Cyfrannu at ddatblygu cydberthynas weithio effeithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â ffurfio cydberthynas dda gyda chleientiaid mewn ffordd sy'n hybu ewyllys da ac ymddiriedaeth, y gallu i weithio'n effeithiol wrth gefnogi a chynorthwyo eich cydweithwyr a defnyddio cyfleoedd i ddysgu am yr hyn sy'n digwydd o fewn rôl eich swydd.
Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel trwy gydol eich gwaith. Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
datblygu cydberthynas weithio effeithiol gyda chleientiaid
datblygu cydberthynas weithio effeithiol gyda chydweithwyr
datblygu eich hun o fewn rôl y swydd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Datblygu cydberthynas weithio effeithiol gyda chleientiaid
*
*
cyfathrebu â chleientiaid yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
trafod eiddo cleientiaid â gofal a'u dychwelyd pan fydd angen
cyfeirio unrhyw bryderon sydd gan gleientiaid at y person perthnasol
cynnal cyfforddusrwydd a gofal o'r cleient er boddhad i'r cleient
bodloni safonau eich salon o ran ymddangosiad ac ymddygiad
Datblygu cydberthynas weithio effeithiol gyda chydweithwyr
*
*
gofyn am gymorth a gwybodaeth gan eich cydweithwyr, pan fydd angen
ymateb i bob cais am gymorth
gwneud yn siŵr bod amseriad eich cymorth i gydweithwyr yn sicrhau bod y salon yn rhedeg yn esmwyth
rhoi'r math o gymorth i'ch cydweithwyr sy'n bodloni cyfrifoldebau eich swydd
estyn offer a defnyddiau mewn modd sy'n sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno'n esmwyth
adrodd am unrhyw broblemau sy'n debygol o gael effaith ar wasanaethau'r salon i'r person perthnasol
Datblygu eich hun o fewn rôl y swydd
*
*
adnabod eich cryfderau a'ch gwendidau eich hun o fewn rôl y swydd a sicrhau bod y rhain yn cael eu cytuno gyda'r person perthnasol
dod o hyd i fwy o wybodaeth oddi wrth bobl berthnasol er mwyn cyflawni tasg pan nad yw'r cyfarwyddiadau sydd gennych yn glir
gofyn am adborth oddi wrth bobl berthnasol ar eich cynnydd a sut y gellir gwella ar hyn
gofyn i'ch cydweithwyr eich helpu i ddysgu os ydych chi'n cael tasgau'n anodd
cymryd cyfleoedd i ddysgu pan fydd y rheiny ar gael
cytuno ar dargedau hunanddatblygu realistig gyda'r person perthnasol
adolygu eich cynnydd yn rheolaidd tuag at gyflawni'r targedau a gytunwyd gennych
defnyddio canlyniadau eich adolygiadau i ddatblygu eich cynllun datblygu personol yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion salon a gofynion cyfreithiol
*
*
rôl eich swydd a'ch cyfrifoldebau a sut mae hyn yn gysylltiedig â rôl aelodau eraill y tîm
pryd mae angen i chi geisio cymorth, cytundeb ag eraill neu ganiatâd oddi wrthynt
pam ei bod yn bwysig gweithio o fewn cyfrifoldebau eich swydd a'r hyn allai ddigwydd os na fyddwch yn gwneud hyn
safonau ymddygiad y disgwylir i chi gydymffurfio â nhw pan fyddwch yn gweithio yn y salon, gan gynnwys presenoldeb a phrydlondeb
safonau eich salon o ran ymddangosiad personol
canllawiau eich salon ar gyfer gofal cleientiaid a pham y dylid eu dilyn
Cyfathrebu
sut i gyfathrebu mewn modd clir, cwrtais, hyderus a pham bod hyn yn bwysig
y sgiliau holi a gwrando sydd eu hangen arnoch er mwyn cael gwybodaeth
y gwahanol ddulliau o gyfathrebu
sut i adnabod pryd mae cleient yn ddig a phryd mae cleient wedi drysu
**
Dulliau gweithredu a thargedau**
sut i gael gwybodaeth am eich swydd, eich cyfrifoldebau gwaith a'r safonau y disgwylir i chi gydymffurfio â nhw
dulliau eich salon o weithredu apeliadau a chwynion
targedau a therfynau amser eich datblygiad personol
pwysigrwydd cyflawni eich targedau gwaith
Gwella eich perfformiad
sut i adnabod eich cryfderau a'ch gwendidau eich hun
pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus
pwy all eich helpu i adnabod a chael cyfleoedd ar gyfer eich datblygiad a'ch hyfforddiant
sut y gall defnyddio'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol eich helpu i adnabod eich anghenion datblygu
pam bod cydberthynas weithio da yn bwysig
sut i ymateb yn gadarnhaol i adolygiadau ac adborth a pham bod hyn yn bwysig
sut i reoli eich amser yn effeithiol
wrth bwy y dylech adrodd pan fyddwch yn cael anawsterau wrth weithio gydag eraill
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cyfleoedd i ddysgu
1.1 cymryd rhan yn weithredol mewn gweithgareddau hyfforddi a datblygu
1.2 cymryd rhan yn weithredol mewn gweithgareddau salon
1.3 gwylio gweithgareddau technegol
- Pobl berthnasol
*
*
2.1 Cydweithwyr
2.2 Cleientiaid
2.3 Rheolwyr
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr: **
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg tuag at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 agwedd broffesiynol
1.10 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau da
1.11 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.12 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
1.13 cadw at fesurau iechyd, diogelwch a gwarchodaeth yn y gweithle
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient yn gwrtais ac yn foesgar
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient i
1.5 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon
1.7 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.8 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.9 ymdrin â phroblemau o fewn cwmpas eich cyfrifoldebau a'ch rôl swydd
1.10 dangos parch at gleientiaid a chydweithwyr ar bod adeg a than bob amgylchiad
1.11 ceisio cymorth ar fyr dro oddi wrth aelod hŷn o'r staff pan fydd angen
1.12 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon