Cynghori ac ymgynghori â chleientiaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgìl pwysig o ymgynghori â'ch cleientiaid er mwyn darganfod eu syniadau a'u gofynion. Mae gwneud argymhellion addas ar gyfer gwasanaethau a chynhyrchion ar sail y wybodaeth hon a chanlyniadau eich archwiliad o'u gwallt, croen a chroen pen yn rhan hanfodol o'r safon hon.
Er mwyn gweithredu'r safon hon bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw eich ymddangosiad personol ac arddangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
adnabod gofynion y cleient
archwilio'r gwallt, y croen a'r croen pen
rhoi cyngor i'ch cleient a chytuno ar wasanaethau a chynhyrchion
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Adnabod gofynion y cleient
*
*
ymgynghori â'ch cleient i ddarganfod beth yw ei gofynion/ei ofynion
caniatáu digon o amser i'ch cleient fynegi ei dymuniadau/ei ddymuniadau
gofyn cwestiynau perthnasol mewn ffordd y bydd eich cleient yn ei ddeall
defnyddio cymhorthion gweledol i gyflwyno syniadau eraill addas i gleientiaid er mwyn eu cynorthwyo i ddod i benderfyniad
annog eich cleient i holi cwestiynau ynghylch meysydd nad yw hi/fe'n sicr amdanynt
6. adnabod a chadarnhau dymuniadau eich cleient o ran gwasanaethau a chynhyrchion **
Archwilio'r gwallt, y croen a'r croen pen
*
*
sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
cynnal archwiliadau gweledol ac unrhyw brofion angenrheidiol ar y gwallt, y croen a'r croen pen i fodloni dulliau gweithredu penodol
9. canfod o gofnodion blaenorol eich cleient, pan fydd y rheiny ar gael, unrhyw ffactorau sy'n debygol o effeithio ar wasanaethau yn y dyfodol
- adnabod ac adrodd ar fyr dro wrth y person perthnasol am unrhyw broblemau na ellir ymdrin â nhw
Rhoi cyngor i'ch cleient a chytuno ar wasanaethau a chynhyrchion
*
*
cynnig argymhellion yn seiliedig ar ganlyniadau eich adnabyddiaeth o nodweddion gwallt a dosbarthiad gwallt eich cleient
egluro sut y gall eu nodweddion gwallt effeithio ar y gwasanaethau trin gwallt, a hynny mewn ffordd y gall eich cleient ei deall
cytuno ar wasanaethau, cynhyrchion a chanlyniadau sy'n dderbyniol i'ch cleient ac sy'n cyfarfod â'i hanghenion/anghenion agree
dweud wrth eich cleient beth fydd cost a hyd tebygol y cynhyrchion a'r gwasanaethau y cytunwyd arnynt
cynnal pob cyfathrebu â'ch cleient mewn ffordd sy'n cynnal ewyllys da, ymddiriedaeth, cyfrinachedd a phreifatrwydd
rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Adnabod gofynion y cleient
*
*
pam bod cyfathrebu effeithiol yn bwysig i fusnes eich salon
sut i ddefnyddio technegau ymgynghori effeithiol wrth gyfathrebu â chleientiaid o wahanol gefndiroedd diwylliannol a chrefyddol, oedrannau, anableddau a rhyw
y sgiliau holi a gwrando sydd eu hangen arnoch er mwyn dod o hyd i wybodaeth
pam ei bod yn bwysig annog a chaniatáu amser i gleientiaid ofyn cwestiynau
rheolau'r salon ar gyfer cynnal a chadw cyfrinachedd a phreifatrwydd
y gwahanol fathau o gymhorthion gweledol a all fod o gymorth wrth ymgynghori â chleient
eich cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, safonau a chanllawiau cyfredol, e.e. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a deddfwriaethau perthnasol eraill
pwysigrwydd peidio â gwahaniaethu yn erbyn cleientiaid sydd â salwch ac anableddau a pham
Archwilio'r gwallt, y croen a'r croen pen
eich cyfrifoldebau a'ch rhesymau dros gynnal a chadw eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol
dulliau gweithredu'r salon a chyfarwyddiadau gwneuthurwyr mewn perthynas â chynnal profion
sut a phryd mae profion yn cael eu cynnal ar wallt
pwysigrwydd cynnal profion a chanlyniadau posibl methu â gwneud hynny
pam ei bod yn bwysig nodi ffactorau a all gyfyngu neu effeithio ar wasanaethau a chynhyrchion y gellir eu defnyddio
sut y gall ffordd o fyw, cyflyrau anffafriol, gwallt, croen a chroen pen gwasanaethau a chynhyrchion a fu'n anghydnaws yn y gorffennol, gyfyngu neu effeithio ar y gwasanaethau a'r cynhyrchion y gellir eu cynnig i gleientiaid
sut i adnabod problemau gwallt, croen a chroen pen
sut i adnabod heintiau a phlâu sy'n cael eu hamau ac sydd angen adrodd amdanynt ac i bwy
*
*
Rhoi cyngor i'ch* * cleient a chytuno ar wasanaethau a chynhyrchion
y mathau gwahanol o nodweddion gwallt
y gwahanol fathau o wallt sy'n perthyn i ddosbarthiadau gwallt
strwythur sylfaenol y gwallt a'r croen
cylchred tyfiant gwallt
y gwasanaethau a'r cynhyrchion sydd ar gael i'w defnyddio yn eich salon
eich cyfrifoldebau cyfreithiol ar gyfer disgrifio nodweddion a manteision cynhyrchion a gwasanaethau
strwythur prisio eich salon
sut i amcangyfrif y gost debygol am wasanaethau
pwysigrwydd rhoi disgwyliadau realistig i'r cleient
pwysigrwydd rhoi cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon
sut i gwblhau cofnodion cleientiaid a ddefnyddir yn eich sefydliad a phwysigrwydd sicrhau caniatâd y cleient a'r rhesymau dros hynny.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cleient
1.1 newydd
1.2 rheolaidd
2. Adnabod
2.1 cwestiwn
2.2 arsylwad
3. Ffactorau sy'n cyfyngu neu'n effeithio ar wasanaethau
3.1 cyflwr anffafriol gwallt, croen a chroen pen
3.2 gwasanaethau a chynhyrchion a ddefnyddiwyd ac a fu'n anghydnaws yn y gorffennol
3.3 ffordd o fyw y cleient
3.4 canlyniadau profion
4. Problemau
4.1 heintiau dan amheuaeth
4.2 plâu dan amheuaeth
5. Nodweddion gwallt
5.1 trwch gwallt
5.2 ansawdd gwallt
5.3 elastigedd gwallt
5.4 mandylledd gwallt
5.5 cyflwr gwallt
5.6 patrymau tyfiant gwallt
*
*
6. Dosbarthiad gwallt
6.1 Math 1 – Gwallt Syth
6.2 Math 2 – Gwallt Tonnog
6.3 Math 3 – Gwallt Cyrliog
6.4 Math 4 – Gwallt Cyrliog Iawn
7. Cyngor ac argymhelliad
7.1 sut i gynnal a chadw eu golwg
7.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau
7.3 cynhyrchion a gwasanaethau yn y presennol ac i'r dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
1. Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch
*
*
Eich cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth, safonau a chanllawiau iechyd a diogelwch cyfredol, megis Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a deddfwriaethau perthnasol eraill
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith **
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR) **
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) **
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) **
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario **
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) **
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle **
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
1.11 Deddf Diogelu Data
1.12 Cyfarwyddebau Amser Gweithio
1.13 Rheoliadau Cynhyrchion Cosmetig
1.14 Deddf Gwerthu Nwyddau
1.15 Deddf Gwerthu o Bell
1.16 Deddf Disgrifiadau Masnachol
1.17 Deddf Diogelu Defnyddwyr
*
*
2. Problemau gwallt, croen a chroen pen
sut i adnabod problemau gwallt, croen a chroen pen
2.1 tarwden
2.2 impetigo
2.3 clefyd crafu
2.4 ecsema
2.5 alopesia
2.6 soriasis
2.7 ffolicwlitis
2.8 cen ar y pen
2.9 creithio celoid keloid scarring
2.10 gwallt mewndyfol
2.11 llai pen
3. Cyngor ac argymhellion
3.1 Gwasanaethau ychwanegol
3.2 Cynhyrchion ychwanegu
Gwerthoedd
1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg tuag at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunan-reoli
1.11 sgiliau creadigrwydd
1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog
1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr ac yn barchus
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad cleientiaid gwahanol
1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient
1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei ddisgwyliadau /disgwyliadau yn llwyr
1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol
1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr
1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau
Sgiliau
Geirfa
1. Dosbarthiad Gwallt (canllaw yn unig yw hwn) **
Math 1 – Gwallt syth
1.1 Ffein/Tenau – y gwallt yn tueddu bod yn sidanaidd iawn, yn sgleiniog a seimlyd, a gall fod yn anodd dal cyrlen.
1.2 Canolig – llawer o cyfaint a swmp yn perthyn i'r gwallt
1.3 Bras – y gwallt fel arfer yn syth dros ben ac yn anodd ei gyrlio.
Math 2 – Gwallt tonnog
2.1 Ffein/Tenau – patrwm "S" pendant i'r gwallt. Fel arfer gall ddal gwahanol steiliau.
2.2 Canolig – y gwallt yn tueddu bod yn grych ac ychydig yn ymwrthol wrth Steilio.
2.3 Bras – y gwallt hwn hefyd yn ymwrthol wrth ei steilio ac yn grych iawn fel arfer; y tonnau'n tueddu bod yn fwy trwchus.
Math 3 – Gwallt cyrliog
3.1 Cwrls llac – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt. Gall fod yn drwchus a llawn ac yn swmpus, ac iddo batrwm "S" pendant. Mae hefyd yn tueddu bod yn grych.
3.2 Cwrls tynn – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt hyn hefyd; ynghyd â maint cymedrol o gwrls.
Math 4 – Gwallt cyrliog iawn
4.1 Sidanaidd – y gwallt yn tueddu bod yn frau iawn, yn dorchau tynn ac iddo batrwm cyrliog mwy diffiniedig.
4.2 Gwrychog – hefyd yn frau iawn ac yn dorchau tynn; er hynny mae iddo batrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".
- Mae Nodweddion Gwallt yn cynnwys y canlynol: * *
2.1 trwch gwallt
2.2 ansawdd gwallt
2.3 elastigedd gwallt
2.4 mandylledd gwallt
2.5 cyflwr gwallt
2.6 patrymau tyfiant gwallt
3. Cyflyrau anffafriol gwallt, croen a chroen pen
Enghreifftiau o gyflyrau a all gael effaith ar ba wasanaeth a sut y caiff gwasanaeth ei gyflwyno i gleientiaid yw'r rhain:
3.1 soriasis
3.2 alopesia
3.3 codenni
3.4 impetigo
3.5 creithiau
3.6 mannau geni
*
*
4. Gwybodaeth gyfrinachol
Gall hyn gynnwys:
4.1 agweddau personol sgyrsiau â chleientiaid
4.2 agweddau personol sgyrsiau â chydweithwyr
4.3 cynnwys cofnodion cleientiaid
4.4 manylion personol staff a chleientiaid
4.5 cyfeiriadau a rhifau ffôn
4.6 agweddau ariannol y busnes
4.7 clecs
*
*
5. Ffactorau sy'n dylanwadu ar wasanaethau
Unrhywbeth a allai effeithio ar y gwasanaeth trin gwallt. Fe welwch bod y ffactorau hyn wedi eu rhestru yn y datganiad ystod ar gyfer pob deilliant.
*
*
6. Profion
Mae prawf yn penderfynu a yw cleient yn addas ar gyfer gwasanaeth arbennig e.e. prawf croen sydd yn canfod a oes gan y cleient alergedd i gynnyrch neu gemegyn.
* *
7. Cyfarwyddiadau Gwneuthurwyr
Canllawiau eglur a roddir gan wneuthurwyr neu gyflenwyr cynhyrchion neu gyfarpar, ynghylch eu defnyddio'n ddiogel ac effeithiol.