Cymhwyso egwyddorion maethiad i anghenion ac amcanion cleientiaid hyfforddiant personol
Trosolwg
Mae’r safon yma’n ymwneud â’r gallu mae hyfforddwyr personol ei angen er mwyn nodi a chefnogi anghenion a nodau maethiad eu cleientiaid. Fel arfer, ond nid bob tro, bydd hwn yn gleient sydd gennych eisoes ac sydd angen cefnogaeth ac arweiniad er mwyn sefydlu a gwella perfformiad maethol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cwrdd â'r cleient ar adeg ac mewn man priodol
sefydlu perthynas ac ymgysylltu â'r cleient gan ddefnyddio technegau priodol
egluro eich swyddogaeth eich hun a swyddogaeth y cleient ynglŷn â maethiad
cyfathrebu â'r cleient mewn modd effeithiol er mwyn eu hannog i ymgysylltu yn agored ac yn onest
rhoi proses o gydsyniad gwybodus ar waith ar gyfer casglu gwybodaeth faethol
nodi dulliau priodol o gasglu gwybodaeth a data maethol perthnasol am y cleient
7. casglu a chofnodi gwybodaeth a data maethol gan gleientiaid
dadansoddi gwybodaeth a data maethol y cleientiaid er mwyn nodi meysydd ar gyfer gwella yn unol â chanllawiau maethol
cyfeirio neu ddanfon at bobl broffesiynol eraill, unrhyw anghenion neu anghenion posibl sydd gan y cleient na allwch chi mo'u diwallu
cefnogi'r cleient i sefydlu nodau maethol addas yn seiliedig ar y wybodaeth a'r data a gasglwyd
darparu'r cleient â gwybodaeth faethol berthnasol a chredadwy er mwyn cefnogi nodau maethol a gytunwyd
sicrhau bod argymhellion maethol yn ffafriol i raglen hyfforddiant personol cleientiaid
nodi a chytuno ar bwyntiau adolygu gyda'r cleient
monitro cadw at newidiadau maethol a gytunwyd gan ddefnyddio dulliau priodol
gwneud y newidiadau maethol angenrheidiol er mwyn gwneud y gorau o gyflawni nod cyffredinol y cleientiaid
gweithio'n unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt
egwyddorion maethiant a sut maent yn berthnasol i gynnal iechyd, a chefnogi perfformiad gweithgaredd corfforol
sut mae sefydlu gofynion maethol yn seiliedig ar amrywiaeth o nodau cleientiaid
rhychwant a ffiniau proffesiynol darparu cyngor maethol i amrywiaeth o gleientiaid, i gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlyno; merched sydd am roi ac sydd wedi rhoi genedigaeth, oedolion hŷn, pobl anabl a phobl ifanc
y cyngor cyffredinol ynglŷn â bwyta'n iach wedi ei seilio ar ffynonellau credadwy a sut i gymhwyso'r rhain i raglen cleient
pwysigrwydd cwrdd â'r cleient ar yr amser cywir ac yn y man cywir er mwyn darparu lleoliad proffesiynol
sut i greu perthynas â gwahanol gleientiaid
pwysigrwydd sefydlu swyddogaethau a chyfrifoldebau ar y cychwyn er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau
sut gall sgiliau cyfathrebu'r hyfforddwr personol ddylanwadu ar ansawdd y wybodaeth a dderbynnir
y lefel o ymrwymiad a chymhelliant a ofynnir amdano er mwyn cyflawni'r anghenion a'r amcanion maethol
pryd a sut i sicrhau cydsyniad gwybodus sy'n addas ar gyfer gwybodaeth a data maethol y cleientiaid
sut i nodi dulliau priodol ar gyfer casglu gwybodaeth a data maethol gan gleientiaid
y broses o bennu nodau a chynllunio gweithredu gyda'r cleient mewn modd effeithiol
14. y strategaethau newid ymddygiad a'r technegau cymhelliant i atal diffyg cydymffurfio neu lithro'n ôl
sut i gefnogi a galluogi cleientiaid i ddatblygu eu strategaethau eu hunain ar gyfer cydymffurfio
sut mae arferion maethol yn cysylltu â rhaglenni hyfforddiant personol cleientiaid
sut a phryd i adolygu nodau maethol cleientiaid
sut a phryd i gofnodi newidiadau maethol gan ddefnyddio fformatau priodol a hygyrch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKAEAF12, SKAEAF14, SKAEAF15 and SKAEAF20