Creu amrywiaeth o effeithiau pyrmio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfuno, addasu a phersonoli amrywiaeth o dechnegau ymrannu a throelli er mwyn creu amrywiaeth o effeithiau pyrmio ffasiynol. Mae effeithiau pyrmio yn cynnwys cwrls codi gwreiddyn, tonnog, ôl tynnwr corcyn a chwrls gweadog. Mae'r gallu i weithio gyda gwallt wedi'i sensiteiddio hefyd yn ofynnol.
Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel drwy gydol eich gwaith. Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
cynnal a chadw dulliau diogel o weithio wrth byrmio a niwtraleiddio gwallt
paratoi ar gyfer pyrmio
creu amrywiaeth o effeithiau pyrmio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth byrmio a niwtraleiddio gwallt
*
*
cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon
diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth
gwisgo cyfarpar gwarchod personol wrth ddefnyddio cemegau pyrmio a niwtraleiddio
gosod eich cleient mewn safle sy'n bodloni anghenion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus
sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf
cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
8.1 lleihau gwastraff cynhyrchion
8.2 lleihau'r risg o groes-heintiad
8.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio
8.4 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân
8.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill
8.6 hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion
gwared defnyddiau gwastraff
cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser masnachol ymarferol
Paratoi ar gyfer pyrmio
*
*
gofyn cwestiynau i'ch cleient er mwyn canfod a oes ganddi/ganddo unrhyw wrthrybuddion i wasanaethau pyrmio
cofnodi ymatebion eich cleient i'r cwestiynu
cynnal profion angenrheidiol gan ddilyn cyfarwyddiadau gwneuthurwyr a gweithdrefnau cydnabyddedig y diwydiant
cofnodi canlyniadau profion ar gerdyn cofnodi'r cleient
dewis cynhyrchion, offer a chyfarpar yn seiliedig ar ganlyniadau profion, ymgynghoriad **â'ch cleient a ffactorau sy'n dylanwadu
paratoi cynhyrchion, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
diogelu gwallt a chroen eich cleient cyn y gwasanaeth pyrmio
Creu amrywiaeth o effeithiau pyrmio
*
*
archwilio'r amrywiaeth o olygon posib gyda'ch cleient gan ddefnyddio'r cymhorthion gweledol perthnasol
seilio eich argymhellion ar werthusiad manwl gywir o wallt eich cleient a'i botensial i greu'r effeithiau gofynnol
defnyddio cynhyrchion a thechnegau gan roi ystyriaeth i ffactorau sy'n dylanwadu
personoli eich technegau ymrannu a throelli er mwyn rhoi ystyriaeth i ffactorau fydd yn dylanwadu ar yr effaith a ddymunir
addasu eich dulliau gweithio a'ch defnydd o gynhyrchion er mwyn bodloni anghenion cleientiaid sydd â gwallt wedi'i sensiteiddio
cadarnhau bod y raddfa ofynnol o gwrlyn wedi ei chyrraedd drwy gynnal profion datblygiad cwrls ar adegau addas drwy gydol y broses byrmio
cymryd camau cywirol i ddatrys problemau sy'n digwydd yn ystod y gwasanaeth pyrmio
sicrhau bod datblygiad wedi dod i ben a bod y gwallt wedi ei niwtraleiddio'n effeithiol unwaith y bydd yr effaith drwy byrmio wedi ei chreu
defnyddio technegau gorffennu creadigol i greu'r effaith drwy byrmio a ddymunir * *
sicrhau bod yr effaith orffenedig drwy byrmio yn ategu nodweddion eich cleient ac yn gwella ei delwedd/ddelwedd bersonol a delwedd y salon
cadarnhau bod y cleient yn fodlon â'r effaith orffenedig
rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth byrmio a niwtraleiddio gwallt
*
*
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient
y mathau o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael i chi eich hun ac i'r cleientiaid
pam ei bod yn bwysig defnyddio cyfarpar gwarchod personol
sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus
yr ystyriaethau diogelwch y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt wrth byrmio a niwtraleiddio gwallt
y gwahanol ddulliau o lanhau, diheintio a sterileiddio offer
dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla
beth yw dermatitis cyffwrdd, a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau pyrmio a niwtraleiddio
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle
cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn
y dulliau cywir o wared gwastraff
amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer gwasanaethau pyrmio a niwtraleiddio
Paratoi ar gyfer pyrmio
*
*
arwyddocad cyfreithiol holi cleient a chofnodi ymatebion y cleient
pwysigrwydd adnabod unrhyw wrthrybuddion i wasanaethau pyrmio a niwtraleiddio
y mathau o brofion a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau pyrmio a'u pwrpas
pryd a sut y dylid cynnal profion a'r canlyniadau disgwyliedig
sut y gall canlyniadau profion ddylanwadu ar y gwasanaethau pyrmio
y canlyniadau posib o fethu cynnal profion
y camau gweithredu i'w cymryd os digwydd adweithiau anffafriol i brofion
cyfansoddiad cemegol cynhyrchion pyrmio a niwtraleiddio
effeithiau hylifau pyrmio a niwtralyddion ar ffurfiant y gwallt
effeithiau triniaethau cyn pyrmio ac ôl-byrmio ar ffurfiant y gwallt
sut y mae tymheredd yn effeithio ar y broses byrmio
pwysigrwydd amseru manwl gywir a rinsio'r cynhyrchion yn drylwyr
pwysigrwydd ac effeithiau adfer pH y gwallt yn dilyn y broses byrmio a niwtraleiddio
sut y gall gwahanol ffactorau effeithio ar eich dewis o gynhyrchion pyrmio a niwtraleiddio
sut y mae gwallt gafodd ei sensiteiddio yn dilyn triniaethau blaenorol a difrod gwres yn ymateb i gynhyrchion pyrmio
pam ei bod yn bwysig diogelu gwallt a chroen eich cleient cyn y gwasanaeth pyrmio.
Creu amrywiaeth o effeithiau pyrmio
pwysigrwydd archwilio amrywiaeth o olygon posib gyda'ch cleient gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol
sut a pham y gall y gwrthrybuddion effeithio ar y gwasanaethau pyrmio
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr ar gyfer y cynhyrchion pyrmio a niwtraleiddio penodol
y gwahanol fathau o gynhyrchion pyrmio a sut y defnyddir y rhain i greu cwrlyn
y technegau ymrannu a throelli sydd ar gael ar gyfer gwahanol fathau o wallt
sut y mae gwahanol ffactorau yn effeithio ar dechnegau ymrannu a throelli
y mathau o offer y gellir eu defnyddio i greu'r effeithiau pyrmio yn y detholiad
sut a pham bod angen addasu eich dulliau gweithio a'ch dewis o gynhyrchion pyrmio i siwtio gwallt wedi'i sensiteiddio
dulliau taenu cynhyrchion pyrmio wrth ddefnyddio gwahanol dechnegau troelli
effeithiau gorymylu cynhyrchion ar wallt sydd wedi'i drin yn gemegol yn flaenorol
sut i wirio datblygiad cwrlyn wrth ddefnyddio gwahanol fathau o offer troelli
y mathau o gyfarpar a ddefnyddir yn ystod y broses datblygu pyrm a'u pwrpas
y gwahanol fathau o gyfryngau niwtraleiddio a'u defnydd
dulliau o daenu niwtralyddion i siwtio'r gwahanol dechnegau troelli
pwysigrwydd sicrhau bod effaith orffenedig y pyrm yn ategu nodweddion eich cleient ac yn gwella ei delwedd/ddelwedd bersonol a delwedd y salon
y mathau o broblemau all ddigwydd yn ystod y broses byrmio a'u hachosion a sut i'w cywiro
pwysigrwydd rhoi cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cynhyrchion
1.1 elïau rhwystrol
1.2 triniaeth cyn pyrmio
1.3 hylifau pyrm
1.4 niwtralyddion
1.5 triniaeth ôl-byrmio
2. Profion
2.1 datblygiad
2.2 elastigedd
2.3 mandylledd
2.4 anghydnawsedd
3. Ffactorau
3.1 nodweddion gwallt
3.2 dosbarthiad gwallt
3.3 tymheredd
3.4 cyfeiriad, graddfa a hyd a lled y symudiad gofynnol
3.5 cyflwr gwallt
3.6 hyd gwallt
3.7 patrymau tyfiant gwallt
3.8 toriad gwallt
3.9 graddfa'r cwrls cyfredol
4. Technegau ymrannu a throelli
4.1 corn bwch (piggyback)
4.2 sbiral
4.3 gwehyddu
4.4 gwreiddyn
4.5 cicston (hopscotch)
4.6 troelli dwbl
5. Gwallt wedi'i sensiteiddio
5.1 gwallt wedi'i liwio'n barhaol
5.2 gwallt wedi'i oleuo
5.3 gwallt wedi'i byrmio'n flaenorol
6. Effaith y Pyrm
6.1 codi'r gwreiddyn
6.2 tonnog
6.3 ôl tynnwr corcyn
6.4 cwrls gweadog
7. Cyngor ac argymhellion
7.1 sut i gynnal a chadw eu pyrm
7.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau
7.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac i'r dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt ynni-effeithlon, golau rhad-ar-ynni, defnyddio paneli solar)
2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill
2.4 atal llygredd
2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion hawdd eu sychu)
2.6 defnyddio dodrefn ecogyfeillgar wedi'u hailgylchu
2.7 defnyddio paent cemegau isel
2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhydd o alergedd
2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia isel iawn
2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch ecogyfeillgar
2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
2.12 annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith
3. Gwrthrybuddion (enghreifftiau yn unig)
sut a pham y gall y gwrthrybuddion effeithio ar gyflenwi gwasanaethau pyrmio
* *
3.1 hanes o adwaith alergaidd blaenorol i gynhyrchion pyrmio
3.2 alergeddau eraill hysbys
3.3 anhwylderau'r croen
3.4 cynhyrchion anghydnaws
3.5 cyngor neu gyfarwyddyd meddygol
3.6 triniaethau cemegol blaenorol
3.7 tynnu estyniadau gwallt neu blethau yn ddiweddar
4. Ffactorau
sut y mae gwahanol ffactorau yn cael effaith ar eich dewis o gynhyrchion pyrmio a niwtraleiddio
4.1 nodweddion gwallt
4.2 dosbarthiad gwallt
4.3 tymheredd
4.4 cyfeiriad a gradd y symudiad gofynnol
4.5 hyd gwallt
4.6 hyd aildyfiant
4.7 gwallt wedi'i drin â lliw
5. Cyngor ac argymhellion
* *
5.1 gwasanaethau ychwanegol
5.2 cynhyrchion ychwanegol
Gwerthoedd
1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg tuag at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunan-reoli
1.11 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog
1.12 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.13 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion
Ymddygiadau
- Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr ac yn barchus
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad gwahanol gleientiaid
1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient
1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr
1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach
1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr
1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau
Sgiliau
Geirfa
1. Dosbarthiad Gwallt (canllaw yn unig yw hwn)
Math 1 – Gwallt syth
1.1 Ffein/Tenau – y gwallt yn tueddu bod yn sidanaidd iawn, yn sgleiniog a seimlyd, a gall fod yn anodd dal cyrlen.
1.2 Canolig – llawer o cyfaint a swmp yn perthyn i'r gwallt
1.3 Bras – y gwallt fel arfer yn syth dros ben ac yn anodd ei gyrlio.
Math 2 – Gwallt tonnog
2.1 Ffein/Tenau – patrwm "S" pendant i'r gwallt. Fel arfer gall ddal gwahanol steiliau.
2.2 Canolig – y gwallt yn tueddu bod yn grych ac ychydig yn ymwrthol wrth Steilio.
2.3 Bras – y gwallt hwn hefyd yn ymwrthol wrth ei steilio ac yn grych iawn fel arfer; y tonnau'n tueddu bod yn fwy trwchus.
Math 3 – Gwallt cyrliog
3.1 Cwrls llac – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt. Gall fod yn drwchus a llawn ac yn swmpus, ac iddo batrwm "S" pendant. Mae hefyd yn tueddu bod yn grych.
3.2 Cwrls tynn – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt hyn hefyd; ynghyd â maint cymedrol o gwrls.
Math 4 – Gwallt cyrliog iawn
4.1 Sidanaidd – y gwallt yn tueddu bod yn frau iawn, yn dorchau tynn ac iddo batrwm cyrliog mwy diffiniedig.
4.2 Gwrychog – hefyd yn frau iawn ac yn dorchau tynn; er hynny mae iddo batrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".
- Mae Nodweddion Gwallt yn cynnwys y canlynol: * ** *
2.1 trwch gwallt
2.2 ansawdd gwallt
2.3 elastigedd gwallt
2.4 mandylledd gwallt
2.5 cyflwr gwallt
2.6 patrymau tyfiant gwallt
3. Triniaeth cyn pyrmio
Cynnyrch sy'n cael ei daenu ar y gwallt cyn gwasanaeth cemegol er mwyn llyfnhau'r mandylledd ar hyd siafft y gwallt.
4. Prawf cudyn
defnyddir y prawf hwn yn y broses ad-drefnu i gadarnhau effaith y cynnyrch ar y gwallt a'i gyflwr, e.e. mae'r raddfa sythu wedi ei chyrraedd cyn troelli
5. Gwallt wedi'i sensiteiddio
Gwallt sydd â ffurfiant mewnol brau yn naturiol neu wedi'i achosi gan ffactorau mecanyddol, cemegol a neu amgylcheddol.