Cyfrannu at effeithiolrwydd ariannol y busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro adnoddau salon a sut i'w defnyddio'n effeithiol ynghyd â chwrdd â thargedau cynhyrchedd a datblygiad er mwyn gwneud cyfraniad cadarnhaol i effeithiolrwydd y busnes. Mae angen ichi hefyd sicrhau bod unigolion all eich helpu i ddarparu gwasanaethau i gleientiaid hefyd yn gweithio'n effeithiol.
Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel trwy gydol eich gwaith. Bydd angen ichi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
cyfrannu at ddefnyddio adnoddau'n effeithiol a'u monitro
cwrdd â thargedau cynhyrchedd a datblygiad
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cyfrannu at ddefnyddio adnoddau'n effeithiol a'u monitro
*
*
dilyn dulliau gweithredu eich salon ar gyfer monitro'r defnydd o adnoddau
sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth yn ymwneud â lefelau cyflenwadau oddi wrth eich cydweithwyr mewn pryd i gyd-daro â system archebu eich salon
defnyddio adnoddau mewn ffordd sy'n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a gofynion y salon
defnyddio dulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
gwirio bod yr holl gynnyrch sy'n cael ei ddosbarthu yn fanwl gywir ac yn gyflawn ochr yn ochr â dogfennaeth yr archeb, ac adrodd am unrhyw wallau a/neu ddifrod
adnabod a datrys unrhyw broblemau gydag adnoddau o fewn terfynau eich awdurdod
adrodd am unrhyw broblemau adnoddau na allwch chi eu datrys wrth y person perthnasol
cynnig argymhellion adeiladol i wella'r defnydd a wneir o adnoddau i'r person perthnasol
cynnig argymhellion sy'n dangos yn glir beth yw manteision rhoi eich awgrymiadau ar waith
sicrhau bod cofnodion rydych chi'n gyfrifol amdanynt yn fanwl gywir, yn ddarllenadwy ac wedi eu diweddaru
Cwrdd â thargedau cynhyrchedd a datblygiad
*
*
gosod, cytuno ar a chofnodi eich targedau cynhyrchedd a datblygiad gyda'r person perthnasol er mwyn cyfarfod ag anghenion y busnes
chwilio am gyfleoedd fydd yn eich helpu i gwrdd â'ch targedau cynhyrchedd a datblygiad
adolygu a chofnodi'n rheolaidd eich datblygiad tuag at gyflawni eich targedau cynhyrchedd a datblygiad
addasu eich gweithgareddau mewn ffordd fydd yn eich helpu i gwrdd â'ch targedau cynhyrchedd a datblygiad
cwrdd â*'ch* targedau cynhyrchedd a datblygiad penodol yn gyson ac oddi mewn i'r raddfa amser y cytunwyd arni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyfrannu at ddefnyddio adnoddau yn effeithiol a'u monitro
*
*
gofynion eich salon mewn perthynas â defnyddio'r adnoddau yn y detholiad
agweddau allweddol gofynion cyfreithiol cyfredol sy'n berthnasol i'ch busnes mewn perthynas â'r defnydd o adnoddau
gofynion cyfreithiol cyfredol mewn perthynas â gwerthu nwyddau adwerthol
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
terfynau eich awdurdod eich hun mewn perthynas â defnyddio adnoddau
wrth bwy y dylech adrodd am argymhellion
sut mae'r defnydd effeithiol o adnoddau yn cyfrannu at broffidioldeb y busnes
sut mae systemau archebu mewn salonau yn gweithio a sut mae eu dehongli
pwysigrwydd cadw cofnodion manwl gywir ar gyfer defnyddio a monitro adnoddau
y problemau cyffredin sy'n gysylltiedig ag adnoddau salon a sut i'w datrys
sut i gyflwyno manteision argymhellion a hynny mewn modd cadarnhaol
sut i drafod a chytuno ar dargedau cynhyrchedd a datblygiad
sut i ymateb yn gadarnhaol i adborth negyddol
egwyddorion cyffredinol rheoli amser sy'n gymwys i ddarparu gwasanaethau salon
Cwrdd â thargedau cynhyrchedd a datblygiad
*
*
pam ei bod yn bwysig cwrdd â'ch targedau cynhyrchedd a datblygiad
canlyniadau methu â chwrdd â'ch targedau cynhyrchedd a datblygiad
y mathau o gyfleoedd y gellir eu defnyddio i gyrraedd eich targedau cynhyrchedd a datblygiad, e.e. hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau newydd, hyrwyddiadau tymhorol a chynigion arbennig
pam y dylech chi adolygu eich targedau'n rheolaidd
pwysigrwydd cael adborth gan eraill ar eich perfformiad a'ch anghenion datbly gan eraill
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Adnoddau
1.1 dynol
1.2 cyflenwadau
1.3 offer a chyfarpar
1.4 amser
2. Targedau cynhyrchedd a datblygiad
2.1 gwerthu adwerthol
2.2 gwasanaethau technegol
2.3 dysgu personol
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
Eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel maent yn cael eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â rôl eich swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith **
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR) **
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) **
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) **
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario **
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) **
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle **
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt ynni-effeithlon, golau rhad-ar-ynni, defnyddio paneli solar)
2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau
2.4 atal llygredd
2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion hawdd eu sychu)
2.6 defnyddio dodrefn ecogyfeillgar wedi'u hailgylchu
2.7 defnyddio paent cemegau isel
2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhydd o alergedd
2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia isel iawn
2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch ecogyfeillgar
2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
2.12 annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith
3. Eich cyfrifoldebau am ddeddfwriaethau ychwanegol eraill sy'n ymwneud â'ch rôl swydd
3.1 Deddf Diogelu Data
3.2 Cyfarwyddebau Amser Gweithio
3.3 Rheoliadau Cynhyrchion Cosmetig
3.4 Deddf Gwerthu Nwyddau
3.5 Deddf Gwerthu o Bell
3.6 Deddf Disgrifiadau Masnachol
3.7 Deddf Diogelu Defnyddwyr
Gwerthoedd
1. Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg tuag at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunan-reoli
1.11 sgiliau creadigrwydd
1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog
1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
1.15 sgiliau arweinyddol
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd.
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo/iddi deimlo'n werthfawr ac yn barchus
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i gadw/chadw'n gysurlon
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad cleientiaid gwahanol
1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient
1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr
1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol
1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr
1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau