Cynorthwyo gyda gwasanaethau lliwio a goleuo gwallt

URN: SKACHB4
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgiliau sylfaenol o dynnu cynhyrchion lliwio a goleuo.

Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni dan gyfarwyddyd y cynllunydd gwallt.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid drwy gydol eich gwaith.  Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.

Prif ddeilliannau'r safon hon yw:

  1. cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau lliwio a goleuo

  2. tynnu cynhyrchion lliwio a goleuo


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau lliwio a goleuo


*

  1. cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon

  3. diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth

  4. gwisgo cyfarpar gwarchod personol wrth dynnu cynhyrchion

  5. gosod eich cleient mewn safle sy'n bodloni anghenion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus

  6. sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  7. cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth

  8. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

8.1 lleihau gwastraff cynhyrchion

8.2 lleihau'r risg o groes-heintiad

8.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

8.4 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân

8.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun a'ch cleientiaid

  1. sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion

  3. dilyn cyfarwyddiadau'r cynllunwyr gwallt drwy gydol y gwasanaeth

  4. gwared defnyddiau gwastraff

  5. ailgyflenwi adnoddau sydd wedi cyrraedd lefelau isel, pan fydd angen hynny, er mwyn lleihau unrhyw amharu ar eich gwaith personol ac ar y cleientiaid

**Tynnu cynhyrchion lliwio a goleuo

**

  1. tynnu cynhyrchion a defnyddiau mewn ffordd sy'n lleihau'r risg o niwed i'r gwallt ac yn dilyn cyfarwyddiadau'r cynllunydd gwallt

  2. sicrhau bod eich dulliau gweithio yn lleihau'r risg i'r lliw a'r cynnyrch goleuo gael eu taenu ar groen neu ddillad y cleient a'r mannau cyfagos

  3. gadael y gwallt a'r croen pen yn rhydd o gynhyrchion a gorleithder

  4. cyfeirio unrhyw broblemau nad oes modd eu datrys at y person perthnasol

  5. gadael y gwallt yn rhydd o glymau heb achosi niwed i'r gwallt neu'r croen pen

  6. sicrhau bod cynhyrchion yn cael eu tynnu er boddhad i'r cynllunydd a'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau lliwio a goleuo


*

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

  2. y gofynion a'r cyfarwyddyd cyfreithiol cyfredol sy'n gysylltiedig â chyfyngiadau oedran ar gyfer gwasanaethau lliwio a goleuo 

  3. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  4. y mathau o ddillad a chynhyrchion gwarchod a ddylai fod ar gael i chi eich hun a'ch cleientiaid

  5. sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. beth yw dermatitis cyffwrdd, a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau lliwio a goleuo

  7. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus

  8. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla

  9. pam ei bod yn bwysig gosod eich offer, cynhyrchion a'ch defnyddiau wrth law er mwyn hwyluso eu defnyddio

  10. pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  11. cyfarwyddiadau'r cyflenwyr a'r gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  12. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau eich cynllunydd gwallt

  13. gofynion eich salon a'r gofynion cyfreithiol ar gyfer gwared defnyddiau gwastraff

  14. y person y dylech adrodd wrthi/wrtho am adnoddau sydd wedi cyrraedd  lefelau isel

  15. cyfyngiadau eich awdurdod personol ar gyfer datrys problemau lliwio

Tynnu cynhyrchion lliwio a goleuo

  1. pwysigrwydd tynnu cynhyrchion a defnyddiau mewn ffordd sy'n lleihau'r risg o niwed i'r gwallt a'r croen pen

  2. pwysigrwydd defnyddio dulliau gweithio sy'n atal y cynhyrchion lliwio rhag cael eu taenu ar groen a dillad y cleient a'r mannau cyfagos

  3. pwysigrwydd emylsio cynhyrchion lliwio parhaol fel rhan o'r broses dynnu

  4. y mathau o broblemau all ddigwydd wrth dynnu cynhyrchion a defnyddiau lliwio a goleuo oddi ar y gwallt a beth sy'n eu hachosi

  5. pwysigrwydd rinsio cynhyrchion yn drylwyr a gadael y gwallt yn rhydd o glymau

  6. pwysigrwydd cadarnhau bod y cynllunydd gwallt a'r cleient yn fodlon â'r ffordd y tynnwyd y cynnyrch


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cynhyrchion


*

1.1 hannol-barhaol

1.2 lled-barhaol

1.3 parhaol

1.4 goleuo ​


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent yn cael eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)


Gwerthoedd

​1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg tuag at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 agwedd broffesiynol

1.10 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau da

1.11 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.12 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel

1.13 cadw at fesurau iechyd, diogelwch a gwarchodaeth y gweithle


Ymddygiadau

  1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd:

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd foneddigaidd a chwrtais

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon

1.7 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth

1.8 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient

1.9 ymdrin â phroblemau o fewn cwmpas eich cyfrifoldebau a'ch rôl swydd

1.10 dangos parch at gleientiaid a chydweithwyr ar bob adeg a than bob amgylchiad 

1.11 ceisio cymorth ar fyr dro oddi wrth aelod hŷn o'r staff pan fydd angen

1.12 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon


Sgiliau


Geirfa

1. Cynhyrchion goleuo

Cynhyrchion sy'n goleuo'r pigmentau naturiol yn y gwallt heb adael lliw artiffisial, a elwir fel arall yn gannydd neu'n gynhyrchion cyn-goleuo

2. Lliw rhannol-barhaol* *

Cynhyrchion lliwio y dylid eu trin fel lliwiau parhaol yn nhermau profi a gwasanaethau i'r dyfodol.  Cymysgir y cynhyrchion hyn gydag ocsidyddion e.e. hydrogen perocsid cryfder gwan ac fel arfer disgwylir iddyn nhw bara am hyd at 12 siampŵ, ond mae hyn yn dibynnu ar fandylledd y gwallt.


*

3. Lliw lled-barhaol

Lliw nad oes unrhyw ocsidyddion wedi eu hychwanegu ato ac un y disgwylir iddo bara am hyd at 8 siampŵ fel arfer, ond mae hyn yn dibynnu ar fandylledd y gwallt.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGH26

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

trin gwallt, lliwio gwallt, goleuo gwallt