Llunio a rheoli rhaglen hyfforddiant personol gyda chleientiaid
Trosolwg
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. llunio rhaglenni ymarfer corff a gweithgaredd corfforol sy'n cymryd i ystyriaeth y wybodaeth a gasglwyd am y cleientiaid, ynghŷd â'u hanghenion a'u nodau
llunio'r rhaglen hyfforddiant personol sy'n gyson ag egwyddorion cyfnodoli ac sy'n cydfynd â chanllawiau credadwy wedi eu seilio ar dystiolaeth
sefydlu technegau hyfforddiant addas sy'n benodol i anghenion cleientiaid a lefel eu gallu
4. dewis amgylcheddau addas sy'n cydfynd â hoffterau cleientiaid a'u gallu i wneud yr ymarferion yn ddiogel
cynllunio amserlen flaengar o sesiynau gyda chleientiaid
cytuno ar gynnwys y rhaglen hyfforddiant personol gyda chleientiaid
cytuno ar ddyddiadau adolygu'r rhaglen hyfforddiant personol a dulliau gwerthuso gyda chleientiaid
nodi'r adnoddau sydd eu hangen i gefnogi effeithiolrwydd y rhaglen hyfforddiant personol
sicrhau bod yr amgylchedd wedi ei pharatoi er mwyn i gleientiaid ymarfer yn effeithiol
10. nodi unrhyw beryglon a risgiau yn yr amgylchedd hyfforddi a'u cadw mor isel â phosibl
cofnodi a chynllunio ar gyfer newidiadau annisgwyl i'r rhaglen hyfforddint personol os na all cleientiaid gymryd rhan yn ôl y cynllun
cytuno sut i gadw cysylltiad â chleientiaid rhwng sesiynau
cadw cofnodion o berfformiad y cleient fel y gellir adolygu cynnydd dros gyfnod o amser
adolygu cynnydd cleientiaid drwy gydol y rhaglen hyfforddiant personol ar adegau y cytunir arnynt
annog cleientiaid i rannu eu barn am gynnydd a boddhad cyffredinol
defnyddio dulliau o werthuso a gytunwyd
gwerthuso perfformiad cleientiaid drwy roi adborth yn ystod yr adolygiad
18. cytuno ar ganlyniadau'r adolygiad gyda chleientiaid a nodi'r nodau hynny sydd angen eu hailddiffinio
cadw cofnod o adolygiad y rhaglen
nodi newidion y rhaglen sydd angen eu haddasu
21. cytuno ar addasiadau i'r rhaglen gyda chleientiaid er mwyn cael y gorau o'u cyflawniad
22. nodi a chytuno ar unrhyw newidiadau i adnoddau'r rhaglen
cofnodi addasiadau i'r rhaglen gan ddefnyddio fformatau addas a hygyrch
monitro effeithiolrwydd yr addasiadau i'r rhaglen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt
2. egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, cardiofasgwlar, myoffasgial, endocrinaidd, ynni a threuliol.
sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn cynllunio rhaglenni dilynnol ar gyfer amrywiaeth o gleientiaid hyfforddiant personol.
y rhannau o iechyd a ffitrwydd sy'n gysylltiedig â sgil a sut i gymhwyso'r rhain i mewn i raglen ddilynnol o ymarfer corff I gydfynd ag anghenion eich cleientiaid
amrediad a ffiniau proffesiynol hyfforddiant personol amryw gleientiaid i gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt; merched cyn rhoi genedigaeth ac wedi rhoi genedigaeth, oedolion hŷn, pobl anabl a phobl ifanc.
manteision iechyd gweithgaredd corfforol a risgiau diffyg gweithgaredd
ffynonellau credadwy o wybodaeth am lunio rhaglen wedi ei gyfnodoli yn ddiogel ac yn effeithiol
ymarferion a/neu weithgareddau sy'n gyson â'r hyn a dderbynnir fel arfer diogel
sut i sefydlu techengau hyfforddiant addas a sut gellir eu haddasu i ddiwallu anghenion a gallu cleientiaid a'u nodau cyffredinol
sut i lunio amserlen ddilynnol o sesiynau gyda chleientiaid
pam ei bod yn bwysig egluro'r rhaglen hyfforddiant personol i gleientiaid a chytuno arno
arwyddocad sefydlu dyddiadau adolygu rheolaidd gyda'r cleientiaid
yr adnoddau fydd o gymorth i'r cleientiaid gymryd rhan yn y rhaglen
y mathau o amgylcheddau amgen y gellir eu defnyddio pan na all cleientiaid gymryd rhan yn ôl y cynllun
sut i gynllunio, paratoi a rheoli amgylcheddau amgen
pam ei bod yn bwysig nodi peryglon a risgiau posibl yn yr amgylchedd hyfforddi
y mathau o wybodaeth gredadwy i gefnogi cleientiaid i gyflawni rhaglenni hyfforddiant personol sydd wedi eu cynllunio
sut i fonitro ac adolygu cynnydd cleientiaid
pam ei bod yn bwysig annog cleientiaid i rannu eu barn am gynnydd a boddhad cyffredinol ynglŷn â'r rhaglen hyfforddiant personol a'r gwasanaeth
20. dulliau o werthuso sydd ar gael fydd yn cefnogi adolygiad y cleientiaid
y sgiliau sydd eu hangen i roi adborth cadarnhaol ac amserol i gleientiaid
pam ei bod yn bwysig cytuno ar ddeilliannau wedi eu hadolygu gyda chleientiaid
sut i adolygu rhaglen hyfforddiant personol
pam a sut i addasu rhaglenni hyfforddiant personol a newidion
arwyddocad cytuno ar addasiadau i'r rhaglen gyda chleientiaid
pryd i wneud newidiadau angenrheidiol i adnoddau'r rhaglen
pryd a sut i gofnodi addasiadau'r rhaglen gan ddefnyddio fformatau addas a hygyrch
arwyddocad monitro effeithiolrwydd addasiadau i'r rhaglen
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Adnoddau
amgylchedd ar gyfer y sesiwn
gwybodaeth am y cleient
defnyddio technoleg gwybodaeth
Gwybodaeth Cwmpas
Amgylchedd
**1. campfa
stiwdio/neuadd chwaraeon
yr un sy'n cymryd rhan neu fan amgaëdig arall
awyr agored
arlein
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKAEAF12, SKAEAF13, SKAEAF15, SKAEAF20