Cysylltu â chleientiaid er mwyn nodi a chytuno ar eu nodau ac amcanion ar gyfer hyfforddiant personol

URN: SKAEAF12
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â'r gallu mae hyfforddwyr personol ei angen ar gyfer adnabod a chefnogi anghenion ac amcanion cleientiaid er mwyn ymgymryd â rhaglenni hyfforddiant personol. Mae hyn yn debygol o fod y cam cyntaf o gwrdd â chleient er mwyn sefydlu perthynas effeithiol tra'n casglu gwybodaeth addas ar gyfer llunio rhaglen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cwrdd â'r cleient ar adeg briodol ac mewn man priodol

  1. sefydlu cydberthynas ac ymgysylltu â'r cleient gan ddefnyddio technegau addas

  2. egluro eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau eich hun a rhai'r cleientiaid yn y broses hyfforddiant personol

  3. cyfathrebu â'r cleient mewn modd effeithiol sy'n ei annog i ymgysylltu mewn modd agored a gonest

  4. rhoi proses o gydsyniad gwybodus ar waith ar gyfer casglu gwybodaeth a rhagnodi ymarfer corff

  5. nodi dulliau priodol ar gyfer casglu gwybodaeth a data perthnasol am y cleient

  6. casglu a chofnodi gwybodaeth a data gan gleientiaid

  7. cyfeirio neu ddanfon at bobl broffesiynol eraill, unrhyw anghenion neu anghenion posibl sydd gan y cleient na allwch chi mo'u diwallu

  8. dadansoddi parodrwydd y cleientiaid i newid drwy nodi ymddygiadau a rhwystrau yn eu ffordd o fyw

  9. cefnogi'r cleient i nodi ffyrdd addas o oresgyn y rhwystrau hyn

  10. cefnogi'r cleient i sefydlu nodau addas yn seiliedig ar y wybodaeth a'r data a gasglwyd

  11. darparu'r cleient â gwybodaeth berthnasol a chredadwy er mwyn cefnogi nodau a gytunwyd

  12. gweithio yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt

  1. egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, cardiofasgwlar, myoffasgial, endocrinaidd, ynni a threuliol.

  2. sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn darparu rhaglenni dilynnol ar gyfer amrywiaeth o gleientiaid hyfforddiant personol.

  3. y rhannau o iechyd a ffitrwydd sy'n gysylltiedig â sgil a sut i gymhwyso'r rhain i mewn i raglen ddilynnol o ymarfer corff i gwrdd ag anghenion eich cleientiaid

  4. amrediad a ffiniau proffesiynol hyfforddiant personol amryw gleientiaid i gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, merched cyn rhoi genedigaeth ac wedi rhoi genedigaeth, oedolion hŷn, pobl anabl a phobl ifanc.

6. manteision gweithgaredd corfforol i iechyd a risgiau diffyg gweithgaredd

  1. y cyngor cyffredinol ynglŷn â bwyta'n iach wedi ei seilio ar ffynonellau credadwy a sut i gymhwyso'r rhain i raglen cleientiaid

  2. pwysigrwydd cwrdd â'r cleient ar yr amser cywir ac yn y man cywir er mwyn darparu lleoliad proffesiynol

  3. sut i greu perthynas â gwahanol gleientiaid

  4. pwysigrwydd sefydlu swyddogaethau a chyfrifoldebau ar y cychwyn er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau

  5. sut gall sgiliau cyfathrebu'r hyfforddwr personol ddylanwadu ar ansawdd y wybodaeth a dderbynnir

  6. sut gall cyfathrebu di-eiriau ddylanwadu ar y wybodaeth a gesglir gan y cleient

  7. y lefel o ymrwymiad a chymhelliant sydd eu hangen ar gyfer cyflawni'r rhaglen hyfforddiant personol

  8. pryd a sut i sicrhau cydsyniad gwybodus sy'n addas ar gyfer gwybodaeth y cleientiaid a rhagnodi ymarfer corff.

  9. sut i nodi dulliau **priodol ar gyfer casglu gwybodaeth a data gan gleientiaid

  10. sut a phryd i gyfeirio cleientiaid

  11. y modelau ar gyfer newid ymddygiad

  12. y mathau o rwystrau i gymryd rhan sy'n codi eu pennau yn aml a'r strategaethau ar gyfer goresgyn y rhwystrau hynny

  13. sut i asesu parodrwydd y cleientiaid i newid yr ymddygiadau hynny sy'n gysylltiedig â'u ffordd o fyw er mwyn cyflawni eu hamcanion cyffredinol

  14. y broses o bennu nodau a chynllunio gweithredu mewn modd effeithiol gyda'r cleient

  15. sut i gefnogi a galluogi cleientiaid i ddatblygu eu strategaethau eu hunain ar gyfer ymlyniad

  16. sut i gael gafael ar wybodaeth berthnasol gredadwy i gefnogi anghenion ac amcanion cyffredinol y cleientiaid


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Dulliau

  1. cyfweliad
  2. holiadur
  3. asesiadau corfforol
  4. arsylwad
  5. defnyddio technoleg gwybodaeth

Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAEAF13, SKAEAF14, SKAEAF15, SKAEAF20


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAEF13

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Hyfforddwr

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

ymarfer corff; gweithgaredd corfforol; ymgynghoriad â chleient; nodau; hyfforddiant personol