Torri gwallt gan ddefnyddio technegau sylfaenol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio amrywiaeth o olygon sylfaenol gan ddefnyddio technegau torri clwb, llawrydd, gweadeddu a siswrn dros grib. Mae galw arnoch i ddefnyddio'r technegau hyn i greu haenau unffurf, graddnodau hir a byr a thoriadau un hyd.
Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel drwy gydol eich gwaith. Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth dorri gwallt
torri gwallt i greu amrywiaeth o olygon
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth dorri gwallt
*
*
cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon
diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth
cadw croen eich cleient yn rhydd o flewiach gwallt wedi'i dorri drwy gydol y gwasanaeth
gosod eich cleient mewn safle sy'n cyfarfod ag anghenion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus
sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf
cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
8.1 lleihau'r risg o ddifrod i offer
8.2 lleihau'r risg o groes-heintiad
8.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio
8.4 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân
8.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill
8.6 hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion
gwared defnyddiau gwastraff
cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser masnachol ymarferol
Torri gwallt er mwyn creu amrywiaeth o olygon
*
*
pennu'r ffactorau sy'n debygol o ddylanwadu ar y gwasanaeth
cadarnhau gyda'ch cleient yr olwg y cytunwyd arni yn yr ymgynghoriad cyn dechrau torri
creu a dilyn y canllaw(iau) torri er mwyn creu'r olwg a ddymunir
rheoli eich offer er mwyn lleihau'r perygl o niweidio'r gwallt a'r croen pen, anghysur y cleient ac er mwyn cael yr olwg a ddymunir
defnyddio technegau torri addas ar gyfer math gwallt eich cleient ac er mwyn cael yr olwg a ddymunir
addasu eich technegau torri er mwyn rhoi ystyriaeth i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth
newid eich safle chi eich hun a safle eich cleient er mwyn helpu i sicrhau cywirdeb y toriad
croeswirio'r toriad i gadarnhau bod y pwysau, y cydbwysedd a'r siâp wedi'u dosbarthu'n fanwl gywir
symud unrhyw wallt diangen o'r tu allan i siâp yr amlinelliad a ddymunir
ymgynghori â'ch cleient yn ystod y broses dorri er mwyn cadarnhau'r olwg a ddymunir
rhoi gwiriad gweledol terfynol i'r gwallt er mwyn sicrhau bod y toriad gorffenedig yn fanwl gywir
cadarnhau bod eich cleient yn fodlon â'r toriad gorffenedig
rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth dorri gwallt
*
*
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
y gwahanol ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadawy
gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient
y mathau o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael i'r cleientiaid
pam ei bod yn bwysig gwarchod cleientiaid rhag blewiach gwallt wedi'i dorri
sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
pam ei bod yn bwysig osgoi croes-heintiad a phla
pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus
y defnydd a'r dull cynnal a chadw cywir mewn perthynas ag offer torri
dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau
dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla
y peryglon a'r risgiau sy'n bod yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel sy'n rhaid i chi eu dilyn
cyfarwyddiadau'r cyflenwyr a'r gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn
pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle
y dulliau cywir o wared gwastraff
amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer gwahanol olygon torri
*
*
Torri gwallt i greu amrywiaeth o olygon
y gwahanol ffactorau y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod y cyfnod torri a sut y gall y rhain effeithio ar y gwasanaeth torri
y ffactorau y dylid eu hystyried wrth dorri gwallt gwlyb a gwallt sych
pwysigrwydd rheoli eich offer a'ch cyfarpar i leihau'r risg o niwed i wallt a chroen pen eich cleient
pwysigrwydd ymgynghori gyda chleientiaid drwy gydol y broses dorri
pwysigrwydd gosod y gyfradd gywir o dyndra ar y gwallt wrth dorri
sut a pham defnyddio technegau clwb, llawrydd, gweadeddu a siswrn dros grib
y rhesymau dros bennu a dilyn canllawiau
sut y bydd gwahanol onglau torri yn cael effaith ar ddosrannu pwysau, cydbwysedd a gradd y graddnodi
sut i greu'r gwahanol olygon
sut i groeswirio a chydbwyso'r toriad
pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Ffactorau
1.1 dosbarthiadau gwallt
1.2 nodweddion gwallt
1.3 siâp pen ac wyneb
1.4 patrymau tyfiant gwallt
2. Yr Olwg
2.1 un hyd
2.2 haen unffurf
2.3 graddnod byr
2.4 graddnod hir
2.5 gyda ffrinj
3. Technegau
3.1 toriad clwb
3.2 llawrydd
3.3 siswrn dros grib
3.4 gweadeddu
4. Cyngor ac argymhellion
4.1 sut i gynnal a chadw eu golwg
4.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau
4.3 cynhyrchion a gwasanaethau cyfredol ac i'r dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt ynni-effeithlon, golau rhad-ar-ynni, defnyddio paneli solar)
2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill
2.4 atal llygredd
2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion hawdd eu sychu)
2.6 defnyddio dodrefn ecogyfeillgar wedi'u hailgylchu
2.7 defnyddio paent cemegau isel
2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhydd o alergedd
2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia isel iawn
2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch ecogyfeillgar
2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
2.12 annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith
3. Ffactorau
Y gwahanol ffactorau y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod y cyfnod torri a sut y gall y rhain effeithio ar y gwasanaeth torri
3.1 dosbarthiadau gwallt
3.2 nodweddion gwallt
3.3 siâp pen ac wyneb
3.4 patrymau tyfiant gwallt
4. Cyngor ac argymhellion
*
*
4.1 gwasanaethau ychwanegol
4.2 cynhyrchion ychwanegol
Gwerthoedd
1. Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg tuag at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunan-reoli
1.11 sgiliau creadigrwydd
1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog
1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
Ymddygiadau
- Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd:
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr ac yn barchus
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad gwahanol gleientiaid
1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu â'r cleient
1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr
1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol
1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr
1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau
Sgiliau
Geirfa
1. Dosbarthiad Gwallt (canllaw yn unig yw hwn)
Math 1 – Gwallt syth
1.1 Ffein/Tenau – y gwallt yn tueddu bod yn sidanaidd iawn, yn sgleiniog a seimlyd, a gall fod yn anodd dal cyrlen.
1.2 Canolig – llawer o cyfaint a swmp yn perthyn i'r gwallt
1.3 Bras – y gwallt fel arfer yn syth dros ben ac yn anodd ei gyrlio.
Math 2 – Gwallt tonnog
2.1 Ffein/Tenau – patrwm "S" pendant i'r gwallt. Fel arfer gall ddal gwahanol steiliau.
2.2 Canolig – y gwallt yn tueddu bod yn grych ac ychydig yn ymwrthol wrth Steilio.
2.3 Bras – y gwallt hwn hefyd yn ymwrthol wrth ei steilio ac yn grych iawn fel arfer; y tonnau'n tueddu bod yn fwy trwchus.
Math 3 – Gwallt cyrliog
3.1 Cwrls llac – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt. Gall fod yn drwchus a llawn ac yn swmpus, ac iddo batrwm "S" pendant. Mae hefyd yn tueddu bod yn grych.
3.2 Cwrls tynn – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt hyn hefyd; ynghyd â maint cymedrol o gwrls.
Math 4 – Gwallt cyrliog iawn
4.1 Sidanaidd – y gwallt yn tueddu bod yn frau iawn, yn dorchau tynn ac iddo batrwm cyrliog mwy diffiniedig.
4.2 Gwrychog – hefyd yn frau iawn ac yn dorchau tynn; er hynny mae iddo batrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".
- Mae Nodweddion Gwallt yn cynnwys y canlynol:
2.1 trwch gwallt
2.2 ansawdd gwallt
2.3 elastigedd gwallt
2.4 mandylledd gwallt
2.5 cyflwr gwallt
2.6 patrymau tyfiant gwallt
3. Terminoleg Torri
3.1 Toriad graddnod hir: Toriad graddnod hir yw pan fydd haenau mewnol yr hydoedd gwallt yn fyrrach na siâp yr amlinell
3.2 Toriad un hyd: Toriad un hyd yw pan fydd y gwallt yn cael ei dorri i'r un hyd oddi allan.
3.3 Toriad graddnod byr: Toriad graddiad byr yw pan fydd haenau mewnol yr hydoedd gwallt yn hwy na siâp yr amlinell.
3.4 Toriad haen unffurf: Toriad haen unffurf yw pan fydd pob rhan o'r gwallt yr un hyd.
*
*
4. Llawrydd* *
4.1 Torri gwallt heb ei ddal yn ei le.
*
*
5. Gweadeddu (drwy dorri)
5.1 Cyflwyno gwahanol hydoedd mewn rhannau o, neu drwyddi draw drwy'r toriad gwallt, er mwyn meddalu llinell galed neu i greu codiad yn y gwreiddyn.