Cynllunio a chreu patrymau yn y gwallt
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r defnydd artistig o amrywiaeth eang o dechnegau torri i greu cynlluniau dau a thri dimensiwn wrth dorri gwallt. Mae'r gallu i dorri cynlluniau 3D darluniadol, ailadroddus a chynlluniau cymesur yn ofynnol ar gyfer y safon hon.
I gyflawni'r safon hon, bydd angen i chi gynnal lefel uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.
Dyma brif ganlyniadau'r safon hon:
cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth greu cynlluniau yn y gwallt
cynllunio a chytuno ar gynlluniau patrymau gwallt
creu patrymau yn y gwallt
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gweithio effeithio a diogel wrth greu cynlluniau yn y gwallt
cynnal eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient yn unol â gofynion y salon
gwarchod dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth
sicrhau nad oes gormod o doriadau gwallt yn mynd ar groen eich cleient yn ystod y gwasanaeth
gosod eich cleient yn unol â gofynion y gwasanaeth heb achosi unrhyw anghysur iddo
sicrhau bod eich ystum a'ch osgo eich hun wrth weithio yn achosi cyn lleied o flinder a risg o anaf â phosibl
cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
8.1 lleihau'r risg o ddifrod i offer a chyfarpar
8.2 sicrhau bod menig yn cael eu gwisgo wrth ddefnyddio raseli
8.3 lleihau'r risg o groes-heintiad
8.4 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio
8.5 sicrhau bod adnoddau glân yn cael eu defnyddio
8.6 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi'ch hun ac i eraill
8.7 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
sicrhau bod eich hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o offer, defnyddiau a chynhyrchion
cael gwared ar ddefnyddiau gwastraff ac offer miniog
cwblhau'r gwasanaeth mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
Cynllunio a chytuno ar gynlluniau patrymau gwallt
ymchwilio i a chynnal portffolio o gynlluniau sy'n addas i'w defnyddio gyda'ch cleientiaid
archwilio amrywiaeth o gynlluniau posibl gyda'ch cleient gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol
rhoi amser ac anogaeth i'ch cleient fynegi'i syniadau ei hun ar y cynllun a'r ddelwedd y mae'n dymuno'i chreu
sicrhau bod eich cleient yn ymwybodol o beth fydd y gwasanaeth y cytunir arno yn ei olygu a'i hyd tebygol
cadarnhau eich bod wedi deall gofynion eich cleient
seilio'ch argymhellion ar werthusiad cywir o wallt eich cleient a'r potensial i'r cynllun gael ei gyflawni
argymell gwedd sy'n addas ar gyfer y ddelwedd sydd gan eich cleient mewn golwg
creu cynllun gyda'ch cleient sy'n ystyried ffactorau sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth
cytuno ar ganlyniadau i'r gwasanaethau a chostau tebygol sy'n dderbyniol i'ch cleient ac yn bodloni'i ofynion
*
*
Creu patrymau yn y gwallt
brwsio neu gribo gwallt eich cleient i gyfeiriad y tyfiant naturiol trwy gydol y gwasanaeth
gosod y cynllun yn unol â'r cynllun y cytunwyd arno
addasu'r hyd a'r lled i weddu i faint a siâp pen eich cleient, ynghyd â'r toriad gwallt cyfredol
defnyddio ac addasu technegau torri er mwyn cyflawni diffiniad, siâp a dyfnder y cynllun gofynnol
cyfuno'ch technegau torri mewn ffordd arloesol er mwyn cyflawni'r cynllun gofynnol
newid eich osgo chi ac osgo'ch cleient er mwyn eich helpu i sicrhau bod y toriad yn gywir
trafod â'ch cleient yn ystod y broses dorri er mwyn cadarnhau'r cynllun
cymryd camau priodol i ddatrys unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod y broses dorri
sicrhau bod y wedd orffenedig yn unol â'r cynllun y cytunwyd arno â'ch cleient
cadarnhau bod eich cleient yn fodlon ar y wedd orffenedig
rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth greu cynlluniau yn y gwallt
*
*
eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd
gofynion eich salon ar gyfer paratoi cleientiaid
y dewis o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael ar gyfer cleientiaid
pam y mae'n bwysig gwarchod cleientiaid rhag toriadau gwallt
sut y gall osgo'ch cleient a chithau effeithio ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
yr ystyriaethau diogelwch y mae'n rhaid talu sylw iddynt wrth dorri gwallt
pam y mae'n bwysig gwisgo menig tafladwy wrth ddefnyddio rasel
pam y mae'n bwysig osgoi croes-heintiad a chroes-heigiad
pam y mae'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus
sut i ddefnyddio a chynnal a chadw offer a chyfarpar torri yn gywir
y dulliau o lanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau
y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
y mathau gwahanol o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
pwysigrwydd hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol i gynnal iechyd a diogelwch yn eich gweithle
cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr y mae'n rhaid i chi eu dilyn er mwyn gwneud defnydd diogel o offer, defnyddiau a chynhyrchion
y dulliau cywir o gael gwared ar wastraff
amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer cynllunio a chreu patrymau yn y gwallt
*
*
**Cynllunio a chytuno ar gynlluniau patrymau gwallt
**
ffynonellau addas o wybodaeth a syniadau cynllunio a sut i'w cyrchu
sut i gyflwyno gwybodaeth ac argymhellion ar gynlluniau yn eglur i'ch cleient
pwysigrwydd sicrhau bod y cleient yn ymwybodol o'r hyn y bydd y gwasanaeth y cytunwyd arno yn ei olygu a beth fydd ei gost a'i hyd tebygol
egwyddorion sylfaenol cynllunio, graddfa a chyfrannedd
sut i fwyhau a lleihau cynlluniau i weddu i siapiau pen gwahanol
y posibiliadau a'r cyfyngiadau cynllunio wrth weithio ar wallt
dulliau o baratoi'r gwallt cyn creu cynlluniau
y mathau o doriadau gwallt sy'n ffurfio sail addas ar gyfer cynlluniau gwallt
y ffactorau gwahanol y mae'n rhaid eu hystyried cyn clipio a thorri, a sut y gall y rhain effeithio ar y cynlluniau
faint y mae gwallt yn tyfu ar gyfartaledd
effeithiau torri'n agos at y croen yn rheolaidd
risg posibl o flew yn tyfu i'r byw o ganlyniad i dorri'n agos at y croen yn rheolaidd
*
*
**Creu patrymau yn y gwallt
**
pryd a sut i ddefnyddio technegau torri gwahanol wrth greu cynlluniau yn y gwallt
technegau ar gyfer creu patrymau cymesur cywir
sut i addasu'ch technegau torri i greu patrymau 2 ddimensiwn (2D) a 3 dimensiwn (3D)
technegau ar gyfer creu cynlluniau cadarnhaol a negyddol
pwysigrwydd edrych ar y toriad i'w wirio
sut i wirio'r cynllun, y patrwm a'r toriad trwy edrych arnynt
sut i lefelu a phrofi clipwyr
y mathau o glipwyr, llafnau clipwyr ac ategolion sydd ar gael a'r effeithiau mae'r rhain yn eu cyflawni
y mathau o broblemau sy'n gallu codi wrth dorri cynlluniau mewn gwallt a'r ffyrdd y gall y rhain gael eu datrys, os yn bosibl
pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigir yn y salon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Offer a chyfarpar
*
*
1.1 sisyrnau
1.2 clipwyr
1.3 trimwyr
1.4 raseli
*
*
2. Cynllun
2.1 **2D
2.2 3D
2.3 darluniadol
2.4 cymesur
3. Ffactorau
*
*
3.1 y dosbarthiadau o walltiau
3.2 nodweddion gwallt
3.3 siâp y pen a'r wyneb
3.4 hyd y gwallt
3.5 steil y gwallt
3.6 presenoldeb patrwm moelni dynion
3.7 cyflyrau croen anffafriol
3.8 creithio
4. Hyd a lled
4.1 dros y pen cyfan
4.2 dros ran o'r pen
*
*
5. Technegau torri
*
*
5.1 clipiwr dros grib
5.2 siswrn dros grib
5.3 defnyddio rasel
5.4 llawrydd
5.5 pylu
6. Cyngor ac argymhellion
6.1 sut i gynnal y wedd
6.2 yr ysbaid rhwng gwasanaethau
6.3 cynhyrchion a gwasanaethau cyfredol ac yn y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Cofnodi Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Trafod â Llaw
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
y mathau gwahanol o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
2.1 lleihau a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill
2.4 atal llygredd
2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion sy'n sychu'n hawdd)
2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar
2.7 defnyddio paent heb lawer o gemegion ynddo
2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a di-alergedd
2.9 defnyddio lliwyddion gwallt heb fawr ddim amonia ynddynt
2.10 defnyddio defnyddiau pacio cyfeillgar i'r amgylchedd
2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
2.12 annog defnyddio llai o garbon wrth deithio i'r gwaith
3. Ffactorau
y ffactorau gwahanol y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod torri, a sut y gall y rhain effeithio ar y gwasanaeth torri
3.1 nodweddion gwallt
3.2 y dosbarthiadau o walltiau
3.3 siâp y pen a'r wyneb
3.4 hyd y gwallt
3.5 steil y gwallt
3.6 presenoldeb patrwm moelni dynion
3.7 cyflyrau croen anffafriol
3.8 creithio
4. Cyngor ac argymhellion
* *
4.1 gwasanaethau ychwanegol
4.2 cynhyrchion ychwanegol
Gwerthoedd
1. Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni gofynion ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal gofal cwsmer
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunanreoli
1.11 sgiliau creadigol
1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a dieiriau rhagorol
1.13 cynnal dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion
Ymddygiadau
- Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn:
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu â'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo deimlo'i fod yn cael ei werthfawrogi a'i barchu
1.4 nodi a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient yn foneddigaidd ac yn gymwynasgar bob amser
1.6 rhoi gwybodaeth a sicrwydd cyson i'r cleient
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiadau gwahanol gan gleientiaid
1.8 ymateb yn ddi-oed i gleient sy'n holi am gymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf addas o gyfathrebu â'r cleient
1.10 gwirio gyda'r cleient eich bod wedi deall ei ddisgwyliadau'n llwyr
1.11 ymateb yn ddi-oed ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi eglurhad ychwanegol pan fo'n addas
1.13 bod yn gyflym wrth ddod o hyd i wybodaeth a fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient yr wybodaeth y mae arno ei hangen ynglŷn â'r gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 bod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth a allai fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio ei fod wedi'i deall yn iawn
1.16 os bydd unrhyw resymau pam na ellir bodloni gofynion neu ddisgwyliadau'r cleient, dylid eu hesbonio'n glir wrtho
Sgiliau
Geirfa
1. Y dosbarthiadau o walltiau (canllaw yn unig yw hwn)
Math 1 – Gwallt syth
1.1 Main/Tenau – mae'r gwallt yn tueddu i fod yn feddal iawn, yn sgleiniog ac yn olewog, a gall fod yn anodd cynnal cyrlen ynddo.
1.2 Canolig – mae gan y gwallt lawer o gyfaint.
1.3 Bras – mae'r gwallt fel arfer yn hynod o syth ac mae'n anodd rhoi cyrls ynddo.
Math 2 – Gwallt tonnog
2.1 Main/Tenau – mae yna batrwm "S" pendant i'r gwallt. Gellir ei steilio mewn sawl ffordd fel arfer.
2.2 Canolig – mae'r gwallt yn tueddu i fod yn grychlyd ac yn anodd ei steilio.
2.3 Bras – mae hwn hefyd yn wallt sy'n anodd ei steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; mae'r tonnau'n tueddu i fod yn fwy trwchus.
Math 3 – Gwallt cyrliog
3.1 Cyrls rhydd – mae gweadedd y gwallt yn gyfuniad o fathau gwahanol. Gall fod yn drwchus gyda llawer o gyfaint a phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn tueddu i fod yn grychlyd.
3.2 Cyrls tyn – mae gweadedd hwn hefyd yn gyfuniad o fathau gwahanol o walltiau, ac mae iddo swm cymedrol o gyrls.
Math 4 – Gwallt cyrliog iawn
4.1 Meddal – mae'r gwallt yn tueddu i fod yn fregus iawn, yn dorchau tyn, ac mae iddo batrwm cyrliog mwy pendant.
4.2 Gwrychog – mae hwn hefyd yn fregus iawn ac yn dorchau tyn; fodd bynnag, nid yw'r patrwm cyrliog mor bendant – mae'n debycach i siâp patrwm "Z".
- Mae nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol:
2.1 trwch y gwallt
2.2 gweadedd y gwallt
2.3 elastigedd y gwallt
2.4 mandylledd y gwallt
2.5 cyflwr y gwallt
2.6 patrymau tyfiant gwallt
*
*
3. Trimwyr
3.1 clipwyr bychain gyda llafnau llai er mwyn creu toriad agosach, mannach sydd â mwy o ddiffiniad a manylion
2D cynllun fflat dau arlliw nad oes iddo ddyfnder o reidrwydd
3D y defnydd o raddoli ac amgyffrediad o bell ac agos