Lliwio a goleuo gwallt
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â newid lliw gwallt gan ddefnyddio cynhyrchion goleuo rhannol-barhaol, lled-barhaol, parhaol a goleuo. Mae'r safon hon yn cynnwys y gallu i liwio pen cyfan, ad-dyfiant gwraidd a chreu effeithiau blaenoleuo a thanoleuo. Mae'r gallu i ystyried nifer o wahanol ffactorau ac unrhyw wrthrybuddion yn ofynnol.
Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel drwy gydol eich gwaith. Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
- cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth liwio a goleuo gwallt 
- paratoi ar gyfer lliwio a goleuo 
- lliwio a goleuo gwallt 
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth liwio a goleuo gwallt
*   
*
- cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth ** 
- paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon 
- diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth ** 
- gwisgo cyfarpar gwarchod personol wrth ddefnyddio cemegau lliwio a neu oleuo 
- gosod eich cleient mewn safle sy'n bodloni anghenion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus ** 
- sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf ** 
- cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth 
- defnyddio dulliau gweithio sy'n: ** 
8.1 lleihau gwastraff cynhyrchion
8.2 lleihau'r risg o groes-heintiad **
8.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio **
8.4 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân **
8.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill **
8.6 hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy **
- sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad 
- dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion 
- gwared defnyddiau gwastraff 
- cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser masnachol ymarferol 
*   
*
Paratoi ar gyfer lliwio a goleuo
*   
*
- * gofyn cwestiynau priodol i'ch cleient er mwyn canfod unrhyw wrthrybuddion i wasanaethau lliwio a/neu goleuo * 
- cofnodi ymatebion eich cleient i gwestiynau ** 
- cynnal pob prawf angenrheidiol, gan ddilyn cyfarwyddiadau gwneuthurwyr a gweithdrefnau cydnabyddedig y diwydiant 
- cofnodi deilliannau profion ar gerdyn cofnodi'r cleient 
- ceisio cymorth gan y person perthnasol pan fydd gwrthrybuddion ac/neu adweithiau i brofion yn codi amheuon ynglŷn ag addasrwydd y gwasanaeth i'ch cleient 
- sylfaenu'ch argymhellion ar werthusiad manwl gywir o wallt eich cleient a'i botensial i gyflawni'r effaith a ddymunir 
- hysbysu eich cleient o'r gost debygol, hyd a chanlyniad disgwyliedig y gwasanaeth 
- dewis cynhyrchion, offer a chyfarpar yn seiliedig ar ganlyniadau profion angenrheidiol, ymgynghoriad â'ch cleient a ffactorau perthnasol sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth 
- paratoi defnyddiau i fodloni gofynion eu taenu, pan fydd angen hynny 
- paratoi cynhyrchion i gyd-fynd â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr 
- paratoi gwallt eich cleient a diogelu'i chroen/groen, lle bydd angen, cyn y gwasanaeth. 
Lliwio a goleuo gwallt
- cadarnhau'r effaith a ddymunir gyda'ch cleient cyn taenu'r cynhyrchion 
- ymrannu'r gwallt yn lân ac yn wastad er mwyn cynorthwyo gyda thaenu'r cynhyrchion yn fanwl gywir 
- taenu'r cynhyrchion gan gymryd i ystyriaeth ffactorau perthnasol sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth 
- defnyddio technegau gosod lliw a goleuo sy'n addas ar gyfer creu'r olwg a ddymunir a dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr ** 
- gosod y cynhyrchion mewn modd sy'n lleihau risg i'r cynnyrch gael ei daenu ar groen neu ddillad eich cleient, neu'r mannau cyfagos 
- amseru'n fanwl gywir ddatblygiad cynhyrchion gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr 
- cadarnhau llwyddiant y canlyniad a ddymunir trwy gymryd prawf cudyn ar adegau addas trwy gydol y broses 
- tylino'r gwallt a'r croen pen yn gywir er mwyn emylsio'r lliw, yn ôl yr angen, cyn ei dynnu, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr 
- tynnu o'r gwallt gynhyrchion sydd wedi datblygu, gan osgoi amharu ar adrannau sy'n parhau i brosesu 
- tynnu'r cynhyrchion lliwio neu oleuo oddi ar y gwallt er mwyn lleihau'r anghysur i'ch cleient 
- gadael y gwallt a'r croen pen yn rhydd o gynhyrchion ar ôl sicrhau'r olwg a ddymunir 
- adnabod unrhyw broblemau yn ystod y gwasanaethau a'u datrys oddi mewn i derfynau'r awdurdod sydd gennych i allu gwneud hynny 
- cyfeirio problemau nad oes modd eu datrys at y person perthnasol 
- llwyddo i greu'r effaith a ddymunir i foddhad eich cleient 
- rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth liwio a goleuo gwallt
*   
*
- eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd 
- gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient 
- y mathau o ddillad a chynhyrchion gwarchod a ddylai fod ar gael i chi eich hun a'ch cleientiaid 
- sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf 
- y gofynion a'r canllawiau cyfreithiol cyfredol sy'n gysylltiedig â chyfyngiadau oedran ar gyfer gwasanaethau lliwio a goleuo 
- pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus 
- sut i leihau gwastraff cynhyrchion 
- dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla 
- dulliau glanhau, diheintio a neu sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau 
- y peryglon a'r risgiau sy'n bod yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel sy'n rhaid i chi eu dilyn 
- y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy 
- pam ei bod yn bwysig defnyddio cyfarpar gwarchod personol 
- pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle 
- beth y dermatitis cyffwrdd a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau lliwio 
- amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer gwaith lliwio a goleuo sylfaenol 
- cyfarwyddiadau'r cyflenwyr a'r gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn 
- y dulliau cywir o wared gwastraff 
- pa wasanaethau lliwio a goleuo na ddylid eu cyflawni ar bobl ifanc dan 16 mlwydd oed 
**
Paratoi ar gyfer lliwio a goleuo**
- arwyddocad cyfreithiol holi'r cleient a chofnodi ymatebion y cleient i gwestiynu 
- pwysigrwydd adnabod unrhyw wrthrybuddion i wasanaethau lliwio a goleuo 
- y mathau o brofion a'u pwrpas 
- pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr mewn perthynas â phrofion sensitifrwydd croen a'r canlyniadau posib o fethu cynnal y profion hyn 
- pryd a sut y dylid cynnal profion a phwysigrwydd cofnodi canlyniadau profion 
- sut y gall canlyniadau profion ddylanwadu ar y gwasanaethau lliwio a goleuo 
- y camau gweithredu i'w cymryd os digwydd adweithiau anffafriol i brofion 
- pwysigrwydd dweud wrth eich cleient beth yw cost tebygol, hyd a chanlyniad disgwyliedig y gwasanaeth 
- egwyddorion dewis lliwiau, gan gynnwys y Siart Lliwiau Rhyngwladol (ICC) 
- sut mae pigment naturiol gwallt yn effeithio ar y dewis o liw a chynhyrchion lliwio a'r angen posib i rag-oleuo 
- effeithiau gwahanol gynhyrchion lliwio a goleuo ar ffurfiant y gwallt 
- pryd i ddefnyddio'r gwahanol fathau o gynhyrchion goleuo ac arlliwio sydd ar gael 
- sut y mae'r gwahanol gryfderau o hydrogen perocsid yn effeithio ar liwio a goleuo 
- sut y gall lefelau mandylledd effeithio ar y dewis a'r defnydd o gynhyrchion a'r canlyniadau terfynol 
- effeithiau tymereddau ar daeniad a datblygiad cynhyrchion lliwio a goleuo 
- pwysigrwydd monitro datblygiad cynhyrchion goleuo yn barhaus 
- sut a pham y gall gwrthrybuddion gael effaith ar gyflenwi gwasanaethau lliwio a goleuo 
- y mathau o gynhyrchion lliwio, goleuo ac arlliwio sydd ar gael, gan gynnwys lliwiau dros dro 
- y mathau o offer, defnyddiau a chyfarpar a ddefnyddir i liwio a goleuo 
- y gwahanol dechnegau lliwio, tanoleuo a blaenoleuo 
- sut i baratoi defnyddiau i gyfarfod â'r gofynion taenu 
- y peryglon sy'n gysylltiedig ag anadlu goleuyddion powdr 
- pwysigrwydd paratoi gwallt eich cleient a gwarchod ei chroen/groen cyn y gwasanaeth 
Lliwio a goleuo gwallt
*   
*
- pwysigrwydd cadarnhau'r effaith a ddymunir gyda'ch cleient cyn taenu cynhyrchion 
- pwysigrwydd ymrannu gwallt yn fanwl gywir wrth liwio a goleuo 
- sut y gall gwahanol ffactorau effeithio ar eich gwasanaeth lliwio a goleuo 
- y ffactorau y mae'n rhaid eu hystyried er mwyn barnu faint o wallt sydd i'w blethu er mwyn creu golwg gytbwys 
- pryd a pham y dylid cyflawni technegau adfywio lliw ar yr hydau canolig a'r blaenau 
- pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr wrth fesur, cymysgu ac amseru cynhyrchion lliwio a goleuo 
- pwysigrwydd defnyddio cynhyrchion mewn ffordd sy'n lleihau'r risg i'r cynnyrch gael ei daenu ar groen a dillad eich cleient a'r mannau cyfagos 
- pam ei bod yn bwysig emwlsio lliw cyn ei dynnu 
- dulliau o daenu a thynnu cynhyrchion lliwio a goleuo 
- pwysigrwydd defnyddio cynhyrchion yn ddarbodus 
- pwysigrwydd adfer cydbwysedd pH y gwallt wedi'r broses lliwio a goleuo 
- pam ei bod yn bwysig osgoi ymyrryd ag adrannau sy'n dal i brosesu wrth dynnu cynhyrchion o rannau sydd wedi datblygu 
- y mathau o broblemau lliwio a goleuo all ddigwydd yn ystod prosesu a'u hachosion 
- dulliau o ddatrys problemau lliwio a goleuo syml all ddigwydd yn ystod prosesu 
- y peryglon posib o ddefnyddio cynhyrchion goleuo ar wallt gafodd driniaeth gemegol yn flaenorol 
- y rhagofalon sy'n rhaid eu cymryd wrth ddefnyddio powdr a defnyddiau goleuo eraill 
- terfynau eich awdurdod chi ar gyfer datrys problemau lliwio a goleuo 
- wrth bwy y dylech adrodd am broblemau na allwch chi eu datrys 
- pwysigrwydd cadarnhau bodlonrwydd y cleient 
- pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon 
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cynhyrchion
1.1 rhannol-barhaol
1.2 lled-barhaol
1.3 parhaol
1.4 cynhyrchion goleuo
1.5 arlliwyddion
2. Profion
2.1 croen
2.2 anghydnawsedd
2.3 mandylledd
2.4 elastigedd
2.5 lliw
3. Ffactorau
3.1 dosbarthiadau gwallt
3.2 nodweddion gwallt
3.3 tymheredd
3.4 lliw presennol y gwallt
3.5 canran y gwallt gwyn
3.6 canlyniadau profion
3.7 cryfder yr hydrogen perocsid
3.8 hyd y gwallt
3.9 tôn y croen
3.10 cyfnod amser ers y pyrm neu'r llaciwr diwethaf
3.11 tynnu estyniadau gwallt yn ddiweddar
4. Technegau lliwio a goleuo
4.1 taeniad lliw lled-barhaol ar ben cyfan
4.2 taeniad lliw parhaol ar ad-dyfiant gwraidd
4.3 taeniad lliw parhaol ar ben cyfan
4.4 blaenoleuadau a neu danoleuadau gweuedig
4.5 blaenoleuadau a neu danoleuadau wedi'u tynnu drwodd
5. Cyngor ac argymhellion
5.1 sut i gynnal a chadw eu lliw
5.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau
5.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac i'r dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent yn cael eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt ynni-effeithlon, golau rhad-ar-ynni, defnyddio paneli solar)
2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill
2.4 atal llygredd
2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion hawdd eu sychu)
2.6 defnyddio dodrefn ecogyfeillgar wedi'u hailgylchu
2.7 defnyddio paent cemegau isel
2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhydd o alergedd
2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia isel iawn
2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch ecogyfeillgar
2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
2.13annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith
3. Gwrthrybuddion (enghreifftiau yn unig)
*   
*
pwysigrwydd adnabod unrhyw wrthrybuddion i wasanaethau lliwio a goleuo
3.1 hanes adwaith alergol blaenorol i gynhyrchion lliwio
3.2 alergeddau gwybyddus eraill
3.3 anhwylderau croen
3.4 cynhyrchion anghydnaws
3.5 cyngor neu gyfarwyddiadau meddygol
3.6 niwed amlwg i'r gwallt
3.7 cyfyngiadau oedran
4. Ffactorau
Y gwahanol ffactorau sy'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod lliwio a goleuo a sut y mae'r rhain yn effeithio ar y gwasanaethau
4.1 dosbarthiadau gwallt
4.2 nodweddion gwallt
4.3 tymheredd
4.4 lliw presennol y gwallt
4.5 canran y gwallt gwyn
4.6 canlyniadau profion
4.7 cryfder yr hydrogen perocsid
4.8 hyd y gwallt
4.9 tôn y croen
4.10 cyfnod amser ers y pyrm neu'r llaciwr diwethaf
4.11 tynnu estyniadau gwallt yn ddiweddar
*  
 *
5. Cyngor ac Argymhellion
5.1 gwasanaethau ychwanegol
5.2 cynhyrchion ychwanegol
Gwerthoedd
1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg tuag at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunan-reoli
1.11 sgiliau creadigrwydd
1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog
1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd:
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr ac yn barchus
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad gwahanol gleientiaid
1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu â'r cleient
1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau/ ddisgwyliadau yn llwyr
1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol
1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr
1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau
Sgiliau
Geirfa
1. Dosbarthiad Gwallt (canllaw yn unig yw hwn)
Math 1 – Gwallt syth
1.1 Ffein/Tenau – y gwallt yn tueddu bod yn sidanaidd iawn, yn sgleiniog a seimlyd, a gall fod yn anodd dal cyrlen.
1.2 Canolig – llawer o cyfaint a swmp yn perthyn i'r gwallt
1.3 Bras – y gwallt fel arfer yn syth dros ben ac yn anodd ei gyrlio.
Math 2 – Gwallt tonnog
2.1 Ffein/Tenau – patrwm "S" pendant i'r gwallt. Fel arfer gall ddal gwahanol steiliau.
2.2 Canolig – y gwallt yn tueddu bod yn grych ac ychydig yn ymwrthol wrth Steilio.
2.3 Bras – y gwallt hwn hefyd yn ymwrthol wrth ei steilio ac yn grych iawn fel arfer; y tonnau'n tueddu bod yn fwy trwchus.
Math 3 – Gwallt cyrliog
3.1 Cwrls llac – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt. Gall fod yn drwchus a llawn ac yn swmpus, ac iddo batrwm "S" pendant. Mae hefyd yn tueddu bod yn grych.
3.2 Cwrls tynn – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt hyn hefyd; ynghyd â maint cymedrol o gwrls.
Math 4 – Gwallt cyrliog iawn
4.1 Sidanaidd – y gwallt yn tueddu bod yn frau iawn, yn dorchau tynn ac iddo batrwm cyrliog mwy diffiniedig.
4.2 Gwrychog – hefyd yn frau iawn ac yn dorchau tynn; er hynny mae iddo batrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".
- Mae Nodweddion Gwallt yn cynnwys y canlynol: **
2.1 trwch gwallt
2.2 ansawdd gwallt
2.3 elastigedd gwallt
2.4 mandylledd gwallt
2.5 cyflwr gwallt
2.6 patrymau tyfiant gwallt
3. Blaenoleuadau a neu danoleuadau a dynnwyd trwodd
Gallai'r technegau gynnwys
3.1 cribau
3.2 sbatwla
3.3 cap
3.4 stribedi ffoil neu ffilm i'w tynnu trwodd
3.5 conau