Plethu a throelli gwallt
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio technegau plethu a throelli er mwyn creu amrywiaeth o wahanol olygon. Bydd angen medrusrwydd corfforol ar raddfa uchel.
Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel drwy gydol eich gwaith. Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
cynnal a chadw dulliau diogel o weithio wrth blethu a throelli gwallt
plethu a throelli gwallt
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth blethu a throelli gwallt
*
*
cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon
diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth
gosod eich cleient mewn safle sy'n bodloni anghenion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus
sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf
cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
7.1 lleihau'r risg o ddifrod i offer
7.2 lleihau gwastraff cynhyrchion
7.3 lleihau'r risg o groes-heintiad
7.4 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio
7.5 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân
7.6 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill
7.7 hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion
gwared defnyddiau gwastraff
cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser masnachol ymarferol
Plethu a throelli gwallt
pennu'r ffactorau sy'n debygol o ddylanwadu ar y gwasanaeth
cadarnhau gyda'ch cleient yr olwg y cytunwyd arni yn yr ymgynghoriad cyn ac yn ystod y gwasanaeth
rheoli eich offer er mwyn lleihau'r perygl o niwed i'r gwallt a'r croen pen, anghysur y cleient ac er mwyn cael yr olwg a ddymunir
ymrannu'r adrannau'n lân a chyfartal er mwyn sicrhau cyfeiriad y blethen/plethau a'r torchau
clymu unrhyw wallt nad yw'n cael ei blethu neu ei droelli er mwyn cadw pob rhan yn amlwg weladwy
cynnal a chadw tyndra priodol a chyfartal drwy gydol y gwasanaeth
rheoli a gosod gwallt eich cleient yn sownd drwy gydol y prosesau plethu a throelli
taenu cynhyrchion addas, pan fydd angen y rheiny, er mwyn bodloni gofynion y steil
ymgynghori â'ch cleient yn ystod y gwasanaeth er mwyn sicrhau bod y tyndra yn gyfforddus
addasu tyndra'r plethau a neu'r torchau, pan fydd angen, gan osgoi niwed i'r gwallt a lleihau anghysur eich cleient
sicrhau bod cyfeiriad a chydbwysedd y blethen/plethau a neu'r torchau gorffenedig yn cyflawni'r olwg a ddymunir
cadarnhau bod eich cleient yn fodlon â'r olwg orffenedig
rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth blethu a throelli gwallt
*
*
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient
y mathau o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael i'r cleientiaid
sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus
y defnydd a'r dull cynnal a chadw cywir mewn perthynas ag offer a chyfarpar
pam ei bod yn bwysig osgoi croes-heintiad a phla
dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla
pwysigrwydd gosod eich cyfarpar a'ch offer wrth law er mwyn hwyluso eu defnyddio
dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau
y peryglon a'r risgiau sy'n bod yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel sy'n rhaid i chi eu dilyn
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle
cyfarwyddiadau'r cyflenwyr a'r gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn
y dulliau cywir o wared gwastraff
amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer plethu a throelli gwallt
Plethu a throelli gwallt
sut y mae gwahanol ffactorau yn dylanwadu ar y dewis ac ar gyfeiriad steil sydd wedi'i blethu neu ei droelli
pwysigrwydd rheoli eich offer a'ch cyfarpar i leihau'r risg o niwed i'r gwallt a'r croen pen ac atal anghysur i'ch cleient
pwysigrwydd ymrannu'r gwallt yn fanwl gywir wrth blethu a throelli
dulliau gosod y plethau a'r torchau yn sownd
sut i drin a thrafod y gwallt wrth blethu a throelli er mwyn cynnal a chadw tyndra cywir a chyfartal
pwysigrwydd cadarnhau cyfforddusrwydd y cleient yn ystod y broses blethu a throelli
y mathau o gynhyrchion sydd ar gael i'w defnyddio gyda phlethau a thorchau
pryd a pham y byddech yn defnyddio gwahanol fathau o gynhyrchion
pwysigrwydd defnyddio cynhyrchion yn ddarbodus
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr mewn perthynas â defnyddio'r cynhyrchion
sut i greu gwahanol blethi a thorchau
canlyniadau posib gor-dyndra ar y gwallt
effeithiau corfforol plethu a throelli ar ffurfiant y gwallt
gofynion datod plethau a thorchau
pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cynhyrchion
1.1 chwistrellau
1.2 sera
1.3 geliau
2. Ffactorau
2.1 nodweddion gwallt
2.2 dosbarthiad gwallt
2.3 siâp wyneb a phen
2.4 hyd gwallt
2.5 cyflwr croen pen
2.6 golwg a ddymunir
3. Plethau a thorchau
3.1 Lluos-resi ŷd
3.2 Pleth Ffrengig
3.3 Pleth cynffon pysgodyn
3.4 Torchau dau gudyn
3.5 Torchau gwastad
- Cyngor ac argymhellion
4.1 sut i gynnal a chadw eu golwg
4.2 sut i ddatod plethau a thorchau
4.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac i'r dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
**1. Iechyd a diogelwch
**Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent yn cael eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
**
**y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt ynni-effeithlon, golau rhad-ar-ynni, defnyddio paneli solar)
2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill
2.4 atal llygredd
2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion hawdd eu sychu)
2.6 defnyddio dodrefn ecogyfeillgar wedi'u hailgylchu
2.7 defnyddio paent cemegau isel
2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhydd o alergedd
2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia isel iawn
2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch ecogyfeillgar
2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
2.12 annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith
3. Ffactorau
Y gwahanol ffactorau y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod plethu a throelli a sut y gall y rhain effeithio ar y gwasanaeth
3.1 nodweddion gwallt
3.2 dosbarthiad gwallt
3.3 siâp wyneb a phen
3.4 hyd gwallt
3.5 cyflwr croen pen
3.6 golwg a ddymunir
4. Cyngor ac argymhellion
*
*
4.1 gwasanaethau ychwanegol
4.2 cynhyrchion ychwanegol
Gwerthoedd
1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:
1.1 parodrwydd i ddysgu cwblhau gwasanaethau mewn amser masnachol ymarferol
1.2 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.3 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.4 agwedd hyblyg tuag at waith
1.5 gweithiwr tîm
1.6 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.7 agwedd gadarnhaol
1.8 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.9 y gallu i hunan-reoli
1.10 sgiliau creadigrwydd
1.11 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog
1.12 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.13 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr ac yn barchus
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad gwahanol gleientiaid
1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient
1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr
1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a chynnig esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol
1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/ arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr
1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau
Sgiliau
Geirfa
1. Dosbarthiad Gwallt (canllaw yn unig yw hwn) **
1.1 Ffein/Tenau – y gwallt yn tueddu bod yn sidanaidd iawn, yn sgleiniog a seimlyd, a gall fod yn anodd dal cyrlen.
1.2 Canolig – llawer o cyfaint a swmp yn perthyn i'r gwallt
1.3 Bras – y gwallt fel arfer yn syth dros ben ac yn anodd ei gyrlio.
Math 2 – Gwallt tonnog
2.1 Ffein/Tenau – patrwm "S" pendant i'r gwallt. Fel arfer gall ddal gwahanol steiliau.
2.2 Canolig – y gwallt yn tueddu bod yn grych ac ychydig yn ymwrthol wrth Steilio.
2.3 Bras – y gwallt hwn hefyd yn ymwrthol wrth ei steilio ac yn grych iawn fel arfer; y tonnau'n tueddu bod yn fwy trwchus.
Math 3 – Gwallt cyrliog
3.1 Cwrls llac – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt. Gall fod yn drwchus a llawn ac yn swmpus, ac iddo batrwm "S" pendant. Mae hefyd yn tueddu bod yn grych.
3.2 Cwrls tynn – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt hyn hefyd; ynghyd â maint cymedrol o gwrls.
Math 4 – Gwallt cyrliog iawn
4.1 Sidanaidd – y gwallt yn tueddu bod yn frau iawn, yn dorchau tynn ac iddo batrwm cyrliog mwy diffiniedig.
4.2 Gwrychog – hefyd yn frau iawn ac yn dorchau tynn; er hynny mae iddo batrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".
- Mae Nodweddion Gwallt yn cynnwys y canlynol: **
2.1 trwch gwallt
2.2 ansawdd gwallt
2.3 elastigedd gwallt
2.4 mandylledd gwallt
2.5 cyflwr gwallt
2.6 patrymau tyfiant gwallt
**
- Alopesia Hydyniad**
Colli gwallt oherwydd gor-dyndra neu dyndra parhaus ar y gwallt, e.e. gwisgo estyniadau'n rheolaidd neu blethu
4. Rhes Ŷd
Pleth tri chudyn sy'n eistedd ar ben ei bôn. Gelwir hyn hefyd yn rhes wiail.
5. Pleth Ffrengig
Fe'i gelwir yn bleth Congo neu bleth Guinea. Pleth sengl, wrthdro yw hon.
6. Pleth Cynffon Pysgodyn
Pleth pedwar cudyn sy'n cael ei ffurfio drwy groesi pedwar darn o wallt dros ei gilydd i greu patrwm saethben.
7. Torch wastad
Y gwallt yn cael ei rolio a'i droelli â llaw er mwyn iddo orwedd yn wastad ar y croen pen