Torri gwallt yn greadigol trwy ddefnyddio cyfuniad o dechnegau barbro
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio sgiliau torri uwchraddol i greu steil newydd personoledig ac unigol sy'n gwella'r ddelwedd bersonol.
I gyflawni'r safon hon, bydd angen i chi gynnal lefel uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.
Dyma brif ganlyniadau'r safon hon:
cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth dorri gwallt
ailsteilio gwallt yn greadigol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth dorri gwallt
cynnal eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient yn unol â gofynion y salon
gwarchod dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth
sicrhau nad oes gormod o doriadau gwallt yn mynd ar groen eich cleient yn ystod y gwasanaeth
gosod eich cleient yn unol â gofynion y gwasanaeth heb achosi unrhyw anghysur iddo
sicrhau bod eich ystum a'ch osgo eich hun wrth weithio yn achosi cyn lleied o flinder a risg o anaf â phosibl
cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
8.1 lleihau'r risg o ddifrod i offer a chyfarpar
8.2 sicrhau bod menig yn cael eu gwisgo wrth ddefnyddio raseli
8.3 lleihau'r risg o groes-heintiad
8.4 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio
8.5 sicrhau bod adnoddau glân yn cael eu defnyddio
8.6 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi'ch hun ac i eraill
8.7 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
sicrhau bod eich hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o offer, defnyddiau a chynhyrchion
cael gwared ar ddefnyddiau gwastraff ac offer miniog
cwblhau'r gwasanaeth torri mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
Ailsteilio gwallt yn greadigol
*
*
sefydlu ffactorau a all ddylanwadu ar y gwasanaeth cyn torri
archwilio'r amrywiaeth o weddau gyda'ch cleient gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol
argymell gwedd sy'n addas ar gyfer eich cleient
seilio'ch argymhellion ar werthusiad cywir o wallt eich cleient a'i botensial ar gyfer cyflawni'r wedd ofynnol
paratoi gwallt eich cleient cyn torri
cadarnhau gyda'ch cleient, cyn dechrau torri, y wedd y cytunwyd arni yn y drafodaeth
sefydlu a dilyn canllawiau torri addas er mwyn cyflawni'r wedd ofynnol
personoli'ch technegau ac effeithiau torri *i ystyried *ffactorau a fydd yn dylanwadu ar y wedd a ddymunir
cyfuno ac addasu'ch technegau ac effeithiau torri mewn ffordd arloesol i gyflawni'r wedd a ddymunir
newid eich osgo chi ac osgo'ch cleient er mwyn eich helpu i sicrhau cywirdeb y toriad
croeswirio'r toriad er mwyn sicrhau bod dosbarthiad y pwysau, y cydbwysedd a'r siâp yn gywir
cyfuno gwallt y cleient â gwallt ychwanegol pan fo angen
creu siapiau amlinellol sy'n gywir a chael gwared ar wallt dieisiau y tu allan i'r siâp amlinellol a ddymunir
creu siapiau gwddf sy'n gywir ac sy'n ystyried llinell naturiol y gwallt
cydbwyso a siapio cernflew i fodloni gofynion y cleient
trafod â'ch cleient yn ystod y gwasanaeth torri er mwyn cadarnhau'r wedd a ddymunir
gweithredu i ddatrys unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod y gwasanaeth torri
gwneud archwiliad gweledol terfynol i wirio cywirdeb y toriad a'r amlinellau gorffenedig
defnyddio technegau gorffennu creadigol sy'n cyd-fynd yn dda â'r toriad
sicrhau bod gwedd orffenedig y steil newydd yn cyd-fynd yn dda â phryd a gwedd y cleient ac yn gwella'i ddelwedd bersonol a delwedd y salon
cadarnhau bod eich cleient yn fodlon ar y wedd orffenedig
rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth dorri gwallt
eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd
gofynion eich salon ar gyfer paratoi'r cleient
yr amrywiaeth o gyfarpar gwarchod a ddylai fod ar gael ar gyfer cleientiaid
pam y mae'n bwysig gwarchod cleientiaid rhag toriadau gwallt
sut y gall osgo'ch cleient a chithau effeithio ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
pam y mae'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus
yr ystyriaethau diogelwch y mae'n rhaid talu sylw iddynt wrth dorri gwallt
sut i ddefnyddio a chynnal a chadw offer torri yn gywir
y dulliau o lanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau
pam y mae'n bwysig gwisgo menig wrth ddefnyddio rasel
y dulliau o weithio'n ddiogel ac yn hylan sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a chroes-heigiad
pam y mae'n bwysig osgoi croes-heintiad a chroes-heigiad
y mathau gwahanol o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
pwysigrwydd hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol i gynnal iechyd a diogelwch yn eich gweithle
cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr y mae'n rhaid i chi eu dilyn er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
sut i ddefnyddio'r holl offer a chyfarpar yn ddiogel
sut i lefelu a phrofi clipwyr
y dulliau cywir o gael gwared ar wastraff
amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer toriadau gwallt gwahanol
**
Ailsteilio gwallt yn greadigol**
y ffactorau y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod torri a sut y gall y rhain effeithio ar y gwasanaeth torri
y ffactorau y dylid eu hystyried wrth dorri gwallt gwlyb a sych
faint y mae gwallt yn tyfu ar gyfartaledd
pwysigrwydd archwilio a chadarnhau'r gweddau gyda'r cleient trwy ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol
y risg posibl o wallt yn tyfu i'r byw o ganlyniad i dorri gwallt cyrliog yn agos yn rheolaidd
achosion hysbys patrymau moelni dynion
patrymau moelni dynion nodweddiadol
pam y dylai cynhyrchion gwallt gael eu codi o'r gwallt cyn ei dorri
yr amrywiaeth o siapiau gwallt traddodiadol a chyfredol sydd ar gael i ddynion
sut a phryd i ddefnyddio technegau ac effeithiau torri gwahanol
pa offer y gellir eu defnyddio ar wallt gwlyb neu sych neu'r ddau
y rhesymau dros sefydlu a dilyn canllawiau
sut i greu a dilyn canllawiau ar gyfer toriadau gwahanol
sut i bersonoli ac addasu technegau torri
yr effeithiau y gellir eu creu trwy gyfuno ac addasu technegau torri gwahanol
pwysigrwydd croeswirio'r toriad
pwysigrwydd ystyried dosbarthiad y pwysau a gweithio gyda phatrymau tyfu naturiol y gwallt
sut y bydd onglau torri gwahanol yn effeithio ar ddosbarthiad y pwysau, y cydbwysedd a graddau'r graddoli
pwysigrwydd defnyddio'r tensiwn cywir ar y gwallt wrth dorri
pwysigrwydd torri i linell naturiol y gwallt wrth farbro
41. technegau i gael gwared ar wallt dieisiau y tu allan i'r siâp gwddf a ddymunir
yr amgylchiadau lle efallai y byddech yn torri i mewn i linell naturiol y gwallt
y mathau o glipwyr, llafnau clipwyr ac ategolion a'r effeithiau y mae'r rhain yn eu cyflawni
y mathau o gynhyrchion sydd ar gael ar gyfer gorffennu gwallt dynion
y mathau o broblemau sy'n gallu codi fel arfer wrth dorri gwallt dynion a ffyrdd y gellir eu cywiro, os yn bosibl
pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Offer a chyfarpar
1.1 sisyrnau
1.2 clipwyr
1.3 trimwyr
1.4 raseli
2. Ffactorau
2.1 nodweddion gwallt
2.2 y dosbarthiadau o walltiau
2.3 siâp y pen a'r wyneb
2.4 presenoldeb patrymau moelni dynion
2.5 presenoldeb gwallt wedi'i ychwanegu
2.6 tyllau cosmetig
2.7 cyflyrau croen anffafriol
3. Gwallt
3.1 gwlyb
3.2 sych
4. Technegau
4.1 toriad clwb
4.2 siswrn dros grib
4.3 clipiwr dros grib
4.4 teneuo
4.5 gweadu
4.6 llawrydd
4.7 torri â rasel
4.8 tapro
4.9 graddoli
4.10 haenu
4.11 pylu
4.12 datgysylltu
5. Siapiau gwddf
5.1 taprog
5.2 sgwâr
5.3 gwddf llawn
5.4 pylu at y croen
6. Technegau gorffennu creadigol
*
*
6.1 steilio
6.2 rhoi'r cynnyrch
*
*
7. Cyngor ac argymhellion
*
*
7.1 sut i gynnal y wedd
7.2 yr ysbaid rhwng gwasanaethau
7.3 cynhyrchion ychwanegol
7.4 gwasanaethau ychwanegol
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Cofnodi Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Trafod â Llaw
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
y mathau gwahanol o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
2.1 lleihau a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill
2.4 atal llygredd
2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion sy'n sychu'n hawdd)
2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar
2.7 defnyddio paent heb lawer o gemegion ynddo
2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a di-alergedd
2.9 defnyddio lliwyddion gwallt heb fawr ddim amonia ynddynt
2.10 defnyddio defnyddiau pacio cyfeillgar i'r amgylchedd
2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
2.12 annog defnyddio llai o garbon wrth deithio i'r gwaith
3. Ffactorau
y ffactorau gwahanol y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod torri, a sut y gall y rhain effeithio ar y gwasanaeth torri **
3.1 y dosbarthiadau o walltiau
3.2 nodweddion gwallt
3.3 siâp y pen a'r wyneb
3.4 presenoldeb patrymau moelni dynion
3.5 presenoldeb gwallt wedi'i ychwanegu
3.6 tyllau cosmetig
3.7 cyflyrau croen anffafriol
4. Technegau
sut a phryd i ddefnyddio technegau torri gwahanol **
4.1 toriad clwb
4.2 siswrn dros grib
4.3 clipiwr dros grib
4.4 teneuo
4.5 gweadu
4.6 llawrydd
4.7 torri â rasel
4.8 tapro
4.9 graddoli
4.10 haenu
4.11 pylu
4.12 datgysylltu
5. Cyngor ac argymhellion
*
*
5.1 gwasanaethau ychwanegol
5.2 cynhyrchion ychwanegol
Gwerthoedd
1. Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunanreoli
1.11 sgiliau creadigol
1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a dieiriau rhagorol
1.13 cynnal dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion
1.15 sgiliau arwain
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn:
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu â'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo deimlo'i fod yn cael ei werthfawrogi a'i barchu
1.4 nodi a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient yn foneddigaidd ac yn gymwynasgar bob amser
1.6 rhoi gwybodaeth a sicrwydd cyson i'r cleient
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiadau gwahanol gan gleientiaid
1.8 ymateb yn ddi-oed i gleient sy'n holi am gymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf addas o gyfathrebu â'r cleient
1.10 gwirio gyda'r cleient eich bod wedi deall ei ddisgwyliadau'n llwyr
1.11 ymateb yn ddi-oed ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi eglurhad ychwanegol pan fo'n addas
1.13 bod yn gyflym wrth ddod o hyd i wybodaeth a fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient yr wybodaeth y mae arno ei hangen ynglŷn â'r gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 bod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth a allai fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio ei fod wedi'i deall yn iawn
1.16 os bydd unrhyw resymau pam na ellir bodloni gofynion neu ddisgwyliadau'r cleient, dylid eu hesbonio'n glir wrtho
Sgiliau
Geirfa
1. Y dosbarthiadau o walltiau (canllaw yn unig yw hwn)
Math 1 – Gwallt syth
1.1 Main/Tenau – mae'r gwallt yn tueddu i fod yn feddal iawn, yn sgleiniog ac yn olewog, a gall fod yn anodd cynnal cyrlen ynddo.
1.2 Canolig – mae gan y gwallt lawer o gyfaint.
1.3 Bras – mae'r gwallt fel arfer yn hynod o syth ac mae'n anodd rhoi cyrls ynddo.
Math 2 – Gwallt tonnog
2.1 Main/Tenau – mae yna batrwm "S" pendant i'r gwallt. Gellir ei steilio mewn sawl ffordd fel arfer.
2.1 Canolig – mae'r gwallt yn tueddu i fod yn grychlyd ac yn anodd ei steilio.
2.2 Bras – mae hwn hefyd yn wallt sy'n anodd ei steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; mae'r tonnau'n tueddu i fod yn fwy trwchus.
Math 3 – Gwallt cyrliog
3.1 Cyrls rhydd – mae gweadedd y gwallt yn gyfuniad o fathau gwahanol. Gall fod yn drwchus gyda llawer o gyfaint a phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn tueddu i fod yn grychlyd.
3.2 Cyrls tyn – mae gweadedd hwn hefyd yn gyfuniad o fathau gwahanol o walltiau, ac mae iddo swm cymedrol o gyrls.
Math 4 – Gwallt cyrliog iawn
4.1 Meddal – mae'r gwallt yn tueddu i fod yn fregus iawn, yn dorchau tyn, ac mae iddo batrwm cyrliog mwy pendant.
4.2 Gwrychog – mae hwn hefyd yn fregus iawn ac yn dorchau tyn; fodd bynnag, nid yw'r patrwm cyrliog mor bendant – mae'n debycach i siâp patrwm "Z".
- Mae nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol:
2.1 trwch y gwallt
2.2 gweadedd y gwallt
2.3 elastigedd y gwallt
2.4 mandylledd y gwallt
2.5 cyflwr y gwallt
2.6 patrymau tyfu gwallt
3. Trimwyr
3.1 clipwyr bach gyda llafnau llai i greu toriad agosach, mannach sydd â mwy o ddiffiniad a manylion
*
*
- Boston yw'r enw ar wddf sgwâr