Darparu triniaethau arbenigol ar gyfer gwallt a chroen pen
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adnabod amrywiaeth o gyflyrau gwallt a chroen pen a darparu triniaethau a chyngor i gleientiaid er mwyn gwella'r cyflyrau hyn.
Mae'r gallu i ddewis a rhoi amrywiaeth o driniaethau gwallt a chroen pen gan ddefnyddio cynhyrchion, offer, cyfarpar a thechnegau yn ofynnol er mwyn cyflawni'r safon hon.
Er mwyn gweithredu'r safon hon bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid o safon uchel drwy gydol eich gwaith. Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth ddarparu triniaethau arbenigol ar gyfer gwallt a chroen pen
paratoi ar gyfer triniaethau gwallt a chroen
rhoi triniaethau gwallt a chroen pen
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth ddarparu triniaethau arbenigol ar gyfer gwallt a chroen pen
*
*
cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon
diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth
gosod eich cleient mewn safle er mwyn bodloni gofynion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghyfforddus
sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf
cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
7.1 lleihau gwastraff cynhyrchion triniaeth
7.2 lleihau'r risg o groes-heintiad
7.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio
7.4 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân
7.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill
7.6 lleihau'r risg o ddifrod i offer a chyfarpar
7.7 hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion
gwared defnyddiau gwastraff
cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser masnachol ymarferol
Paratoi ar gyfer triniaethau gwallt a chroen pen
- defnyddio dulliau i gadarnhau:
12.1 natur a hyd a lled cyflwr y gwallt a'r croen pen
12.2 y camau gweithredu mwyaf addas
canfod o gofnodion ymgynghoriadau blaenorol eich cleient, pan fydd y rheiny ar gael, hanes eu triniaethau gwallt, eu hanes meddygol a theuluol a sut y gall hyn effeithio ar y cynllun triniaeth, neu ffactorau sy'n cyfyngu ar neu'n rhwystro'r triniaethau
cofnodi ymatebion eich cleient i'r cwestiynu
cynnal y profion perthnasol ar wallt eich cleient gan ddilyn gweithdrefnau cydnabyddedig y diwydiant a pholisi'r salon a chofnodi'r canlyniadau
cymryd camau gweithredu priodol pan fydd gwrthrybuddion a neu adweithiau i'r profion yn codi amheuon ynglŷn ag addasrwydd y driniaeth arbenigol ar gyfer y cleient
*
*
Rhoi triniaeth gwallt a chroen pen
*
*
dewis cynhyrchion, offer a chyfarpar triniaeth addas ar gyfer trin y cyflyrau gwallt a chroen pen
paratoi'r gwallt a'r croen pen i gyfarfod ag anghenion y driniaeth arbenigol
esbonio wrth y cleient yr ymdeimlad y bydd hi/e o bosib yn ei chael wrth ddefnyddio cynhyrchion, offer a chyfarpar y driniaeth
esbonio trefn y driniaeth arbenigol wrth eich cleient mewn ffordd glir a syml ar bob cam o'r broses
defnyddio cynhyrchion, offer a chyfarpar y driniaeth yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr a pholisi'r salon
newid lleoliad a pharhad yr offer a'r cyfarpar a ddefnyddir i siwtio'r cleient a'u cyflyrau gwallt a chroen pen
defnyddio ac addasu'r technegau tylino er mwyn cyfarfod ag anghenion eich cleient ac amcanion y driniaeth
defnyddio technegau trin sy'n lleihau anghysur eich cleient
cymryd camau adfer yn ddiymdroi os bydd gwrthrybuddion neu anghysur yn digwydd yn ystod cyfnod y driniaeth arbenigol
dangos empathi a sensitifrwydd tuag at natur cyflwr eich cleient drwy gydol y driniaeth
sicrhau bod y gwallt a'r croen pen yn cael eu gadael yn lân ac yn rhydd o gynhyrchion y driniaeth, lle bydd eu hangen
sicrhau bod eich cleient yn fodlon â'r driniaeth a'i bod yn bodloni amcanion y driniaeth
rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth ddarparu triniaethau gwallt a chroen pen
*
*
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient
y mathau o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael i'r cleientiaid
sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus
yr ystyriaethau diogelwch y mae'n rhaid eu hystyried wrth ddarparu triniaethau gwallt a chroen pen
y dulliau cywir o ddefnyddio a chynnal a chadw offer a chyfarpar
dulliau cywir o lanhau, diheintio a sterileiddio cyfarpar ac offer
y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch
cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn
y dulliau cywir o wared gwastraff
amser gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer triniaethau gwallt a chroen pen
Paratoi ar gyfer triniaethau gwallt a chroen pen
*
*
sut i adnabod cyflyrau gwallt a chroen pen
sut y gall arwyddion a symptomau eraill roi arwydd o achos y broblem a chadarnhau'r camau gweithredu sy'n ofynnol
achosion tebygol cyflyrau gwallt a chroen pen anffafriol
y dasg o baratoi a defnyddio cynhyrchion, offer a chyfarpar y cynhyrchion trin gwallt a chroen pen
y cynhwysion gweithredol sydd mewn cynhyrchion arbenigol ar gyfer trin gwallt a chroen pen a sut y mae'r rhain yn gweithio
y gwahanol fathau o driniaethau meddygol sydd ar gael ar gyfer colli gwallt
effeithiau a manteision gwahanol dechnegau tylino
effeithiau a manteision gwahanol offer a chyfarpar
sut i adnabod erythema a hyperaemia a'i achosion
24. anatomi a ffisioleg y gwallt a'r croen pen a sut y mae hyn yn effeithio ar y gwallt a'r croen pen
y gylchred tyfiant gwallt a sut mae hyn yn dylanwadu ar driniaethau cyfredol ac yn y dyfodol
y rhesymau dros dyfiant gwallt normal ac abnormal e.e. argroenol, cynhenid, systemig
y ffactorau cyffredinol sy'n cyfrannu at wallt a chroen pen iach
y gwahanol fathau o golli gwallt, alopesia, eu hachosion a sut i'w hadnabod
y camau yn y patrymau o golli gwallt mewn dynion a merched gan ddefnyddio gwahanol ddosbarthiadau e.e. Hamilton a Ludwig
y mathau o brofion a'u pwrpas
pryd a sut y dylid cynnal profion a phwysigrwydd cofnodi canlyniadau
gwrthrybuddion posib all ddigwydd yn ystod ac yn dilyn triniaeth a sut i ymdrin â nhw
Rhoi triniaeth gwallt a chroen pen * *
y gwahanol fathau o driniaethau a chynhyrchion gwallt a chroen pen sydd ar gael i'w defnyddio
sut y gall gwahanol ffactorau ddylanwadu ar y dewis o driniaeth, yr offer, y cyfarpar a'r taeniad a ddewiswyd
pwysigrwydd addasu technegau tylino, triniaethau a chyfarpar i siwtio cyflwr y gwallt a'r croen pen ynghyd ag anghenion y cleient
y gwahanol fathau o ddatblygiadau technolegol ar gyfer trin cyflyrau gwallt a chroen pen
effeithiau cemotherapi a radiotherapy ar dyfiant gwallt
y cyngor a'r gefnogaeth sydd ar gael i gleientiaid sy'n dioddef o golli gwallt
pwysigrwydd sicrhau bod y gwallt a'r croen pen yn cael eu gadael yn glir o gynhyrchion triniaeth
pwysigrwydd esbonio'r angen posib am gwrs o driniaeth er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posib
pwysigrwydd gwerthuso effeithiolrwydd y driniaeth a wnaed ar y gwallt a'r croen pen
pwysigrwydd rhoi cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cynhyrchion triniaeth
1.1 olewau
1.2 hufennau
1.3 trwythau
1.4 cynhyrchion sy'n cynnwys gwirod
1.5 cyflyrwyr triniaeth
1.6 siampwau triniaeth
2. Offer a chyfarpar
2.1 vibro massage
2.2 tonfedd uchel
2.3 cyflymyddion gwres
2.4 stemwyr
3. Ffactorau
3.1 nodweddion gwallt
3.2 dosbarthiadau gwallt
3.3 cyflwr y croen pen
3.4 nodweddion anarferol ar y croen pen
4. Cyflyrau gwallt a chroen pen
4.1 croen pen sych
4.2 croen pen seimlyd
4.3 croen pen wedi'i sensiteiddio
4.4 croen pen sy'n cennu
4.5 pityriasis capitis
4.6 colli gwallt ar hyd ac ar draws (teneuo cyffredinol)
4.7 gwallt wedi'i niweidio gan gemegau
4.8 gwallt wedi'i niweidio gan yr amgylchedd
4.9 gwallt wedi'i niweidio'n gorfforol
5. Technegau tylino
5.1 effleurage
5.2 petrissage
5.3 dirgryndod
6. Amcanion y driniaeth
6.1 gwella cyflwr y gwallt
6.2 gwella cyflwr y croen pen
- Cyngor ac argymhellion
7.1 sut i gynnal a chadw eu golwg
7.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau
7.3 cynhyrchion a gwasanaethau cyfredol ac i'r dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario
Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
1.6 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
1.7 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.8 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.9 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt ynni-effeithlon, golau rhad-ar-ynni, defnyddio paneli solar)
2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill
2.4 atal llygredd
2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion hawdd eu sychu)
2.6 defnyddio dodrefn ecogyfeillgar wedi'u hailgylchu
2.7 defnyddio paent cemegau isel
2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhydd o alergedd
2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia isel iawn
2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch ecogyfeillgar
2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
2.12 annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith
3. Ffactorau
y gwahanol ffactorau y mae angen eu hystyried cyn ac yn ystod darparu triniaethau arbenigol ar gyfer gwallt a chroen pen a sut y gall y rhain effeithio ar y gwasanaeth
3.1 dosbarthiadau gwallt
3.2 nodweddion gwallt
3.3 cyflwr y croen pen
3.4 nodweddion anarferol ar y croen pen
4. Anatomi a ffisioleg
4.1 ffurfiant, swyddogaeth a gweithrediad y cyhyrau oddi mewn i ardal y driniaeth
4.2 safle'r prif esgyrn oddi mewn i ardal y driniaeth
4.3 egwyddorion sylfaenol y system endocrin a sut mae hyn yn effeithio ar y gwallt a'r croen pen
4.4 ffurfiant a swyddogaeth cylchrediad y gwaed a sut mae hyn yn effeithio ar y gwallt a'r croen pen
4.5 ffurfiant a swyddogaeth y system lymffatig a sut mae hyn yn effeithio ar y gwallt a'r croen pen
4.6 ffurfiant a swyddogaeth y system nerfol a sut mae hyn yn effeithio ar y gwallt a'r croen pen
4.7 effeithiau corfforol a seicolegol triniaethau gwallt a chroen pen
4.8 ffurfiant a swyddogaeth y croen a'r gwallt
5. Cyngor ac argymhellion
*
*
5.1 gwasanaethau ychwanegol
5.2 cynhyrchion ychwanegol
Gwerthoedd
- Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg tuag at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunan-reoli
1.11 sgiliau creadigrwydd
1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog
1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr ac yn barchus
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad cleientiaid gwahanol
1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient
1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr
1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol
1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn deall yn llwyr
1.16. esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau
Sgiliau
Geirfa
1. Dosbarthiad Gwallt (canllaw yn unig yw hwn)
Math 1 – Gwallt syth
1.1 Ffein/Tenau – y gwallt yn tueddu bod yn sidanaidd iawn, yn sgleiniog a seimlyd, a gall fod yn anodd dal cyrlen.
1.2 Canolig – llawer o cyfaint a swmp yn perthyn i'r gwallt
1.3 Bras – y gwallt fel arfer yn syth dros ben ac yn anodd ei gyrlio.
Math 2 – Gwallt tonnog
2.1 Ffein/Tenau – patrwm "S" pendant i'r gwallt. Fel arfer gall ddal gwahanol steiliau.
2.2 Canolig – y gwallt yn tueddu bod yn grych ac ychydig yn ymwrthol wrth Steilio.
2.3 Bras – y gwallt hwn hefyd yn ymwrthol wrth ei steilio ac yn grych iawn fel arfer; y tonnau'n tueddu bod yn fwy trwchus.
Math 3 – Gwallt cyrliog
3.1 Cwrls llac – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt. Gall fod yn drwchus a llawn ac yn swmpus, ac iddo batrwm "S" pendant. Mae hefyd yn tueddu bod yn grych.
3.2 Cwrls tynn – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt hyn hefyd; ynghyd â maint cymedrol o gwrls.
Math 4 – Gwallt cyrliog iawn
4.1 Sidanaidd – y gwallt yn tueddu bod yn frau iawn, yn dorchau tynn ac iddo batrwm cyrliog mwy diffiniedig.
4.2 Gwrychog – hefyd yn frau iawn ac yn dorchau tynn; er hynny mae iddo batrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".
- Mae Nodweddion Gwallt yn cynnwys y canlynol: * *
2.1 trwch gwallt
2.2 ansawdd gwallt
2.3 elastigedd gwallt
2.4 mandylledd gwallt
2.5 cyflwr gwallt
2.6 patrymau tyfiant gwallt
*3. Effleurage *
tynnu llaw yn dyner dros y gwallt (mwytho)
*4. Petrissage *
tylino araf, cadarn
5. Dirgryndod
symudiad mân crynedig a wneir gan eich llaw neu eich bysedd wrth dylino meinwe