Cyfrannu tuag at hybu iechyd a diogelwch mewn amgycheddau hamdden gweithgar

URN: SKAEAF1
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored,Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

 Mae'r safon yma'n ymwneud â phwysigrwydd iechyd a diogelwch ar gyfer y sawl sy'n cymryd rhan, eich cydweithwyr a chi eich hun yn yr amgylchedd hamdden weithgar a sut ydych yn cyfrannu tuag at hyn.

Prif ddeilliannau'r safon yma yw:
1. helpu i reoli risgiau yn yr amgylchedd hamdden weithgar
2. helpu i ddiogelu a gwarchod y sawl sy'n cymryd rhan
3. dilyn gweithdrefnau argyfwng
4. helpu cynnal a glanhau cyfleusterau a chyfarpar

Mae'r safon yma ar gyfer yr holl staff sy'n gweithio mewn iechyd a ffitrwydd, ac amgylcheddau chwaraeon a gweithgaredd awyr agored.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

: *         *Helpu rheoli risgiau yn yr amgylchedd hamdden weithgar

  1. nodi'r gofynion cyfreithiol allweddol sy'n berthnasol i iechyd a diogelwch yn y gweithle
  2. nodi agweddau o'ch swydd a'ch gwaith all eich niweidio chi ac eraill
  3. cydymffurfio â gofynion cyfreithiol er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch yr holl gydweithwyr a chwsmeriaid
  4. asesu a rheoli risgiau gan ddefnyddio gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau cyfundrefnol
  5. delio ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth mewn modd amserol ac effeithiol ac adrodd am y rhai na ellir mo'u datrys.

Helpu diogelu a gwarchod y sawl sy'n cymryd rhan
6. nodi'r gofynion cyfreithiol ar gyfer eich swydd sydd yno er mwyn gwarchod plant ac oedolion bregus.
7. dilyn yr arfer gwaith cywir er mwyn sicrhau gwarchodaeth plant ac oedolion bregus
8. nodi materion diogelu yn unol â'r cyngor a'r cyfarwyddyd perthnasol ar warchod plant ac oedolion bregus
9. gweithredu ar unwaith pan fo gennych bryderon ynglŷn â diogelwch plant neu oedolion bregus.

Dilyn gweithdrefnau argyfwng
10. nodi gweithdrefnau eich sefydliad pan yn delio ag argyfwng
11. cyflawni eich swyddogaeth yn y weithdrefn argyfwng yn bwyllog ac yn gywir
12. cynnal diogelwch y sawl sy'n cymryd rhan
13. dilyn y gweithdrefnau cyfundrefnol ar gyfer adrodd am argyfwng

Helpu cynnal a chadw a glanhau cyfleusterau a chyfarpar
14. nodi a dilyn y gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol ar gyfer cynnal a chadw a glanhau cyfleusterau a chyfarpar
15. cyflawni eich swyddogaeth o ran cynnal a chadw a glanhau cyfleusterau a chyfarpar mewn modd diogel ac effeithiol
16. dilyn y gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol ar gyfer adrodd am fannau all achosi niwed i chi eich hun ac eraill.


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. y  ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt 
2. amrediad a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd fel y mae’n berthnasol i’ch swydd 
3. gweithdrefnau penodol ar gyfer adrodd am faterion sydd y tu hwnt i’ch gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd 
4. dulliau o asesu a rheoli risgiau
5. yr arwyddion, symptomau, dangosyddion ac ymddygiadau posibl all beri pryder mewn perthynas â diogelu
6. sut i gynnal diogelwch y sawl sy’n cymryd rhan mewn achos o argyfwng
7. sut i gyflawni eich swyddogaeth heb darfu ar weithdrefnau gweithredol arferol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAEF1

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Hyfforddi Chwaraeon, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Hyfforddwr

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

Ymarfer corff a ffitrwydd; Rhaglenni Awyr Agored; Hyfforddiant