Darparu gwasanaethau estyn gwallt yn greadigol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth estyn gwallt llawn a rhannol i gleientiaid er mwyn adlewyrchu tueddiadau cyfredol. Mae'n cynnwys paratoi, dewis yn greadigol, cydweddu a gosod estyniadau gwallt, er mwyn rhoi hyd, lliw a neu cyfaint i wallt y cleient. Mae torri'r estyniadau newydd ar gyfer steilio a gorffennu'n greadigol yn ofynnol, yn ogystal â chynnal a chadw a thynnu estyniadau.
Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel drwy gydol eich gwaith. Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
cynnal a chadw dulliau diogel o weithio wrth ychwanegu estyniadau gwallt
cynllunio i ychwanegu estyniadau gwallt
paratoi a gosod estyniadau gwallt
torri a gorffennu estyniadau gwallt
cynnal a chadw a thynnu estyniadau gwallt
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth ychwanegu estyniadau gwallt
*
*
diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth
gosod eich cleient mewn safle sy'n bodloni anghenion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus
sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf
cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
5.1 lleihau'r risg o ddifrod i offer torri
5.2 lleihau'r risg o groes-heintiad
5.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio
5.4 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân
5.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill
5.6 hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion
gwared defnyddiau gwastraff
cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser masnachol ymarferol
*
*
Cynllunio i ychwanegu estyniadau gwallt
*
*
archwilio'r gwallt a'r croen pen er mwyn adnabod unrhyw ffactorau a all effeithio ar y gwasanaeth
gofyn cwestiynau priodol i'ch cleient er mwyn adnabod unrhyw wrthrybuddion sy'n wybyddus i'r gwasanaeth estyniadau gwallt
cofnodi ymatebion eich cleient i'r cwestiynu
cynnal unrhyw brofion perthnasol ar wallt a chroen eich cleient gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr a gweithdrefnau cydnabyddedig y diwydiant
cymryd camau gweithredu priodol pan fydd gwrthrybuddion yn codi amheuon ynglŷn ag addasrwydd y gwasanaeth i'r cleient
dewis systemau gosod ac estyniadau gwallt sydd:
15.1 o ansawdd priodol
15.2 o liw priodol
15.3 o hyd priodol
15.4 o led priodol
- cadarnhau gofynion y gwasanaeth cyn archebu systemau gosod ac estyniadau gwallt
Paratoi a gosod estyniadau gwallt
*
*
paratoi'r systemau gosod a'r estyniadau gwallt i osgoi gwastraff, clymiadau ac er mwyn cyfarfod â chyfarwyddiadau'r cynhyrchwyr
paratoi gwallt eich cleient mewn ffordd sy'n addas ar gyfer defnyddio'r system osod
sicrhau bod cymorth ar gael, lle bydd ei angen
cadarnhau gyda'ch cleient yr olwg y cytunwyd arni gyda'ch cleient cyn dechrau'r gwasanaeth
ymrannu'r adrannau'n lân a gwastad er mwyn bodloni gofynion y systemau gosod sydd i'w defnyddio
ymrannu'r gwallt mewn ffordd fydd yn galluogi'r estyniadau gwallt i orwedd yn y cyfeiriad angenrheidiol
gosod yn sownd unrhyw wallt nad yw'n cael ei ymestyn er mwyn cadw pob adran yn amlwg weladwy
defnyddio systemau gosod sy'n gosod yr estyniadau gwallt yn sownd yng ngwallt eich cleient er mwyn bodloni gofynion y steil
25. ychwanegu a gosod y gwallt mewn ffordd *sy'n rhoi ystyriaeth i'r *ffactorau sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth
ynnal a chadw tyndra cyfartal drwy gydol y broses osod
gwirio cyfforddusrwydd eich cleient yn rheolaidd a chynnig sicrwydd priodol, os bydd angen
adnabod a datrys unrhyw broblemau sy'n digwydd yn ystod y gwasanaeth
sichrau, ar ôl gorffen, bod yr estyniadau gwallt yn rhoi golwg orffenedig gytbwys a chymesur
Torrri a gorffennu gwallt gydag estyniadau
*
*
pennu a dilyn canllawiau torri addas er mwyn cael yr olwg orffenedig
addasu eich technegau torri er mwyn rhoi ystyriaeth i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar weithio ar estyniadau gwallt
addasu eich dulliau croeswirio i gydweddu â chwymp yr estyniadau gwallt
addasu eich osgo a'ch safle i sicrhau manwlgywirdeb y toriad
cyfuno ac addasu eich technegau torri er mwyn cael yr olwg orffenedig
cynnal gwiriadau terfynol er mwyn sicrhau bod y toriad yn fanwl gywir
defnyddio technegau gorffennu creadigol sy'n ategu'r olwg orffenedig **
defnyddio cynhyrchion steilio a gorffennu addas, pan fydd angen er mwyn cael yr olwg orffenedig
cadarnhau bod eich cleient yn fodlon â'r olwg orffenedig
rhoi cyngor a chyfarwyddyd i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir
Cynnal a chadw a thynnu estyniadau gwallt
*
*
cynnal a chadw a thynnu estyniadau gwallt gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
defnyddio'r offer cywir i leihau niwed i wallt eich cleient
defnyddio'r cynhyrchion a'r offer cywir i dynnu estyniadau gwallt, pan fydd angen, gan osgoi niwed i wallt eich cleient
gadael gwallt eich cleient yn rhydd o waddodion ac olion cynnyrch
gadael gwallt eich cleient yn lân ac wedi ei baratoi'n barod ar gyfer y gwasanaeth nesaf
rhoi cyngor a chyfarwyddyd i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth ychwanegu estyniadau gwallt
*
*
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient
y mathau o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael i gleientiaid
beth yw dermatitis cyffwrdd, a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau systemau estyn gwallt
sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus
pam ei bod yn bwysig gosod eich offer, cynhyrchion a'ch cyfarpar wrth law er mwyn hwyluso eu defnydd
y defnydd a'r dull cynnal a chadw cywir mewn perthynas ag offer, cynhyrchion a chyfarpar
dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau
dulliau o weithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla
pwysigrwydd hylendid, diogelwch a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle
cyfarwyddiadau'r cyflenwyr a'r gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn
y dulliau cywir o wared gwastraff
amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer gosod systemau estyn gwallt
*
*
Cynllunio, paratoi a gosod estyniadau gwallt
sut i gynnal archwiliad o'r gwallt a'r croen pen er mwyn adnabod ffactorau fydd yn effeitho ar y system gosod gwallt
y ffactorau y mae'n rhaid eu hystyried cyn ychwanegu a gosod estyniadau gwallt
y gylchred tyfiant gwallt
pwysigrwydd holi cleientiaid er mwyn canfod unrhyw wrthrybuddion i wasanaethau estyn gwallt
sut y gall gwrthrybuddion effeithio neu gyfyngu ar gyflenwi gwasanaethau estyn gwallt
arwyddocad cyfreithiol holi'r cleient ac o gofnodi ymatebion y cleient
polisi eich salon ar gyfer cyfeirio cleientiaid at weithwyr proffesiynol eraill fel tricolegydd, meddyg teulu a'r gwasanaethau arbenigol sy'n cael eu cynnig ganddynt
y mathau o brofion a'u pwrpas
sut y gall canlyniadau profion ddylanwadu ar bob agwedd ar y gwasanaeth
canlyniadau posib peidio â chynnal profion a phwysigrwydd cofnodi canlyniadau profion
y mathau o systemau estyn gwallt sydd ar gael a'u manteision ac anfanteision
yr egwyddorion gogyfer â dewis y systemau gwallt atodol cywir
yr egwyddorion gogyfer â chydweddu gwallt atodol
y gwahaniaethau cyffredinol rhwng y gofynion paratoi yn achos estyniadau gwallt artiffisial a gwallt dynol
sut y dylid paratoi gwallt y cleient ar gyfer pob un o'r systemau gwallt atodol
sut i gymysgu nifer o liwiau gwallt atodol er mwyn creu effeithiau lliw bloc a blaenoleuo
pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer gwahanol systemau gwallt atodol
y systemau gwallt atodol y bydd angen cymorth arnoch o bosib wrth eu defnyddio
sut i amcangyfrif faint o amser y gall y systemau gwallt atodol eu cymryd
dulliau gosod systemau gwallt atodol tymor byr a thymor hir
sut i amcangyfrif faint o wallt sydd i'w ychwanegu er mwyn cael golwg orffenedig gytbwys a chymesur
sut y gall y steil a fwriedir effeithio ar y dewis a lleoliad gwahanol systemau gwallt atodol
pam ei bod yn bwysig cynnal a chadw tyndra cyfartal wrth ychwanegu estyniadau gwallt
yr offer a'r cyfarpar angenrheidiol ar gyfer pob dull gosod a sut y mae'r rhain yn cael eu defnyddio
y mathau o broblemau all ddigwydd wrth ychwanegu estyniadau gwallt a sut i'w cywiro
y mathau o bryderon cyffredinol y bydd cleientiaid sy'n ymgymryd â gwahanol systemau gwallt atodol yn eu profi e.e. colli gwallt naturiol
sut i helpu tawelu ofnau'r cleient mewn ffordd galonogol
y mathau o gynhyrchion a thechnegau gorffennu sy'n addas i'w defnyddio gydag estyniadau gwallt
Torri a gorffennu estyniadau gwallt
*
*
sut i arfer technegau torri creadigol er mwyn cydweddu gwallt naturiol y cleient gyda gwahanol systemau gosod gwallt i siwtio'r olwg orffenedig
sut i addasu technegau torri er mwyn siwtio gwahanol fathau o estyniadau gwallt e.e. gwallt artiffisial a gwallt dynol
pwysigrwydd croeswirio'r toriad am ei fanwlgywirdeb
*
*
Cynnal a chadw a thynnu estyniadau gwallt
pwysigrwydd rhoi cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon
sut i gynnal a chadw a thynnu'r system gwallt atodol
y cyfnod amser a argymhellir rhwng gwasanaethau
sut y bydd ffordd o fyw yn effeithio ar gynnal a chadw a hirhoedledd pob system gwallt atodol
y mathau o gynhyrchion ac offer a ddefnyddir i dynnu gwahanol systemau gwallt atodol
pam ei bod yn bwysig tynnu gwaddodion gosod gwallt atodol ac olion cynnyrch fel rhan o'r broses o dynnu estyniadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Offer torri
1.1 siswrn
1.2 siswrn teneuo
1.3 raseli
2. Ffactorau
2.1 nodweddion gwallt
2.2 dosbarthiad gwallt
2.3 canlyniadau profion
2.4 dull gosod
2.5 cyfeiriad a chwymp y gwallt atodol
2.6 hyd gwallt naturiol y cleient
2.7 difrod amlwg i'r gwallt
2.8 swm y gwallt atodol
2.9 siâp pen ac wyneb
2.10 yr olwg orffenedig
3. Systemau gosod
3.1 tymor byr
3.2 tymor hir
4. Estyniadau gwallt
4.1 artiffisial
4.2 dynol
5. Ychwanegu a gosod
5.1 pen llawn
5.2 pen rhannol
6. Technegau torri
6.1 torri blaen
6.2 blaenfeinio
6.3 llawrydd
6.4 torri â rasel
6.5 gweadeddu
7. Technegau gorffennu creadigol
7.1 sychu
7.2 taenu cynnyrch
7.3 setio
7.4 defnyddio cyfarpar steilio twym
8. Cyngor ac argymhellion
8.1 sut i gynnal a chadw'r system gwallt atodol
8.2 cyfnod amser rhwng gwasasnaethau
8.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac i'r dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a Diogelwch
Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt ynni-effeithlon, golau rhad-ar-ynni, defnyddio paneli solar)
2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill
2.4 atal llygredd
2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion hawdd eu sychu)
2.6 defnyddio dodrefn ecogyfeillgar wedi'u hailgylchu
2.7 defnyddio paent cemegau isel
2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhydd o alergedd
2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia isel iawn
2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch ecogyfeillgar
2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
2.12 annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith
3. Ffactorau
Y ffactorau sy'n rhaid eu hystyried cyn gosod estyniadau gwallt
3.1 nodweddion gwallt
3.2 dosbarthiad gwallt
3.3 canlyniadau profion
3.4 dull gosod
3.5 cyfeiriad a chwymp y gwallt atodol
3.6 hyd gwallt naturiol y cleient
3.7 niwed amlwg i'r gwallt
3.8 swm y gwallt atodol
3.9 siâp pen ac wyneb
3.10 yr olwg orffenedig
Gwerthoedd
1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg tuag at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunan-reoli
1.11 sgiliau creadigrwydd
1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog
1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
Ymddygiadau
- Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr ac yn barchus
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad cleientiaid gwahanol
1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient
1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr
1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol
1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr
1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau
Sgiliau
Geirfa
1. Dosbarthiad Gwallt (canllaw yn unig yw hwn)
Math 1 – Gwallt syth
1.1 Ffein/Tenau – y gwallt yn tueddu bod yn sidanaidd iawn, yn sgleiniog a seimlyd, a gall fod yn anodd dal cyrlen.
1.2 Canolig – llawer o cyfaint a swmp yn perthyn i'r gwallt
1.3 Bras – y gwallt fel arfer yn syth dros ben ac yn anodd ei gyrlio.
Math 2 – Gwallt tonnog
2.1 Ffein/Tenau – patrwm "S" pendant i'r gwallt. Fel arfer gall ddal gwahanol steiliau.
2.2 Canolig – y gwallt yn tueddu bod yn grych ac ychydig yn ymwrthol wrth Steilio.
2.3 Bras – y gwallt hwn hefyd yn ymwrthol wrth ei steilio ac yn grych iawn fel arfer; y tonnau'n tueddu bod yn fwy trwchus.
Math 3 – Gwallt cyrliog
3.1 Cwrls llac – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt. Gall fod yn drwchus a llawn ac yn swmpus, ac iddo batrwm "S" pendant. Mae hefyd yn tueddu bod yn grych.
3.2 Cwrls tynn – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt hyn hefyd; ynghyd â maint cymedrol o gwrls.
Math 4 – Gwallt cyrliog iawn
4.1 Sidanaidd – y gwallt yn tueddu bod yn frau iawn, yn dorchau tynn ac iddo batrwm cyrliog mwy diffiniedig.
4.2 Gwrychog – hefyd yn frau iawn ac yn dorchau tynn; er hynny mae iddo batrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".
- Mae Nodweddion Gwallt yn cynnwys y canlynol: * *
2.1 trwch gwallt
2.2 ansawdd gwallt
2.3 elastigedd gwallt
2.4 mandylledd gwallt
2.5 cyflwr gwallt
2.6 patrymau tyfiant gwallt
3. Profion
3.1 tynnu
3.2 elastigedd
3.3 croen
3.4 mandylledd
4. Systemau gosod tymor byr – systemau gosod gwallt sy'n para am unrhyw beth rhwng 24 awr a chwe wythnos
4.1 wedi'i wnïo
4.2 wedi'i blethu
4.3 modrwyau
4.4 tapiau
4.5 darnau gwallt ac ychwanegiadau sy'n clipio i mewn
4.6 anwe â thâp
4.7 bondin oer – latecs
4.8 gwallt anwe – traciau neu resi
4.9 rhesi ŷd wedi'u plethu
5. Systemau gosod tymor hir – systemau gosod gwallt sy'n para chwe wythnos a mwy
5.1 bondio poeth neu ymdoddiad
5.2 micro-fodrwy neu ddolen
5.3 anweoedd seiliedig ar res ŷd
5.4 plethau rhes ŷd
6. Technegau torri
Mae blaenfeinio estyniadau gwallt yn rhoi ansawdd ac ysgafnder i wallt hir, syth ac yn cydweddu a meddalu'r gorffeniad cyffredinol
7. Prawf tynnu
Mae'r prawf tynnu o gymorth i werthuso colli gwallt yn eithafol a neu golli gwallt yn annormal; tynnu adrannau bychain o wallt gan bwyll wrth lithro'r bysedd o'r gwraidd i'r blaen mewn o leiaf 3 adran o'r croen pen. Os bydd mwy na 12 blewyn fesul llaw yn cael eu colli, gall hyn fod yn arwydd o gyflwr lle mae tyfiant y gwallt yn annormal.
8. Alopecoa Hydyniad
Colli gwallt oherwydd gor-dyndra a neu dyndra parhaus ar y gwallt, e.e. gwisgo estyniadau'n rheolaidd neu blethu