Siampwio a chyflyru gwallt
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgìl o siampwio a chyflyru gwallt gan ddefnyddio technegau a chynhyrchion tylino ar gyfer gwahanol fathau o wallt, drwy ddilyn cyfarwyddiadau cynllunydd gwallt.
Er mwyn gweithredu'r safon hon bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid drwy gydol eich gwaith. Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth siampwio a chyflyru gwallt
siampwio gwallt a chroen pen
taenu cyflyrwyr ar y gwallt
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth siampwio a chyflyru gwallt
*
*
cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon
diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth
gwisgo cyfarpar gwarchod personol, os bydd angen
gosod eich cleient mewn safle er mwyn bodloni anghenion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus
sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf
cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
8.1 lleihau gwastraff cynhyrchion
8.2 lleihau'r risg o groes-heintiad
8.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio
8.4 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân
8.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill
sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddygiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
dilyn cyfarwyddiadau'r cynllunwyr gwallt drwy gydol y gwasanaeth
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion
ailgyflenwi adnoddau sydd wedi cyrraedd lefelau isel, pan fydd angen, er mwyn lleihau unrhyw amharu ar eich gwaith personol ac ar y cleientiaid
cwblhau'r gwasanaeth siampwio a chyflyru o fewn amser masnachol ymarferol
Siampwio gwallt a chroen pen
*
*
defnyddio cynhyrchion ac offer gan ddilyn cyfarwyddiadau'r cynllunydd gwallt
defnyddio technegau tylino sy'n addas i wallt eich cleient gan dilyn cyfarwyddiadau'r cynllunydd gwallt
addasu tymheredd, llif a chyfeiriad y dŵr er mwyn bodloni anghenion gwallt eich cleient a cham nesaf y gwasanaeth
sicrhau bod eich technegau tylino yn lledaenu'r siampŵ yn gytbwys dros y gwallt a'r croen pen
gadael gwallt eich cleient yn lân ac yn rhydd o siampŵ a gormod o ddŵr
gadael gwallt eich cleient heb unrhyw glymau a heb niwed i'r gwallt a'r croen pen
cyfeirio unrhyw broblemau at sylw'r person perthnasol
*
*
Taenu cyflyrwyr ar y gwallt
*
*
defnyddio cynhyrchion ac offer cyflyru gan ddilyn cyfarwyddiadau'r cynllunydd gwallt
defnyddio technegau tylino sy'n addas i wallt eich cleient gan ddilyn cyfarwyddiadau'r cynllunydd gwallt
monitro ac amseru datblygiad y cynhyrchion cyflyru a defnyddio gwres ar y tymheredd cywir, os bydd angen
tynnu'r cynhyrchion cyflyru mewn ffordd sy'n osgoi aflonyddu ar gyfeiriad y bilen
gadael gwallt eich cleient yn lân ac yn rhydd o gynhyrchion cyflyru, os bydd eu hangen, a gormod o ddŵr
cribo trwy wallt eich cleient, pan fydd angen hynny, heb achosi niwed i'r gwallt a'r croen pen
cyfeirio unrhyw broblemau at sylw'r person perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth siampwio a chyflyru gwallt
*
*
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient
y mathau o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael i chi eich hun ac i'r cleientiaid
beth yw dermatitis cyffwrdd, a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau trin gwallt
sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus
pwysigrwydd defnyddio siampŵau a chyflyrwyr yn gost-effeithiol
dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla
y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau eich cynllunydd gwallt
cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn
pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle
y person y dylech adrodd wrthi/wrtho am adnoddau sydd wedi cyrraedd lefelau isel
amser gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer siampwio a chyflyru
*
*
Siampwio a chyflyru
beth all ddigwydd os na fydd cyfarwyddiadau ar gyfer siampwio a chyflyru gwallt yn cael eu dilyn
sut y mae siampŵ a dŵr yn cydweithio i lanhau'r gwallt
sut y gall gwaddodion cynhyrchion effeithio ar y gwallt, y croen pen ac effeithiolrwydd gwasanaethau eraill
sut y mae siampŵau a chynhyrchion cyflyru yn effeithio ar y gwallt a'r croen pen
gwahanol fathau o siampŵ a chynhyrchion cyflyru a'u heffeithiau
pryd a sut i ddefnyddio gwahanol dechnegau tylino wrth siampwio a chyflyru gwallt o wahanol hyd
sut i siampwio a chyflyru gwallt a chanlyniadau posib gwneud hyn yn anghywir
y mathau o broblemau all godi wrth siampwio a chyflyru gwallt a beth sy'n eu hachosi
y mathau o broblemau y dylid eu riportio a'r person ddylai gael gwybod amdanynt
effeithiau tymheredd dŵr ar y croen pen
pwysigrwydd tynnu siampŵ a chyflyrydd ac unrhyw ddŵr dros ben oddi ar y gwallt
pwysigrwydd datod unrhyw glymau gwallt o'r blaen i'r gwraidd
pwysigrwydd datod unrhyw glymau gwallt heb achosi niwed i'r gwallt a'r croen pen
pwysigrwydd cadarnhau cyfforddusrwydd y cleient drwy gydol y broses siampwio a chyflyru
sut mae gwres yn effeithio ar y gwallt yn ystod triniaeth gyflyru
sut i ddefnyddio cyfarpar trydanol twym wrth gyflyru gwallt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Technegau tylino
1.1 effleurage
1.2 cylchol
1.3 rhwbiad
1.4 petrissage
*
2. Cynhyrchion cyflyru*
2.1 arwyneb
2.2 treiddiol
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent yn cael eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
Gwerthoedd
- Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau'r gwasanaethau o fewn amser masnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg tuag at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 agwedd broffesiynol
1.10 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau da
1.11 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.12 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
1.13 cadw at fesurau iechyd a diogelwch a gwarchodaeth y gweithle
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd foesgar a chwrtais
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon
1.7 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.8 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.9 ymdrin â phroblemau o fewn cwmpas eich cyfrifoldebau a'ch rôl swydd
1.10 dangos parch tuag at gleientiaid a chwydweithwyr ar bob adeg a than bob amgylchiad
1.11 ceisio cymorth ar fyr dro oddi wrth aelod hŷn o'r staff pan fydd angen
1.12 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
Sgiliau
Geirfa
1. Effleurage
Tynnu llaw yn dyner dros y gwallt (mwytho).
2. Cylchol
Symudiad cylchol cadarn gan ddefnyddio blaen y bysedd dros arwyneb y croen pen.
3. Rhwbiad
Rhwbio egnïol gan ddefnyddio blaen y bysedd. Mae hwn yn symudiad cyfnerthol yn hytrach nag esmwythol ac nid yw'n cael ei wneud bob tro. Dim ond am rai munudau y gwneir hyn, gan weithio o'r cefn i'r blaen.
4. Petrissage
Tylino araf, cadarn