Darparu gwasanaethau ymgynghori i gleientiaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaeth ymgynghori a chynghori cynhwysfawr i gleientiaid. Mae ymgynghori â chleientiaid yn hanfodol i lwyddiant pob gwasanaeth technegol gan sicrhau eich bod yn ymwneud yn llawn â'ch cleient i ddiwallu ei hanghenion/anghenion a'i disgwyliadau/ddisgwyliadau.
Ymgynghoriad cleient yw'r sail tuag at sefydlu ac adeiladu eich perthynas â'r cleient ac mae'n bwysig bod amrywiaeth o sgiliau cyfathrebu yn cael eu harddangos er mwyn casglu gwybodaeth allweddol. Mae cynnig argymhellion addas ar gyfer gwasanaethau a chynhyrchion yn seiliedig ar y wybodaeth hon a chanlyniadau eich dadansoddiad o'u gwallt, croen a'u croen pen yn rhan hanfodol o'r safon hon.
Mae'r gallu i roi cyngor gan gynnwys dulliau gweithredu eraill, e.e. cyfeirio at arbenigwyr eraill, hefyd yn ofyniad.
Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel trwy gydol eich gwaith.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
sefydlu gofynion y cleient
dadansoddi'r gwallt, y croen a'r croen pen
adolygu dewisiadau a chytuno ar ddull gweithredu
rhoi cyngor i gleientiaid ynglŷn â chynnal a rheoli'r gwallt
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cadarnhau gofynion y cleient
*
*
defnyddio technegau ymgynghori mewn modd cwrtais a chefnogol
gofyn cwestiynau perthnasol mewn ffordd y bydd eich cleient yn ei deall
defnyddio cymhorthion gweledol i gyflwyno syniadau addas i gleientiaid er mwyn eu cynorthwyo i ddod i benderfyniad
annog eich cleientiaid i fynegi eu dymuniadau, eu barnau a'u pryderon a chaniatáu digon o amser iddyn nhw wneud hyn
egluro beth yw goblygiadau'r gwasanaethau trin gwallt y cytunwyd arnynt mewn ffordd y gall eich cleient ei deall
Dadansoddi'r gwallt, y croen a'r croen pen
*
*
sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
cynnal archwiliadau gweledol ac unrhyw brofion angenrheidiol ar y gwallt, y croen a'r croen pen i fodloni dulliau gweithredu penodol
canfod, *o gofnodion blaenorol eich cleient, pan fydd y rheiny ar gael, unrhyw ffactorau sy'n debygol o effeithio ar wasanaethau yn y dyfodol *
adnabod ffactorau sy'n cyfyngu neu'n cael effaith ar wasanaethau a'r dewis o gynhyrchion
argymell dulliau gweithredu addas os na ellir cyfarfod ag anghenion eich cleient
ymdrin â phroblemau dadansoddi
Adolygu dewisiadau a chytuno ar ddull gweithredu
*
*
ystyried, egluro ac adolygu cynhyrchion a dewisiadau o ran gwasanaethau sydd ar gael i'r cleient
cytuno ar wasanaethau, cynhyrchion a chanlyniadau sy'n dderbyniol i'ch cleient ac sy'n cyfarfod â'i hanghenion/anghenion
seilio argymhellion ar ganlyniadau eich dadansoddiad o nodweddion gwallt a dosbarthiadau gwallt eich cleient, cyflwr y croen a'r croen pen
cynnig awgrymiadau ynglŷn â gwasanaethau a chynhyrchion gwahanol, os byddwch yn penderfynu nad yw gofynion eich cleient yn realistig
sicrhau bod cofnodion eich cleient wedi eu diweddaru, eu bod yn fanwl gywir a chyflawn
Rhoi cyngor i gleientiaid ynghylch cynnal a rheoli gwallt
*
*
nodi trefn bresennol eich cleient o ofalu am ei gwallt/wallt
esbonio effaith trefn bresennol eich cleient o ofalu am ei gwallt/wallt ar wasanaethau trin gwallt yn y dyfodol
rhoi cyngor i'ch cleient am ffyrdd o wella ei threfn/drefn bresennol o ofalu am ei gwallt/wallt.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cadarnhau gofynion cleientiaid
*
*
pwysigrwydd creu lleoliad lle bydd cleientiaid yn teimlo'n gysurus
sut i archwilio disgwyliadau, pryderon ac anghenion y cleientiaid ac egluro unrhyw gyfyngiadau o ran gwasanaeth
pwysigrwydd dangos cwrteisi, empathi a sensitifrwydd tuag at y cleient trwy gydol yr ymweliad, a sut i wneud hynny
sut i ddefnyddio technegau ymgynghori effeithiol wrth gyfathrebu â chleientiaid o wahanol gefndiroedd diwylliannol a chrefyddol, oedrannau, anableddau a rhyw
pwysigrwydd peidio â gwahaniaethu yn erbyn cleientiaid sydd â salwch ac anableddau a pham
pwysigrwydd siarad â chleientiaid a chreu cyfleoedd mewn sgyrsiau i'w hannog i siarad
y gwahanol fathau o gymhorthion gweledol all fod o gymorth wrth ymgynghori â chleientiaid
y mathau o ffynonellau gwasanaethau, triniaethau a chymorth ychwanegol all fod o ddiddordeb i gleientiaid
cost ac amlder cynnal a chadw ar gyfer yr holl wasanaethau
hyd, ymrwymiad ac amser angenrheidiol er mwyn cyflawni a chynnal gwasanaethau
goblygiadau newidiadau i'w trefn bresennol o ofalu am y gwallt a'r croen pen
eich cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol, presennol ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall
eich cyfrifoldebau cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth defnyddwyr ac adwerthu presennol ar gyfer disgrifio nodweddion a manteision cynhyrchion a gwasanaethau
Dadansoddi'r gwallt, y croen a'r croen pen
eich cyfrifoldebau a'ch rhesymau dros gynnal a chadw eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol
pwysigrwydd cynnal profion a chanlyniadau posibl methu â gwneud hynny
mathau o brofion a'u diben
dulliau gweithredu'r salon a chyfarwyddiadau gwneuthurwyr mewn perthynas â chynnal profion
strwythur sylfaenol gwallt a chroen
cylchred tyfiant gwallt
sut mae gwahanol ffactorau yn cyfyngu ar neu'n effeithio ar y gwasanaethau a'r cynhyrchion y gellir eu cynnig i gleientiaid
sut i adnabod yn weledol gyflyrau anffafriol gwallt a chroen pen
pwysigrwydd peidio ag enwi cyflyrau penodol wrth gyfeirio cleientiaid at feddyg teulu neu dricolegydd a'r rhesymau dros hynny
polisi eich salon ynglŷn â chyfeirio cleientiaid i salonau, ffynonellau a gweithwyr proffesiynol eraill
rôl gweithwyr proffesiynol eraill e.e. fferyllydd, tricolegydd, meddyg teulu, a'r gwasanaethau arbenigol y gallant eu cynnig
terfynau a ffiniau eich dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau a pham ei bod yn bwysig egluro'r rhain i'r cleient
Adolygu dewisiadau a chytuno ar ddull gweithredu
*
*
pwysigrwydd cadarnhau a chofnodi'r dull gweithredu sydd i'w ddilyn yn achos y cleient
sut mae gwahanol fathau o nodweddion gwallt yn effeithio ar gynhyrchion a gwasanaethau
sut mae gwahanol fathau o ddosbarthiad gwallt yn effeithio ar gynhyrchion a gwasanaethau
sut mae cwblhau'r cofnodion cleientiaid a ddefnyddir yn eich sefydliad a phwysigrwydd sicrhau caniatâd y cleient a'r rhesymau dros hynny
pwysigrwydd cwblhau cofnodion cleientiaid yn gywir, eu storio a'u cadw'n ddiogel
pwysigrwydd cyfrinachedd a'r hyn allai ddigwydd os na chynhelir hyn
*
*
Rhoi cyngor i gleientiaid ynghylch cynnal a rheoli'r gwallt
pwysigrwydd rhoi cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon
sut i gynnal a chadw'r steil y cytunwyd arno
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cleient
1.1 newydd
1.2 rheolaidd
2. Technegau ymgynghori
2.1 cwestiynu
2.2 arsylwi
3. Goblygiadau
* *
3.1 amlder cynnal a chadw
3.2 cyfyngiadau ar wasanaethau eraill
3.3 newidiadau i'w trefn bresennol o ofalu am wallt a chroen pen
4. Ffactorau sy'n cyfyngu neu'n effeithio ar wasanaethau
4.1 cyflyrau gwallt, croen a chroen anffafriol pen
4.2 gwasanaethau a chynhyrchion a ddefnyddiwyd ac a fu'n anghydnaws yn y gorffennol
4.3 ffordd o fyw y cleient
4.4 canlyniadau profion
5. Dulliau gweithredu
5.1 cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad
5.2 cyfeirio at ffynonellau cymorth yn unol â dull gweithredu eich salon
6. Nodweddion gwallt
* *
6.1 trwch gwallt
6.2 ansawdd gwallt
6.3 elastigedd gwallt
6.4 mandylledd gwallt
6.5 cyflwr gwallt
6.6 patrymau tyfiant gwallt
*
*
7. Dosbarthiad gwallt
* *
7.1 Math 1 – gwallt syth
7.2 Math 2 – gwallt tonnog
7.3 Math 3 – gwallt cyrliog
7.4 Math 4 – gwallt cyrliog iawn
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a Diogelwch
Eich cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth, safonau a chanllawiau iechyd a diogelwch cyfredol, megis Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a deddfwriaethau perthnasol eraill **
* *
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith **
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR) **
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) **
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) **
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario **
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) **
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle **
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
1.11 Deddf Diogelu Data
1.12 Cyfarwyddebau Amser Gweithio
1.13 Rheoliadau Cynhyrchion Cosmetig
1.14 Deddf Gwerthu Nwyddau
1.15 Deddf Gwerthu o Bell
1.16 Deddf Disgrifiadau Masnachol
1.17 Deddf Diogelu Defnyddwyr
1.18 Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd
*
*
2. Cyflyrau gwallt a chroen pen anffafriol
Sut i adnabod yn weledol gyflyrau gwallt a chroen pen anffafriol a gwrthrybuddion
2.1 tarwden
2.2 impetigo
2.3 clefyd crafu
2.4 ecsema
2.5 alopesia
2.6 soriasis
2.7 ffolicwlitis
2.8 cen ar y pen
2.9 creithio celoid
2.10 gwallt mewndyfol
2.11 llai pen
3. Ffactorau sy'n cyfyngu neu'n effeithio ar wasanaethau
Sut mae gwahanol ffactorau yn cyfyngu neu'n effeithio ar wasanaethau a chynhyrchion y gellir eu cynnig i gleientiaid
3.1 cyflwr anffafriol gwallt, croen a chroen pen
3.2 gwasanaethau a chynhyrchion a ddefnyddiwyd ac a fu'n anghydnaws yn y gorffennol
3.3 ffordd o fyw y cleient
3.4 canlyniadau profion
**
- Cyngor ac argymhellion**
4.1 Gwasanaethau ychwanegol
4.2 Cynhyrchion ychwanegol
Gwerthoedd
- Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg tuag at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunan-reoli
1.11 sgiliau creadigrwydd
1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog
1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
1.15 sgiliau arweinyddol
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd:
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo/iddi deimlo'n werthfawr ac yn barchus
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i gadw/chadw'n gysurlon
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad cleientiaid gwahanol
1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient
1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr
1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol
1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr
1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau
Sgiliau
Geirfa
1. Dosbarthiad Gwallt (canllaw yn unig yw hwn)
Math 1 – Gwallt syth
1.1 Ffein/Tenau – y gwallt yn tueddu bod yn sidanaidd iawn, yn sgleiniog a seimlyd, a gall fod yn anodd dal cyrlen.
1.2 Canolig – llawer o cyfaint a swmp yn perthyn i'r gwallt
1.3 Bras – y gwallt fel arfer yn syth dros ben ac yn anodd ei gyrlio.
Math 2 – Gwallt tonnog
2.1 Ffein/Tenau – patrwm "S" pendant i'r gwallt. Fel arfer gall ddal gwahanol steiliau.
2.2 Canolig – y gwallt yn tueddu bod yn grych ac ychydig yn ymwrthol wrth Steilio.
2.3 Bras – y gwallt hwn hefyd yn ymwrthol wrth ei steilio ac yn grych iawn fel arfer; y tonnau'n tueddu bod yn fwy trwchus.
Math 3 – Gwallt cyrliog
3.1 Cwrls llac – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt. Gall fod yn drwchus a llawn ac yn swmpus, ac iddo batrwm "S" pendant. Mae hefyd yn tueddu bod yn grych.
3.2 Cwrls tynn – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt hyn hefyd; ynghyd â maint cymedrol o gwrls.
Math 4 – Gwallt cyrliog iawn
4.1 Sidanaidd – y gwallt yn tueddu bod yn frau iawn, yn dorchau tynn ac iddo batrwm cyrliog mwy diffiniedig.
4.2 Gwrychog – hefyd yn frau iawn ac yn dorchau tynn; er hynny mae iddo batrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".
- Mae Nodweddion Gwallt yn cynnwys y canlynol: * *
2.1 trwch gwallt
2.2 ansawdd gwallt
2.3 elastigedd gwallt
2.4 mandylledd gwallt
2.5 cyflwr gwallt
patrymau tyfiant gwallt
3. Cyngor arbennig cyn ymweliad
3.1 anghenion dillad arbennig
3.2 profion angenrheidiol
3.3 triniaethau a gwasanaethau i'w hosgoi