Cyfrannu at gynllunio, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau hyrwyddo
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio gydag eraill er mwyn cynllunio, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau hyrwyddo. Mae'r gallu i gyflwyno gwybodaeth yn fedrus a rhyngweithio gyda'r cyhoedd wrth arddangos sgiliau yn elfen bwysig iawn o'r safon hon.
Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel trwy gydol eich gwaith. Bydd angen ichi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
cyfrannu at gynllunio a pharatoi gweithgareddau hyrwyddo contribute to the planning and preparation of promotional activities
gweithredu gweithgareddau hyrwyddo implement promotional activities
cymryd rhan yn y broses o werthuso gweithgareddau hyrwyddo
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cyfrannu at gynllunio a pharatoi gweithgareddau hyrwyddo
*
*
cyflwyno argymhellion i'r person perthnasol am weithgareddau hyrwyddo addas ac adnabod y manteision posibl ar gyfer y busnes
adnabod a chytuno amcanion penodol, mesuradwy, posib eu cyflawni, realistig, ynghlwm wrth amser a grwpiau targed ar gyfer y gweithgaredd â'r person(au) perthnasol
cytuno ar ofynion ar gyfer y gweithgaredd â phob person perthnasol a hynny mewn digon o fanylder fel y gellir cynllunio'r gwaith
cynhyrchu cynllun y cytunwyd arno sy'n dangos:
4.1 y math o weithgaredd hyrwyddo
4.2 amcanion y gweithgaredd **
4.3 swyddogaethau a chyfrifoldebau eraill sy'n cyfranogi
4.4 gofynion adnoddau
4.5 gweithgareddau paratoi a gweithredu
4.6 graddfeydd amser
4.7 cyllideb
4.8 dulliau gwerthuso
cytuno ar gynllun sy'n ystyried unrhyw ofynion cyfreithiol, yn ôl yr angen
sicrhau bod adnoddau ar gael i gyflawni'r amserlen a gynlluniwyd
Gweithredu gweithgareddau hyrwyddo
*
*
gweithredu gweithgareddau hyrwyddo yn unol â'r cynllun a gytunwyd
addasu gweithgareddau hyrwyddo, yn ôl yr angen, mewn ymateb i amgylchiadau sydd wedi newid a neu broblemau
defnyddio adnoddau'n effeithiol drwy gydol y gweithgareddau hyrwyddo
cyfathrebu nodweddion a manteision hanfodol cynhyrchion a gwasanaethau i'r grŵp targed
defnyddio dulliau cyfathrebu sy'n addas ar gyfer y math o weithgaredd hyrwyddo sy'n cael ei gynnal
cyflwyno gwybodaeth fesul camau rhesymegol
annog y grŵp targed i ofyn cwestiynau am y gwasanaethau a'r cynhyrchion sy'n cael eu hyrwyddo
ymateb i gwestiynau ac ymholiadau mewn modd sy'n hybu ewyllys da ac sy'n gwella delwedd y salon
annog y grŵp targed yn weithredol i fanteisio ar y gwasanaethau a'r cynhyrchion sy'n cael eu hyrwyddo
clirio cynhyrchion a chyfarpar ar ddiwedd y gweithgareddau hyrwyddo, yn ôl yr angen, yn unol â gofynion y lleoliad clear
Cymryd rhan yn y broses o werthuso gweithgareddau hyrwyddo
*
*
defnyddio'r dulliau y cytunwyd arnynt yn eich cynllun gweithgaredd hyrwyddo i gael adborth o'r ffynonellau perthnasol
casglu a chofnodi'r wybodaeth a gafwyd o'r adborth gan ddefnyddio fformat a dull cyflwyno eglur
tynnu casgliadau ar effeithiolrwydd y gweithgaredd hyrwyddo o ran cyflawni'r amcanion y cytunwyd arnynt
cymryd rhan mewn trafodaethau gan roi crynodeb eglur, wedi'i strwythuro'n dda, o ganlyniadau'r gwerthusiad
argymell gwelliannau ar gyfer unrhyw weithgareddau hyrwyddo sydd i'w cynnal yn y dyfodol yn seiliedig ar ganlyniadau eich gwerthusiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyfrannu at gynllunio a pharatoi gweithgareddau hyrwyddo
*
*
gofynion ymarferol a chyfyngiadau unrhyw leoliad
gofynion y cytundeb, deddfau a deddfwriaeth lleol allai gyfyngu ar eich gweithgaredd hyrwyddo mewn unrhyw leoliad a ddefnyddir
pwysigrwydd ystyried gofynion iechyd a diogelwch a gofynion cyfreithiol eraill
y dulliau gweithredu iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i unrhyw leoliad y byddwch yn ei ddefnyddio
y peryglon posibl mae'n rhaid i chi eu hystyried wrth weithio mewn unrhyw leoliad
y camau y dylid eu cymryd i leihau peryglon wrth weithio mewn lleoliad allanol
diben a gwerth cynllunio manwl a chywir
y math o ofynion adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau hyrwyddo e.e. unigolion, offer a chyfarpar, defnyddiau, amser, lleoliad
sut gall natur y grŵp targed ddylanwadu ar y dewis o weithgaredd hyrwyddo
sut i gyfateb mathau o weithgareddau hyrwyddo gydag amcanion
sut i gyflwyno cynllun ar gyfer gweithgareddau hyrwyddo
pam ei bod yn bwysig ystyried dulliau gwerthuso yn ystod y cyfnod cynllunio
sut i lunio amcanion CAMPUS: Cyraeddadwy; Amserol; Mesuradwy; Penodol; Uchelgeisiol; Synhwyrol
pwysigrwydd gweithio yn ôl cyllideb
ble a sut i gael adnoddau
pwysigrwydd diffinio swyddogaethau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n ymwneud â'r gweithgareddau hyrwyddo yn glir
pwysigrwydd neilltuo swyddogaethau a chyfrifoldebau i gyfateb i lefelau cymhwysedd unigolyn
pwysigrwydd sicrhau ymroddiad a chytundeb unigolyn i ymgymryd â swyddogaeth yn y gweithgaredd hyrwyddo
y mathau o broblemau y gellir eu rhagweld sy'n digwydd a dulliau o'u datrys
*
*
Gweithredu gweithgareddau hyrwyddo
nodweddion a manteision y cynhyrchion a/neu'r gwasanaethau sy'n cael eu hyrwyddo
sut i adnabod arwyddion bod rhywun ag awydd prynu a sut i gwblhau'r gwerthiant
y gwahaniaeth rhwng nodweddion cynnyrch neu wasanaeth a manteision cynnyrch neu wasanaeth
sut i deilwra eich cyflwyniad am fanteision cynhyrchion a/neu wasanaethau i gyfarfod ag anghenion a diddordebau unigol
sut a phryd i gymryd rhan mewn trafodaethau
sut i roi cyflwyniad byr gan roi ystyriaeth i amseru, cyflymder, defnyddio'r llais a defnyddio graffeg
dulliau o gyflwyno gwybodaeth e.e. yn ddarluniadol, trwy ddefnyddio graffeg, ar lafar
dulliau o greu effaith weledol
sut a phryd i greu agoriadau er mwyn annog eraill i ofyn cwestiynau
sut i ateb cwestiynau a thrin ymholiadau mewn modd sy'n debygol o gynnal ewyllys da
Cymryd rhan yn y broses o werthuso gweithgareddau hyrwyddo
diben gweithgareddau hyrwyddo
elfennau'r gweithgaredd hyrwyddo y dylid eu gwerthuso
y dulliau mwyaf addas o gael adborth ar gyfer y gweithgareddau hyrwyddo yn y detholiad
sut i gasglu, dadansoddi a chrynhoi adborth gwerthuso mewn ffordd eglur a chryno
dulliau addas o fformatio a chynhyrchu adroddiad gwerthuso
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Gweithgareddau hyrwyddo yw **
1.1 arddangosiadau
1.2 arddangosfeydd
1.3 ymgyrchoedd hysbysebu
2. Amcanion yw **
2.1 Gwella delwedd salon
2.2 Cynyddu busnes y salon
Gwybodaeth Cwmpas
1. Pwysigrwydd ystyried gofynion iechyd a gofal a gofynion cyfreithiol eraill
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith **
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR) **
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) **
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) **
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario **
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) **
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle **
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
1.11 Deddf Diogelu Data
1.12 Cyfarwyddebau Amser Gweithio
1.13 Rheoliadau Cynhyrchion Cosmetig
1.14 Deddf Gwerthu Nwyddau
1.15 Deddf Gwerthu o Bell
1.16 Deddf Disgrifiadau Masnachol
1.17 Deddf Diogelu Defnyddwyr
Gwerthoedd
1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg tuag at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunan-reoli
1.11 sgiliau creadigrwydd
1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog
1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
1.15 sgiliau arweinyddol
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd.
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo/iddi deimlo'n werthfawr ac yn barchus
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i gadw/chadw'n gysurlon
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad cleientiaid gwahanol
1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient
1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr
1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol
1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr
1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau