Paratoi ar gyfer gwasanaeth trin gwallt a chynnal mannau gwaith
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth baratoi ar gyfer gwasanaeth trin gwallt a/neu waith barbwr, a chynnal mannau gwaith.
Er mwyn gweithredu'r safon hon, mae rhaid cynnal iechyd, diogelwch a hylendid ym mhob agwedd o'ch gwaith. Mae rhaid i chi wisgo ac edrych yn broffesiynol, a gallu cyfathrebu'n dda.
*
*
Prif nodau'r safon yw:
paratoi ar gyfer gwasanaeth trin gwallt
cynnal y man gwaith ar gyfer gwasanaeth trin gwallt
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi ar gyfer gwasanaeth trin gwallt
cadw at y gofynion iechyd a diogelwch ym mhob agwedd o'r gwasanaeth
paratoi eich cleient yn atebol i ofynion y salon
gwisgo dillad a chyfarpar amddiffynnol pan fo'r angen
gosod deunyddiau, offer a chyfarpar trin gwallt yn ôl cyfarwyddiadau'r cynllunydd gwallt
sicrhau bod y deunyddiau, offer, cyfarpar a'r gweithle yn barod i'w defnyddio ar gyfer y gwasanaeth
sicrhau bod yr holl offer, deunydd a'r gweithle'n cael eu glanhau yn y dulliau cywir
estyn pob cofnod cleient yn barod ar gyfer y cyfarfod cynghori gyda'r cynllunydd.
Cynnal y man gwaith ar gyfer gwasanaeth trin gwallt
cael gwared ar wallt a deunydd gwastraff
glanhau a phrofi offer yn ôl cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion y salon
sicrhau bod digon o lieiniau a chlogynnau trin gwallt glân ar gyfer y diwrnod gwaith cyfan
cadw cyflenwad y cynnyrch ac unrhyw ddeunydd trin gwallt yn ddigonol yn ôl gofynion y salon
cadw cofnodion, deunydd a chyfarpar yn eu lle priodol
glanhau'r weithfan fel ei fod yn barod i'w ddefnyddio eto
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi ar gyfer gwasanaeth trin gwallt
*
*
eich cyfrifoldebau o ran iechyd a diogelwch a geir yn y ddeddfwriaeth sydd yn berthnasol i'ch rôl yn y gwaith
egwyddorion cyffredinol ar gyfer hylendid lloriau a seddau, gweithfannau, drychau a chyfarpar y salon
dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lân sy'n lleihau'r perygl o groes-heintiad a chroes-heigiad.
y peryglon sy'n bodoli yn eich man gwaith, a'r ymarfer da sydd rhaid i chi ei dilyn
pam ei bod yn bwysig defnyddio offer amddiffynnol
y math o offer amddiffynnol sydd ar gael
gofynion eich salon ar gyfer paratoi a chynnal y man gwaith, yn cynnwys profi a glanhau'r cyfarpar
beth yw dermatitis cyswllt, a sut i'w osgoi haint wrth weithio
sut i lanhau, ddiheintio a sterileiddio offer ar gyfer gwahanol fathau o wasanaeth trin gwaith, megis offer metel, plastig, pren ac offer trydanol
y gwahaniaeth rhwng dad-heintio a sterileiddio
pwysigrwydd cadw cofnodion cleientiaid yn gywir, fel y mynnir yn y Ddeddf Gwarchod Data
pwysigrwydd a'r rheswm dros gadw cofnod o'r gwasanaeth trin gwallt
*
*
Cynnal y man gwaith ar gyfer gwasanaethau trin gwallt
*
*
pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r cynllunydd gwallt
pwysigrwydd gwirio eich bod yn deall y cyfarwyddiadau a roddir gan y cynllunydd
sut i gael gwared ar wastraff a deunydd trin gwallt
y mathau o gynnyrch, deunydd, offer a chyfarpar angenrheidiol ar gyfer y gwasanaeth a gynigir yn eich salon
sut i osod y deunyddiau, yr offer a'r cyfarpar ar gyfer y gwasanaeth a gynigir yn eich salon
ut a ble y dylid cadw deunydd, offer a chyfarpar
pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'r cyflenwr ar gyfer defnyddio'r cyfarpar , y deunydd a'r cynnyrch yn ddiogel
pwysigrwydd gwirio a llenwi stoc
cyflwr boddhaol y man gwaith ar gyfer gweithio ynddi eto.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
Eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch a ddynodir gan unrhyw ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'ch swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
1.2 Deddf Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
1.3 Y Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediad Codi a Chario
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau sy'n Berygl i Iechyd
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gwaith
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoli Rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogedigion)
Gwerthoedd
1. Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol yn hanfodol ar gyfer gwasanaeth trin gwallt a gwasanaeth barbwr
1.1 Parodrwydd i ddysgu
1.2 Cyflawni gwasanaeth o fewn amser derbyniol mewn cyd-destun masnach
1.3 Ateb safonau sefydliadol a safonau'r diwydiant o ran ymddangosiad
1.4 Sicrhau bod hylendid personol ac amddiffyniad yn ateb y gofynion sefydliadol a diwydiannol
1.5 Agwedd hyblyg tuag at waith
1.6 Gweithio'n dda gydag eraill
1.7 Cynnal gofal cwsmer
1.8 Agwedd bositif
1.9 Agwedd broffesiynol
1.10 Sgiliau cyfathrebu geiriol a di eiriol cryf
1.11 Cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel
1.12 Cadw at gyfarwyddiadau gwneuthurwyr neu gyflenwyr ar gyfer defnydd diogel o gyfarpar, deunydd a chynnyrch
1.13 Cadw at fesurau iechyd a diogelwch y man gwaith.
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn hanfodol ar gyfer y gwasanaeth trin gwallt a gwasanaeth barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y cleientiaid yn cael argraff bositif o'r salon a'r unigolyn.
1.1 Ateb safonau ymddygiad y salon
1.2 Cyfarch y cleient yn barchus a chyfeillgar
1.3 Cyfathrebu â'r cleient yn gwrtais a boneddigaidd
1.4 Canfod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 Ymateb yn bositif i ymholiadau a sylwadau'r cleient
1.6 Rhannu gwybodaeth a chalonogi'r cleient
1.7 Ymateb i gleient sydd arno angen cymorth
1.8 Canfod gwybodaeth o fudd i'r cleient yn sydyn
1.9 Ymdrin â phroblemau o fewn terfynau eich cyfrifoldebau a'ch rôl yn y swydd
1.10 Parchu cydweithwyr a chleientiaid bob tro ac mewn unrhyw amgylchiadau
1.11 Gofyn am gymorth aelod uwch o'r staff yn syth pan fo'r angen
1.12 Rhoi'r wybodaeth gywir y mae ar y cleient ei hangen am wasanaeth neu gynnyrch y salon
Sgiliau
Geirfa
1. Cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
Cyfarwyddyd a geir gan wneuthurwyr neu gyflenwr cynnyrch neu gyfarpar ynglŷn â'u defnyddio'n ddiogel ac effeithlon
2. Cyfarpar amddiffynnol
* *
Mae disgwyl i chi ddefnyddio a gwisgo'r cyfarpar neu ddillad amddiffynnol addas pan ddefnyddiwch gemegau megis lliw gwallt n
neu doniad parhaol (perm).
3. Gofynion y salon
* *
Unrhyw drefn trin gwallt neu reolau gwaith a roddir gan reolaeth y salon
4. Sterileiddiad
* *
Lladd micro-organebau yn drylwyr
5. Diheintio
Atal tyfiant micro-organebau (ac eithrio'r hedyn) sy'n achosi afiechydon gan ddefnyddio cynnych cemegol