Datblygu, gwella a gwerthuso eich sgiliau trin gwallt creadigol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu eich sgiliau creadigol mewn ffordd sy'n gwella eich proffil proffesiynol personol. Mae angen y gallu i ymchwilio, cynllunio a chreu ystod o ddelweddau mewn cydweithrediad ag eraill yn y safon hon. Mae gwerthuso'r canlyniadau a sut y gellir addasu delwedd eich cynllun at ddibenion masnachol yn rhan bwysig o'r safon hon hefyd.
Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel trwy gydol eich gwaith. Bydd angen ichi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
paratoi a chynllunio amrywiaeth o ddelweddau pla
cynhyrchu amrywiaeth o ddelweddau creadigol
gwerthuso eich canlyniadau ochr yn ochr ag amcanion y cynllun
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi a chynllunio amrywiaeth o ddelweddau
* *
adnabod y gweithgaredd y bwriedir y delweddau ar ei gyfer
defnyddio ffynonellau gwybodaeth addas i ymchwilio syniadau ar themâu i'w cynllunio
canfod gwybodaeth er mwyn creu eich cynllun
creu cynllun sydd ag amcanion wedi eu diffinio'n glir:
4.1 yn addas ar gyfer yr ystod o ddelweddau a ddewiswyd gennych
4.2 yn diffinio'n eglur swyddogaethau a chyfrifoldebau pobl eraill sy'n cymryd rhan
4.3 yn ystyried cyfyngiadau cyllidebol
4.4 yn diffinio'r holl adnoddau angenrheidiol
4.5 yn nodi sut y gellir lleihau risgiau i iechyd a diogelwch
4.6 yn ystyried problemau y gellir eu rhagweld a dulliau o'u datrys
4.7 yn rhestru unrhyw anghenion o ran lleoliad, os yw'n berthnasol
- cytuno ar eich cynllun gyda'r person(au) perthnasol
Cynhyrchu amrywiaeth o ddelweddau creadigol
*
*
cyfathrebu ag eraill drwy gydol y broses o weithredu eich cynllun
addasu eich cynllun i fodloni unrhyw newid o ran amgylchiadau
arddangos y defnydd arloesol o dechnegau er mwyn creu delwedd y cynllun
defnyddio cyfryngau ychwanegol i ategu delwedd y cynllun, pan fydd angen
dilyn dulliau gweithio diogel ac effeithiol wrth greu delwedd y cynllun
sicrhau bod y ddelwedd orffenedig yn cyd-fynd â'r cynllun y cytunwyd arno
sicrhau bod y ddelwedd orffenedig a'r modd y mae'n cael ei chyflwyno yn dangos nodweddion arloesol eich cynllun yn glir ac yn gwella eich proffil proffesiynol
Gwerthuso eich canlyniadau ochr yn ochr ag amcanion y cynllun
*
*
ceisio adborth gan berson(au) perthnasol ar effaith eich delwedd a'i heffeithiolrwydd wrth fodloni eich cynllun
gwerthuso eich perfformiad personol ochr yn ochr â'ch amcanion er mwyn canfod sut a lle y gellid ei wella
gwerthuso sut y gellir addasu delwedd eich cynllun i'w defnyddio'n fasnachol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi a chynllunio amrywiaeth o ddelweddau
*
*
egwyddorion sylfaenol cynllunio, graddfa a chyfrannedd wrth greu delwedd
sut i adnabod a datblygu thema fel sail i ddelwedd cynllun trin gwallt
pwysigrwydd cynllunio manwl a chywir
pwysigrwydd cyfathrebu a chytuno ar gynlluniau
pwysigrwydd pennu cyllideb a gweithio o'i mewn
ffynonellau gwybodaeth ac ysbrydoliaeth greadigol ar gyfer syniadau am gynlluniau a sut i gael gafael arnynt, e.e. hanesyddol, diwylliannol a ffasiwn
amrywiaeth ac argaeledd adnoddau
lle i gael gafael ar adnoddau
unrhyw ofynion o ran lleoliad sy'n debygol o effeithio ar eich cynlluniau
y problemau cyffredin sy'n gysylltiedig â sesiynau tynnu lluniau, sioeau gwallt a chystadlaethau e.e. staffio, offer a chyfarpar yn torri, a mynd dros amser a sut i'w datrys
y peryglon posibl y mae'n rhaid i chi eu hystyried wrth weithio mewn unrhyw leoliad
y camau y dylid eu cymryd i leihau risgiau wrth weithio mewn unrhyw leoliad
ym mha ffordd ac os gall deddfau a deddfwriaeth lleol gyfyngu ar eich defnydd o offer a chyfarpar
dulliau gweithredu iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i unrhyw leoliad a ddefnyddir gennych
*
*
Cynhyrchu amrywiaeth o ddelweddau
*
*
pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol
sut a phryd i gymryd rhan mewn trafodaethau a'u symud ymlaen
sut i greu agoriadau mewn sgyrsiau i annog pobl i siarad
dulliau o gyflwyno'n weledol eich delwedd gynllunio mewn ffordd effeithiol i eraill
dulliau lle gellir defnyddio cyfryngau ychwanegol i ategu delwedd gyffredinol y cynllun
pwysigrwydd cyflwyno eich canlyniadau terfynol mewn modd proffesiynol
technegau cyfredol ar gyfer steilio, trin a gorffen gwallt yn greadigol
y mathau o gynhyrchion, offer a chyfarpar sydd ar gael a'r effeithiau y gallant eu creu
y mathau o eitemau anghonfensiynol y gellir eu defnyddio wrth steilio gwallt a'r effeithiau y gallant eu creu
cyfarwyddiadau gwneuthurwyr ar gyfer y cynhyrchion, yr offer a'r cyfarpar penodol y bwriadwch eu defnyddio
*
*
Gwerthuso eich canlyniadau ochr yn ochr ag amcanion y cynllun
*
*
diben gweithgareddau gwerthuso
y meysydd lle dylech gasglu adborth amdanynt
dulliau o gael adborth gan eraill
y manteision masnachol posibl all godi o waith cynllunio gwallt creadigol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Gweithgaredd Activity
1.1 ffotograffig
1.2 sioeau
1.3 gwaith cystadlaethau
2. Delweddau
2.1 yn seiliedig ar thema
2.2 avant-garde
3. Person(au) perthnasol
3.1 ffotograffydd
3.2 rheolwr llinell
3.3 artistiaid colur
3.4 cydweithwyr
3.5 cynulleidfa sioe
3.6 beirniaid cystadlaethau
4. Technegau
4.1 torri
4.2 pyrmio
4.3 llacio
4.4 lliwio
4.5 steilio a thrin
4.6 ychwanegu gwallt
4.7 plethu
4.8 troelli
4.9 cudynnu
4.10 eillio
4.11 creu patrymau mewn gwallt
5. Cyfryngau ychwanegol
5.1 ategolion
5.2 dillad
5.3 colur
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
Ym mha ffordd ac os gall deddfau a deddfwriaethau lleol gyfyngu ar eich defnydd o offer a chyfarpar a dulliau gweithredu iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i unrhyw leoliad a ddefnyddir gennych:
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith **
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR) **
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) **
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) **
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) **
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle **
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
1.11 Deddf Diogelu Data
1.12 Cyfarwyddebau Amser Gweithio
1.13 Rheoliadau Cynhyrchion Cosmetig
1.14 Deddf Gwerthu Nwyddau
1.15 Deddf Gwerthu o Bell
1.16 Deddf Disgrifiadau Masnachol
1.17 Deddf Diogelu Defnyddwyr
Gwerthoedd
1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg tuag at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunan-reoli
1.11 sgiliau creadigrwydd
1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog
1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
1.15 sgiliau arweinyddol
Ymddygiadau
- Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd:
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo/iddi deimlo'n werthfawr ac yn barchus
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i gadw/chadw'n gysurlon
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad cleientiaid gwahanol
1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient
1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr
1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol
1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr
1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau
Sgiliau
Geirfa
1. Person perthnasol
*
*
Unigolyn sy'n cael ei hystyried/ystyried gyfrifol am eich arolygu yn ystod tasg neu wasanaeth penodedig neu'r person y byddwch chi fel arfer yn rhoi adroddiad iddi/iddo e.e. eich rheolwr llinell. Yn y Safon benodol hon, gall hefyd gyfeirio at unigolyn y mae'r salon yn ei ystyried yn gyfrifol am feysydd a gwasanaethau penodol. **
2. Adnoddau
*
*
Unrhywbeth a ddefnyddir i gynorthwyo cyflwyno a chwblhau gwasanaeth megis tywelion, gynau, cyfarpar, eitemau traul.