Cynorthwyo gyda dyletswyddau derbynfa salon
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo gyda dyletswyddau derbynfa salon. Bydd yn rhaid ichi ddangos eich bod yn gallu cadw ardal y dderbynfa yn ddestlus a thaclus, cyfarch pobl sy'n dod i'r salon, ymdrin â'u cwestiynau a threfnu apwyntiadau uniongyrchol. Mae defnyddio sgiliau cyfathrebu da pan fydd pobl yn dod i'r salon, neu'n ffonio'r salon, yn rhan bwysig iawn o'r safon hon.
Er mwyn gweithredu'r safon hon bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel trwy gydol eich gwaith. Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
cynnal a chadw ardal y dderbynfa
rhoi sylw i gleientiaid ac ymholiadau
cynorthwyo gyda threfnu apwyntiadau ar gyfer gwasanaethau'r salon
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal a chadw ardal y dderbynfa
*
*
cadw ardal y dderbynfa yn lân a thaclus bob amser
cadw arddangosfeydd cynnyrch yn lân, destlus a thaclus bob amser
dweud wrth y person perthnasol bod deunydd ysgrifennu'r dderbynfa a chynhyrchion adwerthol sy'n cael eu harddangos wedi cyrraedd lefelau isel
symud unrhyw gynhyrchion diffygiol o'r arddangosfa a dweud wrth y person perthnasol amdanynt
cynnig croeso i gleientiaid yn unol â pholisïau gofal cleientiaid eich salon
Rhoi sylw i gleientiaid ac ymholiadau
*
*
trin pawb sy'n gwneud ymholiadau mewn ffordd gadarnhaol a chwrtais
nodi diben yr ymholiad
cadarnhau apwyntiadau a rhoi gwybod i'r aelod staff perthnasol
cyfeirio unrhyw ymholiadau nad ydych yn gallu ymdrin â nhw at y person perthnasol er mwyn iddi/iddo weithredu arnynt
cofnodi negeseuon a'u trosglwyddo i'r person perthnasol ar yr adeg gywir
rhoi pob gwybodaeth yn glir ac yn fanwl gywir
rhoi gwybodaeth gyfrinachol i bobl awdurdodedig yn unig
Cynorthwyo gyda threfnu apwyntiadau ar gyfer gwasanaethau salon
*
*
ymdrin â phob cais am apwyntiadau
adnabod gofynion y cleientiaid identify client requirements
gwirio bod y cleient wedi cael profion perthnasol wrth wneud apwyntiadau
trefnu i'r cleient gael profion perthnasol, pan fydd angen hynny, o fewn terfynau eich awdurdod chi eich hun
trefnu apwyntiadau o fewn terfynau eich awdurdod chi eich hun i fodloni gofynion y cleient a'r salon
trosglwyddo ar fyr dro unrhyw geisiadau am apwyntiadau nad ydynt o fewn eich awdurdod chi eich hun at y person perthnasol er mwyn iddi/iddo weithredu arnynt
cadarnhau bod manylion yr apwyntiad yn gywir ac yn dderbyniol i'r cleient
sicrhau bod holl fanylion yr apwyntiadau yn fanwl gywir, wedi'u cofnodi yn y man cywir a'u bod yn hawdd eu darllen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal a chadw ardal y dderbynfa
*
*
- dulliau gweithredu eich salon ar gyfer:
1.1 cynnal a chadw ardal y dderbynfa
1.2 gofalu am gleientiaid yn y dderbynfa
terfynau eich awdurdod wrth gynnal a chadw ardaloedd y dderbynfa
sut i adnabod unrhyw ddiffygion mewn cynhyrchion adwerthol e.e. difrod a phecynnu llac
pa ddeunydd ysgrifennu ar gyfer y dderbynfa a faint ohono y dylid ei gadw yn ardal eich derbynfa
*
*
Rhoi sylw i gleientiaid a threfnu apwyntiadau ar gyfer gwasanaethau salon
*
*
pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol i fusnes y salon
sut a phryd i ofyn cwestiynau
sut i siarad yn eglur mewn ffordd sy'n gweddu i'r sefyllfa
sut i ddangos eich bod yn gwrando'n ofalus ar yr hyn mae pobl yn ei ddweud wrthych
sut i addasu'r hyn rydych chi'n ei ddweud ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd
sut i arddangos iaith corff gadarnhaol
dulliau gweithredu eich salon ar gyfer:
11.1 cynnal cyfrinachedd
11.2 cymryd negeseuon
11.3 trefnu a chofnodi apwyntiadau
11.4 cynnal profion
- terfynau eich awdurdod wrth:
12.1 rhoi sylw i bobl ac ymholiadau
12.2 trefnu apwyntiadau
12.3 cynnal profion
pwysigrwydd cadarnhau a threfnu apwyntiadau yn gywir
pwysigrwydd cymryd negeseuon a'u trosglwyddo i'r person cywir ar yr adeg gywir
at bwy y dylid cyfeirio gwahanol fathau o ymholiadau
y person yn eich salon y dylech gyfeirio problemau ynghylch y dderbynfa ati/ato
pwysigrwydd gwirio bod cleientiaid wedi cael profion ar gyfer gwasanaethau penodol
gofynion cyfrinachedd o fewn y Ddeddf Diogelu Data
canlyniadau diystyru cyfrinachedd
y gwasanaethau sydd ar gael ac am ba hyd y maen nhw'n para
21.cynhyrchion sydd ar werth a'u prisiau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Ymholiadau
1.1 wyneb yn wyneb
1.2 dros y ffôn
2. Apwyntiadau
2.1 wyneb yn wyneb
2.2 dros y ffôn
3. Manylion apwyntiad
3.1 enw'r cleient a manylion cyswllt
3.2 gwasanaeth
3.3 dyddiad
3.4 amser
3.5 aelod staff a neilltuwyd ar gyfer y gwasanaeth
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr: **
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg tuag at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunan-reoli
1.11 sgiliau creadigrwydd
1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog
1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector gwallt a gwaith barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd:
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo/iddi deimlo'n werthfawr ac yn barchus
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i gadw/chadw'n gysurlon
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad gwahanol gleientiaid
1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient
1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr
1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol
1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn deall yn llwyr
1.16 esbonio'n glir wrth y cleient unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau.
Sgiliau
Geirfa
1. Gwybodaeth gyfrinachol
* *
Gall gynnwys agweddau personol sgyrsiau gyda chleientiaid, agweddau personol sgyrsiau gyda chydweithwyr, cynnwys cofnodion cleientiaid, manylion personol staff a chleientiaid e.e. cyfeiriadau a rhifau ffôn, agweddau ariannol y busnes, clecs.
**
- Terfynau eich awdurdod chi**
* *
Hyd a lled eich cyfrifoldeb fel sy'n cael ei bennu gan eich swydd-ddisgrifiad chi a pholisïau'r gweithle.
* *
*
3. Cyflwyniad personol*
* *
Mae hwn yn cynnwys hylendid personol; y defnydd o gyfarpar gwarchod personol; dillad ac ategolion sy'n addas i'r gweithle penodol.
* *
*
4. Person perthnasol*
* *
Unigolyn sy'n cael ei hystyried/ystyried yn gyfrifol am eich arolygu yn ystod tasg neu wasanaeth penodedig neu'r person y byddwch chi fel arfer yn rhoi adroddiad iddi/iddo e.e. eich rheolwr llinell. Yn y Safonau penodol hyn, gall hefyd gyfeirio at unigolyn y mae'r salon yn ei hystyried/ystyried yn gyfrifol am feysydd a gwasanaethau penodol.
* *
*
5. Profion*
* *
Bydd prawf yn pennu a yw cleient yn addas ar gyfer gwasanaeth arbennig e.e. prawf croen sy'n canfod a oes gan y cleient alergedd i gynnyrch neu gemegyn.