Tynnu estyniadau gwallt
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thynnu gwahanol fathau o estyniadau gwallt yn ddiogel gan ddilyn cyfarwyddiadau'r arbenigwr ar estyniadau gwallt. Mae'r gallu i ddefnyddio amrywiaeth o offer a chynhyrchion tynnu hefyd yn ofynnol.
Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid drwy gydol eich gwaith. Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth dynnu estyniadau gwallt
tynnu estyniadau gwallt
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth dynnu estyniadau gwallt
*
*
cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth
pataroi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon
diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth
gosod eich cleient mewn safle er mwyn bodloni gofynion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus
sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf
cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweitho sy'n:
7.1 lleihau gwastraff adnoddau
7.2 lleihau'r risg o groes-heintiad
7.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio
7.4 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân
7.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill
7.6 lleihau'r risg o ddifrod i offer a chyfarpar
sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
dilyn cyfarwyddiadau'r cynllunwyr gwallt drwy gydol y gwasanaeth
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion
gwared defnyddiau gwastraff
ailgyflenwi adnoddau sydd wedi cyrraedd lefelau isel, pan fydd angen, er mwyn lleihau unrhyw amharu ar eich gwaith personol ac ar y cleientiaid
Tynnu estyniadau gwallt
*
*
tynnu estyniadau gwallt yn y drefn a nodwyd gan yr arbenigwr ar estyniadau gwallt
defnyddio'r offer a'r cynhyrchion tynnu penodol gan leihau'r niwed i wallt eich cleient
sicrhau bod y broses o dynnu yn lleihau unrhyw anghysur i'ch cleient
cyfeirio'n brydlon unrhyw broblemau na allwch chi eu datrys i'r person priodol
sicrhau bod y gwallt yn rhydd o unrhyw estyniadau di-groeso
datod unrhyw glymau yng ngwallt eich cleient o'r blaen i'r gwraidd, gan leihau niwed i'r gwallt naturiol
sicrhau bod yr arbenigwr ar estyniadau gwallt yn fodlon â'r ffordd y tynnwyd yr estyniadau gwallt a'u bod yn barod ar gyfer y gwasanaeth nesaf
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth dynnu estyniadau gwallt
*
*
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient
sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
y mathau o ddillad gwarchod a'r cynhyrchion a ddylai fod ar gael i chi eich hun ac i'r cleientiaid
beth yw dermatitis cyffwrdd, a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau tynnu estyniadau gwallt
pam ei bod yn bwysig defnyddio cyfarpar gwarchod personol
pam ei bod yn bwysig gosod eich offer, cynhyrchion a'ch defnyddiau wrth law er mwyn hwyluso eu defnyddio
pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus
dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla
pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle
cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn
gofynion eich salon a'r gofynion cyfreithiol ar gyfer gwared defnyddiau gwastraff
y person y dylech adrodd wrtho/wrthi am adnoddau sydd wedi cyrraedd lefelau isel
terfynau eich awdurdod personol ar gyfer datrys problemau
Tynnu estyniadau gwallt
pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau eich arbenigwr ar estyniadau gwallt
sut i dynnu systemau estyn gwallt tymor byr a thymor hir
pwysigrwydd lleihau'r niwed i wallt naturiol y cleient yn ystod y broses o dynnu estyniadau
pwysigrwydd cadarnhau cyfforddusrwydd y cleient a chynnig sicrwydd drwy gydol y broses dynnu
y mathau o offer a chynhyrchion i'w defnyddio wrth dynnu systemau estyn gwallt tymor byr a thymor hir
y gylchred tyfiant gwallt
goblygiadau posib gor-dyndra ar y gwallt
sut y gall gwisgo estyniadau yn hwy na'r cyfnod amser a argymhellir effeithio ar y broses o'u tynnu
y mathau o bryderon cyffredinol y bydd cleientiaid sy'n ymgymryd â'r broses o dynnu estyniadau gwallt yn eu profi, e.e. colli gwallt naturiol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Offer a chynhyrchion tynnu
1.1 rhyddhawyr stêm
1.2 siswrn
1.3 datgysylltwyr
1.4 toddiannau
2. Tynnu
2.1 systemau estyn gwallt dros dro
2.2 systemau estyn gwallt tymor hir
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent yn cael eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
Gwerthoedd
1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau'r gwasanaethau o fewn amser masnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg tuag at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 agwedd broffesiynol
1.10 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau da
1.11 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.12 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
1.13 cadw at fesurau iechyd a diogelwch a gwarchodaeth y gweithle
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd foesgar a chwrtais
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon
1.7 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.8 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.9 ymdrin â phroblemau o fewn cwmpas eich cyfrifoldebau a'ch rôl swydd
1.10 dangos parch tuag at gleientiaid a chwydweithwyr ar bob adeg a than bob amgylchiad
1.11 ceisio cymorth ar fyr dro oddi wrth aelod hŷn o'r staff pan fydd angen
1.12 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
Sgiliau
Geirfa
1. Estyniadau gwallt tymor byr (estyniadau gwallt sy'n para unrhyw beth rhwng 24 awr a chwe wythnos)
1.1 wedi'u gwnïo
1.2 wedi'u plethu
1.3 modrwyau
1.4 tapiau
1.5 darnau gwallt ac ychwanegiadau sy'n clipio i mewn
1.6 anwe â thâp
1.7 bondin oer (latecs)
1.8 gwallt anwe – traciau/rhesi
1.9 rhesi ŷd wedi'u plethu
2. Estyniadau gwallt tymor hir (estyniadau gwallt sy'n para chwe wythnos a mwy)
2.1 bondio neu ymdoddi poeth
2.2 microfodrwy neu ddolen
2.3 anweoedd seiliedig ar resi ŷd
2.4 plethi rhesi ŷd