rhoi genedigaeth, oedolion hŷn, pobl anabl a phobl ifanc.

  6. manteision iechyd gweithgaredd corfforol a risgiau diffyg gweithgaredd

  7. ffyrdd o nodi a pharatoi amgylcheddau diogel a chi eich hun ar gyfer y sesiwn ymarfer corff

  8. ffyrdd o drefnu'r amgylchedd er mwyn galluogi perfformiad ymarfer corff diogel

  9. y gweithdrefnau cywir ar gyfer edrych ar gyfarpar a deilio ag eitemau sy'n anniogel

  10. pam dylech  chi gwrdd â'r sawl sy'n cymryd rhan yn brydlon a gwneud iddynt deimlo bod croeso iddynt

  11. pam a sut dylech chi gasglu unrhyw wybodaeth newydd sy'n gysylltiedig ag ymateb cleientiaid i sesiynau blaenorol a lles

  12. pam dylech chi egluro i gleientiaid sut mae'r sesiwn yn cysylltu â'u nodau

  13. gofynion corfforol a thechnegol yr ymarferion

14. sut i gael ymarferion dilyniannol a atchweliadol o fewn y sesiwn

  1. sut i negodi a chytuno ar newidiadau i'ch cynlluniau gyda chleientiaid

  2. dulliau addysgu ar gyfer rhoi cyfarwyddiadau ac esboniadau o'r safleoedd cywir i'r ymarferion

  3. sut i addasu eich dulliau cyfathrebu i gwrdd ag anghenion  cleientiaid

  4. sut i ddefnyddio strategaethau cymhellol addas yn ystod y sesiwn

  5. pam dylai cleientiaid wneud yr ymarferion wrth eu hunain

20. sut i ddadansoddi a gwella perfformiad a phatrwm symud cleientiaid

  1. ffyrdd o gynnig atgyfnerthiad cadarnhaol drwy gydol y sesiwn

  2. ffyrdd o symud ymarfer ymlaen neu ei atchwelyd yn dibynnu ar berfformiad y cleientiaid* ***

  3. pam dylech chi adael digon o amser ar gyfer rhan olaf y sesiwn

  4. sut a phryd i roi adborth cadarnhaol i gleientiaid am eu perfformiad

  5. pam bod angen i gleientiaid weld sut mae eu cynnydd yn gysylltiedig â'u nodau cyffredinol

  6. pam dylai cleientiaid gael y cyfle i ofyn cwestiynau am eu perfformiad a'u cynnydd cyffredinol

  7. gweithgareddau amgen addas all fod o gymorth i gleientiaid i gyflawni eu nodau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Adnoddau

1. amgylchedd ar gyfer y sesiwn
2. gwybodaeth am y cleient 

3. defnydd o dechnoleg gwybodaeth

Strategethau cymhellol

  1. cynhenid
  2. anghynhenid

  3. pennu nodau

  4. anogaethau / gwobrwyon
  5. newid ymddygiad

Amgylchedd

  1. campfa
  2. stiwdio/neuadd chwaraeon
  3. cartref yr un sy'n cymryd rhan neu fan amgaëdig arall
  4. awyr agored
  5. arlein



Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAEAF12, SKAEAF13, SKAEAF14, SKAEAF20


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAEF16

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Hyfforddwr

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

cynnal; ymarfer corff; gweithgaredd corfforol; hyfforddiant personol; rhaglenni