Steilio a gorffennu gwallt
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â steilio gwallt gan ddefnyddio technegau chwythsychu a sychu gyda'r bysedd. Mae gorffennu gwallt gan ddefnyddio cyfarpar steilio twym hefyd yn ofynnol. Bydd angen medrusrwydd corfforol ar raddfa uchel er mwyn gallu gweithio ar wahanol hyd gwallt.
Er mwyn gweithredu'r safon hon bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Prif ddeilliannau'r safon hon yw:
cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth steilio a gorffennu gwallt
chwythsychu gwallt i siâp
sychu gwallt i siâp gyda'r bysedd
gorffennu gwallt
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth steilio a gorffennu gwallt
*
*
cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon
diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth
gosod eich cleient mewn safle sy'n bodloni angen y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus
sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
6.1 lleihau gwastraff cynhyrchion
6.2 lleihau'r risg o ddifrod i offer, cyfarpar a chyfarpar steilio twym
6.3 lleihau'r risg o groes-heintiad **
6.4 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio
6.5 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân
6.6 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill
6.7 hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion
gwared defnyddiau gwastraff
cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser masnachol ymarferol
Chwythsychu gwallt i si*â*p
taenu cynhyrchion addas, pan fydd y rhain yn cael eu defnyddio, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
rheoli eich offer steilio er mwyn lleihau'r risg o niwed i hyd y gwallt, anghysur y cleient ac er mwyn creu'r olwg a ddymunir
cymryd adrannau o wallt sy'n addas i faint yr offer steilio
cynnal a chadw tyndra cyfartal drwy gydol y broses chwythsychu
cadw'r gwallt yn llaith drwy gydol y broses chwythsychu
profi tymheredd y cyfarpar steilio gwallt drwy gydol y gwasanaeth
rheoli hyd y gwallt yn ystod y broses chwythsychu gan roi ystyriaeth i ffactorau sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth
defnyddio offer a chyfarpar mewn ffordd sy'n creu'r gorffeniad a ddymunir wrth chwythsychu.
Sychu gwallt i si*âp gyda'r bysedd*
taenu cynhyrchion addas, pan fydd y rhain yn cael eu defnyddio, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
cadw'r gwallt yn llaith drwy gydol y broses steilio
rheoli'r gwallt *yn ystod y broses steilio gan roi ystyriaeth i *ffactorau sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth
gwneud yn siŵr bod sychu gyda'r bysedd yn sicrhau'r cyfeiriad, y cyfaint a'r cydbwysedd ar gyfer yr olwg a ddymunir
Gorffennu gwallt
pan fydd angen gwneud hynny, defnyddio cyfarpar steilio twym sydd ar y tymheredd cywir ar gyfer gwallt eich cleient a'r olwg a ddymunir
rheoli eich defnydd o gyfarpar steilio twym, pan fydd hwnnw'n cael ei ddefnyddio, er mwyn lleihau'r risg o niweidio'r gwallt a'r croen pen, anghysur y cleient ac er mwyn creu'r olwg a ddymunir
cymryd adrannau o wallt sy'n addas i faint yr offer steilio twym pan fydd hwnnw'n cael ei ddefnyddio
defnyddio technegau ôl-gribo ac ôl-frwsio, pan fydd angen, er mwyn creu'r olwg a ddymunir
taenu a defnyddio cynhyrchion addas, pan fydd angen, er mwyn bodloni cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
sicrhau bod yr olwg orffenedig yn rhoi ystyriaeth i ffactorau steilio perthnasol sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth
sicrhau bod yr olwg orffenedig yn bodloni'r siâp, cyfeiriad, cydbwysedd a'r cyfaint arfaethedig a gytunwyd gyda'ch cleient
cadarnhau bod y cleient yn fodlon â'r olwg orffenedig
rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth steilio a gorffennu gwallt
*
*
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadawy
gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient
y mathau o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael i gleientiaid
beth yw dermatitis cyffwrdd a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau steilio a gorffennu
sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
pam ei bod yn bwysig osgoi croes-heintiad a phla
pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus
y defnydd a'r dull cynnal a chadw cywir mewn perthynas ag offer a chyfarpar
dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau
dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla
y peryglon a'r risgiau sy'n bod yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel sy'n rhaid i chi eu dilyn
cyfarwyddiadau'r cyflenwyr a'r gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn
pam ei bod yn bwysig archwilio cyfarpar trydanol a ddefnyddir i gynorthwyo gyda'r prosesau steilio a gorffennu
pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle
y dulliau cywir o wared gwastraff
amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer steilio a gorffennu gwallt
Chwythsychu a sychu gwallt i si*â*p gyda'r bysedd
pam y dylid cadw gwallt yn llaith yn ystod y broses chwythsychu neu sychu gyda'r bysedd
effeithiau lleithder ar wallt
effeithiau corfforol y prosesau chwythsychu, sychu gyda'r bysedd a steilio twym ar ffurfiant y gwallt
y mathau o gynhyrchion a'r cyfarpar a ddefnyddir i steilio a gorffennu gwallt
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr ar sut i ddefnyddio'r cynhyrchion steilio a gorffennu penodol yn eich salon
pam a sut i ddefnyddio'r gwahanol fathau o:
23.1 frwsis steilio wrth chwythsychu
23.2 atodion wrth chwythsychu
23.3 cyfarpar steilio twym wrth steilio a gorffennu
23.4 cynhyrchion a phryd i'w gosod
technegau cyfredol ar gyfer chwythsychu, sychu gyda'r bysedd a gorffennu gwallt
sut y mae gwahanol ffactorau yn cael effaith ar y broses steilio a'r olwg orffenedig
sut i reoli gwahanol hyd gwallt wrth steilio'r gwallt
sut y bydd canlyniad terfynol chwythsychu yn cael ei effeithio gan:
27.1 tyndra
27.2 maint y rhwyll gwallt
27.3 maint y brwsh
27.4 ongl dal y brwsh
27.5 peidio gadael i'r gwallt oeri cyn tynnu'r rhwyll gwallt oddi ar y brwsh
pam bod cyfeiriad y llif awyr wrth sychu yn bwysig er mwyn creu'r olwg a ddymunir
pam bod angen rhannu'r gwallt yn adrannau ar gyfer steilio
sut y mae maint yr adran ac ongl dal y gwallt wrth sychu yn dylanwadu ar y cyfaint a chyfeiriad symudiad y gwallt
yr effeithiau y gellir eu cael drwy gyrlio ar ac oddi ar y bôn
Gorffennu gwallt
*
*
pam y dylid addasu tymheredd y cyfarpar i siwtio gwahanol fathau o wallt
sut y mae defnyddio gwres yn anghywir yn gallu mennu ar y gwallt a'r croen pen
pam y dylid gadael i'r gwallt oeri cyn gorffennu
pryd a sut i ddefnyddio gwahanol dechnegau ôl-gribo ac ôl-frwsio er mwyn creu'r olwg a ddymunir
pwysigrwydd rhoi cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cynhyrchion
* *
1.1 gwarchodwyr gwres
1.2 chwistrellau
1.3 mŵs
1.4 hufennau
1.5 geliau
1.6 sera
1.7 cwyr
2. Cyfarpar steilio twym
* *
2.1 sythwyr
2.2 gefeiliau
3. Hyd gwallt
* *
3.1 uwchlaw'r ysgwydd
3.2 islaw'r ysgwydd
3.3 un hyd
3.4 haenog
4. Offer a chyfarpar
4.1 sychwr llaw
4.2 atodion
4.3 brwsh crwn
4.4 brwsh fflat
5. Ffactorau
* *
5.1 nodweddion gwallt
5.2 dosbarthiadau gwallt
5.3 toriad gwallt
5.4 patrymau tyfiant gwallt
5.5 siâp pen ac wyneb
6. Gorffeniad Chwythsychu
* *
6.1 sythu
6.2 llyfnhau
6.3 creu cyfaint
6.4 creu symudiad
6.5 creu cwrl
7. Cyngor ac argymhellion
7.1 sut i gynnal a chadw eu golwg
7.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau
7.3 cynhyrchion a gwasanaethau cyfredol ac i'r dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a Diogelwch
Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt ynni-effeithlon, golau rhad-ar-ynni, defnyddio paneli solar)
2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill
2.4 atal llygredd
2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion hawdd eu sychu)
2.6 defnyddio dodrefn ecogyfeillgar wedi'u hailgylchu
2.7 defnyddio paent cemegau isel
2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhydd o alergedd
2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia isel iawn
2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch ecogyfeillgar
2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
2.12 annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith
3. Ffactorau
sut mae gwahanol ffactorau yn cael effaith ar y broses steilio a'r olwg orffenedig
3.1 nodweddion gwallt
3.2 dosbarthiadau gwallt
3.3 toriad gwallt
3.4 patrymau tyfiant gwallt
3.5 siâp pen ac wyneb
*
*
4. Cyngor ac argymhellion
*
*
4.1 gwasanaethau ychwanegol
4.2 cynhyrchion ychwanegol
Gwerthoedd
- Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser masnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg tuag at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunan-reoli
1.11 sgiliau creadigrwydd
1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog
1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr ac yn barchus
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg
1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad cleientiaid gwahanol
1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient
1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr
1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol
1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr
1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau
Sgiliau
Geirfa
1. Dosbarthiad Gwallt (canllaw yn unig yw hwn)
Math 1 – Gwallt syth
1.1 Ffein/Tenau – y gwallt yn tueddu bod yn sidanaidd iawn, yn sgleiniog a seimlyd, a gall fod yn anodd dal cyrlen.
1.2 Canolig – llawer o cyfaint a swmp yn perthyn i'r gwallt
1.3 Bras – y gwallt fel arfer yn syth dros ben ac yn anodd ei gyrlio.
Math 2 – Gwallt tonnog
2.1 Ffein/Tenau – patrwm "S" pendant i'r gwallt. Fel arfer gall ddal gwahanol steiliau.
2.2 Canolig – y gwallt yn tueddu bod yn grych ac ychydig yn ymwrthol wrth Steilio.
2.3 Bras – y gwallt hwn hefyd yn ymwrthol wrth ei steilio ac yn grych iawn fel arfer; y tonnau'n tueddu bod yn fwy trwchus.
Math 3 – Gwallt cyrliog
3.1 Cwrls llac – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt. Gall fod yn drwchus a llawn ac yn swmpus, ac iddo batrwm "S" pendant. Mae hefyd yn tueddu bod yn grych.
3.2 Cwrls tynn – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt hyn hefyd; ynghyd â maint cymedrol o gwrls.
Math 4 – Gwallt cyrliog iawn
4.1 Sidanaidd – y gwallt yn tueddu bod yn frau iawn, yn dorchau tynn ac iddo batrwm cyrliog mwy diffiniedig.
4.2 Gwrychog – hefyd yn frau iawn ac yn dorchau tynn; er hynny mae iddo batrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".
- Mae Nodweddion Gwallt yn cynnwys y canlynol: * *
2.1 trwch gwallt
2.2 ansawdd gwallt
2.3 elastigedd gwallt
2.4 mandylledd gwallt
2.5 cyflwr gwallt
2.6 patrymau tyfiant gwallt