Torri gwallt yn greadigol gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau

URN: SKACH9
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio sgiliau torri uwch i greu golwg wedi'i hail-steilio sydd wedi'i phersonoli ac yn unigol er mwyn gwella delwedd bersonol.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid o safon uchel drwy gydol eich gwaith.  Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Prif ddeilliannau'r safon hon yw:

  1. cynnal a chadw dulliau diogel o weithio wrth dorri gwallt

  2. ail-steilio gwallt yn greadigol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth dorri gwallt


*

  1. cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon

  3. diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth

  4. cadw croen eich cleient yn rhydd o flewiach gwallt wedi'i dorri drwy gydol y gwasanaeth

  5. gosod eich cleient mewn safle sy'n cyfarfod ag anghenion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus

  6. sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  7. cadw eich ardal waith yn lân ac yn daclus drwy gydol y gwasanaeth

  8. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

8.1 lleihau'r risg o ddifrod i offer a chyfarpar

8.2 lleihau'r risg o groes-heintiad

8.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

8.4 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân

8.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill

8.6 hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o offer a chyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion

  3. gwared defnyddiau gwastraff

  4. cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser masnachol ymarferol

Ail-steilio gwallt yn greadigol


*

  1. archwilio'r amrywiaeth o steiliau gyda'ch cleient gan ddefnddio cymhorthion gweledol perthnasol

  2. argymell golwg sy'n addas i'ch cleient

  3. seilio eich argymhellion ar werthusiad manwl gywir o wallt eich cleient a photensial y gwallt i gynnal yr olwg

  4. paratoi gwallt eich cleient cyn torri

  5. cadarnhau gyda'ch cleient yr olwg y cytunwyd arni yn yr ymgynghoriad cyn dechrau torri

  6. creu a dilyn y canllaw(iau) torri er mwyn creu'r olwg a ddymunir **

  7. personoli eich technegau a'ch effeithiau torri er mwyn rhoi ystyriaeth i ffactorau fydd yn dylanwadu ar yr olwg a ddymunir

  8. cyfuno ac addasu eich technegau a'ch effeithiau torri er mwyn cael yr olwg a ddymunir

  9. newid eich safle chi a safle eich cleient i'ch helpu i sicrhau manwlgywirdeb y toriad

  10. croeswirio'r toriad er mwyn cadarnhau bod y pwysau, cydbwysedd a'r siâp wedi'u dosbarthu'n fanwl gywir

  11. creu siapau amlinellol sy'n fanwl gywir, yn ddiffiniedig ac yn creu'r olwg sy'n ofynnol gan eich cleient

  12. symud unrhyw wallt di-groeso sydd y tu allan i'r siâp amlinellol a ddymunir 

  13. ymgynghori â'ch cleient yn ystod y gwasanaeth torri er mwyn cadarnhau'r olwg a ddymunir

  14. cymryd camau adfer addas er mwyn datrys unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod y gwasanaeth torri

  15. rhoi gwiriad gweledol terfynol i'r gwallt er mwyn sicrhau bod y toriad terfynol yn fanwl gywir

  16. defnyddio technegau gorffennu creadigol sy'n ategu'r toriad

  17. sicrhau bod yr olwg orffenedig, sydd wedi'i hail-steilio yn ategu nodweddion eich cleient ac yn gwella ei delwedd /ddelwedd bersonol a delwedd y salon

  18. cadarnhau bod eich cleient yn fodlon â'r olwg orffenedig

  19. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient **ar y gwasanaeth a ddarperir


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth dorri gwallt


*

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

  2. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  3. y mathau o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael i'r cleientiaid

  4. pam ei bod yn bwysig diogelu eich cleientiaid rhag blewiach gwallt wedi'i dorri

  5. sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus

  7. y defnydd a'r dull cynnal a chadw cywir mewn perthynas ag offer torri

  8. pam ei bod yn bwysig osgoi croes-heintiad a phla

  9. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla

  10. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau

  11. y peryglon a'r risgiau sy'n bod yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel sy'n rhaid i chi eu dilyn

  12. y gwahanol ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadawy

  13. pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  14. cyfarwyddiadau'r cyflenwyr a'r gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  15. y dulliau cywir o wared gwastraff

  16. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer creu gwahanol olygon gwallt wedi'i dorri

Ail-steilio gwallt yn greadigol

  1. y gwahanol ffactorau y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod torri a sut y gall y rhain effeithio ar y gwasanaeth torri

  2. ffynonellau gwybodaeth greadigol fel cylchgronau, y rhyngrwyd a ffilm

  3. sut i gael a dehongli ysbrydoliaeth e.e. hanesyddol, diwylliannol a ffasiwn

  4. y ffactorau y dylid eu hystyried wrth dorri gwallt gwlyb a gwallt sych

  5. pa offer y gellir eu defnyddio ar naill ai wallt gwlyb neu wallt sych neu ar y ddau

  6. pam y dylid tynnu cynhyrchion gwallt oddi ar y gwallt cyn torri

  7. sut a pham y dylid defnyddio gwahanol dechnegau torri

  8. sut i greu a dilyn canllawiau

  9. sut i bersonoli ac addasu technegau torri

  10. yr effeithiau y gellir eu creu drwy gyfuno ac addasu gwahanol dechnegau torri

  11. pwysigrwydd ystyried dosbarthiad pwysau a gweithio gyda phatrymau tyfiant naturiol y gwallt

  12. pwysigrwydd defnyddio'r raddfa gywir o dyndra ar y gwallt wrth dorri

  13. pwysigrwydd cadw'r gwallt yn llaith drwy gydol y broses torri'n wlyb

  14. sut i lefelu a phrofi cliperi

  15. maint llafnau'r cliper a'r atodion sydd ar gael a'r effeithiau sydd i'w cael wrth eu defnyddio 

  16. y mathau o broblemau all godi'n gyffredinol wrth dorri gwallt a dulliau o'u datrys, os yn bosib

  17. sut i groes-wirio a chydbwyso'r toriad

  18. y mathau o gynhyrchion sydd ar gael ar gyfer gorffennu gwallt merched

  19. pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Offer a chyfarpar

1.1 siswrn

1.2 cliperi

1.3 raseli

2. Gwallt

2.1 gwlyb

2.2 sych

3. Technegau ac effeithiau torri

3.1 graddoli

3.2 haenu

3.3 blaenfeinio

3.4 toriad clwb

3.5 siswrn dros grib

3.6 cliper dros grib

3.7 teneuo

3.8 llawrydd

3.9 gweadeddu

3.10 datgysylltu

4. Ffactorau

4.1 dosbarthiadau gwallt

4.2 nodweddion gwallt

4.3 siâp pen, wyneb a chorff

4.4 hyd gwallt

4.5 gofynion cleient

4.6 ffordd o fyw cleient

**

  1. Technegau gorffennu creadigol**

5.1 steilio

5.2 taenu cynnyrch

6. Cyngor ac argymhellion

6.1 sut i gynnal a chadw eu golwg

6.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau

6.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac i'r dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent yn cael eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 heoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

*2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
*

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

2.1 leihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt ynni-effeithlon, golau rhad-ar-ynni, defnyddio paneli solar)

2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion hawdd eu sychu)

2.6 defnyddio dodrefn ecogyfeillgar wedi'u hailgylchu

2.7 defnyddio paent cemegau isel

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhydd o alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia isel iawn

2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch ecogyfeillgar

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith

*3. Ffactorau
*

y gwahanol ffactorau y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod torri a sut y gall y rhain effeithio ar y gwasanaeth torri

3.1 dosbarthiadau gwallt

3.2 nodweddion gwallt

3.3 siâp pen, wyneb a chorff

3.4 hyd gwallt

3.5 gofynion cleient

3.6 ffordd o fyw cleient

4. Cyngor ac argymhellion


*

4.1 gwasanaethau ychwanegol

4.2 cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

​1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser masnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd

1.4 sicrhau bod eich hylendid a'ch diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg tuag at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigrwydd

1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel


Ymddygiadau

​1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 cyfarfod â safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr ac yn barchus

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg

1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon

1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad gwahanol gan y cleient

1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr

1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol

1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr

1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa

1. Dosbarthiad Gwallt (canllaw yn unig yw hwn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Ffein/Tenau – y gwallt yn tueddu bod yn sidanaidd iawn, yn sgleiniog a seimlyd, a gall fod yn anodd dal cyrlen.

1.2 Canolig – llawer o cyfaint a swmp yn perthyn i'r gwallt

1.3 Bras – y gwallt fel arfer yn syth dros ben ac yn anodd ei gyrlio.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Ffein/Tenau – patrwm "S" pendant i'r gwallt.  Fel arfer gall ddal gwahanol steiliau.

2.2 Canolig – y gwallt yn tueddu bod yn grych ac ychydig yn ymwrthol wrth Steilio.

2.3 Bras – y gwallt hwn hefyd yn ymwrthol wrth ei steilio ac yn grych iawn fel arfer; y tonnau'n tueddu bod yn fwy trwchus.

Math 3 – Gwallt cyrliog

3.1 Cwrls llac – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt.  Gall fod yn drwchus a llawn ac yn swmpus, ac iddo batrwm "S" pendant.  Mae hefyd yn tueddu bod yn grych.

3.2 Cwrls tynn – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt hyn hefyd; ynghyd â maint cymedrol o gwrls.

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn

4.1 Sidanaidd – y gwallt yn tueddu bod yn frau iawn, yn dorchau tynn ac iddo batrwm cyrliog mwy diffiniedig. 

4.2 Gwrychog – hefyd yn frau iawn ac yn dorchau tynn; er hynny mae iddo batrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".

  1. Mae Nodweddion Gwallt yn cynnwys y canlynol:

2.1 trwch gwallt

2.2 ansawdd gwallt

2.3 elastigedd gwallt

2.4 mandylledd gwallt

2.5 cyflwr gwallt

2.6 patrymau tyfiant gwallt


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGH16

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Creu; torri; technegau