Datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith

URN: SKACHB12
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chymryd cyfrifoldeb am wella eich perfformiad yn y gwaith a chydweithio'n dda â'ch cydweithwyr er mwyn gwneud cyfraniad cadarnhaol i effeithiolrwydd cyffredinol eich salon.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel trwy gydol eich gwaith.  Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Prif ddeilliannau'r safon hon yw:

  1. gwella eich perfformiad personol yn y gwaith

  2. gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm work


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Gwella eich perfformiad personol yn y gwaith


*

  1. adnabod eich cryfderau a'ch gwendidau eich hun a'u trafod â'r person perthnasol

  2. dod o hyd i fwy o wybodaeth oddi wrth bobl berthnasol er mwyn gwneud tasg pan fydd y cyfarwyddiadau sydd gennych yn aneglur

  3. gofyn am adborth oddi wrth bobl berthnasol ynglŷn â sut y gallwch wella eich perfformiad

  4. gofyn i'ch cydweithwyr am gymorth a chymryd cyfleoedd i ddysgu pan fydd y rheiny ar gael

  5. gofyn am gymorth oddi wrth bobl berthnasol pan nad ydych yn gallu cael cyfleoedd dysgu sy'n gysylltiedig â'ch gwaith

  6. adolygu datblygiadau yn y maes trin gwallt a meysydd cysylltiedig yn rheolaidd

  7. cytuno ar dargedau gwaith realistig â'r person perthnasol

  8. adolygu eich cynnydd yn rheolaidd tuag at gyflawni'r targedau y cytunwyd arnynt ar eich cyfer

  9. defnyddio canlyniadau eich adolygiadau i ddatblygu eich cynllun datblygu personol yn y dyfodol

Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm


*

  1. cytuno ar ddulliau o gydweithio er mwyn cyflawni amcanion

  2. gofyn i'ch cydweithwyr am gymorth a gwybodaeth, pan fydd angen

  3. ymateb i geisiadau am gymorth oddi wrth gydweithwyr

  4. rhagweld anghenion pobl eraill a chynnig cymorth o fewn eich gallu

  5. gwneud defnydd effeithiol o'ch amser drwy gydol eich diwrnod gwaith

  6. adrodd am broblemau sy'n debygol o effeithio ar wasanaethau'r salon i'r person perthnasol

  7. datrys camddealltwriaethau â'ch cydweithwyr


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwella eich perfformiad personol yn y gwaith

*
 *

  1. rôl eich swydd a'ch cyfrifoldebau a'r cyswllt rhwng hyn â rôl aelodau eraill y tîm

  2. sut i gael gwybodaeth am eich swydd, eich cyfrifoldebau gwaith a'r safonau y disgwylir i chi gydymffurfio â nhw

  3. sut i gael gwybodaeth berthnasol am feysydd cyfrifoldeb pobl eraill

  4. pam ei bod yn bwysig gweithio o fewn cyfrifoldebau eich swydd a'r hyn allai ddigwydd os na fyddwch yn gwneud hyn

  5. sut i adnabod eich cryfderau a'ch gwendidau eich hun

  6. pwysigrwydd cyfarfod â'ch targedau datblygiad a'ch cynhyrchedd personol a therfynau amser

  7. pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus a sut mae'n effeithio ar rôl eich swydd

  8. pwy all eich helpu i adnabod a sicrhau cyfleoedd ar gyfer eich datblygiad a'ch hyfforddiant

  9. terfynau eich awdurdod eich hun ac awdurdod eraill mewn perthynas â rhoi cymorth

  10. y safonau ymddygiad y disgwylir i chi gydymffurfio â nhw wrth weithio yn y salon

  11. dulliau gweithredu apeliadau a chwynion eich salon

  12. ystod amseroedd sy'n fasnachol ymarferol ar gyfer cyflawni'r gwasanaethau trin gwallt a gynigir

  13. sut y gall defnyddio'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol eich helpu i adnabod eich anghenion datblygu

  14. sut i gynnal ymwybyddiaeth o dueddiadau a datblygiadau cyfredol a datblygol oddi mewn i'r diwydiant a pham bod hyn yn bwysig

  15. pwysigrwydd defnyddio a diweddaru eich cynllun personol yn barhaus

Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm

*
 *

  1. pam bod cydberthnasau gwaith cytûn yn bwysig

  2. sut i ymateb yn gadarnhaol i adolygiadau ac adborth a pham bod hyn yn bwysig

  3. cefnogi dulliau cydweithredol o weithio e.e. rhagweld anghenion eraill am wybodaeth a chefnogaeth a dangos eich bod yn barod i gynorthwyo i ddatrys unrhyw anghydweld

  4. sut i reoli eich amser yn effeithiol

  5. wrth bwy y dylid adrodd pan fyddwch yn cael anawsterau wrth weithio gydag eraill

  6. sut i ymdrin ag anawsterau a gwrthdaro perthynas wrth weithio gydag eraill

  7. y sgiliau holi a gwrando sydd eu hangen arnoch er mwyn cael gwybodaeth


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cyfleoedd dysgu

1.1 gan gydweithwyr a phobl berthnasol eraill

1.2 cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau hyfforddi a datblygu

1.3 cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau salon

2. Targedau

2.1 cynhyrchedd

2.2 datblygiad personol

3. Cymorth

3.1 ar sail un-i-un

3.2 mewn grŵp


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd

​1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg tuag at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigrwydd

1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel


Ymddygiadau

​1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd:

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr ac yn barchus

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg

1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon

1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad cleientiaid gwahanol

1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr

1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol

1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr

1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Teilwra

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAG8

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Datblygu; cynnal; effeithiolrwydd