Siampwio, cyflyru a thrin y gwallt a’r croen pen
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgìl o siampwio, cyflyru a thrin y gwallt a'r croen pen gan ddefnyddio technegau a chynhyrchion tylino priodol ar gyfer gwahanol fathau o wallt a chyflyrau croen pen. Mae darparu cyngor ôl-ofal hefyd yn gynwysedig.
Er mwyn gweithredu'r safon hon bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid o safon uchel drwy gydol eich gwaith. Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth siampwio, cyflyru a thrin y gwallt a'r croen pen
siampwio, cyflyru a thrin y gwallt a'r croen pen
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth siampwio, cyflyru a thrin y gwallt a'r croen pen
*
*
cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelch drwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon
diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth
gwisgo cyfarpar gwarchod personol, os bydd angen
gosod eich cleient mewn safle er mwyn bodloni anghenion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghyfforddus
sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf
cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
8.1 lleihau'r risg o ddifrod i offer
8.2 lleihau'r risg o groes-heintiad
8.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio
8.4 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân
8.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill
8.6 hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion
gwared defnyddiau gwastraff
cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser masnachol ymarferol
*
*
Siampwio, cyflyru a thrin y gwallt a'r croen pen
*
*
gofyn cwestiynau i'ch chleient er mwyn canfod a oes ganddi/ganddo unrhyw wrtharwyddion i wasanaethau trin gwallt a chroen pen
defnyddio cynhyrchion, offer a chyfarpar sy'n addas i gyflwr gwallt a chyflwr croen pen eich cleient
addasu eich technegau tylino siampŵ er mwyn cyfarfod ag anghenion eich cleient
15.1 hyd a thrwch y gwallt
15.2 cyflwr y gwallt a chyflwr y croen pen
addasu eich technegau tylino siampŵ er mwyn sicrhau cyfforddusrwydd eich cleient
addasu tymheredd a llif y dŵr i gyd-fynd ag anghenion gwallt, croen pen a chyfforddusrwydd eich cleient
cribo drwy wallt eich cleient, os bydd angen hynny, cyn cam nesaf y gwasanaeth, heb achosi niwed i'r gwallt a'r croen pen
taenu cynhyrchion cyflyru er mwyn cyfarfod ag anghenion gwallt a chroen pen eich cleient, gan ddilyn cyfarwyddiadau eich salon a'r gwneuthurwyr
addasu eich technegau tylino cyflyrydd er mwyn cyfarfod ag anghenion cyflwr gwallt a chyflwr croen pen eich cleient gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
monitro ac amseru datblygiad y cynnyrch cyflyru a defnyddio gwres ar y tymheredd cywir, os oes angen
tynnu'r cynnyrch cyflyru, os oes ei angen, mewn ffordd sy'n osgoi aflonyddu ar gyfeiriad y bilen
gadael gwallt a chroen pen eich cleient:
23.1 yn lân ac yn rhydd o gynhyrchion cyflyru, os bydd eu hangen
23.2 yn rhydd o ormod o ddŵr
cribo trwy wallt eich cleient heb achosi niwed i'r gwallt a'r croen pen
rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth siampwio a chyflyru gwallt
*
*
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient
y mathau o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael i chi eich hun ac i'ch cleientiaid
sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
beth yw dermatitis cyffwrdd a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau trin gwallt
pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân ac yn daclus
pam ei bod yn bwysig osgoi croes-heintiad a thraws-bla
dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla
dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau
y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle
pwysigrwydd holi cleientiaid er mwyn cadarnhau unrhyw wrtharwyddion i wasanaethau trin gwallt a chroen
cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn
y dulliau cywir o wared gwastraff
amser gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer siampwio, cyflyru a thrin y gwallt
*
*
Siampwio, cyflyru a thrin y gwallt a'r croen pen
sut i adnabod cyflyrau gwallt a chroen pen a'u hachosion
sut a pham y gall y gwrthrybuddion effeithio ar y gwasanaeth
sut y gall gwahanol gyflyrau gwallt a chroen pen effeithio ar y dewis o gynhyrchion siampwio, cyflyru a thrin gwallt
sut y gall siampŵ a dŵr gydweithio â'i gilydd er mwyn glanhau'r gwallt
pryd a sut y dylid defnyddio technegau tylino wrth gyflyru gwallt o wahanol hyd a thrwch
effeithiau tymheredd dŵr ar y croen pen a ffurfiant y gwallt
pwysigrwydd datod unrhyw glymau yn y gwallt o'r blaen i'r gwraidd
sut mae gwerth pH y cynhyrchion a ddefnyddir yn effeithio ar gyflwr cyfredol y gwallt
sut y gall 'gwaddodion' cynhyrchion effeithio ar y gwallt, y croen pen ac effeithiolrwydd gwasanaethau eraill
sut y gall siampŵau a chynhyrchion cyflyru effeithio ar y gwallt a'r croen pen
y mathau o gynhyrchion a chyfarpar siampwio a chyflyru sydd ar gael
pryd a sut i ddefnyddio gwahanol gynhyrchion siampwio, cyflyru a thrin gwallt
pryd y dylid ailadrodd y broses siampwio
beth all ddigwydd os bydd y cynhyrchion siampwio a chyflyru yn cael eu defnyddio
pryd a sut y dylid defnyddio technegau tylino cylchol, effleurage a rhwbio wrth siampwio gwallt o wahanol hyd a thrwch
diben a manteision tylino'r croen pen
sut i ddefnyddio a thrin a thrafod cyfarpar a ddefnyddir yn ystod prosesau cyflyru a thrin gwallt
pwysigrwydd tynnu cynhyrchion cyflyru a thrin gwallt, pan fydd eu hangen
pwysigrwydd tynnu unrhyw ddŵr dros ben o'r gwallt ar ddiwedd y gwasanaeth
sut mae gwres yn effeithio ar y gwallt yn ystod y driniaeth gyflyru
pwysigrwydd rhoi cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cyflwr gwallt
1.1 wedi'i niweidio
1.2 gwaddodion cynnyrch
1.3 normal
1.4 seimlyd
1.5 sych
2. Cyflwr croen pen
2.1 cen ar y croen pen
2.2 seimlyd
2.3 sych
2.4 gwaddodion cynnyrch
2.5 normal
3. Technegau tylino siamp*ŵ* **
3.1 effleurage
3.2 cylchol
3.3 rhwbiad
4. Cynhyrchion cyflyru
4.1 arwyneb
4.2 treiddiol
4.3 triniaeth croen pen
5. Technegau tylino cyflyrydd
5.1 effleurage
5.2 petrissage
6. Cyngor ac argymhellion
6.1 technegau cywir ar gyfer datod clymau
6.2 siampŵau a chynhyrchion cyflyru addas
6.3 cyfnod amser rhwng gwasanaethau
6.4 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac i'r dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent yn cael eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt ynni-effeithlon, golau rhad-ar-ynni, defnyddio paneli solar)
2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill
2.4 atal llygredd
2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion hawdd eu sychu)
2.6 defnyddio dodrefn ecogyfeillgar wedi'u hailgylchu
2.7 defnyddio paent cemegau isel
2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhydd o alergedd
2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia isel iawn
2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch ecogyfeillgar
2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
2.12 annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith
3. Cyflyrau gwallt a chroen pen
*
*
3.1 wedi'i niweidio
3.2 gwaddodion cynnyrch
3.3 normal
3.4 seimlyd
3.5 sych
3.6 cen ar y gwallt a'r croen pen
4. Cyngor ac argymhellion
4.1 gwasanaethau ychwanegol
4.2 cynhyrchion ychwanegol
Gwerthoedd
- Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:
1.1 parodrwydd i ddysgu
cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.2 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.3 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.4 agwedd hyblyg tuag at waith
1.5 gweithiwr tîm
1.6 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.7 agwedd gadarnhaol
1.8 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.9 y gallu i hunan-reoli
1.10 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog
1.11 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.12 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr ac yn barchus
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad cleientiaid gwahanol
1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient
1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr
1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol
1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr
1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau
Sgiliau
Geirfa
1. Cynhyrchion cyflyru (enghreifftiau)
Gall y rhain gynnwys:
1.1 cyflyrwyr arwyneb, gan gynnwys rhai i'w gadael i mewn
1.2 cyflyrwyr treiddiol, gan gynnwys rhai i'w gadael i mewn
1.3 triniaethau croen pen, gan gynnwys rhai i'w gadael i mewn
- Technegau tylino
2.1 Effleurage – tynnu llaw yn dyner dros y gwallt (mwytho)
2.2 Rhwbiad –rhwbio egnïol gan ddefnyddio blaen y bysess. Mae hwn yn symudiad cyfnerthol, yn hytrach nag esmwythol ac nid yw'n cael ei wneud bob tro. Dim ond am rai munudau y gwneir hyn, gan weithio o'r cefn i'r blaen.
2.3 Petrissage – tylino araf, cadarn
2.4 Cylchol – symudiad cylchol cadarn gan ddefnyddio blaen y bysedd dros arwyneb y croen pen.