Chwythsychu gwallt
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag arfer technegau chwythsychu sylfaenol gan ddefnyddio offer a chynhyrchion a dilyn cyfarwyddiadau'r cynllunydd gwallt.
Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid drwy gydol eich gwaith. Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth chwythsychu gwallt
chwythsychu gwallt
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol o weithio wrth chwythsychu gwallt
*
*
cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon
diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth
gosod eich cleient mewn safle sy'n bodloni angen y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus
sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf
cadw eich ardal waith yn lân ac yn daclus drwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
7.1 lleihau gwastraff cynhyrchion
7.2 lleihau'r risg o ddifrod i offer a chyfarpar
7.3 lleihau'r risg o groes-heintiad
7.4 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio
7.4 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân
7.6 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill
sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
dilyn cyfarwyddiadau'r cynllunwyr gwallt drwy gydol y gwasanaeth
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion
*
*
Chwythsychu gwallt
*
*
cadarnhau'r cyfarwyddiadau ar gyfer chwythsychu gyda'ch cynllunydd gwallt cyn dechrau'r gwasanaeth
taenu cynhyrchion, os bydd eu hangen, gan ddilyn cyfarwyddiadau eich cynllunydd gwallt
rheoli eich offer a'ch cyfarpar er mwyn lleihau'r risg o niwed i'r gwallt ac anghysur y cleient
cadarnhau bod eich cleient yn gyfforddus yn ystod y broses chwythsychu
defnyddio eich offer a'ch cyfarpar yn effeithiol er mwyn creu'r olwg a ddymunir
rheoli gwallt eich cleient yn ystod y broses chwythsychu
cymryd adrannau o wallt sy'n addas i faint yr offer steilio
cynnal a chadw tyndra cyfartal drwy gydol y broses chwythsychu
cadw'r gwallt yn llaith drwy gydol y broses chwythsychu
sicrhau bod y canlyniad gorffenedig yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau eich cynllunydd gwallt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth chwythsychu gwallt
*
*
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient
gofynion eich salon ynglŷn â gwared gwastraff
y mathau o ddillad a chynhyrchion gwarchod a ddylai fod ar gael i chi eich hun a'ch cleientiaid
beth yw dermatitis cyffwrdd, a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau steilio a gorffennu
sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
pam ei bod yn bwysig gosod eich offer, eich cynhyrchion a'ch defnyddiau wrth law er mwyn hwyluso eu defnyddio
pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus
dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla
gofynion eich salon a'r gofynion cyfreithiol ar gyfer gwared defnyddiau gwastraff
cyfarwyddiadau'r cyflenwyr a'r gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn
pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau eich cynllunydd gwallt
pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle
dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau
amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer gwasanaethau chwythsychu sylfaenol
*
*
Chwythsychu gwallt
y mathau o gynhyrchion chwythsychu sydd ar gael a'u pwrpas
y dewis o frwshis fflat a chrwn sydd ar gael ar gyfer chwythsychu
pam a sut i ddefnyddio brwshis fflat a chrwn i greu cyfaint, symudiad ac i sythu gwallt
pam bod cyfeiriad y llif awyr yn bwysig er mwyn creu'r olwg a ddymunir ac i osgoi niwed i'r bilen
pwysigrwydd rheoli eich offer er mwyn lleihau niwed i'r gwallt a'r croen pen ac i atal anghysur i'r cleient
pwysigrwydd sicrhau bod y cleient yn gyfforddus drwy gydol y broses chwythsychu
dulliau o drin a thrafod a rheoli adrannau o wallt yn ystod y broses chwythsychu
sut y gall defnyddio gwres yn anghywir effeithio ar y gwallt a'r croen pen
ffurfiant sylfaenol y gwallt
effeithiau lleithder ar y gwallt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Offer
1.1 brwshis fflat
1.2 brwshis crwn
2. Gwallt
2.1 hyd uwchlaw'r ysgwydd
2.2 hyd islaw'r ysgwydd
3. Chwythsychu
3.1 creu cyfaint
3.2 sythu
3.3 creu symudiad
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
Gwerthoedd
1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg tuag at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau da
1.10 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.11 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
1.12 cadw at fesurau iechyd, diogelwch a gwarchodaeth y gweithle
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd:
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo/iddi deimlo'n werthfawr ac yn barchus
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon
1.7 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.8 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.9 ymdrin â phroblemau o fewn cwmpas eich cyfrifoldebau a'ch rôl swydd
1.10 dangos parch tuag at gleientiaid a chydweithwyr ar bob adeg a than bob amgylchiad
1.11 ceisio cymorth ar fyr dro oddi wrth aelod hŷn o'r staff pan fydd angen
1.12 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
Sgiliau
Geirfa
1. Diheintio
1.1 Atal twf micro-organeddau sy'n achosi heintiau (ac eithrio sborau) drwy ddefnyddio cyfryngau cemegol
2. Sterileiddio
2.1 Difa micro-organeddau'n llwyr