Plethu a throelli gwallt gan ddefnyddio technegau sylfaenol

URN: SKACHB6
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio technegau plethu a throelli gan ddilyn cyfarwyddiadau'r cynllunydd gwallt.  Bydd angen medrusrwydd corfforol ar raddfa dda.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid drwy gydol eich gwaith.  Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.

Prif ddeilliannau'r safon hon yw:

  1. cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth blethu a throelli gwallt

  2. plethu a throelli gwallt


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth blethu a throelli gwallt


*

  1. cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon

  3. diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth

  4. gosod eich cleient mewn safle sy'n bodloni gofynion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus

  5. sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth

  7. defnyddio dulliau gweithio sy'n:  

7.1 lleihau'r risg o ddifrod i offer

7.2 lleihau gwastraff cynhyrchion

7.3 lleihau'r risg o groes-heintiad

7.4 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

7.5 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân

7.6 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill

  1. sicrhau bod eich safonau hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r cynllunwyr gwallt drwy gydol y gwasanaeth

  3. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion

  4. gwared defnyddiau gwastraff

  5. cwblhau'r gwasanaeth plethu a throelli gwallt o fewn amser masnachol ymarferol

Plethu a throelli gwallt

  1. paratoi gwallt eich cleient gan ddilyn cyfarwyddiadau a roddir gan y cynllunydd gwallt 

  2. rheoli eich offer er mwyn lleihau'r perygl o niwed i'r gwallt a'r croen pen, anghysur y cleient ac er mwyn cael yr olwg a ddymunir

  3. rhannu'r adrannau'n lân a chyfartal er mwyn sicrhau cyfeiriad y plethi a'r torchau

  4. clymu unrhyw wallt nad yw'n cael ei blethu neu ei droelli er mwyn cadw pob rhan yn amlwg weladwy

  5. cynnal a chadw tyndra priodol a chyfartal drwy gydol y gwasanaeth plethu a throelli

  6. rheoli a gosod gwallt eich cleient yn sownd, pan fydd angen hynny

  7. taenu cynhyrchion addas, pan ddefnyddir y rheiny, er mwyn cydymffurfio â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr a'r cynllunydd gwallt 

  8. ymgynghori â'ch cleient yn ystod y broses blethu a throelli er mwyn sicrhau bod y tyndra yn gyfforddus

  9. addasu tyndra'r plethi, pan fydd angen, er mwyn osgoi niwed i'r gwallt a lleihau anghysur eich cleient

  10. sicrhau bod cyfeiriad a chydbwysedd y blethen/plethi a'r torchau gorffenedig yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau eich cynllunydd gwallt

  11. cadarnhau bod eich cleient yn fodlon â'r olwg orffenedig


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth blethu a throelli gwallt


*

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

  2. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient 

  3. y mathau o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael i'r cleientiaid

  4. sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  5. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus

  6. pam ei bod yn bwysig osgoi croes-heintiad a phla

  7. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla

  8. pam ei bod yn bwysig gosod eich cyfarpar a'ch offer wrth law er mwyn hwyluso eu defnyddio

  9. dulliau glanhau, diheintio a/neu sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau

  10. y peryglon a'r risgiau sy'n bod yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel sy'n rhaid i chi eu dilyn

  11. pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch

  12. cyfarwyddiadau'r cyflenwyr a'r gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  13. y dulliau cywir o wared gwastraff

  14. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer plethu a throelli gwallt


*

Plethu a throelli gwallt


*

  1. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau eich cynllunydd gwallt

  2. pwysigrwydd cadarnhau eich bod wedi deall y cyfarwyddiadau a roddwyd gan y cynllunydd gwallt

  3. pwysigrwydd rheoli eich offer er mwyn lleihau niwed i'r gwallt a'r croen pen ac atal anghysur i'ch cleient

  4. pwysigrwydd rhannu'r gwallt yn fanwl gywir wrth blethu a throelli

  5. canlyniadau posib gor-dyndra ar y gwallt

  6. sut i adnabod arwyddion alopesia hydyniad

  7. sut mae ansawdd gwallt yn effeithio ar y broses blethu a'r posibiliadau steilio

  8. sut i greu rhesi ŷd, pleth Ffrengig a thorchau dau gudyn

  9. sut i drin a thrafod y gwallt wrth blethu a throelli er mwyn cadw tyndra cywir a chyfartal

  10. sut i gywiro tyndra plethi

  11. dulliau o osod y bleth a'r torchau gorffenedig yn sownd

  12. y mathau o gynhyrchion sydd ar gael i'w defnyddio gyda phlethi a thorchau a phryd y byddech yn eu defnyddio

  13. pwysigrwydd defnyddio cynhyrchion yn ddarbodus

  14. pwysigrwydd cadarnhau cyfforddusrwydd y cleient drwy gydol y broses


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cynhyrchion

1.1 chwistrellau

1.2 olewau

1.3 lleithyddion

1.4 geliau

2. Plethau a throellau

2.1 lluos-resi ŷd

2.2 pleth Ffrengig

2.3 torchau dau gudyn


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent yn cael eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)


Gwerthoedd

​​1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:


*

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau'r gwasanaethau o fewn amser masnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg tuag at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 agwedd broffesiynol

1.10 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau da

1.11 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.12 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel

1.13  cadw at fesurau iechyd a diogelwch a gwarchodaeth y gweithle


Ymddygiadau

​1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd foesgar a chwrtais

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon

1.7 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth

1.8 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient

1.9 ymdrin â phroblemau o fewn cwmpas eich cyfrifoldebau a'ch rôl swydd

1.10 dangos parch tuag at gleientiaid a chydweithwyr ar bob adeg a than bob amgylchiad

1.11 ceisio cymorth ar fyr dro oddi wrth aelod hŷn o'r staff pan fydd angen

1.12 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon


Sgiliau


Geirfa

1. Alopesia Hydyniad

Colli gwallt oherwydd gor-dyndra neu dyndra parhaus ar y gwallt, e.e. gwisgo estyniadau'n rheolaidd neu blethu

  1. Rhes Ŷd

Pleth tri chudyn sy'n eistedd ar ben ei bôn.  Gelwir hyn hefyd yn rhes wiail.

3. Pleth Ffrengig

Fe'i gelwir yn bleth Congo neu bleth Guinea.  Pleth sengl, wrthdro yw hon.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGH6

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Technegau plethu sylfaenol; technegau troelli