Cynorthwyo gyda gwasanaethau pyrmio gwallt
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgiliau sylfaenol o dynnu cemegau a niwtraleiddio'r gwallt fel rhan o'r broses byrmio. Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni dan gyfarwyddyd y cynllunydd gwallt.
Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid drwy gydol eich gwaith. Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau pyrmio
tynnu cemegau fel rhan o'r broses byrmio
niwtraleiddio gwallt fel rhan o'r broses byrmio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau pyrmio
*
*
cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon
dilyn cyfarwyddiadau'r cynllunwyr gwallt drwy gydol y gwasanaeth
diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth
gwisgo cyfarpar gwarchod personol wrth ddefnyddio cemegau niwtraleiddio
gosod eich cleient mewn safle sy'n bodloni anghenion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus
sicrhau bod eich osog a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf
cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
9.1 lleihau gwastraff cemegau niwtraleiddio
9.2 lleihau'r risg o groes-heintiad
gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio
9.3 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân
9.4 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun a'r cleientiaid
sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion
gwared defnyddiau gwastraff
ailgyflenwi adnoddau sydd wedi cyrraedd lefelau isel, pan fydd angen hynny, er mwyn lleihau unrhyw amharu ar eich gwaith personol ac ar y cleientiaid
Tynnu cemegau fel rhan o'r broses byrmio
*
*
tynnu cemegau mewn ffordd sy'n lleihau'r risg o niwed i'r gwallt gan ddilyn cyfarwyddiadau'r cynllunydd gwallt
sicrhau bod eich dulliau gweithio yn lleihau'r risg o daenu cemegau ar groen a dillad y cleient a'r mannau cyfagos
addasu tymheredd, gwasgedd a chyfeiriad y dŵr er mwyn sicrhau cyfforddusrwydd y cleient ac i ddiogelu'r gwallt
gadael y gwallt a'r croen pen yn lân ac yn rhydd o gemegau a gor-leithder
cyfeirio unrhyw broblemau na allwch eu datrys at sylw'r person perthnasol
sicrhau bod y cynllunydd gwallt yn fodlon â'r gwaith o dynnu cemegau
*
*
Niwtraleiddio gwallt fel rhan o'r broses byrmio
paratoi'r cyfrwng niwtraleiddio gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'r cynllunydd gwallt
taenu'r niwtralydd yn wastad gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
cyfeirio unrhyw broblemau na allwch eu datrys at y person perthnasol
amseru'r broses niwtraleiddio gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'r cynllunydd gwallt
tynnu'r rhodiau pyrmio heb aflonyddu ar ffurfiant y cwrls
gadael y gwallt yn rhydd o unrhyw olion o'r niwtralydd heb aflonyddu ar batrwm y cwrls
taenu a thynnu cyflyrydd arwyneb, pan ddefnyddir hwnnw, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'r cynllunydd gwallt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau pyrmio
*
*
- eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
2. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient
pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau eich cynllunydd gwallt
pwysigrwydd cadarnhau eich bod wedi deall y cyfarwyddiadau a roddwyd gan y cynllunydd gwallt
y mathau o ddillad gwarchod a'r cynhyrchion a ddylai fod ar gael i chi eich hun ac i'r cleientiaid
beth yw dermatitis cyffwrdd, a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau pyrmio
sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus
pwysigrwydd lleihau gwastraff cemegau pyrmio
dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla
pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle
cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn
gofynion eich salon a'r gofynion cyfreithiol ar gyfer gwared defnyddiau gwastraff
y person y dylech adrodd wrthi/wrtho am adnoddau sydd wedi cyrraedd lefelau isel
terfynau eich awdurdod personol ar gyfer datrys problemau pyrmio
Tynnu cemegau fel rhan o'r broses byrmio
*
*
sut i dynnu cemegau mewn ffordd sy'n lleihau'r risg o niwed i'r gwallt
pwysigrwydd sicrhau bod eich dulliau gweithio yn lleihau'r risg i'r cemegau gael eu taenu ar groen a dillad y cleient a'r mannau cyfagos
pam y byddech yn addasu tymheredd, gwasgedd a chyfeiriad y dŵr er mwyn ategu cyfforddusrwydd y cleient a diogelu'r gwallt
pwysigrwydd gadael y gwallt a'r croen pen yn lân ac yn rhydd o gemegau a gor-leithder
Niwtraleiddio gwallt fel rhan o'r broses byrmio
swyddogaeth a phwysigrwydd niwtraleiddio yn y broses byrmio
pwysigrwydd amseru manwl gywir wrth niwtraleiddio pyrmiau
pam ei bod yn bwysig trin a thrafod y gwallt yng nghyfeiriad y gwynt wrth rinsio a blotio
sut y gall pwysedd dŵr effeithio ar y gwallt wrth dynnu niwtralyddion yn ystod y broses byrmio
pwysigrwydd rinsio cynnyrch yn drylwyr o'r gwallt
pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr mewn perthynas â'r cynhyrchion pyrmio a niwtraleiddio penodol sydd yn eich salon
pwysigrwydd tynnu'r rhodiau pyrmio heb aflonyddu ar ffurfiant y cwrls
pwysigrwydd cadarnhau cyfforddusrwydd y cleient drwy gydol y broses niwtraleiddio
y mathau o broblemau all ddigwydd wrth niwtraleiddio pyrmiau a beth sy'n eu hachosi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent yn cael eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
Gwerthoedd
- Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau'r gwasanaethau o fewn amser masnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg tuag at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 agwedd broffesiynol
1.10 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau da
1.11 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.12 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
1.13 cadw at fesurau iechyd a diogelwch a gwarchodaeth y gweithle
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd foesgar a chwrtais
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon
1.7 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.8 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.9 ymdrin â phroblemau o fewn cwmpas eich cyfrifoldebau a'ch rôl swydd
1.10 dangos parch tuag at gleientiaid a chydweithwyr ar bob adeg a than bob amgylchiad
1.11 ceisio cymorth ar fyr dro oddi wrth aelod hŷn o'r staff pan fydd angen
1.12 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon