Gwasanaethau cywiro lliw gwallt

URN: SKACH11
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgiliau uwch sydd eu hangen i bennu a chywiro problemau lliwio mwy cymhleth.  Er mwyn cyrraedd y safon hon, bydd angen ichi allu tynnu lliw artiffisial, tynnu bandiau o liw, ail-liwio gwallt sydd wedi'i oleuo, ail-liwio gwallt sydd wedi cael tynnu lliw artiffisial a chywiro problemau blaenoleuo a thanoleuo.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel drwy gydol eich gwaith.  Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Prif ddeilliannau'r safon hon yw:

  1. cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth gywiro lliw gwallt

  2. pennu'r broblem

3. cynllunio a chytuno ar gynllun gweithredu er mwyn cywiro lliw

  1. cywiro lliw

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth gywiro lliw gwallt


*

  1. cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth **

  2. paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon

  3. diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth

  4. gwisgo cyfarpar gwarchod personol wrth gynnal gwasanaethau cywiro lliw

  5. gosod eich cleient mewn safle sy'n bodloni anghenion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus

  6. sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  7. cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth

  8. symud gwastraff ar unwaith ar ddiwedd y gwasanaeth

  9. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

9.1 lleihau gwastraff cynhyrchion

9.2 lleihau'r risg o groes-heintiad

9.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

sicrhau'r defnydd o adnoddau glân

9.4 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill

9.5 hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion

  3. gwared defnyddiau gwastraff

  4. cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser masnachol ymarferol

Pennu'r broblem


*

  1. defnyddio'r dulliau cywir er mwyn canfod:

14.1   natur a hyd a lled y broblem liwio

P13.2    unrhyw wrthrybuddion i'r gwasanaeth

14.2  cyflwr gwallt, croen a chroen pen eich cleient

14.3 hyd a lled y lliw artiffisial a'r lliw naturiol ar yr un pen

14.4  y technegau cywiro lliw mwyaf addas

  1. adnabod o gofnodion blaenorol eich cleient, pan fydd y rheiny ar gael, eu hanes o ran lliwio a neu oleuo'r gwallt a sut y gall hyn effeithio ar y gwasanaeth cywiro lliw

  2. gofyn cwestiynau priodol i'ch cleient er mwyn adnabod unrhyw wrthrybuddion i'r gwasanaeth cywiro lliw

  3. holi cwestiynau i'ch cleient er mwyn casglu gwybodaeth am ei phroblemau/broblemau lliwio a neu goleuo a'r canlyniad yr hoffai hi/e ei weld

  4. cofnodi ymatebion eich cleient i gwestiynau

  5. cynnal nifer o wahanol brofion ar wallt a chroen eich cleient gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gweithdrefnau cydnabyddedig y diwydiant

  6. cymryd camau gweithredu priodol pan fydd gwrthrybuddion a neu adweithiau i brofion yn codi amheuaeth ynglŷn ag addasrwydd y gwasanaeth i'r cleient

  7. cofnodi canlyniadau profion ar gofnod y cleient

  8. canfod yr opsiynau sydd ar gael o ran gwasanaethau a chynhyrchion ar gyfer datrys problem(au) lliwio neu oleuo eich cleient, yn seiliedig ar ganlyniadau eich dadansoddiad.

Cynllunio a chytuno ar ddull gweithredu er mwyn cywiro lliw


*

  1. cyflwyno opsiynau addas ar gyfer gweithredu, a hynny mewn ffordd y bydd eich cleient yn ei deall

  2. seilio eich argymhellion ar gyfer dull addas o weithredu ar ganlyniadau eich dadansoddiad

  3. esbonio wrth eich cleient y tebygolrwydd o lwyddiant a chynnal y newid lliw

  4. esbonio'n glir unrhyw gyfyngiadau y gall eich argymhellion eu gosod ar wasanaethau trin gwallt pellach

  5. dweuth wrth eich cleient beth yw'r gost debygol, hyd a chanlyniad disgwyliedig y gwasanaeth cywiro lliw

  6. sicrhau a chofnodi cytundeb eich cleient i'r gwasanaeth, cynhyrchion a'r canlyniad a ragwelir.

**

Cywiro lliw**


*

  1. paratoi gwallt eich cleient mewn ffordd addas ar gyfer:

29.1 y cynhyrchion sydd i'w defnyddio

29.2 y gwasanaeth cywiro lliw sydd ei angen

29.3 dull taenu

  1. dewis cynhyrchion, offer a chyfarpar yn seiliedig ar ganlyniadau profion angenrheidiol, ymgynghoriad â'ch cleient a'r ffactorau sy'n debygol o ddylanwadu ar y gwasanaeth

  2. paratoi cynhyrchion i gyfarfod â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  3. taenu'r math a'r mesur o gynnyrch er mwyn bodloni gofynion eich dadansoddiad a'r canlyniadau a ddymunir

  4. ymrannu'r gwallt yn fanwl gywir

  5. defnyddio technegau taenu sy'n lleihau'r risg i'r lliw gael ei daenu ar groen a dillad y cleient a'r mannau cyfagos

  6. monitro datblygiad y cynnyrch yn gyson, gan gynnal profion cudyn ac elastigedd yn ôl y galw

  7. addasu a chymhwyso eich ffordd arfaethedig o weithredu er mwyn datrys unrhyw broblemau annisgwyl

  8. tynnu'r cynhyrchion ar yr adeg gywir, mewn ffordd sy'n lleihau anesmwythdra i'ch cleient, niwed i'r gwallt a'r croen pen  

  9. tynnu cynhyrchion heb amharu ar wallt sy'n dal yn datblygu

  10. rhoi sicrwydd priodol i'ch cleient, pan fydd angen hynny

  11. cywiro problemau blaenoleuo a neu danoleuo ond gan gadw effeithiau'r blaenoleuo a'r tanoleuo

  12. cyrraedd y raddfa o gywiro lliw a ragwelir ac y cytunwyd arni gyda'ch cleient. 

  13. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth ymgymryd â chywiro lliw


*

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

  2. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  3. y mathau o ddillad a chynhyrchion gwarchod a ddylai fod ar gael i chi eich hun a'ch cleientiaid

  4. pam ei bod yn bwysig defnyddio cyfarpar gwarchod personol

  5. sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus

  7. pam ei bod yn bwysig bod dulliau glanhau, diheintio a neu sterileiddio yn cael eu defnyddio mewn salonau

  8. dulliau o weithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla

  9. y peryglon a'r risgiau sy'n bod yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel sy'n rhaid i chi eu dilyn

  10. y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  11. yr ystyriaethau diogelwch y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt wrth gywiro lliw gwallt

  12. y gofynion a'r cyfarwyddyd cyfreithiol cyfredol mewn perthynas â chyfyngiadau oedran ar gyfer gwasanaethau cywiro lliw

  13. pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  14. beth yw dermatitis cyffwrdd a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau lliwio

  15. cyfarwyddiadau'r cyflenwyr a'r gwnethurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  16. y dulliau cywir o wared gwastraff

  17. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer gwasanaethau cywiro lliw

**

Pennu'r broblem**

  1.  pwysigrwydd pennu natur a hyd a lled y broblem liwio

  2.  arwyddocad cyfreithiol holi'r cleient a chofnodi ymatebion y cleient i gwestiynu

  3.  pwysigrwydd adolygu a diweddaru cofnodion y cleient mewn perthynas â'i hanes o ran lliwio neu oleuo gwallt a sut y gall hyn effeithio ar y gwasanaeth cywiro lliw

  4.  pwysigrwydd adnabod unrhyw wrthrybuddion a pham y gall y gwrthrybuddion effeithio ar gyflenwi'r gwasanaeth cywiro lliw

  5.  y mathau o brofion a'u pwrpas

  6. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr mewn perthynas â phrofion sensitifrwydd croen a'r canlyniadau posib o fethu cynnal y profion hyn

  7.  pryd a sut y dylid cynnal profion a phwysigrwydd cofnodi canlyniadau profion

  8.  sut y gall canlyniadau profion ddylanwadu ar y gwasanaethau cywiro lliw

  9. y camau gweithredu i'w cymryd os digwydd adweithiau anffafriol i brofion

  10.  y dewis, opsiynau gwasanaeth a'r cynhyrchion sydd ar gael ar gyfer datrys problem(au) lliwio a goleuo'r cleient

Cynllunio a chytuno ar ffordd o weithredu i gywiro lliw


*

  1.  dulliau o gyflwyno opsiynau ar gyfer gweithredu sy'n seiliedig ar eich dadansoddiad mewn ffordd y bydd y cleient yn ei deall

  2.  pwysigrwydd esbonio wrth y cleient y tebygolrwydd o lwyddiant a chynnal y newid lliw

  3.  effeithiau goleuni a golau artiffisial ar olwg lliw gwallt

  4.  y problemau posib o ddefnyddio cynhyrchion cywiro lliw ar wallt sydd wedi'i drin yn gemegol o'r blaen.

  5. sut y gall gwahanol ffactorau effeithio ar wasanaethau cywiro lliw

  6.  pwysigrwydd hysbysu eich cleient o gost debygol, hyd a chanlyniad disgwyliedig y gwasanaeth cywiro lliw ac unrhyw gyfyngiadau y gall eich argymhellion eu gosod ar wasanaethau trin gwallt pellach

  7.  egwyddorion dewis lliwiau, gan gynnwys y Siart Lliwiau Rhyngwladol (ICC)

  8.  egwyddorion cywiro lliw

  9. sut mae math a dosbarthiad melanin yn creu lliw gwallt naturiol

  10. effeithiau gwahanol gynhyrchion cywiro lliw ar y gwallt

  11. beth a olygir wrth y term 'ocsidiad'

  12. sut mae cyfryngau ocsideiddiol yn effeithio ar y lliwiau naturiol a'r pigmentau lliw artiffisial

  13. gwerthoedd pH gwahanol gynhyrchion lliwio a goleuo

  14. pwysigrwydd sicrhau a chofnodi cytundeb eich cleient i'r gwasanaeth, cynhyrchion a'r canlyniad a ragwelir

Cywiro lliw


*

  1.  y mathau o offer, defnyddiau a chyfarpar a ddefnyddir i gywiro lliw a sut a phryd i'w defnyddio

  2.   y gwahanol fathau o gynhyrchion cywiro lliw sydd ar gael a phryd i'w defnyddio

  3.  dulliau taenu a thynnu cynhyrchion cywiro lliw

  4. * *pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr wrth fesur a chymysgu cynhyrchion cywiro lliw

  5. * *sut a pham y dylid defnyddio blaendriniaethau ac ôl-driniaethau wrth ymgymryd â gwasanaethau cywiro lliw

  6. * *sut mae'r gwahanol gryfderau o hydrogen perocsid yn effeithio ar liwio a goleuo gwallt

  7.  y rhesymau dros gyn-feddalu a rhagbigmentu

  8.  effeithiau tymheredd ar daeniad a datblygiad cynhyrchion cywiro lliw

  9. pwysigrwydd defnyddio technegau taenu sy'n lleihau'r risg i'r lliw gael ei daenu ar groen a dillad y cleient a'r mannau cyfagos

  10.  pam ei bod yn bwysig osgoi ymyrryd ag adrannau sy'n dal i brosesu wrth dynnu cynhyrchion o rannau sydd wedi datblygu

  11.  pwysigrwydd ymrannu'r gwallt yn fanwl gywir ar gyfer y gwasanaeth cywiro lliw

  12.  dulliau cyn-feddalu a chyn-bigmentu gwallt

  13.  sut i dynnu lliw artiffisial

  14.   sut i dynnu bandiau o liw

  15. sut i ail-liwio gwallt sydd wedi'i drin yn flaenorol â chynhyrchion goleuo gan ddefnyddio lliw rhagbigmentu a lliw parhaol

  16. sut i ail-liwio gwallt sydd â'r lliw artiffisial wedi ei dynnu oddi arno

  17.  sut y dylid addasu taenu a thynnu cynnyrch goleuo er mwyn lleihau sensitifrwydd croen pen a niwed i'r gwallt

  18. pwysigrwydd defnyddio cynhyrchion yn ddarbodus

  19.  pwysigrwydd adfer cydbwysedd pH y gwallt yn dilyn y gwasanaeth cywiro lliw

  20.   y mathau o broblemau cywiro lliw a'u hachosion all ddigwydd yn ystod y prosesu a sut i'w cywiro

  21. sut i gywiro problemau blaenoleuo a thanoleuo a chadw effaith blaenoleuo a thanoleuo ar yr un pryd

  22.  pam ei bod yn bwysig gadael y gwallt a'r croen pen yn rhydd o gynhyrchion cywiro lliw

  23.  pwysigrwydd rhoi cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cywiro lliw

1.1 tynnu lliw artiffisial

1.2 tynnu bandiau lliw

1.3 ail-liwio gwallt sydd wedi'i drin â chynnyrch goleuo gan ddefnyddio rhagbigmentu a lliw

1.4 ail-liwio gwallt sydd â'r lliw artiffisial wedi ei dynnu oddi arno

1.5 cywiro blaenoleuo a thanoleuo

2. Cynhyrchion


*

2.1 rhannol barhaol

2.2 lled-barhaol

2.3 parhaol

2.4 cynhyrchion goleuo

2.5 cynhyrchion tynnu lliw ar gyfer lliw artiffisial

3. Profion

3.1 croen

3.2 prawf lliw

3.3 anghydnawsedd

3.4 mandylledd

3.5 elastigedd

4. Ffactorau


*

4.1 dosbarthiadau gwallt

4.2 nodweddion gwallt

4.3 tymheredd

4.4 lliw presennol y gwallt

4.5 canlyniadau profion

4.6 cryfder yr hydrogen perocsid

4.7 hyd gwallt

4.8 canran y gwallt gwyn

4.9 trefn y taenu

4.10 sensitifrwydd y croen pen

5. Cyngor ac argymhellion

5.1 sut i gynnal a chadw eu lliw

5.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau

5.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac i'r dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a Diogelwch

Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent yn cael eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt ynni-effeithlon, golau rhad-ar-ynni, defnyddio paneli solar)

2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion hawdd eu sychu)

2.6 defnyddio dodrefn ecogyfeillgar wedi'u hailgylchu

2.7 defnyddio paent cemegau isel

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhydd o alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia isel iawn

2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch ecogyfeillgar

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith

3. Ffactorau

y gwahanol ffactorau sy'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod cywiro lliw a sut y mae'r rhain yn effeithio ar y gwasanaeth

3.1 dosbarthiadau gwallt

3.2 nodweddion gwallt

3.3 tymheredd

3.4 lliw presennol y gwallt

3.5 canran y gwallt gwyn

3.6 canlyniadau profion

3.7 cryfder yr hydrogen perocsid

3.8 hyd gwallt

3.9 trefn y taenu

3.10 senitifrwydd y croen pen

4. Gwrthrybuddion (enghreifftiau yn unig)


*

pwysigrwydd adnabod unrhyw wrthrybuddion i wasanaethau cywiro lliw

4.1 hanes adwaith alergol blaenorol i gynhyrchion lliwio

4.2 alergeddau gwybyddus eraill

4.3 anhwylderau croen

4.4 cynhyrchion anghydnaws

4.5 cyngor neu gyfarwyddyd meddygol

4.6 niwed amlwg i'r gwallt

4.7 cyfyngiadau oedran

5. Cyngor ac argymhellion

5.1 gwasanaethau ychwanegol

5.2 cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

​1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg tuag at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigrwydd

1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel

1.15 sgiliau arweinyddiaeth


Ymddygiadau

  1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 bodloni safon ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr ac yn barchus

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg

1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon

1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad gwahanol gleientiaid

1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth  

1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu â'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau/ ddisgwyliadau yn llawn

1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol

1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr

1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGH18

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Trin gwallt; lliwio gwallt; goleuo gwallt; cywiro lliw